Beth yw Llwybrau i'r Brig?
Nod cynllun Llwybrau i’r Brig Urdd Gobaith Cymru oedd gwella sgiliau a chodi dyheadau pobl ifanc, trwy rhoi cyfleodd iddynt i feithrin sgiliau cysylltiedig â byd gwaith, cynorthwyo datblygiadau personol a chymdeithasol a rhoi cyfleodd I bobl ifanc i ddatblygu drwy gyfrwng y Gymraeg yn lleol.
Gellir gweld adroddiad o waith y cynllun a rhai astudiaethau achos a ysgrifennwyd gan Weithwyr Ieuenctid y cynllun wrth glicio ar y linc “Adroddiadau”
Bu Cynllun Llwybrau i’r Brig yr Urdd yn weithredol o Haf 2009 hyd Mawrth 2013. Fe’i Ariannwyd drwy arian Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Yn ystod cyfnod y cynllun fe weithiodd Llwybrau I’r Brig Urdd Gobaith Cymru gyda:-
- 7,293 o bobl ifanc 11-19
- 491 o bobl ifanc NEET
- 6802 o bobl ifanc a oedd yn cael eu hystyried o fod mewn risg o dangyflawni oherwydd nifer o wahanol amgylchiadau
Drwy’r Cynllun :-
- Fe dderbyniodd 2,056 o bobl ifanc gymwysterau (graddau sylfaenol, lefel1, 2 a 3 ar raddfa Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru) ~ 240% yn uwch na’r targed a osodwyd gan y Llywodraeth
- Cafodd nifer fawr o bobl ifanc brofiadau gwahanol, bythgofiadwy
- Datblygwyd sawl unigolyn i fod yn fwy hyderus, annibynnol, cyfrifol a cydwybodol
- Codwyd ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
- Gwnaed dros 25,000 awr o waith gwirfoddol gan bobl ifanc yn eu cymunedau
Datblygwyd yr adnoddau ar wybodaeth o Waith Ieuenctid cyfrwng Cymraeg
Cofiwch gymeryd cipolwg ar wefan y theatr ieuenctid!



