Dinbych

Fy ngobaith yw codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael o fewn y byd Celfyddydol yn siroedd Conwy a Dinbych.
Fel cyn aelod o'r Urdd derbyniais nifer helaeth o brofiadau celfyddydol sydd wedi arwain ataf i ddilyn gradd yn ymwneud ar celfyddydau yn y Brifysgol.
Wedi treulio amser yn gweithio fel swyddog Ieuenctid yn Wrecsam ,dwi bellach yn Ninbych yn edrych i ddefnyddio'r profiadau sydd gen i'w rhannu a phobl ifanc yr ardal yma ynghyd a Chonwy.
Yn y swydd ers mis bellach, dwi yn cynllunio sawl gweithdy cyffrous, yn cynnwys: Prosiect arweinwyr mewn dawns yn ardal Rhyl (gyda'r posibilrwydd o dderbyn cymhwyster OCN) arwain fforwm Aelwydydd gan gydlynnu digwyddiadau a theithiau, ynghyd a gweithdai animeiddio, achrediadau theatraidd a sesiynau chwaraeon.
Os oes gan unrhyw un ddiddordeb gwybod mwy am y swydd, y prosiectau neu sydd a syniadau eu hunain o ran y math o weithdai yr hoffent eu gweld yn cael eu datblygu, mae croeso i chi gysylltu a mi yn y Swyddfa yn Ninbych!

Swyddfa'r Urdd, Adeilad Deiamwnt, 6 Highgate, Dinbych, LL16 3LE