Dyma gyfle i ti ddod i adnabod darllenwyr eraill Bore Da yn well! Dyma lythyrau y mis.
Annwyl Mistar Urdd
Annwyl Mistar Urdd
Jack ydw i. Dw i’n ddeg oed. Fy ffrinidiau gorau ydy Jordan a Josh. Mae Jordan yn hoffi pêl-droed. Mae Josh yn hoffi nofio. Dw i’n mynd i Ysgol Llanharan. Yn yr ysgol dw i’n hoffi Cymraeg a Mathemateg. Dw i’n cefnogi Arsenal. Maen nhw’n anhygoel! Dw i’n hoffi rygbi hefyd ac yn cefnogi tîm Cymru. Gobeithio fod popeth yn iawn ’da ti Mistar Urdd.
Hwyl fawr,
Jack
Annwyl Mistar Urdd
Maya ydw i. Dw i’n wyth oed. Dw i’n mynd i Ysgol Llanharan. Mae un brawd ’da fi. Enw fy mrawd yw Jack. Mae Jack yn boen! Mae dwy chwaer gyda fi. Enw fy chwaer ydy Megan a Tasha. Mae Megan yn boen hefyd. Yn yr ysgol dw i’n hoffi canu, pêl-droed a ffrindiau. Enw fy ffrindiau yw Courtney, Lauren, Katrina, Sophy, Sophie, TJ, Jordan a Ben. Mae TJ yn swnllyd! Sut wyt ti Mistar Urdd?
Hwyl fawr,
Maya
Annwyl Mistar Urdd
Ben ydw i. Dw i’n wyth oed. Dw i’n mynd i Ysgol Llanharan. Mae pedwar brawd ’da fi o’r enw Jordan, Josh, Nathan a Daniel. Mae Jordan yn boen! Fy hoff fwyd ydy McDonald’s achos mae’n flasus. Dw i’n hoffi chwarae pêl-droed a Xbox 360. Fy ffrindiau gorau ydy Maya, TJ, Rosie a Sophie. Mae TJ yn cefnogi Man United. Yn yr ysgol dw i’n hoffi Celf a Mathemateg.
Hwyl fawr,
Ben
Annwyl Mistar Urdd
Tyler ydw i. Dw i’n ddeg oed. Mae gen i ddwy chwaer o’r enw Lauren ac Emily ac un brawd o’r enw Liam. Mae gen i wallt melyn a llygaid glas. Mae fy mhen-blwydd ym mis Hydref. Dw i’n hoffi bwyta tatws, cawl a salad. Dw i’n hoffi chwarae pêl-droed a phêl-rwyd achos mae’n ardderchog. Fy ffrindiau yw Jake a Frankie.
Hwyl fawr,
Tyler
Annwyl Mistar Urdd
Helô! Curtis ydw i. Dw i’n un deg un oed. Dw i’n byw yn Glyn Ceiriog. Dw i’n hoffi chwarae pêl-droed achos mae’n hwyl. Mae gen i ddau frawd ac un chwaer. Dw i’n hoffi bwyta pitsa, sglodion a sos coch. Mae fy mhen-blwydd ym mis Medi. Mae gen i lygaid glas a gwallt brown. Dw i ddim yn hoffi pêl-fasged achos mae’n ddiflas. Fy ffrindiau yw Sam, Ryan, Thomas a Josh.
Hwyl,
Curtis
Annwyl Mistar Urdd
Helô! Keira ydw i. Dw i’n saith oed. Dw i’n byw yn Glyn Ceiriog a dw i’n mynd i Ysgol Cynddelw. Dw i’n hoffi gymnasteg ond dw i ddim yn hoffi pêl-droed. Mae fy mhen-blwydd ym mis Mawrth. Dw i’n hoffi JLS, ABBA a Rhianna. Mae gen i lygaid brown a gwallt brown. Mae gen i un chwaer o’r enw Leanna a dau frawd o’r enw Connor a Nathan.
Hwyl fawr,
Keira
Annwyl Mistar Urdd
Kim ydw i. Dw i’n byw yn Glyn Ceiriog. Dw i’n mynd i Ysgol Cynddelw. Dw i’n wyth oed. Mae gen i un brawd o’r enw Jake. Mae fy mhen-blwydd ym mis Medi. Dw i’n hoffi rygbi, dawnsio a marchogaeth achos mae’n ffantastig. Dw i ddim yn hoffi criced, golff, pêl-droed na phêl-rwyd achos mae’n ddiflas. Dw i’n hoffi bwyta sglodion a pitsa achos mae’n grêt. Fy ffrindiau yw Ffion, Shannon, a Mille.
Hwyl fawr,
Kim
Bore Da
Swyddfa 'r Urdd
13, Llys Castan
Parc Menai
Bangor
LL57 4FH
Geirfa
anfon: to send
angen: to need
canlynol: following
cyfeiriad: address
eisiau: to want
llun: picture
llythyr: letter
os: if