Warning: INSERT command denied to user 'dbo331285697'@'212.227.127.176' for table 'watchdog'
query: INSERT INTO watchdog
(uid, type, message, variables, severity, link, location, referer, hostname, timestamp)
VALUES
(0, 'php', '%message in %file on line %line.', 'a:4:{s:6:\"%error\";s:7:\"warning\";s:8:\"%message\";s:97:\"array_map() [<a href=\'function.array-map\'>function.array-map</a>]: Argument #2 should be an array\";s:5:\"%file\";s:63:\"/homepages/1/d171256486/htdocs/cms/modules/system/system.module\";s:5:\"%line\";i:1015;}', 3, '', 'http://www.urdd.org/cms/llwybrau/eitem_newyddion', '', '54.80.87.250', 1524525712) in /homepages/1/d171256486/htdocs/cms/includes/database.mysql.inc on line 128
Warning: INSERT command denied to user 'dbo331285697'@'212.227.127.176' for table 'watchdog'
query: INSERT INTO watchdog
(uid, type, message, variables, severity, link, location, referer, hostname, timestamp)
VALUES
(0, 'php', '%message in %file on line %line.', 'a:4:{s:6:\"%error\";s:7:\"warning\";s:8:\"%message\";s:107:\"array_keys() [<a href=\'function.array-keys\'>function.array-keys</a>]: The first argument should be an array\";s:5:\"%file\";s:53:\"/homepages/1/d171256486/htdocs/cms/includes/theme.inc\";s:5:\"%line\";i:1817;}', 3, '', 'http://www.urdd.org/cms/llwybrau/eitem_newyddion', '', '54.80.87.250', 1524525712) in /homepages/1/d171256486/htdocs/cms/includes/database.mysql.inc on line 128
Warning: INSERT command denied to user 'dbo331285697'@'212.227.127.176' for table 'watchdog'
query: INSERT INTO watchdog
(uid, type, message, variables, severity, link, location, referer, hostname, timestamp)
VALUES
(0, 'php', '%message in %file on line %line.', 'a:4:{s:6:\"%error\";s:7:\"warning\";s:8:\"%message\";s:39:\"Invalid argument supplied for foreach()\";s:5:\"%file\";s:53:\"/homepages/1/d171256486/htdocs/cms/includes/theme.inc\";s:5:\"%line\";i:1817;}', 3, '', 'http://www.urdd.org/cms/llwybrau/eitem_newyddion', '', '54.80.87.250', 1524525712) in /homepages/1/d171256486/htdocs/cms/includes/database.mysql.inc on line 128 Newyddion | Urdd Gobaith Cymru
Bu i Aelwyd Penllyn drefnu gig arbennig fis Medi i ddenu aelodau iau’r ysgol i gymryd diddordeb mewn cerddoriaeth gyfoes Cymraeg. Yn ychwanegol, gwahoddwyd 70 o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gwyr i ymuno â nhw yn Neuadd Buddug, a cafwyd noson anhygoel yn nghwmni Y Niwl a Candelas.
Gwnaeth y bandiau gryn argraff ar y bobl ifainc, ac roedd pawb yn rasio i fynnu eu copïau o’r cylchgrawn Selar ar ddiwedd y gig.
29/11/12
Arweinwyr Ifainc Môn
Glan-llyn
Mae sawl person ifanc o Ynys Môn yn rhoi o’u hamser i’r Urdd; boed yn stiwardio, rhedeg clybiau, cynorthwyo arweinyddion neu ddyfarnu. Penderfyniad naturiol felly oedd eu gwahodd i Lan-llyn i ennill tystysgrif Arweinyddion Ifainc, a braf oedd eu gweld yn llwyddo.
29/11/12
Caban Lleu
Fel rhan o’u cynllun Prosiect Arferion Iaith, fe greodd chweched Ysgol Dyffryn Nantlle radio ysgol o’r enw Caban Lleu.
Fe weithiodd pawb yn galed i gael grant i brynu’r offer gorau a chafwyd diwrnod o hyfforddi gyda Marci G. Buodd Sain yn garedig wrthynt hefyd, a cawsant lond y lle o gryno ddisgiau am ddim i hybu’r radio.
Fe ddysgodd y disgyblion sut i gyflwyno rhaglenni yn broffesiynol, ac mae’r rhaglenni yn cael eu darlledu yn ystod yr awr ginio.
Enillodd pawb oedd ynghlwm â’r prosiect OCN Darlledu Radio.
19/11/12
Clwb Cinio 2012 / 2013
Canolfan Ieuenctid Trefethin
16/11/12
Taith Cymru Samoa
Stadiwm Mileniwm
Fe fwynheuodd bron hanner cant o ddisgyblion Gwynllyw gem rygbi rhwng Cymru a Samoa yn Stadiwm Mileniwm.
Er na aeth y canlyniad fel y gobeithion fe fwynheuodd pawb ac fe gafwyd daeth lwyddiannus iawn.
30/10/12
Cwrs Babanod Realiti 2012
Gwersyll yr Urdd Caerdydd
Fe aeth grŵp o Ferched o flwyddyn 11 i aros yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd fel rhan o gwrs Babanod Realiti.
Ar y cwrs mae'r merched yn cael y cyfle i edrych ar ôl babanod realiti, tra hefyd yn dysgu a derbyn achrediad mewn trin arian, iechyd rhywiol a bod yn rhiant.
Mae'n gyfle gwych i'r merched cael dysgu am yr hyn maen ei gymryd i fod yn rhiant ifanc tra hefyd yn cael y profiad o ofalu am babi.
17/10/12
Swogs Glan-llyn
Glan-llyn
13/08/12
Cwrs Arweinyddion mewn dawns
Dyma gwrs sydd yn cynnig cyfle i ddysgu sut i hyfforddi dawns. Dros gyfnod o dridiau byddwn yn:
Trafod pwysigrwydd mesurau diogelwch,
Deall y dulliau gwahanol o hyfforddi ynghyd ac o ddysgu
Dysgu am bwysigrwydd Cynhesu'r corff
Cynllunio gwersi
Derbyn hyfforddiant Cymorth cyntaf - wedi ei redeg gan un o hyfforddwyr St John.
Yn sicr, dyma gwrs da ar gyfer unrhyw un sydd eisiau datblygu sgiliau arwain, ac yn brofiad i'r rheiny sydd a'u bryd ar ddysgu dawns yn y dyfodol.
04/08/12
Cwrs Preswyl Ffilm digidol
Bydd 4 o fyfyrwyr Ysgol Llangynwyd yn cael y cyfle i fynd ar gwrs Preswyl i ganolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd gychwyn Awst. Dyma gyfle iddynt ddysgu technegau ffilmio digidol. Byddant yn defnyddio'r hyn y ddysgwyd wrth ymweld a chartref Gavin a Stacey yn Bari, ynghyd a gwneud ychydig o ffilmio wrth wirfoddoli ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd y myfyrwyr o Benybont hefyd yn derbyn cwmni criw o fyfyrwyr Abertawe, ynghyd a Chaerfyrddin.
02/07/12
Marathon Roc Cofis Bach a Mawr 2012
Caernarfon
Yn ystod gwyliau'r haf, bu aelodau cofis Mawr a Bach yng Nghanolfan Noddfa yn gweithio gyda'r cerddorion Dan Amor, Ed Holden, Siwan Llynor a Steve Pablo i greu cyfres o ganeuon i'w perfformio yn y Galeri, o flaen cynulleidfa fyw.
Roedd datblygiad y bobl ifainc yn syfrdanol,Yn ystod gwyliau'r haf, bu aelodau Cofis Mawr a Bach yng Nghanolfan Noddfa yn gweithio gyda'r cerddorion Dan Amor, Ed Holden, Siwan Llynor a Steve Pablo i greu cyfres o ganeuon i'w perfformio yn y Galeri, o flaen cynulleidfa fyw.
Roedd datblygiad y bobl ifainc yn syfrdanol, yn enwedig o ystyried na wnaethant berfformio o flaen cynulleidfa o’r blaen.
11/06/12
Hanes Digidol Henllan
Castell Newydd Emlyn
05/06/12
Taith Eisteddfod yr Urdd
01/06/12
Cwrs John Muir
07/05/12
Cyflwyniad i'r Celfyddydau Coed Menai a Bryn Llwyd
Caernarfon a Bangor
Bu disgyblion Coed Menai a Bryn Llwyd yn gweithio'n ddwys gyda gwneuthurwyr ffilmia, actorion a sgriptwyr proffesiynol i greu ffilm fer o'r dewis hwy.
Buont yn dysgu sut i greu effeithiau arbennig a gwneud symudiadau capoeira.
Roedd gweld y gwaith gorffenedig yn wych, ac yn ganlynaid proffeisynol iawn i'r holl waith caled!
25/04/12
Llwyddiant I Griw Abertawe Yn Y Sialens Antur!
Llongyfarchiadau mawr i dîm Rhanbarth Abertawe YGG Bryn Tawe ar gipio’r trydydd safle yn Sialens Antur Urdd Gobaith Cymru 2012 yng Ngwersyll Glan-llyn yr wythnos diwethaf. Cafwyd tri diwrnod llawn o weithgareddau awyr agored wrth i ddeuddeg tîm o ranbarthau eraill dros Gymru gyfan brwydro am y safle buddugol! Llongyfarchiadau i dîm Ysgol y Preseli a enillodd y Sialens Antur, a gwerth £1,000 o offer awyr agored!
