Gwirfoddolwyr
Rhowch gyfle i wella eich CV
Yn ogystal â chael boddhad o wirfoddoli, mae’r Urdd yn cynnig cyfle i chi ennill cymwysterau hyfforddi chwaraeon, AM DDIM!
Sut y byddwch chi'n elwa o hyfforddi gyda’r Urdd:
• Gwiriant CRB
• Gwobr Cymorth Cyntaf
• Gwisg Chwaraeon yr Urdd
• Datblygiad personol parhaol
• Profiad o arwain sesiynau chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg
Ymunwch yn yr hwyl a dysgu sgiliau ymarferol newydd yr un pryd.
Cwestiynau? Ffoniwch ni ar 02920 635687 am sgwrs neu anfonwch ffurflen gofrestru diddordeb i Adran Chwaraeon, Gwersyll yr Urdd Caerdydd. Canolfan Mileniwm Cymru. Bae Caerdydd CF10 5AL