Yn ystod pythefnos gwyliau Pasg, bu deg tîm o ysgolion Cymru yn cymryd rhan yn Sialens Antur gyntaf Gwersyll yr Urdd Glan-llyn.
Dyma’r tro cyntaf i Wersyll Glan-llyn gynnal cystadleuaeth o’i fath oedd yn gyfuniad o waith tîm, datrys problemau, cyfathrebu, dyfalbarhad a brwdfrydedd.
Yn cynrychioli Sir Gaerfyrddin roedd tîm o Ysgol Tregib, Llandeilo. Roedd yn amlwg o’r cychwyn cyntaf, roedd eu bryd ar ennill y wobr arbennig o werth £1000 o offer awyr agored. Buont yn brysur yn dysgu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y tasgau oedd o’u blaen ar y noson gyntaf, ac yna am 7 o’r gloch y bore canlynol roedd rhaid i bob tîm neidio mewn i ddŵr oer Lyn Tegid, gan ennill pwyntiau am bob aelod o’r tîm a oedd digon mentrus!!
Yna yn ystod y deuddydd nesaf gwnaed amryw o weithgareddau, gan gynnwys taith cyfeiriannu ar hyd mynyddoedd y Bala, adeiladu jeti, dringo wal, rigio topper a thaith canŵio o amgylch Llyn Tegid.
Ar ddiwedd y tridiau, roedd yn amlwg bod pawb wedi mwynhau eu hunain ond wedi blino yn lan ar ôl gweithio yn galed am y wobr fawreddog. Barchu pumed ddaeth Ysgol Tregib yn y diwedd, ond yn sicr roedd pob un ohonynt wedi dysgu sgiliau newydd ac wedi cael hwyl.
Llongyfarchiadau mawr iawn iddynt!