11/04/12
Sialens Antur 2012
Glan-llyn
11/04/12
Sialens Antur 2012
Gwersyll yr Urdd Glan-Llyn
Rhwng Ebrill 11eg-13eg, bydd 8 disgybl o Flwyddyn 12 yn Ysgol Bryn Tawe yn cynrychioli Rhanbarth Abertawe yn Sialens Antur Urdd Gobaith Cymru yng Ngwersyll Glan-llyn. Byddant yn cystadlu yn erbyn tîmau o ranbarthau eraill dros Gymru gyfan am werth £1,000 o bunnoedd o offer awyr agored. Mae’r disgyblion wedi bod yn brysur yn codi arian er mwyn cystadlu yn y sialens, a hoffen nhw ddiolch i Fwydydd Castell Howell am eu rhodd garedig o £200 i’r tîm.
09/03/12
Cwrs Animeiddio
Dros gyfnod o 10 wythnos rhoddwyd cyfle i rai o fyfyrwyr Ysgol Llangynwyd i ddysgu am wahanol dechnegau animeddio. Dros yr wythnosau gwelwyd y myfyrwyr yn creu llyfr fflip, dau ffilm yn defnyddio deunyddiau crai ynghyd a chlai, ynghyd a chreu ffilmiau ar y cyfrifiadur.
05/03/12
Arweinwyr Ifainc Tryfan
Gwersyll yr Urdd Glan-Llyn
Daeth criw o 6ed Ysgol Tryfan i Lan-llyn i dderbyn hyfforddiant i fod yn Arweinyddion Ifainc.
Roeddynt eisoes yn cynnal sesiynnau i hybu'r Gymraeg ymysg disgyblion ieuengaf yr ysgol, ac yn bwriadu ehangu ar hyn.
23/02/12
Cwrs Diwylliant Cymru: Traddodiadau ac arferion
Coleg Penybont (campws Pencoed) & Glanllyn
16/01/12
Traed Brain 2012
Bala
Cafwyd criw newydd i ddechrau’r clwb ysgrifennu creadigol ‘Traed Brain’ yn Ysgol y Berwyn eleni. 11 ohonynt i gyd! A braf oedd gweld 6 o hogiau’n camu i’r byd ysgrifennu.
Fe aeddfedodd gwaith y criw yn sydyn iawn, a cawsant gyfle i ddod i Lan-Llyn i fireinio eu dawn ymhellach, creu darluniau i fynd gyda’u gwaith gyda’r artist Catrin Willias a chreu sgriptiau byrion gyda’r cyfarwyddwr Eilir Pierce.
Enillodd pawb OCN Ysgrifennu Creadigol Lefel 3.
10/01/12
10 Ceredigion 2011
Ar fore dydd Sul y 4ydd o Ragfyr 2011, fe ddaeth 6 o aelodau hŷn yr Urdd i Wersyll yr Urdd Llangrannog i gystadlu mewn cystadleuaeth 10 Ceredigion. Y Bwriad oedd dod o hyd i’r fachgen a merch fwyaf ‘ffit’ yng Ceredigion!
Roedd yn ddiwrnod llawn o gystadlu mewn amryw o gystadlaethau corfforol a meddyliol, megis dringo, datrys problemau, dips, taflu pêl i hoop, driblo peli a llu o weithgareddau eraill.
Ar ddiwedd y 10 gystadleuaeth wahanol a tra bu’r dyfarnwyr yn cyfrif y sgôr, chafodd y cystadleuwyr gyfle i ‘joio’ ar gwrs rhaffau uchel newydd Gwersyll Llangrannog.
Enillwyr y gystadleuaeth oedd Bethan Davies o Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi a Teifion Davies o Landysul.
Diolch yn fawr iawn i’n dyfarnwyr sef Helen Thomas, Swyddog Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru a Steffan Hughes o Gaerfyrddin - un o sêr y rhaglen teledu 10 Jonathan. Diolch hefyd i Wersyll yr Urdd Llangrannog am yr offer ac i’r aelodau oll am gymerid rhan.
04/12/11
10 Ceredigion 2011
Gwersyll yr Urdd Llangrannog
22/11/11
Drama Aelwyd Penllyn
Neuadd Bentre Llanuwchllyn
Mae criw Aelwyd Penllyn wedi bod wrthi'n brysur yn creu drama i'w pherfformio yng Ngwyl Dramâu Llanuwchllyn.
Dewch i'w gwylio!
16/11/11
Clybiau 7
Ysgol Gyfun Llanhari
Bydd clybiau criw 'bwrdd y iaith' ysgol gyfun Llanhari yn cychwyn ar Dydd Mercher 16eg o Dachwedd. Y clwb gyntaf i rhedeg fydd 'quiditch'.
Croeso i unrhyw un o flwyddyn 7 mynychu.
10/11/11
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau i ddisgyblion y chweched ddosbarth sydd wedi cyflawni cwrss arweinyddi Pel Droed!!
Edrychai ymlaen at weld y grwp yn hyfforddi ser y ddyfodol!
03/11/11
Noson wobrwyo Dug Caeredin Mon
Shambr y Cyngor - Llangefni
Bydd noson gwobrwyo Ieuenctid Ynys Mon yn cael ei gynnal nos Iau 3ydd o Tachwedd. Mae' LLiB wedi bod yn gweithio yn agos gyda criw o bobl ifanc o Llangefni a Caergybi ar gwbwlhau Gwbr Dug Caeredin. Llongyfarchiadau iddynt oll.
02/11/11
Gwobr John Muir - Ysgol Caergybi
Mae criw o bobl ifanc o Caergybi wedi cychwyn ar achrediad Gwobr John Muir. Dros yr 7 wythnos neaf byddent yn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored a prosiectau cadwraeth ar yr Ynys.
27/10/11
Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2012
Gwersyll yr Urdd, Glan-Llyn
Ddiwedd Hydref daeth criw o bron i ddeg person ifanc ar hugain at eu gilydd yng Nglan Llyn i ddechrau creu cyflwyniad a neges heddwch ac ewyllys da, ar gyfer Eisteddfod Eryri 2012.
Daliadau'r Olympiaid yw'r thema y tro hwn, a bu pawb wrthi'n brysur yn cyfansoddi'r neges.
Edrychwn ymlaen at gael cwrdd gyda'n gilydd yn fuan, unwaith eto.
26/10/11
Babanod Realiti Hydref 2011
Gwersyll yr Urdd, Bae Caerdydd
25/10/11
Diwrnod gweithgareddau Bl 7
Neuadd Ysgol Cwm Rhymni 9yb-3yp
24/10/11
Cwrs Preswyl Cymreictod Hydref 2011
Yn ystod adeg hanner tymor mis Hydref 2011, fe ddaeth grŵp o 6 pobl ifanc o ardaloedd Gwaun Cae Gurwen, Ystalyfera, Sandfields a Phort Talbot at ei gilydd i ymwneud cwrs preswyl yn edrych ar Draddodiadau ac Arferion Cymru.
Yn ystod y cwrs cafwyd y cyfle i ddysgu am y diwylliant glo ym Mhwll Mawr, Blaenafon, ac wedyn ymweliad i’r Senedd ym Mae Caerdydd lle cafwyd y cyfle i fynd lawr i ystafelloedd pwyllgor ac mewn i’r siambr i hunain.
Yn ystod y noswaith gyntaf fe wnaethant waith yn edrych ar ddigwyddiadau celfyddydol, digwyddiadau hanesyddol, traddodiadau chwaraeon, llenyddol, a cherddorol Cymru, cyn gorffen yn edrych ar chwedlau Cymreig.
Ar yr ail ddiwrnod fe ddechreuwyd gydag ymweliad i Stadiwm y Mileniwm i edrych ar y stadiwm a gafwyd y cyfle i weld y cae yn cael i roi mewn ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia ym mis Rhagfyr. Ar ôl hwn aeth y grŵp ymlaen i Sain Ffagan gan edrych ar yr hen adeiladau ac roedd hefyd yn gyfle iddynt i weld ac i roi beth wnaethant ddysgu a chlywed yn ystod y noswaith flaenorol mewn lle, wrth edrych ar hen adeiladau ac yn gweld y ffordd o fyw yn yr hen ddyddiau.
Wedi iddynt gwblhau’r cwrs, maent wedi cyflawni cwrs achredu, y cynllun dangos llwyddiant ac mi fydd rhagor o gyfle ganddynt i ddysgu mwy yn ystod y flwyddyn i ddod.
24/10/11
Ymweliad Dan yr Ogof a LC2
Dan Yr Ogof a LC2 Abertawe
Ymweliad hanner tymor i ddisgyblion ardal Merthyr a Chaerffili.
21/10/11
CHWILIO AM SWYDDOGION !
Gwersyll yr Urdd Llangrannog
Rydym yn chwilio am bobl ifanc 16+ i gynorthwyo yn ystod penwythnos cynradd Gwersyll Llangrannog, Hydref 21-23 2011.
Rhaid i bob swyddog fod yn rhugl yn y Gymraeg neu’n ddysgwr da. Gall eich cyfnod fel swyddog gyfrannu at eich Bagloriaeth Gymraeg ac oriau Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Bydd yna gyfle i chi wneud cymhwyster gwaith ieuenctid tra yn y gwersyll.
Byddwch yn meithrin sgiliau yn y meysydd canlynol:
Arwain, Bugeilio, Cynorthwyo, Cyfathrebu, Hyfforddi
£25 yn cynnwys bwyd, llety a gweithgareddau
Disgwylir i bob swyddog fod yn aelod o’r Urdd
Cyntaf i ymateb caiff le. Os oes diddordeb gennych cysylltwch a fi luned@urdd.org
05/10/11
Cwrs Sports Leaders 2011/12
Ysgol Gyfun Gwynllyw
Mae criw o ddisgyblion chweched dosbarth Gwynllyw wedi bod yn dilyn cawr Community Sports Leads Award. Mae 1 diwrnod o gwrs cymorth cyntaf ar ôl ganddyn nhw i’w wneud ac wedyn bydd pawb yn gymwys ond yn gorfod gwirfoddoli yn y gymuned cyn derbyn ei achrediad.
