Mae plant dros Gymru gyfan yn darllen
Cip bob mis! Wyt ti'n un ohonyn nhw tybed? Mae hanes
Cip yn mynd yn ôl llawer pellach na 21 mlynedd. Beth am ddod i ddysgu mwy am
Cip? Dyma ychydig o'r hanes i ti gam wrth gam...
- Cafodd y cylchgrawn Cymraeg cyntaf i blant ei gyhoeddi yn 1892.
- Enw’r cylchgrawn oedd ‘Cymru’r Plant’, ac O.M Edwards oedd yn ei ysgrifennu.
- Erbyn 1922, mab O.M.Edwards sef Syr Ifan ab Owen Edwards oedd yn ysgrifennu ‘Cymru’r Plant’.
- Yn 1922, ysgrifennodd Ifan lythyr yn ‘Cymru’r Plant’, yn gofyn i holl blant Cymru oedd eisiau bod yn aelod o Urdd Gobaith Cymru Fach anfon eu henwau, a swllt (hen bum ceiniog) er mwyn ymuno gydag Urdd Gobaith Cymru Fach... a dyna ddechrau’r Urdd.
- Yn 1987, penderfynwyd newid teitl ‘Cymru’r Plant,’ a theitl newydd cylchgrawn yr Urdd oedd Cip.
A heddiw mae
Cip yn dathlu ei ben-blwydd yn 21 oed, ac yn cael ei ddarllen gan filoedd o blant Cymru (gan dy gynnwys di!) bob mis.
Nawr fy fod yn gwybod rhywfaint am hanes y cylchgrawn, beth am fynd ati i gwblhau cwis cyffrous ar hanes
Cip? Bydd gwobr i'r enillydd a bydd yr enw buddugol yn ymddangos yn
Cip! Pob lwc!
Cwis Hanes Cip