Yn ddigwyddiad i’r teulu’n gyfan mae’r Eisteddfod yn ddathliad o’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn ogstal â llwyfan ardderchog i arddangos y cyfoeth o dalent ifanc sydd yng Nghymru heddiw. Gyda cystadlaethau, llwyfannau cerddoriaeth byw, theatr stryd, arddangosfeydd a stondinau mae digon i ddiddannu pob oedran.
Cartref yr Eisteddfod eleni fydd ystâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sef Llanerchaeron, ger Aberaeron. Dewch draw i ymuno yn hwyl a bwrlwm yr Eisteddfod rhwng dydd Llun, 31 Mai a dydd Sadwrn, 5 Mehefin.
Cliciwch yma i weld taflen wybodaeth am yr eisteddfod.
.