01/10/11
Fforwm Ieuenctid 2011/12
Fforwm Ceredigion, Mon a Myrddin
Yng nghyd â thrafod datblygiadau a darpariaeth yr Urdd, materion cyfoes a bywyd o ddydd i ddydd fel pobl ifanc yng Ngheredigion roed aelodau'r fforwm wedi cymryd rhan mewn prosiect ‘Trafodiaith’. Prosiect ar y cyd a fforymau ieuenctid yr Urdd Môn a Myrddin wedi’i selio ar yr iaith Gymraeg oedd Trafodieth. Yn fras nod y prosiect oedd rhannu profiadau a thrafod y manteision a’r rhwystrau o fod yn Gymry Cymraeg.
Mae’r bobl ifanc sydd wedi bod yng nghlwm a'r prosiect yn teimlo yn llawer mwy hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg ac yn falch iawn o’r iaith. Maent yn awyddus i drosglwyddo’r hyn maent wedi profi i bobl ifanc eraill ar draws Cymru trwy theatr fforwm. Cyn y prosiect roedd y bobl ifanc yn dweud ei bod yn teimlo yn ansicr ac yn fregus oherwydd nid oeddent yn meddwl fod pobl eraill o’r un farn a nhw. Nid oeddent yn gwybod sut i fynegi ei hun. Trwy fod yn rhan o’r fforwm a’r prosiect trafodiaith mae'r bobl ifanc yn gallu ymdopi yn well gyda materion heriol ac yn barod ymladd am ei hawliau.
Ennillodd prosiect Trafodiaeth wobr Gwaith Ieuenctid 2012 am gyfraniad arbennig i gefnogi a hyrwyddo'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig.
28/09/11
Clwb SIC Ysgol y Gader
Ysgol y Gader, Dolgellau
Mae cynllun PCAI yn gyfle cyffroes i ddisgyblion chweched dosbarth neu flwyddyn unarddeg i helpu newid agweddau disgyblion iau tuag at y Gymraeg yn yr ysgol.
Bydd disgyblion blwyddyn unarddeg y Gader yn creu clwb ar ol ygsol i apelio at ddiddordeb pawb - beth am ddod i'r clwb gemau, y clwb colur neu'r clwb chwaraeon?
28/09/11
Traed Brain Llangefni
Clwb Ieuenctid Llangefni
Mae chwech awdur ifanc yn prysur finiogi eu sgiliau creadigol wrth ddilyn cwrs OCN Ysgrifennu Creadigol o dan gynllun Llwybrau i'r Brig, yng Nghlwb Ieuenctid Llangefni.
O'r gynghanedd i twitterature, byddant yn trin a thrafod arddulliau traddodiadol a chyfoes, gan ddatblygu eu gallu i ysgrifennu'n greadigol mewn sawl maes.
Os hoffech fod yn rhan o gynllun tebyg, byddwn yn ail-gynnig y cwrs ddechrau Ionawr. Cysylltwch â branwenhaf@urdd.org am ragor o wybodaeth
28/09/11
Cwrs Arweinyddion mewn dawns
Cwrs i'r rheiny sydd yn edrych at ddatblygu sgiliau dawns ymhellach, gan ddysgu technegau arwain dawns.
Bydd yn cwrs yn trafod:
Pwysigrwydd cynhesu ac oeri'r cyhyrau
Technegau adeiladu tim / torri'r ia
Dulliau ymwrwymo pobl ifanc mewn gweithgaredd dawns.
Cynllunio sesiynau
Pwysigrwydd a dealltwriaeth Iechyd a diogelwch
Trafod steiliau dawns
Deall cyd-destynau Cymdeithasol a hanesyddol y steiliau dawns
Sut i adnabod anghenion unigolyn neu grwp
Pwysigrwydd asesu a gwerthuso perfformiad eu hunain, ynghyd ag eraill.
Bydd y sesiwn yn rhedeg dros 6 wythnos, gyda'r bobl ifanc yn ennill cymhwyster OCN lefel 3 Arweinwyr mewn dawns ar ei ddiwedd.
27/09/11
Taith Sioe Johnathan
Pop Factory- Porth
Ymweliad i Sioe Johnathan-6ed dosbarth.
Cyfle i fod yn rhan o gynelleudfa Sioe Johnathan fel rhan o'r Cwpan y byd.
26/09/11
PCAI Ysgol Dyffryn Nantlle
Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes
Mae cynllun PCAI yn gyfle cyffroes i ddisgyblion chweched dosbarth neu flwyddyn unarddeg i helpu newid agweddau disgyblion iau tuag at y Gymraeg yn yr ysgol.
Gwyliwch ei hunain C2 - mae chweched Dyffryn Nantlle am ddechrau Radio Ysgol wythnosol a fydd yn cael ei ddarlledu ledled yr ysgol! Byddant yn cynnal cystadleuaeth i enwi'r raglen cyn y Nadolig.
26/09/11
PCAI Ysgol Tryfan
Ysgol Tryfan, Bangor
Mae cynllun PCAI yn gyfle cyffroes i ddisgyblion chweched dosbarth neu flwyddyn unarddeg i helpu newid agweddau disgyblion iau tuag at y Gymraeg yn yr ysgol.
Bydd Chweched Tryfan yn cynnal clybiau gemau bwrdd a cherddoriaeth yn wythnosol yn yr ysgol, ar gyfer disgyblion blwyddyn saith. Byddant hefyd yn gwobrwyo disgyblion am siarad Cymraeg, trwy ddull tocynnau iaith.
26/09/11
PCAI Ysgol Syr Thomas Jones
Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch
Mae cynllun PCAI yn gyfle cyffroes i ddisgyblion chweched dosbarth neu flwyddyn unarddeg i helpu newid agweddau disgyblion iau tuag at y Gymraeg yn yr ysgol.
Eleni, mae sawl ysgol yng Ngwynedd a Môn yn rhan o'r cynllun, a bydd Ysgol Syr Thomas Jones yn dechrau clybiau hwyl amser cinio i geisio dennu rhagor o ddisgyblion i ddefnyddio eu Cymraeg.
26/09/11
Taith Beicio
Ar yr ail o Fehefin daeth prosiect 10 wythnos i ben. Hynny ar faes yr Eisteddfod yn Abertawe.
Cwblhaodd 10 person ifanc daith yn beicio mynydd, taith a'u cymerodd o Gonwy hyd at Abertawe, yn teithio ar gyfartaledd o 60 milltir y diwrnod . . . gan gwblhau'r daith o fewm 5 diwrnod.
Cychwynodd y prosiect gyda sesiynau wythnosol, wedi'u cynnal yng Nghlwb Ieuenctid Llanelwy. Man canolog i'r 4 o Brestatyn a'r 2 berson ifanc o Ruthun ddod a chymryd rhan yn y sesiynau ffitrwydd, y trafodaethau ar fwyta'n iach, ynghyd a dilyn cwrs ar gynnal a chadw beic. Cyfle iddynt ddysgu a datblygu sgiliau yn barod at y daith ei hun.
Daeth 3 person ifanc o Abertawe atom i gymryd rhan yn y daith.
Heb os, roedd y daith yn llwyddiant. Yn sicr, dyma gyfle bywyd i'r bobl ifanc a'r staff i weld rhai o olygfeydd gorau Cymru. Diolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd y daith.
Enwau'r rheiny a feiciodd: Gareth, Liam, Dave, Rhys, Sam, Hywel, Steffan, Huw, David a Gwyn.
25/09/11
PCAI Ysgol David Hughes
Ysgol David Hughes, Porthaethwy
Mae cynllun PCAI yn gyfle cyffroes i ddisgyblion chweched dosbarth neu flwyddyn unarddeg i helpu newid agweddau disgyblion iau tuag at y Gymraeg yn yr ysgol.
Bydd Chweched Ysgol David Hughes yn cynnig clybiau amrywiol amser cinio, ac yn trefnu gig ar gyfer disgyblion iau'r ysgol.
21/09/11
Clwb Ieuenctid Caerffili
Ysgol Y Castell
Nos Fercher 6-7.30yh
Cyfle i bobl ifanc gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg tu allan i'r Ysgol. Mae nifer o weithgareddau a gweithdai addysgiadol wedi cael ei anelu at Blwyddyn 7/8. Dewch a mwynhewch!!!
21/09/11
Prosiect Cefnogi Arferion Iaith
19/09/11
Gweithgareddau e3+
Ysgol Gyfun Gartholwg
Gweithgareddau e3+ yn dechrau wythnos yn cychwyn 19eg o Fedi am ddeg wythnos. Amrywiaeth o weithgareddau bob nos ar ol ysgol am ddim!
16/09/11
Aelwyd Myrddin - Noson i groesawi aelodau newydd.
Coleg y Drindod, Caerfyrddin
AELWYD MYRDDIN
Aelwyd bywiog, cyffrous ar gyfer pobl ifanc blynyddoedd 7-13.
Cyfle i gymdeithasu a joio pob math o weithgareddau - gemau, cwis, crefft, coginio, tripiau, chwaraeon, cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, cyfle i fynd i wersyll Glan-llyn a mwy!
Mae’r Aelwyd yn cwrdd bob nos Wener am 5.30-7.00 yng Ngholeg y Drindod.
Cyfarfod nesaf: noson gemau a hwyl ar nos Wener, 16eg Medi 2011 yn Neuadd Archesgob Childs, Coleg y Drindod
Dewch draw ar yr 16eg Medi! Croeso cynnes i bawb
Manylion pellach: Meinir 07989830128 neu Catrin 07984148622
Ymunwch â’n tudalen Facebook!
15/09/11
Sesiwn rygbi Touch Conwy
Sesiwn Rygbi touch!
