Môn
Mae gen i lawer o ddyheadau o fewn y cynllun - dwi’n gobeithio creu cyfleoedd i bobl ifanc ar draws gogledd orllewin Cymru, sydd â diddordebau tebyg ym maes awyr agored, ddod at ei gilydd, a darparu llwyfan cyffredin iddynt gymryd rhan, cael hwyl a chymryd cam tuag at gyflogaeth yn y maes awyr agored.
Mi yda ni'n gweithio gydag ystod o bobl ifanc ar draws gogledd orllewin Cymru yn cynnwys ysgolion uwchradd, gwasanaethau ieuenctid, aelwydydd yr Urdd, colegau, a mudiadau gwirfoddol. Rydym yn darparu amryw o gyrsiau ac achrediadau awyr agored
Dros y flwyddyn nesaf ein prif fwriad yw cynyddu’r cyfleodd i bobl ifanc gymryd rhan yn y meysydd chwaraeon ac awyr agored trwy ddatblygu clybiau penodol Urdd Gobaith Cymru. Byddwn yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu ymhellach drwy brofiadau, cystadlaethau ac achrediadau/hyfforddiant uwch. Byddwn hefyd yn gobeithio trefnu teithiau penodol awyr agored i ehangu gorwelion pobl ifanc gyda’r nod o sefydlu clybiau mynydda a chanwio cyntaf Urdd Gobaith Cymru!
Swyddfa'r Urdd, 13 Llys Castan, Parc Menai, Bangor, LL57 4FH
