Newyddion

18/06/11
Aquathlon
Canolfan Hamdden Plascrug, Aberystwyth

Canlyniadau i'w weld yma

Oedran: Blwyddyn 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9 a 10

Mae angen i blant cynradd gofrestru erbyn 9.30yb a plant Uwchradd erbyn 11.00yb

14/05/11
Cystadleuaeth Rygbi Cynradd
Llanelli

Oedran: Blwyddyn 5 a 6

Bydd angen i bob tîm gofrestru erbyn 9.00yb i ddechrau cystadlu am 9.30yb

07/05/11
Cystadleueth Chwaraeon Cynradd a Thrawsgwlad
Aberystwyth

CANLYNIADAU

 

Blwyddyn 5-6 (Blwyddyn 4 angen caniatâd rhiant ac yr ysgol)

 

 

Pêl-rwyd 9:30yb - Canolfan Hamdden Plascrug

Pêl-droed 5 pob ochr 9:30yb - Canolfan Hamdden Plascrug

Pêl-droed 7 pob ochr merched 9:30yb - Blaendolau

Pêl-droed 7 pob ochr bechgyn 9:30yb - Blaendolau

 

Blwyddyn 3 - 6

Trawsgwlad 1:30 - 4:00yp

 

 

05/05/11
Cystadleuaeth Pêl-droed Uwchradd
Caeau Blaendolau, Aberystwyth

CANLYNIADAU

 

Oedran: Bl. 7-8 a 9-10 (Bechgyn a Merched)

 

Bydd angen i bob tîm gofrestru erbyn 9:30yb i ddechrau cystadlu am 10:00yb

 

06/04/11
Cystadleuaeth Rygbi Uwchradd
Llanelli

Canlyniadau

 

Strwythur:

 

Dydd Mercher

Gemau grŵp Bechgyn Bl. 7-8 a 9-10

Dydd Iau

Gemau Terfynol Bechgyn Bl. 7-8 a 9-10

Cystadleuaeth Bechgyn Bl.11+

Cystadleuaeth Merched

 

Bydd angen i bob tîm gofrestru erbyn 9.30yb i ddechrau cystadlu am 10:00yb

 

Canlyniadau

 

 

17/02/11
Gŵyl Gymnasteg Uwchradd
Canolfan Hamdden Plascrug, Aberystwyth

Bydd angen i bob cystadleuydd gofrestru erbyn 9:30yb i ddechrau cystadlu am 10.00yb.

Fformat y dydd:

Unigolion

Parau

Triawdau

Grwpiau (CA 3 a 4)

 

Canlyniadau

16/02/11
Gŵyl Gymnasteg Cynradd
Canolfan Hamdden Plascrug, Aberystwyth

Bydd angen i bob cystadleuydd gofrestru erbyn 9:30yb i ddechrau cystadlu am 10.00yb.

Fformat y dydd:

Unigolion

Parau

Triawdau

Grwpiau ysgolion bach

Grwpiau ysgolion mawr (Cyfnod Allweddol 2)

 

 

 Canlyniadau

16/01/11
Cwrs Athletau
Canolfan Hamdden Arfon

 

Dydd Sul 16 Ionawr daeth 12 o aelodau'r Urdd i Ganolfan Hamdden Arfon i ennill tystysgrif Athletau Cymru - "Rhedeg, Taflu, Neidio" dan ofalaeth Swyddog Athletau Gogledd Cymru - Barry John Edwards.

 

Roedd y cwrs yn gyfle i ddysgu sut i hyfforddi plant a chael gwybodaeth ar sut i ddysgu'r dechneg gywir.

 

Hoffwn ddiolch i bawb am ddod ac i Barry am redeg y cwrs.

 

Bydd yr aelodau nawr yn gwirfoddoli yng Nghlwb Athletau wythnosol yr Urdd sydd yn dechrau diwedd y mis.

 

 

Cwrs Athletau
17/11/10
Gwyl Hoci Ysgolion Uwchradd
Ysgol Brynrefail

Ar noson oer daeth Aelodau'r Urdd Bl. 7 Ysgolion Uwchradd Eryri at ei gilydd i gystadlu mewn gŵyl Hoci Urdd mewn partneriaeth ag undeb hoci Cymru.

I lawer ohonynt dyma oedd y tro cyntaf iddynt chwarae mewn gemau cystadleuol.

Hoffwn ddiolch i Claire Kitching a Claire Jameson am ddyfarnu ar y noson!

Hoffwn ddiolch i'r ysgolion am gystadlu, Ysgol Brynrefail am gael defnyddio'r cae ac i'r athrawon am eu cymorth ar y noson.

Isod mae'r canlyniadau:

1   Ysgol Tryfan  A 0v0 Ysgol  Brynrefail A
         
2   Ysgol Tryfan  B 0v0 Ysgol Bryrnefail B
         
3   Ysgol Tryfan  A 0v0 Ysgol Dyffryn Nantlle
         
4   Ysgol  Brynrefail A 0v0 Ysgol Tryfan  B
         
5   Ysgol Bryrnefail B 0v1 Ysgol Dyffryn Nantlle
         
6   Ysgol Tryfan  A 0v0 Ysgol Tryfan  B
         
7   Ysgol  Brynrefail A 2v1 Ysgol Bryrnefail B
         
8   Ysgol Dyffryn Nantlle 0v1 Ysgol Tryfan  B
         
9   Ysgol Tryfan  A 2v0 Ysgol Bryrnefail B
         
10   Ysgol  Brynrefail A 0v1 Ysgol Dyffryn Nantlle

Safle:

1. Ysgol Dyffryn Nantlle

2.Ysgol tryfan A

3. Ysgol Tryfan B

4. Ysgol Brynrefail A

5. Ysgol Brynrefail B

 

 

Gwyl Hoci Ysgolion Uwchradd
17/11/10
Cwrs Hyfforddi Dechrau Allan Pel-rwyd
Canolfan Hamdden Arfon, Caernarfon

Dydd Sul, 31 Hydref daeth 14 o aelodau'r Urdd i Ganolfan Hamdden Arfon i gymryd rhan yng Nghwrs "Dechrau Allan" Pêl-rwyd.

 

Roedd y cwrs dan ofalaeth Claire Kitching, hyfforddwraig gymunedol Pêl-rwyd Cymru.

 

Yn ystod y cwrs roedd cyfle i ddysgu llawer o sgiliau newydd a sut i hyfforddi pêl-rwyd i grwpiau bach.

 

Bydd yr aelodau yma nawr yn gwirfoddoli mewn clybiau cymunedol pêl-rwyd yn y Sir.

 

Os hoffech fwy o fanylion am gyfleoedd gwirfoddoli sydd gan Adran Chwaraeon yr Urdd yn Eryri plîs cysylltwch ag Aled@urdd.org.

 

 

Cwrs Hyfforddi Dechrau Allan Pel-rwyd