Cyfle i feithrin sgiliau newydd, datblygu technegau pasio neu ddal, ynghyd a dysgu gem hollol newydd.
Ysgol Dyffryn Conwy - 15/09/2011 rhwng 1 - 1:30 (cwrdd wrth yr astro)
Croeso i bawb. Does dim angen profiad blaenorol, nac chwaith fod yn ymwybodol o'r gem rygbi - mae touch yn gem hollol newydd.
Mae datblygiad y gem yn cael ei gefnogi gan y WTA (Asiantaeth Touch Cymru) a'r WRU (Undeb Rygbi Cymru)
15/09/11
Clwb Sbri @ Q.E
Ysgol Brenhines Elisabeth, Caerfyrddin
Clwb Sbri @ Q.E yn ail ddechrau nos Iau, 15fed o Medi.
3.35 - 5yp
Sesiwn creu crysau T.
13/09/11
Cwrs Gwaith Ieuenctid Bl 12
Fe aeth criw o ferched chweched dosbarth i aros yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd fel rhan o'i cwrs OCN Gwaith Ieuenctid.
Tra yn y gwersyll fe gafodd y grwp cyfle i weithio ar yr OCN ag ymarfer ei sgiliau ymarferol hefyd.
Mae'r merched nawr yn barod i ddefnyddio ei sgiliau newydd drwy helpu gyda clybiau yn yr ysgol ac yn y gymuned.
13/09/11
Merched Ysgol Emlyn
13/09/11
Cwrs Babanod Realiti 2010
13/09/11
Gemwaith o'r Galon
13/09/11
Taith i Gatalunya
12/09/11
Gweithgareddau E3
Bydd gweithgareddau ar ol ysgol yn dechrau ar Dydd Mercher 21ain o Fedi 2011. Dewch i weld Craig Howells yn ystafell 7 am i cofrestru
12/09/11
Aelwyd Penllyn
Gwersyll yr Urdd Glan-Llyn
Blwyddyn 10 neu hŷn? Byw ym Mhenllyn?
Licio'r syniad o gyfeirianu mewn canŵ yn y tywyllwch,
neu wylio Cmon Midffild efo pitsa?
Awydd herio Aelwyd yr Ynys ac CF1 yn `Sdeddfod yr Urdd?
Ydech chi'n licio chwaraeon? Be am swap shop dillad? Noson hela ysbrydion unrhyw un?
Dewch i ddweud be arall `dech chi’n licio ei wneud
Glan-Llyn, Nos Fercher,
19eg o Ionawr, 7:30yh
Bydd gweithgaredd wedi ei threfnu ar ein cyfer.
Ymunwch ‘fo grŵp Facebook Aelwyd Penllyn.
07/09/11
Cwrs Bl 7 Llangrannog
22/08/11
Cwrs Rygbi Tag
Gwersyll yr Urdd Llangrannog
Cwrs Rygbi TAG
gwobr “Arweinyddiaeth Cymunedol”
Dan hyfforddiant Y Scarlets
Cwrs preswyl yn Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, Awst 22-23 2011
Os oes gen ti ddiddordeb mewn Rygbi ac yn awyddus i ddysgu sgiliau sylfaenol ar fod yn hyfforddwr dyma’r cwrs i ti.
Ar ddiwedd y cwrs bydd unigolion yn medru cyflwyno sesiynau hyfforddi diogel a hwyl; cyflwyno sgiliau rygbi sylfaenol e.e. rhedeg, trin a phasio’r bêl; yn deall rheolau’r gêm TAG.
Yng nghyd a’r cwrs bydd cyfle i fwynhau rhai o weithgareddau’r Gwersyll
Pris £30 yn cynnwys hyfforddiant, tystysgrif, bwyd, llety a gweithgareddau
Mae’r cwrs yn agored i fechgyn a merched dros 16 oed
Cysylltwch a Luned George, Swyddog Ieuenctid Ceredigion,
Swyddfa’r Urdd ,Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1EY.
Ffôn: 07500607387 E BOST: luned@urdd.org
04/08/11
Diwrnod Syrffio
Diwrnod ar y tonnau ar draeth Llangennith i brofi ychydig o syrffio!!
03/08/11
Diwrnod Peli Paent
Diwrnod ar gyfer blwyddyn 7 a 8. Sesiwn Peli Paent gyda pobl ifanc o ysgolion Cymer, Rhydywaun, Llanhari a Gartholwg
01/08/11
Aelwyd Penllyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
Llongyfarchiadau i Aelwyd Penllyn am dderbyn yr ail wobr yng nghystadleuaeth y parti cerdd dant yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Dyma'r tro cyntaf i'r Aelwyd gystadlu ac rydym yn falch iawn o'u llwyddiant.
28/07/11
Diwrnod Gwibgartio
Diwrnod Gwibgartio ar gyfer blwyddyn 9 a 10.
27/07/11
Profiad Syrffio Bl 9 a 10
Profiad Syrffio ar draeth Lllangennith ar gyfer bl 9 a 10
27/07/11
Cwrs Rhaffau Uchel a Wal Ddringo - Gwersyll Llangrannog
Gwersyll yr Urdd Llangrannog
Ydych chi’n hoffi fod yn fentrus?
Ydych chi’n hoffi her?
(Bl.7, 8 a 9)
Dewch i Wersyll yr Urdd Llangrannog er mwyn profi eich hun ar y cwrs rhaffau uchel a’r wal ddringo newydd!!
Dydd Mercher, 27ain o Orffennaf 2011.
(manylion am amseroedd/lleoliad bws i’w ddilyn yn ddibynnol ar niferoedd)
Pris y daith
£30, cynnwys bws, gweithgareddau a chinio.
Dyddiad cau: 11eg Orffennaf 2011
25/07/11
Ymweliad a Phentre Ifan
Pentre Ifan
Ers mis Medi 2010, ailddechreuwyd Aelwyd Penllyn yn ardal y Bala, gan atynnu pobl ifainc o 14 i 25 oed. Cynigir amrywiaeth eang o bob mathau o weithgareddau, o’r celfyddydol i’r chwaraeon i dripiau o bob math, a hynny’n wythnosol.
Fel un o’r trefnwyr, teimlaf hefyd ei bod yn ddyletswydd arnaf i drosglwyddo ychydig o hanes lleol, straeon, chwedlau a phwysigrwydd yr ardal yn hanes Cymru i’r bobl ifainc. Penderfynwyd trefnu trip i Bentre Ifan, er mwyn datblygu’r ochr addysgiadol, a hynny trwy ddulliau hwyliog. Atodir amserlen o’r gweithgareddau a wnaethpwyd yn ystod y trip. Canlyniad hyn oedd bod saith ohonynt yn ennill tystysgrif OCN Diwylliant Cymru: Traddodiadau ac Arferion Cymru.
25/07/11
Gweithgareddau Dwr
Diwrnod llawn hwyl a sbri yng Nghanolfan Dwr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd
19/07/11
Flashmob yn y Castell
Clwb Ieuenctid Bermo
Cwrs dawns a pherfformio pedwar niwrnod o hyd a drefnir gan yr Urdd a Chwmni Celfyddydol Cytser yn ystod ail wythnos gwyliau’r haf 2011, yn y Bermo.
Bydd y disgyblion yn cael dwy awr o weithdai perfformio yn y bore a dwy awr o weithdai dawns yn y prynhawn. Bydd y gweithdai dawns yn baratoad ar gyfer perfformiad awyr agored ‘flash mob’ yng Nghastell Harlech.
Bydd y bobl ifainc yn ennill sgiliau perfformio a dawns, sut i gydweithio i greu perfformiad terfynol ac yn ennill tystysgrif OCN Cyflwyniad i’r Celfyddydau Perfformio ac Amlgyfrwng.
Mae oddeutu 40 o bobl ifanc 14-17 oed o ardaloedd Abertawe, Llanrwst yng Ngogledd Cymru, Corc yng Ngweriniaeth Iwerddon, a Newton Ards yng Ngogledd Iwerddon wedi bod yn rhan o brosiect cyfnewid diwylliannol o’r enw ‘ Y 4 Cornel’ yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae cynllun Llwybrau i’r Brig yn gweithio ar y prosiect mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Ieuenctid Abertawe ar ôl sicrhau cyllid gan y Cyngor Prydeinig. Mae’r criw eisoes wedi ymweld â Gogledd Iwerddon a Gogledd Cymru, ac yn mis Awst aethant draw i dreulio wythnos yn Abertawe. Cafodd y criw gyfle i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Bae Caerdydd yn ogystal â thaith i Benrhyn Gŵyr ar gyfer gweithgareddau awyr agored. Cafodd criw Abertawe gyfle i ymweld a Maes Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe y mis diwethaf wrth iddyn nhw baratoi i groesawi eu ffrindiau Celtaidd.
Ar ddydd Llun, 11eg o Orffennaf cynhaliwyd gweithdy ‘bît bocsio’ a rap yn Ysgol Maes yr Yrfa. Yn dangos ei ddoniau ac yn rhannu ei sgiliau ar y dydd oedd bît bocsiwr enwocaf Cymru, sef Ed Holden - neu Mr Phormula.
Cafwyd sesiynau unigol i bob dosbarth yn ystod y dydd, er mwyn dysgu sut i wneud y synau unigryw a chyfle i ysgrifennu rap Cymraeg. Yna, ar ddiwedd y dydd, daeth pawb nol at ei gilydd i berfformio ei rap, gan arddangos ei sgiliau i weddill eu blwyddyn.
Cafwyd cyfle hefyd i wrando ar ddawn arbennig Mr Phormula, wrth iddo berfformio.
Mae’r gweithdy wedi bod yn benllanw i glwb Cymraeg yn yr ysgol, o dan arweiniad tair o ferched Bl.11. Bwriad y clwb a’r gweithdy oedd hyrwyddo’r iaith Gymraeg, a hynny mewn ffordd ‘cool’, gyda’r gobaith y byddant yn defnyddio’r Gymraeg yn amlach tu allan i’r ystafell ddosbarth.
