I ymaelodi dylech yn gyntaf holi eich ysgol ac ymaelodi fel rhan o gangen yr ysgol, neu os nad yw'r ysgol yn ymaelodi fel cangen, gallwch holi a oes cangen o'r Urdd yn cwrdd yn lleol fel Adran Bentref / Aelwyd.
Os nad oes cangen ysgol nac Adran Bentref / Aelwyd yn eich ardal gallwch ymaelodi fel unigolyn trwy argraffu'r ffurflen ymaelodi yma ac anfon siec o £6.00 yr aelod cyn 26ain o Hydref 2012, neu £6.50 ar ôl y dyddiad yma at Swyddog Aelodaeth, Swyddfa’r Urdd, Penhelyg, Gwersyll yr Urdd Llangrannog, Llandysul, SA44 6AE
( 01239 652 162 e-bost:
aelodaeth@urdd.org Ffacs: 01239 652 161)
Cofiwch mae'n rhaid i bawb fod yn aelod o'r Urdd cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau'r Urdd, ac mae'n rhaid i'r Urdd dderbyn yr arian aelodaeth cyn rhoi rhif aelodaeth er mwyn i'r aelod fedru cystadlu ar unrhyw lefel.
Sieciau yn daladwy i "Urdd Gobaith Cymru" os gwelwch yn dda.
Ffurflenni Defnyddiol:
Ffurflen Ymaelodi Bl 10 a iau
Ffurflen Ymaelodi 16+
Ffurflen Aelodaeth Teulu
Ffurflen Rhodd Cymorth Teulu
Ffurflen Cofrestru Cangen Newydd