Yr unig gylchgrawn Cymraeg ail iaith i ddysgwyr cynradd. Cartwnau, gweithlenni, straeon, poster, posau a llythyron go iawn gan ddysgwyr eraill... Mae'n ffordd wych o gyflawni tri o Ofynion Cyffredin y Cwricwlwm Cymraeg, sef Sgiliau Cyfathrebu, Sgiliau TG a'r Cwricwlwm Cymreig.
Mae Bore Da yn gyfrwng penigamp i addysgu'r disgyblion i 'ymestyn eu gallu i ddarllen ac ymateb i ddeunyddiau printiedig, fel eu bod yn datblygu yn ddarllenwyr annibynnol, a mwynhau eu darllen' fel yr awgrymir yn Natganiad Ffocws y Cwricwlwm Cymraeg Ail Iaith CA2.
Mae Bore Da yn addas ar gyfer CA1 a CA2 o'r Cwricwlwm Cymraeg Ail Iaith. Darperir taflenni geirfa, patrymau iaith a gweithgareddau i'r athro hefyd.
'Bore Da - misolyn hynod ddifyr a lliwgar sy o gymorth mawr i blant ac athrawon ein hardaloedd Seisnigedig ni.'
Athrawes Ymgynghorol o Gaerdydd