11/07/11
Gweithdy Ed Holden (Mr Phormula)
Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa
Ar ddydd Llun, 11eg o Orffennaf mi fydd Ed Holden, bît-bocswr gorau Cymru yn cynnal gweithdy yn Ysgol Maes yr Yrfa. Mi fydd Bl.8 yr ysgol yn cael cyfle i ymarfer a datblygu eu sgiliau bît-bocsio gan wrando ar ddawn arbennig Ed Holden. Pwy a wŷr ,efallai gwelwn ‘bît-bocswyr’ y dyfodol yn eu plith?!
27/06/11
CWRS TAG y SGARLETS - Gweryll Llangrannog
Gwersyll Yr Urdd Llangrannog
10/06/11
Llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd Abertawe a'r Fro 2011
Eisteddfod Abertawe a'r Fro 2011
Llongyfarchiadau mawr i bob un o Orllewin a Dwyrain Myrddin a wnaeth gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Braf iawn oedd gweld cynifer o blant a phobl ifanc yr ardal yn cymryd rhan ac yn dod i’r brig!
18/05/11
Sialens Antur Glan-Llyn 2011
YSGOL Y PRESELI YN PROFI MAE "ANSAWDD NID NIFER" SY'N BWYSIG. Dyma'r tro cyntaf i wersyll Glan-llyn gynnal cystadleuaeth o'i fath oedd yn gyfuniad o waith tîm, datrys problemau, cyfathrebu a brwdfrydedd. Rhwng 20-22 Ebrill, bu cystadlu brwd yn y Gwersyll rhwng Penfro, Myrddin a Cheredigion. Yn ystod y sialens 1af, bu cynrychiolwyr Ysgol Y Preseli yn cystadlu i ennill pwyntia a gosod eu hunain ar frig y tabl. Preseli oedd yn arwain ar ddechrau'r sialens ac roedd yn ymddangos y byddai sgôr nhw yn profi'n amhosib cyrraedd. Ar ôl nifer o weithgareddau heriol, fe ddaethant yn 1af yn eu sialens ac yn gyffredinol 2ail allan o 10 tîm gyda sgôr o 669 o bwyntiau. Mi fydd y disgyblion yn derbyn ei thystysgrifau yn ysgol fore Dydd Gwener 27ain o Fai. Llongyfarchiadau mawr i Gwion Dafydd, Megan Richards, Rhys Davies, Cerys Harries, Tomos Dougmore, Sam Bevan a Daniel Jones ar eu llwyddiant. Am fwy o fanylion am gyrsiau yng ngwersyll Glan-llyn, cysylltwch â Kelly: kelly@urdd.org/07500607389
17/05/11
Cwrs Animeiddio
Cyn gwyliau'r haf, dilynodd 5 aelod o flwyddyn 9 Ysgol Emrys ap Iwan gwrs animeiddio. Pwrpas y cwrs oedd datblygu sgiliau credigol y bobl ifanc gan gyflwyno technegau animieddio iddynt. Roeddem hefyd yn edrych at gyflwyno a datblygu defnydd yr iaith Gymraeg, hynny mewn awyrgylch anffurfiol i'r bobl ifanc.
Llwyddodd y grwp i lunio dilyniant animeiddio byr gan ddefnyddio clai. Datblygwyd dealltwriaeth creu stori fwrdd, datblygu stori, ynghyd a chreu a golygu dilyniant ei hun.
20/04/11
Sialens Antur 2011
Glan-llyn
Yn ystod pythefnos gwyliau Pasg, bu deg tîm o ysgolion Cymru yn cymryd rhan yn Sialens Antur gyntaf Gwersyll yr Urdd Glan-llyn.
Dyma’r tro cyntaf i Wersyll Glan-llyn gynnal cystadleuaeth o’i fath oedd yn gyfuniad o waith tîm, datrys problemau, cyfathrebu, dyfalbarhad a brwdfrydedd.
Yn cynrychioli Sir Gaerfyrddin roedd tîm o Ysgol Tregib, Llandeilo. Roedd yn amlwg o’r cychwyn cyntaf, roedd eu bryd ar ennill y wobr arbennig o werth £1000 o offer awyr agored. Buont yn brysur yn dysgu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y tasgau oedd o’u blaen ar y noson gyntaf, ac yna am 7 o’r gloch y bore canlynol roedd rhaid i bob tîm neidio mewn i ddŵr oer Lyn Tegid, gan ennill pwyntiau am bob aelod o’r tîm a oedd digon mentrus!!
Yna yn ystod y deuddydd nesaf gwnaed amryw o weithgareddau, gan gynnwys taith cyfeiriannu ar hyd mynyddoedd y Bala, adeiladu jeti, dringo wal, rigio topper a thaith canŵio o amgylch Llyn Tegid.
Ar ddiwedd y tridiau, roedd yn amlwg bod pawb wedi mwynhau eu hunain ond wedi blino yn lan ar ôl gweithio yn galed am y wobr fawreddog. Barchu pumed ddaeth Ysgol Tregib yn y diwedd, ond yn sicr roedd pob un ohonynt wedi dysgu sgiliau newydd ac wedi cael hwyl.
Llongyfarchiadau mawr iawn iddynt!
19/04/11
Cwrs Antur Celtaidd
Gwersyll yr Urdd Glan-Llyn
Awydd ymuno â chriw hwyliog o Lydäwyr ar Gwrs Antur yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn?
Ydych chi rhwng 14-18 oed?
Cyfle unigryw i wneud ffrindiau newydd a phrofi gweithgareddau cyffrous:
Mynydda, canŵio, adeiladu rafft, taith ar gwch y Brenin Arthur, cwrs rhaffau uchel, ‘gwyllt-grefft’ (bushcraft), bowlio 10, dawnsio gwerin Cymreig a Llydaweg, blasu bwyd Llydaweg, chwaraeon, cymdeithasu a choginio danteithion o amgylch y tân.
Byddwch hefyd yn derbyn tystysgrif OCN i’w ychwanegu at eich CV.
Does ond lle i 20 ar y cwrs!
Pris: £99 (hyn yn cynnwys y gweithgareddau, yr hyfforddiant, bwyd a llety am ddwy noson)
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Branwen Haf: branwenhaf@urdd.org / 07976003307
neu gyda’r gwersyll:
Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn, Llanuwchllyn, Bala, Gwynedd, LL23 7ST
01678 541 000 / glanllyn@urdd.org
06/04/11
Gweithdai Roc Llangefni
Canolfan Gymunedol Llangefni
05/04/11
Gweithdai Roc Caergybi
Canolfan London Road, Caergybi
26/03/11
Gwe-ddarlledu Eisteddfodau Rhanbarth Ceredigion
Eisteddfodau Rhanbarth Ceredigion, Pafiliwn Pontrhydfendigaid
Yn ystod Eisteddfodau Cynradd ac Uwchradd Ceredigion mi fydd criw o bobl ifanc yn gweithio tu ôl a'r tu blaen i’r camerâu er mwyn creu rhaglen fydd yn cael ei darlledu yn fyw ar y we. Mae'n gyfle gwych i bobl ifanc a diddordeb yn y maes cyfryngau i dderbyn hyfforddiant a datblygu sgiliau ymarferol a thechnolegol yn y maes darlledu byw. Prosiect ar y cyd a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant, yr Urdd a chynllun Ehangu Mynediad yw hwn.
Gallwch wylio'r gwe-ddarllediad yn fyw dydd Sadwrn 26 Mawrth 2011 rhwng 1:00 a 4:30yp (Eisteddfod Cynradd Ceredigion) a nos Wener 1Ebrill 2011 rhwng 5:00 a 7:00yp (Eisteddfod Uwchradd Ceredigion). Ewch i wefan Y Drindod Dewi Sant
neu dilynwch y linc ar wefan yr Urdd, dy ardal di, Ceredigion.
25/03/11
Llwyddiant OCN Ysgol Tregib
Llongyfarchiadau mawr i 4 o ddisgyblion Bl.12 Ysgol Gyfun Tregib ar ennill cymhwyster OCN Lefel 2 mewn Hyfforddiant Grwpiau Ieuenctid Iau. Yn ystod penwythnos yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog bu’r criw yn weithgar iawn yn annog disgyblion Iau’r ysgol i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau hwylus a diddorol yn ogystal â chwblhau’r OCN.
22/03/11
Llwyddiant OCN
Llongyfarchiadau mawr i 8 o ferched Bl.12 Ysgol Gyfun Dyffryn Aman ar ennill cymhwyster OCN Lefel 2 mewn Hyfforddiant Grwpiau Ieuenctid Iau. Yn ystod penwythnos yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog bu’r merched yn weithgar iawn yn annog disgyblion Iau’r ysgol i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau hwylus a diddorol yn ogystal â chwblhau’r OCN.
17/03/11
Gweithdai Roc Tywyn
Ysgol Uwchradd Tywyn
10/03/11
'Steddfod Ddwl
Ar ddydd Iau 10fed o Fawrth a Dydd Gwener 11eg o Fawrth cynhelir Steddfod Ddwl yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin. Cynhelir y digwyddiad fel rhan o gynllun Prosiect arferion Iaith, Bwrdd yr Iaith.
Ar y diwrnod cyntaf ddaeth Ysgol Maes yr Yrfa, Ysgol y Strade ac Ysgol Bro Myrddin ynghyd i gystadlu’n frwd, gan obeithio dod i’r Brig. Yna, ar yr ail ddiwrnod gwelwyd Ysgol Dyffryn Taf, Ysgol Dyffryn Aman, Ysgol Pantycelyn ac Ysgol Tregib yn herio ei gilydd mewn cystadlaethau hwylus .
