llwybrau menu

  • Hafan
  • Beth yw Llwybrau i'r Brig?
  • Beth sy'n cael ei gynnig?
  • I bwy mae'r cynllun?
  • Cysylltu
  • Adroddiadau
  • Urdd.org
  • Mon
  • Gwynedd
  • Conwy
  • Dinbych
  • Ceredigion
  • Penfro
  • Caerfyrddin
  • Abertawe
  • Penybont
  • Gartholwg
  • Llanhari
  • Rhydywaun
  • YCymer
  • Castell Nedd a Phort Talbot
  • Merthyr a Chaerffili
  • Torfaen a Blaenau Gwent
  • English
  • Cymraeg

Calendr

20/01/11
Gweithdai Roc Bermo
17/03/11
Gweithdai Roc Tywyn
12/09/11
Aelwyd Penllyn
26/09/11
PCAI Ysgol Dyffryn Nantlle
mwy
Gig Mawreddog Aelwyd Penllyn

 Bu i Aelwyd Penllyn drefnu gig arbennig fis Medi i ddenu aelodau iau’r ysgol i...

Marathon Roc Cofis Bach a Mawr 2012

Yn ystod gwyliau'r haf, bu aelodau cofis Mawr a Bach yng Nghanolfan Noddfa yn gweithio gyda'r...

Cyflwyniad i'r Celfyddydau Coed Menai a Bryn Llwyd

Bu disgyblion Coed Menai a Bryn Llwyd yn gweithio'n ddwys gyda gwneuthurwyr ffilmia, actorion a...

Arweinwyr Ifainc Tryfan

 Daeth criw o 6ed Ysgol Tryfan i Lan-llyn i dderbyn hyfforddiant i fod yn Arweinyddion...

mwy

Galeri: cliciwch isod ...

Gig Mawreddog Aelwyd Penllyn
Gig Mawreddog Aelwyd Penllyn
Marathon Roc Cofis Bach a Mawr 2012
Marathon Roc Cofis Bach a Mawr 2012
Cyflwyniad i'r Celfyddydau Coed Menai a Bryn Llwyd
Cyflwyniad i'r Celfyddydau Coed Menai a Bryn Llwyd
mwy o luniau

Gwynedd

Fy ngobaith yn y swydd ydi cyfoethogi sgiliau a gwybodaeth pobl ifanc am y celfyddydau, eu datblygu yn greadigol i gynhyrchu gwaith cyffrous a sefydlu prosiectau amrywiol i bobl ifanc gael gweithio gydag unigolion proffesiynol o fewn y diwydiant celfyddydol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae llawer o bobl ifanc Môn a Gwynedd wedi derbyn cyrsiau neu weithdai mewn amryw feysydd o’r celfyddydau. Dyma flas o’r gweithgareddau hynny a drefnwyd:

• Cwrs Ffilm yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn gyda chriw cynhyrchu BBC Cymru.

• Gweithdai Cerdd Roc a Pop - dysgu chwarae offerynnau trydanol a recordio caneuon. 

• Cydweithio gyda chwmni Theatr Fran Wen i redeg prosiect amlgyfrwng yn ardal Bangor. Gweithgareddau ymarfer rapio, capoeira, actio a ffilmio i greu gwaith gwreiddiol.

• Cydweithio ag actorion ifanc yn Theatr Fach Llangefni i lwyfannu cynhyrchiad TGAU drama

• Cwrs dawns i hyfforddi arweinyddion newydd yn y maes 

• Cynnal gweithgareddau Bitbocsio a Graffiti ym Methesda 

• Cychwyn cydweithio gyda chwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd, pan fu’r bobl ifanc yn profi dawns stryd, barddoni, gwaith llais, ymladd llwyfan ac ymarferion theatr.

Mae llawer o’r bobl ifanc wedi derbyn achrediadau OCN lefel 1 a 2 (sydd yn cyfateb i lefel TGAU) ar ddiwedd y cyrsiau. Mae ymroddiad a gwaith caled y bobl ifanc wedi bod yn gamoladwy iawn. Mae eraill yn rhan o gynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm, a rhai'n datblygu ymhellach i hyfforddi yn y maes celfyddydol.

Branwen Williams
Swyddog Datblygu Celfyddydol
01678 541 017
branwenhaf@urdd.org

Gwersyll yr Urdd Glan-Llyn, Llanuwchllyn, Y Bala, Gwynedd, LL23 7ST
 

Gweithgareddau eraill yr Urdd yn dy ardal di.

Hawlfraint © 2010, urdd.org. All rights reserved
Dylunio / Design
elfen.co.uk