Castell Nedd a Phort Talbot
Croeso i ardal Castell Nedd Port Talbot.
Mae’r cynllun wedi galluogi pobl ifanc 11 - 19 mlwydd oed o fewn yr ardal i ehangu sgiliau, a datblygu i fod yn ddinasyddion sy’n llawer mwy hyderus.
Yn barod mae’r bobl ifanc wedi cael cyfleoedd i wirfoddoli mewn amryw o wahanol weithgareddau, megis rhai ‘Llwybrau i’r Brig’ neu gyda mudiadau lleol eraill. Mae nifer helaeth o’r bobl ifanc yn rhan o Gynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm ac wedi cwblhau achrediadau megis arweinyddion ifanc, darlledu radio, garddio, a sgiliau pêl-droed. Mae’r bobl ifanc wedi cael y cyfle i fod yn rhan o weithdai ymgynghori'r Cynulliad ac wedi cwrdd â swyddogion blaenllaw iawn yn y byd gwaith ieuenctid. Mae’r bobl ifanc yn cael y cyfle i arwain gweithgareddau eu hunain, a hefyd yn cael y cyfle o ddod i adnabod unigolion eraill.
Sefydlwyd gweithgareddau ar ôl ysgol yn Ysgolion Cefn Saeson a Chwrt Sart er mwyn ehangu sgiliau a defnydd o’r Gymraeg ymhlith y bobl ifanc.
Gweithgareddau 2011 – 2012. EICH DEWIS CHI YW HWN?
Os oes ganddoch ddiddordeb mewn cynnal gweithgareddau neu fod yn rhan o brosiectau croeso i chi gysylltu neu adael neges ar dudalen ‘facebook Cynllun EPIC’.
Llwybrau i'r Brig, eich dyfodol chi!
Swyddfa'r Urdd, Ysgol Gyfun Ystalyfera, Glanyrafon, Ystalyfera, SA9 2JJ