Bu’r ysgolion yn weithgar iawn yn paratoi’r sgets a’r haca o flaen llaw, ac yn sicr gall dîm rygbi Seland newydd gael hyfforddiant gan ambell un! Gwelwyd yr ysgolion yn garglo ein hanthem Genedlaethol, gydag Ysgol y Strade yn dangos eu doniau cerddorol drwy garglo yn ddeulais!! Bu unigolion o bob ysgol yn cystadlu yn y gystadleuaeth ‘Gan am gan’ a sioe ffasiwn a bu sawl cystadleuaeth arall fel ‘stwffio’, ‘ llawn gwynt’ a ‘bwletin newyddion’ a gafwyd pawb yn ei dwbl yn chwerthin.
Ar ôl deuddydd o gystadlu a sbort, Ysgol y Strade ac Ysgol Dyffryn Aman ddaeth i’r brig. Llongyfarchiadau mawr i’r ddwy ysgol!
03/03/11
Prosiect Pontio Gartholwg/Preseli
03/03/11
Cynllun Pontio Trefol/Gwladol
02/03/11
Prosiect Cyfnewid Gartholwg RCT/Ysgol Y Preseli Penfro
Gwersyll yr Urdd, Caerdydd
Ym Mis Rhagfyr teithiodd 7 disgybl o flwyddyn 9 Ysgol Y Preseli ar y tren i gwrdd a 7 disgybl o Ysgol Gartholwg i ymuno ar gwrs PONTIO!.
Yn ystod yr ymweliad, cawsom gyfle i ymweld a'r Big Pitt, Winter Wonderland yng Nghaerdydd, Bowlio 10 a taith o gwmpas y Bae. Pwrpas y prosiect yma oedd i rhanu profiadau eu gilydd ac i ddysgu am bywyd, ysgol, hanes a threftadaeth y Cymoedd.
Ym mis Mawrth, fe fydd Ysgol Gartholwg yn ymweld ag ardal Sir Benfro, a cael blas ar fywyd yr arfordir.
21/02/11
Sesiwn Hyfforddi Tîm Rygbi Cymru
Stadwim y Mileniwm, Caerdydd
Ar ddydd Llun cyntaf o hanner tymor, fe wnaeth grŵp o bobl ifanc o Sir Gar a Chastell Nedd ymweld â stadiwm y mileniwm yng Nghaerdydd. Cafwyd cyfle i weld Warren Gatland yn rhoi tîm rygbi Cymru trwy ymarfer caledcyn gem yr Eidal dydd Sadwrn.
Roedd y cyflwynydd teledu Phil Steele yn arwain y gweithgareddau i’r 6500 a daeth i’r stadiwm gyda’r gobaith o weld a chwrdd â’i harwyr.Gwelwyd Scott Quinell a Nigel Meek yn cymryd rhan yn y sialens Brian Moore a chafodd rhai o aelodau ifanc o’r dorf cyfle i wneud y sialens ac i gicio dros y pyst. Uchafbwynt y dydd oedd cael cwrdd gyda rhai o’r chwaraewr, sef Jonathan Davies, Leigh Halfpenny a cyn chwaraewr Cymru Scott Quinell.
Diolch i Undeb Rygbi Cymru am y cyfle ffantastig o weld y tîm cenedlaethol yn arddangos ei sgiliau, gan obeithio bod Shane Williams neu Ryan Jones y dyfodol yn gwylio!
07/02/11
Prosiect Baban realiti- OCN camu lan
Ysgol Cwm Rhymni / Canolfan yr Urdd Caerdydd
28/01/11
Penwythnos yn Glan Llyn
Gwersyll yr Urdd Glan Llyn
Penwythnos i aelodau Aelwydydd Ceredigion yng Ngwersyll yr Urdd Glan-Llyn. Cyfle i gymdeithasu a mwynhau tra'n profi rhaio o weithgareddau cyffroes ac heriol awyr agored y gwersyll.
28/01/11
Penwythnos Ail Iaith - Llangrannog
Llangrannog
Yn ystod penwythnos oer yn Ionawr, fe ddaeth 5 ysgol o Sir Gar i fwynhau penwythnos o weithgareddau yng Ngwersyll Llangrannog. Daeth Ysgol Bryngwyn, Coedcae a Sant Ioan o Lanelli, Ysgol Tregib, Llandeilo a’r Ysgol Frenhines Elisabeth, Caerfyrddin i’r gwersyll er mwyn ymarfer eu Cymraeg, ymlacio a mwynhau cwmni ei gilydd.
Gyda’r disgyblion Iau daeth 15 Swyddog hyn i ofalu a chynorthwyo’r disgyblion yn ystod y penwythnos. Buont yn brysur iawn yn helpu gyda’r disgo, bingo a thwmpath yn ogystal â chwblhau OCN lefel 2 mewn Hyfforddiant Arweinyddiaeth Grwpiau Ieuenctid Iau.
Llongyfarchiadau i’r 15 a diolch iddynt am eu cymorth yn ystod y tridiau!
28/01/11
Noson Sinema
Canolfan Gydol Oes Gartholwg - 7.30yh
Noson Sinema am ddim.
25/01/11
Ed yn Emlyn
Ysgol Emlyn
20/01/11
Gweithdai Roc Bermo
Clwb Ieuenctid Bermo
17/01/11
Traed Brain
Ysgol y Berwyn, Y Bala
Cyfle i aelodau o'r Urdd sy'n mynychu Ysgol y Berwyn i finiogi eu sgiliau ysgrifennu creadigol a derbyn achrediad OCN Lefel 3 mewn ysgrifennu creadigol.
3:30 - 5:00
15/01/11
Gem Pel-Droed Abertawe v Crystal Palace
Stadiwm Liberty
Gem Pel-Droed Abertawe v Crystal Palace - Gem yr Urdd
13/01/11
Sesiynau Drama Adran Tywyn
Dosbarth Cymraeg, Ysgol Uwchradd Tywyn, Tywyn
Sesiynau blas mewn technegau perfformio o bob math. Dewch i chwarae gemau theatr, byrfyfyrio, creu monologau a chymeriadau di-ri!
Pob amser cinio dydd Iau, dosbarth Cymraeg, 12:30 – 1:00
12/01/11
Cynllun Pontio'r Bwlch: Uned Bryn Llwyd
Uned Bryn Llwyd, Bangor
Cyfle i 10 o ddisgyblion dderbyn cyflwyniadau amrywiol i’r celfyddydau, gan greu ffilm fer ar ddiwedd y cwrs o 10 wythnos.
Datblygir sgiliau actio, canu, rhythm, symud a chyfansoddi.
Trefnir Cynllun Pontio'r Bwlch ar y cyd â Chwmni'r Fran Wen, Dawns i Bawb, Contact Theatre Manceinion a Chyngor Celfyddydau Cymru.
11/01/11
Cynllun Pontio'r Bwlch: Ysgol Coed Menai
Ysgol Coed Menai, Treborth, Bangor
Cyfle i 10 o ddisgyblion dderbyn cyflwyniadau amrywiol i’r celfyddydau, gan greu ffilm fer ar ddiwedd y cwrs o 10 wythnos.
Datblygir sgiliau actio, canu, rhythm, symud a chyfansoddi.
Trefnir Cynllun Pontio'r Bwlch ar y cyd â Chwmni'r Fran Wen, Dawns i Bawb, Contact Theatre Manceinion a Chyngor Celfyddydau Cymru.
15/12/10
Cwrs John Muir Ysgol Eirias
Gwersyll yr Urdd Glan-llyn
Daeth criw o flwyddyn 9 Ysgol Eirias draw i Wersyll Glan-llyn am benwythnos preswyl i ddechrau cyflawni gwobr Darganfod John Muir. Roedd y bobl ifanc yn grŵp o ddysgwyr Cymraeg, felly cawsant gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored tra’n dysgu a chael cyfle i ymarfer eu Cymraeg a datblygu hyder yn defnyddio’r iaith tu allan i waliau’r ysgol. Cafodd yr holl gwrs ei redeg drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda gwobr i’r disgybl a ddefnyddiodd y mwyaf o’r Gymraeg ar ddiwedd y deuddydd. Cafodd y bobl ifanc gyfle i ymgymryd mewn gwaith cadwraeth gyda warden Llyn Tegid ar y dydd Sadwrn. Aethant i lawr i’r Bala mewn cwch modur i gyfarfod y Warden, cyn helpu i glirio difrod i’r llwybr cyhoeddus gan lifogydd yr wythnos ynghynt. Ar yr ail ddiwrnod cafodd y disgyblion gyfle i archwilio ardal llyn Tegid drwy fynd ar daith mewn canŵ a treulio diwrnod cyfan allan yn yr awyr agored.
12/12/10
10 Ceredigion
Gwersyll yr Urdd Llangrannog
Daeth 10 o aelodau’r Urdd i wersyll yr Urdd, Llangrannog i gystadlu mewn cystadleuaeth newydd sef 10 Ceredigion. Y bwriad oedd dod a hyd i fachgen a merch mwyaf ffit Ceredigion!
Roedd yn ddiwrnod llawn o gystadlu mewn amryw o gystadlaethau corfforol a meddyliol - trawsgwlad, sprint, dips, taflu pêl i gylch a llu o weithgareddau eraill.
Ar ôl 10 cystadleuaeth wahanol roedd yn agos iawn ar y brig. Helen Hughes o Ysgol Dyffryn Teifi enillodd gategori'r merched, Bethan Davies o Ddyffryn Teifi ddaeth yn ail ac yn gydradd drydydd roedd Carwen Richards o Lambed ac Elen Williams o Ddyffryn Teifi.
