Penfro
Ers dechrau fy swydd yn ardal Sir Benfro, rwyf wedi cadw cysylltiad cyson gyda phedair Ysgol Uwchradd Saesneg, un Ysgol Uwchradd ail-iaith ac un ysgol Uwchradd Gymraeg, a hefyd Coleg Penfro.
Yn ystod y cyfnod hwn rydym wedi sefydlu clybiau hwyl Cymraeg o fewn yr ysgolion Saesneg mewn partneriaeth a Menter Iaith Sir Benfro, a hyd yn hyn, ma’ na dros 30 o bobl ifanc ail iaith blynyddoedd 7-9 wedi mynychu.
Ar ôl trafod gyda phob grŵp, fe wnaethom ddatblygu cynllun o weithgareddau ail-iaith a oedd yn rhoi cyfle iddynt fagu hyder mewn awyrgylch anffurfiol yn ddwyieithog. Wrth roi’r cyfle iddynt hwy wneud penderfyniadau, roeddem yn sicrhau y byddent yn dod nôl i’r clwb wythnos ar ôl wythnos i fwynhau gweithgareddau fel addurno cacennau bach, gwneud bisgedi, gwaith Celf a Chrefft, addurno mwgwd “Phantom Of The Opera”, collage coeden syniadau, sgiliau syrcas, ac achrediadau yn sgiliau sylfaenol chwaraeon.
Gyda gweddill yr ysgolion, rwyf wedi bod yn canolbwyntio ar bwyllgorau Cymreictod a Chwaraeon, ac erbyn hyn, mae 10 o ddisgyblion uwchradd Ysgol y Preseli, ac un myfyriwr o Goleg Penfro wedi’u hachredu fel Arweinwyr Ifanc Lefel 2.
O fis Medi 2009 hyd yma mae 71 person ifanc wedi eu cofrestru ar gynllun Llwybrau i’r Brig yn ardal Penfro, gyda thua 50% ohonynt yn ddysgwyr.
Mae 5 wedi cofrestru gyda Gwirfoddolwyr y Mileniwm, ac er mwyn cynyddu eu horiau gwirfoddoli, maent wedi bod yn helpu yn Eisteddfodau’r Urdd, Sioe Sir Benfro a nifer o ddiwrnodau hwyl mewn cydweithrediad a Menter Iaith Sir Benfro.
Mae yna hefyd tua 10 o ddisgyblion y 6ed o Ysgolion Penfro wedi dechrau ar gwrs Arweinyddion Ifanc tra ar gyrsiau preswyl yng Ngwersyll Llangrannog, lle cawsant y cyfle i ddatbylgu eu sgiliau fel swyddogion yn ystod tri ymweliad gyda’r Gwersyll.
Gweithgareddau i ddod
Mae cynlluniau ardal Sir Benfro am y flwyddyn nesaf yn amrywiol iawn, dyma rai enghreifftiau o beth fydd yn digwydd:
• Cwrs Hyfforddiant Rygbi Tag yn Llangrannog
• Cwrs pontio Penfro/Cymoedd
• Pwyllgorau Cymreictod yn yr ysgolion
• Cwrs byw awyr agored ym Mhentre’ Ifan - cyfle i ddatblygu sgiliau bywyd
• Cyfleoedd i achredu profiadau gwirfoddoli trwy gynlluniau megis Gwirfoddolwyr y Mileniwm, Gwirfoddolwyr Platfrom 2
• Cyfleoedd i fod yn aelod o fforwm Ieuenctid Cymraeg fydd a chysylltiadau gyda'r Ddraig Ffynci (Y Cynulliad) gan weithio ar syniadau ar sut i ddatblygu mwy o weithgareddau ieuenctid trwy gyfrwng y Gymraeg yn Sir Benfro a datblygu syniadau ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2013 Sir Benfro.
Swyddfa'r Urdd, Canolfan Adnoddau Cymunedol, Yr Hen Ysgol, Hermon, Y Glog, Sir Benfro, SA36 ODT


