Hyfforddiant a Datblygu Gwirfoddolwyr
Mae eich ymrwymiad chi fel gwirfoddolwyr yn rhan holl bwysig o waith yr
Urdd a gallwn gynnig nifer o wasanaethau, gwybodaeth a chyngor
i’ch cynorthwyo ac i’ch cefnogi.
Gall eich Swyddog Datblygu ddarparu cyngor ac arweiniad ar y canlynol:
Sefydlu Adran ac Aelwyd
Diogelwch plant a
gweithgareddau adran ac aelwyd
Gwaith papur adran ac aelwyd
Trefniadau Eisteddfod
Arfer da wrth drefnu
gweithgareddau
Syniadau ar gyfer nosweithiau
arbenigol
Wrth ddod yn aelod o’ch Pwyllgor Cylch a Rhanbarth, cewch
drafod pynciau o ddiddordeb a defnyddio arbenigedd gwirfoddolwyr
profiadol, lleol. Yn ychwanegol, drwy eich Pwyllgor Cylch a
Rhanbarth gallwch drefnu gweithgareddau penodol i’ch ardal
drwy gydweithrediad eich Swyddog Datblygu.
Ar lefel mwy ffurfiol gall yr Urdd gynnig sesiynau hyfforddiant a
datblygu ar y pynciau canlynol:
Diogelwch plant - argymhellir
i bob arweinydd
Gweithgareddau diogel ac
asesiadau risg - argymhellir i bob arweinydd
Syniadau a gweithgareddau i
aelodau 8-11
Syniadau a gweithgareddau i
aelodau yn eu harddegau
Cysylltwch â Catrin James am fwy o fanylion:
Catrinj@urdd.org