llwybrau menu

  • Hafan
  • Beth yw Llwybrau i'r Brig?
  • Beth sy'n cael ei gynnig?
  • I bwy mae'r cynllun?
  • Cysylltu
  • Adroddiadau
  • Urdd.org
  • Mon
  • Gwynedd
  • Conwy
  • Dinbych
  • Ceredigion
  • Penfro
  • Caerfyrddin
  • Abertawe
  • Penybont
  • Gartholwg
  • Llanhari
  • Rhydywaun
  • YCymer
  • Castell Nedd a Phort Talbot
  • Merthyr a Chaerffili
  • Torfaen a Blaenau Gwent
  • English
  • Cymraeg

Calendr

01/11/10
Noson Wobrwyo'r Haf
11/11/10
Neges Heddwch ac Ewyllys Da
11/04/12
Sialens Antur 2012
25/04/12
Llwyddiant I Griw Abertawe Yn Y Sialens Antur!
Llwyddiant I Griw Abertawe Yn Y Sialens Antur!

Llongyfarchiadau mawr i dîm Rhanbarth Abertawe YGG Bryn Tawe ar gipio’r trydydd...

Noson Wobrwyo'r Haf

Cafwyd noson arbennig yn NhÅ· Tawe nos Lun diwethaf i ddathlu llwyddiannau'r bobl ifanc a ddaeth...

'SGOLSWN - Y CHWEDL ROC

Dros gwyliau'r haf cafodd bobl ifanc Abertawe y cyfle i gydweithio mewn grwpiau/bandiau (3-...

Galeri: cliciwch isod ...

Taith Catalunia a Sbaen 2011
Taith Catalunia a Sbaen 2011

Abertawe

Rwy’n cydweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 ac 19 oed yn yr ardal, Cymry Cymraeg ac ail-iaith. Rwy’n gobeithio darganfod beth yw eu diddordebau, canolbwyntio ar ddulliau addysgu anffurfiol a datblygu ffyrdd o’u hachredu y tu allan i’r ysgol.

Y Flwyddyn Gyntaf
Mae’r flwyddyn gyntaf wedi bod yn gyffrous iawn, gyda llwyth o ddigwyddiadau yn digwydd ar draws dinas a sir Abertawe i bobl ifanc yr ardal. Sefydlwyd ‘SgolSwn, sef ysgol roc arbennig Abertawe. Enillodd Yr Angen, band roc o ddisgyblion chweched dosbarth Ysgol Gyfun Gwyr Frwydr y Bandiau C2 BBC Radio Cymru. Ers hynny, ysbrydolwyd sawl band arall i ffurfio a dechrau ymarfer i gyrraedd yr uchelfannau fel eu cyfoedion. Cafwyd aelodau o Bwyllgor Cymreictod Bryn Tawe eu hachredu gydag OCN Trefnu Digwyddiad am sefydlu’r ysgol roc yn eu hysgol . Fel rhan o Brosiect Cefnogi Arferion Iaith Bwrdd yr Iaith sefydlwyd podlediad newydd Cymraeg yn Ysgol Gyfun Gwyr, o’r enw Pod Nwdl. Cafodd y podlediad dipyn o sylw a chyhoeddusrwydd ar y we am fod yn un o nifer fach o bodlediadau Cymraeg y byd. 

Mae llawer o weithgareddau amrywiol eraill wedi’u cynnal yn ystod y gwyliau i flynyddoedd 7-9 gan gynnwys gweithdai graffiti, syrffio, sgio, celf, coginio a mwy. Casglodd pawb a fynychodd y gweithgareddau oriau tuag at Brifysgol yr Ifanc.

Mae nifer o chweched dosbarth Gwyr a Bryn Tawe wedi bod y gwirfoddoli yng nghlybiau Chwarae Menter Iaith Abertawe yn y gwyliau, gan weithio tuag at gyflawni 200 awr o waith gwirfoddol ar gyfer Gwirfoddolwyr y Mileniwm.

Mae prosiect Brawd Mawr mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Ieuenctid Abertawe wedi bod yn llwyddiannus gan roi profiadau bythgofiadwy i’r 24 o letywyr lwcus i gael lle yn y ty.

Cynlluniau i ddod
- OCN Mentora Cyfoedion
- Her yr Hydref 2010
- Her Chwefror 2011
- Noson gwobrwyo roc a ffilm Urdd/Menter yn Nhy Tawe. I bawb wnaeth fynychu ‘SgolSwn – Y CHWEDL ROC a’r Gweithdy Ffilmio dros yr haf. Cyfle i wrando a gwylio eich gwaith chi ar y sgrin fawr yn Nhy Tawe. Tei du/gwisg smart fydd thema’r noson. Dewch â’ch ffrindiau!
 

Rhian Jones
Swyddog Datblygu Ieuenctid Abertawe
01792 460906
rhianjones@urdd.org

Urdd Gobaith Cymru/Menter Iaith Abertawe, Ty Tawe, 9 Stryd Christina, Abertawe SA1 4EW

Gweithgareddau eraill yr Urdd yn dy ardal di.

Hawlfraint © 2010, urdd.org. All rights reserved
Dylunio / Design
elfen.co.uk