Caerdydd Croeso

Cyfle i flasu danteithion prifddinas Cymru wrth aros yn adeilad unigryw Canolfan Mileniwm Cymru, un o brif ganolfannau celfyddydol y byd.

Mae cost cyrsiau yn y Gwersyll yn dechrau o £41 y pen y noson i blant a £43 y pen y noson i oedolion, yn seiliedig ar gyrsiau o ddwy noson neu fwy. Mae’r pris yn cynnwys 3 pryd o fwyd y dydd ac yn cael ei arolygu bob mis Ebrill.

Mae lle i 153 o bobl aros dros nos yn y Ganolfan mewn ystafelloedd en-suite. Mae hefyd neuadd/theatr yn y Gwersyll, lolfeydd, ffreutur ac ystafelloedd dosbarth. Crëwyd y Gwersyll gyda diogelwch plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth.

Bydd cyfle i fynychu cyrsiau arbenigol yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd, ond byddwn hefyd yn trefnu ymweliadau â phob math o lefydd yng Nghaerdydd a’r ardal. Bydd cyfleoedd i ymweld â: Stadiwm y Mileniwm, Y Cynulliad,Techniquest, San Ffagan, Yr Amgueddfa Genedlaethol, y Pwll Mawr, Castell Coch, Castell Caerdydd a llawer mwy...

Gallwn drefnu cyrsiau iaith, neu ddaearyddiaeth yn ogystal â chyrsiau trawsgwriciwlaidd gyda'r mwyafrif o atyniadau’r ardal yn paratoi deunydd dysgu sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm Cenedlaethol.

Bydd cyfleoedd i weld sioe, gêm bêl-droed, criced, rygbi neu hoci iâ ac mae prisiau arbennig i’r rhai sy’n aros yn y Gwersyll i weld y ffilmiau diweddaraf, bowlio 10 a defnyddio holl gyfleusterau Pentref Hamdden Atlantic Wharf.

Newyddion Diweddara:

 

 

 

 

 

 

 
(Cliciwch yma i ehangu'r poster)

 

 

 

 

 

 

 

(Cliciwch yma i ehangu'r poster)

Bae Caerdydd   Bws Canolfan   Castell Coch   Stadiwm y Mileniwm   Theatr Donald Gordon