Fel sefydliad cyhoeddus sy’n denu nifer fawr o bobl, gofynnodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i ni rannu’r neges hon:
“Mae achosion o’r frech goch yn ardal Gorllewin a Chanolbarth Cymru ar hyn o bryd. Mae’r frech goch yn glefyd heintus iawn sy’n medru achosi cymlethdodau difrifol a marwolaeth, hyd yn oed. Mae plant nad ydyn nhw wedi derbyn dau bigiad o frechlyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR) ac sy’n dod i ddigwyddiadau lle bo llawer o blant eraill yn wynebu perygl. Os nad ydy eich plentyn wedi ei frechu’n llawn, ewch at eich meddyg teulu i drafod brechu ar unwaith, os gwelwch yn dda. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan www.publichealthwales.org/measles