Yr oedd pethau’n agos yng nghategori'r bechgyn. Ar ôl 10 cystadleuaeth roedd dau gyda’u dwylo bron ar y darian, sef Lewis Evans o Dregaron a Teifion Davies o Ddyffryn Teifi ar 68 o bwyntiau. Fe gafwyd un gystadleuaeth arall i weld pwy oedd yn cael eu galw yn bencampwr Ceredigion. Llongyfarchiadau i Lewis Evans am ennill, gyda Teifion Davies mor agos, hefyd i Kyle Ward o Lambed am ddod yn ail, ac Elgan Rees Evans o Dregaron am ddod yn drydydd. Diolch hefyd i Rhodri Pugh Davies o Lambed a Stephen Williams o Penweddig am gystadlu.
Diolch yn fawr iawn i Dai Cole a Steffan Hughes, 2 o sêr y rhaglen teledu 10 Jonathan, am ddyfarnu. Diolch hefyd i Llewelyn Rees o Gyngor Sir Ceredigion am gael defnyddio’r wal ddringo, Gwersyll yr Urdd Llangrannog am yr offer, i’r aelodau am gymeryd rhan ac i rieni am eu cefnogaeth.
02/12/10
Profiad rygbi 2010
26/11/10
Profiadau yn y ddinas
Stadiwm y Mileniwm
Cafodd nifer o bobl ifanc Ceredigion brofiad o weld gêm Rygbi rhyngwladol fyw rhwng Cymru a Fiji yn ddiweddar. Teithiodd 2 fws i Gaerdydd a Stadiwm y Mileniwm. Roedd yr awyrgylch yn y stadiwm yn drydanol ac yn ychwanegol i’r gêm rygbi fe ddaeth y band pop ‘The Saturdays’ allan i ddiddanu’r gynulleidfa yn ystod hanner amser. Ymunodd pobl ifanc Ceredigion yn yr hwyl o ganu anthemau’r stadiwm a’r Mexican wave! Roedd y Sgôr ar ddiwedd y gêm yn gyfartal, canlyniad braidd yn siomedig ond profiad ac atgof gwych.
19/11/10
Profiad Rygbi
Stadiwm Mileniwm Cymru
11/11/10
Neges Heddwch ac Ewyllys Da
Ty Tawe
Gweithdy a chyflwyniad Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2010/11.
Y thema eleni yw Rhyfel a Heddwch gan ganolbwyntio yn benodol ar y problemau yn Afghanistan. Gyda chymorth siaradwyr gwadd o fudiadau megis Cymorth Cristnogol, bydd pobl ifanc Bryn Tawe a Llandeilo Ferwallt yn ymgynnull yn Nhy Tawe i ymchwilio i effeithiau rhyfel ar fywydau trigolion Afghanistan. Byddwn hefyd yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio'r neges i ledaenu ac annog heddwch a chyd-fyw.
09/11/10
Seremoni Gwobrwyo
04/11/10
Her Hydref
Dros hanner Tymor yr Hydref cafodd bobl ifanc Abertawe blas ar weithgareddau amrywiol yn cynnwys dringo, dawnsio hip-hop a choginio Calan Gaeaf.
Ar Ddydd Llun 25ain o Hydref, roedd Lewis Gardiner, sy'n aelod o Chweched Bryn Tawe, wedi hyfforddi'r bobl ifanc i ddringo i uchelfannau canolfan Dynamic Rock yng Nghlydach.
Ar Ddydd Mawrth 26ain o Hydref, Katherine Squire, oedd yn gyfrifol am ddysgu'r symudiadau i'r bobl ifanc yn Nhŷ Tawe. Ac yn y prynhawn, roedd mes uffernol yn y gegin wrth i'r bobl ifanc cymryd drosodd wrth addurno bisgedi a chacennau Calan Gaeaf!
04/11/10
Noson Wobrwyo'r Haf
Cafwyd noson arbennig yn Nhŷ Tawe nos Lun diwethaf i ddathlu llwyddiannau'r bobl ifanc a ddaeth i weithgareddau Haf yr Urdd a'r Fenter.
Agorwyd y noson gan sŵn y band Ffiws Ffast o Ysgol Bryn Tawe, cyn cyflwyno tystysgrifau Rhwydwaith y Coleg Agored a Phrifysgol y Plant. Gwnaeth nifer ohonynt ymdrech i wisgo’n smart ar gyfer yr achlysur arbennig hwn. Roedd pawb wedi mwynhau, ac yn awyddus i gynnal mwy o nosweithiau tebyg yn y dyfodol. Llongyfarchiadau mawr i bawb!
02/11/10
Cwrs Preswyl Pentre Ifan
01/11/10
Noson Wobrwyo'r Haf
Ty Tawe
I bawb oedd yn rhan o weithgareddau Haf 2010 yr Urdd a’r Fenter!
Trefnwyd ar y cyd gyda Menter Iaith Conwy, prosiect uno 4 cornel Cymru ac Iwerddon gyda chriw o bobl ifanc o Aelwyd Llanrwst. Yn mis Gorffennaf, cafwyd wythnos yn Belfast o weithio yn ddwys gyda chriw o bobl ifanc o Lanrwst, Abertawe, Cork a Belfast trwy weithgareddau awyr agored i edrych ar y gwahaniaethau rhwng gwahanol ardaloedd.
Mae’n brosiect 2 flynedd gyda’r bobl ifanc yn cymryd perchnogaeth o'r cynllun dros y cyfnod nesaf. Mae pobl ifanc aelwyd Llanrwst yn trefnu'r wythnos nesaf, ac maen nhw wedi penderfynu cynnal yr wythnos yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn yn ystod hanner tymor yr Hydref! Mi fydd amryw o weithgareddau cyffroes yn cael eu rhedeg, fel canwio ar y llyn yn ystod y nos, diwrnod o geufadu ar y llyn, cwrs rhaffau uchel, treulio noson yn cysgu tu allan a theithiau i ymweld ag amryw o leoliadau yng ngogledd Cymru.
Gwelwch rai o'r llyniau isod!! Wythnos Wych!
25/10/10
Her Hydref
Dynamic Rock, Clydach a Ty Tawe
Beth ydych chi’n ei wneud dros hanner tymor yr Hydref?
Dewch i Her Hydref!
Dydd Llun 25 Hydref
Dringo yn Dyniamic Rock, Clydach.
1:30-3:30
£5
~~~
Dydd Mawrth 26 Hydref
Hip-hop a Hwyl yn Nhy Tawe
10:30-3:30
22/10/10
Swogs Llangrannog
Gwersyll yr Urdd Llangrannog
Yn ystod penwythnos cynradd plant Ceredigion yn Llangrannog bu 16 o bobl ifanc yn cynorthwyo athrawon/gwarchodwyr a staff y gwersyll i ofalu a diddanu 80 o blant. Cymerodd y swogs ofal da o’r plant gan fwynhau rhai o’r gweithgareddau amrywiol fel - Trampolino, Ceffylau, Rhaffau, Sgio, Gwibgartio, a Go Carts eu hun. Mae’n rhaid cyfaddef mae yn y disgo disgleiriwyd y swogs gan ddenu pawb allan i ddawnsio ac i gael hwyl.
Yng nghanol yr holl weithgareddau fe gwblhawyd y swyddogion OCN lefel 2 yn hyfforddiant arweinyddiaeth grwpiau ieuenctid iau.
Diolch yn fawr i'r 16 am wirfoddoli i fel swyddogion yn ystod y Penwythnos.
20/10/10
Glan Llyn Hydref 20-22
Gwersyll yr Urdd Glan Llyn
Bu 32 o aelodau Bl 8 a 9, Ysgolion Uwchradd Ceredigion, sef Llambed a Dyffryn Teifi, am dridiau i Wersyll yr Urdd Glan-llyn 20 – 22 Hydref 2010. Hefyd roedd 12 Swog direidus o fl 12 o Lambed yn cadw golwg ar y disgyblion ac yn mwynhau!!!
Cawsant gyfle i brofi nifer o weithgareddau cyffrous megis dringo wal, adeiladu rafft, canŵio a cherdded afon, a’r cyfle i ddefnyddio'u Cymraeg yn gymdeithasol!
Yn ystod y nosweithiau cafwyd cyfle i gymdeithasu tra'n cael sesiwn rap a ‘beatbocs’ gyda Ed Holden, ac yna gweithdy radio gan Marc Griffiths.
Roedd pawb wedi mwynhau eu cyfnod yng Ngwersyll yr Urdd Glan Llyn.
Llongyfarchiadau i’r Swogs am gwblhau eu cymhwyster OCN lefel 2 yn hyfforddiant arweinyddiaeth grwpiau ieuenctid iau.
15/10/10
Profiad Syrffio
13/10/10
Clwb Joio Ysgol Emlyn
Gampfa ysgol Emlyn
Clwb Hwyl i ddisgyblion bl.7 a 8 ysgol Emlyn sydd am gymdeithasu yn y Gymraeg. Pob Amser cinio dydd Mercher rhwng 1:30 a 2:00yp
12/10/10
Criw Ceredigion yn trafod newid hinsawdd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
Fel rhan o Ymgyrch Tick Tock, bydd un disgybl ar ddeg o ysgolion uwchradd Ceredigion yn teithio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 2 Rhagfyr i gyfarfod Jane Davidson, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai.
Mae disgyblion o Ysgolion Dyffryn Teifi, Penglais, Llambed a Phenweddig wedi eu gwahodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arbennig i drafod newid hinsawdd.
Mae Guto Gwilym, Awen Mair a Hana Morris o Ddyffryn Teifi, Carys Jones a Sophie Rudge o Benglais, Lowri Pugh Davies ac Elliw Mair Dafydd o Lambed ac Angharad Fflur, Rhys Hedd Pugh Evans, Tomi Turner a Geraint Davies o Benweddig yn aelodau o Fforwm Ieuenctid Ceredigion Urdd Gobaith Cymru.
Mae Ymgyrch Tick Tock yn cynnig cyfle i bobl ifanc Cymru ddweud wrth gynrychiolwyr etholedig eu bod yn mynnu gweld newidiadau cadarnhaol yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau lles y blaned a’i phobl.
12/10/10
Gwirfoddolwyr y Mileniwm
Llongyfarchiadau i Sioned Llywelyn, Heledd Griffiths, Elain Fflur a Siwan Jones o ysgol Gyfun Penweddig ar gyflawni oriau gwirfoddol ar gynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm ac ennill eu tystysgrifau.
11/10/10
Clwb Cinio PCAI 2010/11
Ysgol Gyfun Gwynllyw
10/10/10
Sesiwn Flasu Ysgol Berfformio Bro Idris
Neuadd Dinas Mawddwy
Mae Adran Dinas Mawddwy yn estyn gwahoddiad i holl aelodau’r Urdd Bro Idris i ddod i gymryd rhan mewn sesiwn flasu canu ac actio.
Mae croeso i aelodau blwyddyn 3 – 9. [Byddwn yn rhannu yn ol oedran ar y diwrnod].
Bydd Mair Tomos Ifans yn darparu’r gwersi actio a bydd Branwen Williams, Swyddog Datblygu Celfyddydau, Llwybrau i’r Brig yn darparu’r gwersi canu.
Dewch draw i ddatblygu’ch sgiliau perfformio a chael llawer iawn o hwyl!
Penwythnos 3ydd – 5ed o Fedi – Criw Cynllun Gwirfoddoli Patagonia 2010
27/07/10
'SGOLSWN - Y CHWEDL ROC
Dros gwyliau'r haf cafodd bobl ifanc Abertawe y cyfle i gydweithio mewn grwpiau/bandiau (3-5 aelod) er mwyn ysgrifennu cân gyfoes yn yr iaith Gymraeg. Doedd dim rhaid i’r bobl ifanc berchen ar offeryn eu hun, neu hyd yn oed cael profiad blaenorol o chwarae offeryn. Dros y pedwar diwrnod cawsant hefyd gyfle i greu nwyddau marchnata i’w bandiau, gan gynnwys bathodynnau a chrysau-t. Roedd datblygiad y bandiau yn wedi cael ei gofnodi ar ffurf dyddiadur fideo. Cafodd un band, Y Brodyr Coll, y cyfle i fynd i BBC Radio Cymru er mwyn chwarae ei ‘sengl’ newydd yn fyw ar yr awyr am y tro cyntaf. Cawsant daith o gwmpas y stiwdios, cwrdd â’r cyflwynwyr a darllen siart C2 a’r siart Saesneg yn fyw ar y radio.
Roedd y prosiect yma yn benodol mewn cydweithrediad â Cherdd Gymunedol Cymru. Diolch i’r BBC am rhoi’r cyfle i’r bobl ifanc sôn am y prosiect a chwarae eu sengl yn fyw ar radio cenedlaethol am y tro cyntaf.
Cafodd pawb a oedd yn rhan o'r prosiect yma achrediad OCN Ysgrifennu Can.
31/05/10
Sesiynau Cyflwyniad i Sgiliau Ceufadu
Diolch i Gwydion ac Arwel, swyddogion awyr agored Llwybrau i’r brig am ddod lawr i Aberaeron ac Aberystwyth er mwyn cynnal sesiynau cyflwyniad i sgiliau ceufadu gydag aelodau Aelwyd Llanfihangel ar Arth a disgyblion ysgol gyfun Penweddig. Roedd y sesiynau yn cyd-fynd a Chylchfordaith Cymru Staff Gwersyll yr Urdd Glan Llyn. Roedd yn gyfle i grŵp o bobl ifanc brofi gweithgaredd nag oeddent wedi gwneud o’r blaen a dysgu’r sgiliau sylfaenol ar sut i geufadu ac aros yn ddiogel yn y dŵr.
31/05/10
Ffilmiau dyddiol o Eisteddfod 2010
Eisteddfod yr Urdd, Llanerchaeron
Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanerchaeron bu criw o ferched o ysgol Uwchradd Aberaeron yn brysur iawn yn creu ffilmiau dyddiol o amgylch y maes.Mae’r ffilmiau nawr i weld ar www.youtube.com/eisteddfodyrurdd
Diolch i BT am gefnogi’r prosiect yma.
02/05/10
Taith Fforwm Ieuenctid i Senedd Ewrop ym Mrwsel
Aeth aelodau Fforwm Ieuenctid Urdd Gobaith Cymru Ceredigion i Frwsel ar 2 Mai ar daith arbennig wedi’i noddi gan yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Jill Evans. Roedd14 disgybl o Ysgolion Penweddig, Penglais, Tregaron, Llanbed a Dyffryn Teifi wedi teithio yno ar yr Eurostar ac wedi treulio pedwar diwrnod yn cael blas o’r ddinas yng nghwmni ei gilydd. Roedd y criw wedi llunio Neges Heddwch ac Ewyllys Da Ieuenctid Cymru i Ieuenctid y Byd ar y cyd, ac wedi perfformio’r Neges yn Senedd Ewrop ar 4 Mai.
11/02/10
Cael Llais, Cael Dewis
Ar ddydd Iau, Chwefror 11eg fe aeth Heledd, Rob, a Jenny o ardal Castell Nedd Port Talbot i gynhadledd ieuenctid yn Stadiwm y Liberty, Abertawe. Enw'r gynhadledd oedd Cael Llais, Cael Dewis.
Cafwyd cyfle i glywed swyddogion fel Keith Towler, Rhodri Meilir a Huw Lewis yn siarad am bwysigrwydd cael clywed llais bobl ifanc.
Cafwyd sesiynau gwerthfawr gyda nifer fawr o bobl ifanc yn siarad ac yn dweud eu barn am nifer fawr o bynciau sydd yn effeithio arnynt fel, gwisg ysgol, cyfleoedd yn y gymuned, gwaith, addysg, cyfleoedd gwirfoddoli, ac iechyd. Cafwyd cyfle i fynegi barn ar y pynciau hyn a hefyd i herio swyddogion am beth sydd yn cael i wneud i newid agweddau unigolion am bobl ifanc.
Diolch yn fawr i'r 3 person ifanc a aeth i'r gynhadledd a oedd yn cynrychioli ardal Castell Nedd Port Talbot.
07/02/10
Cwrs Babanod Realiti 2010
Fe aeth criw o ferched blwyddyn 11 Ysgol Gyfun Gwynllyw ag Ysgol Gyfun Cwm Rhymni i aros yn Wersyll yr Urdd Caerdydd am noson wrth ddilyn cwrs Babanod Realiti.
Pwrpas y cwrs yw addysgu'r bobl ifanc ar wahanol gyfrifoldebau bod yn rhiant.
Roedd y cwrs yn un llwyddiannus dros ben a heblaw am ddiffyg cwsg i rai o'r merched fe wnaeth pawb mwynhau a dysgu llawer!
08/09/09
Achrediadau 2009 - 2010
Yn ystod y flwyddyn academaidd 2009 - 2010, rhedwyd nifer o gyfleoedd i’r bobl ifanc i ennill achrediadau wrth ymwneud a gweithgareddau neu brofiadau newydd.
Rhedwyd yr achrediadau canlynol yn ystod y flwyddyn
1). Arweinyddion Ifanc
2). Sgiliau Pêl droed elfennol
3). Darlledu – Radio – Cyflwyno
4). Garddio ymarferol.
Llongyfarchiadau i’r holl bobl ifanc sydd wedi ymwneud a llwyddo efo’r achredu. 100% am y flwyddyn gyntaf.
07/09/09
Gwirfoddolwyr y Mileniwm
Yn ystod y flwyddyn academaidd 2009 - 2010 wnaeth 16 person ifanc o Ysgol Gyfun Ystalyfera ymroi i gynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Yn ystod yr amser hwn wnaeth Kate Bevan, Emily Rees a Rachel Williams cyflawni 50 o oriau. Wnaeth Louise Smith, Rachel Angharad Williams, Charlotte Arkley, Stephanie Bevan a Rhys Phillips cyflawni 100 o oriau.
Llongyfarchiadau i Kate Colwell, Jenny Hopkin, Lowri Bowen, Rhian Jones, Lucy Speakman, Abigail McCarthy, Gareth Francis a Bethan Williams am gwblhau’r 200 o oriau o fewn blwyddyn.
Merched Ysgol Emlyn
Yn galw Sêr Sir Benfro!!!!!
Wyt ti’n gallu canu, dawnsio, dweud jôcs neu gonsurio?
Os wyt, yna cyfle i ti dangos i ni gyd.
SAWL SEREN sy’ ‘na?....... am y cyfle i ennill £1000 cysyllta â
Diolch i bawb fu’n rhan o ‘r Cwrs Dyfarnu WRU Lefel Un Rygbi yng nghlwb y Cwins Caerfyrddin ar Ddydd Mercher Hydref 27ain.
Fe wnaeth 26 o bobl ifanc Sir Benfro, Caerfyrddin, Ceredigion a Chastell Nedd a Phort Talbot cyfrangoi yn y cwrs, a oedd yn gyfle iddynt ennill cymhwyster yn Dyfranu Lefel Un Rygbi.
Hwn oedd y tro cyntaf i’r cwrs yma cael eu hwyluso trwy cyfrwng Cymraeg ac felly’n rhoi’r cyfle i’r bobl ifanc i gynyddu yn y maes gan ddefnyddio eu iaith cyntaf.
Diolch yn fawr i Nigel Owens WRU am arwain y cwrs, i glwb rygbi’r Cwins am ddefnydd eu hadeilad, ac i Golwg 360 am eu hysbysebu.