Prynhawn o hwyl yn Ysgol Penybryn, Cylch Bangor/Ogwen
Prynhawn Dydd Mawrth y 5ed o Dachwedd cafwyd sesiwn hwyl a gemau gydag aelodau blynyddoedd 5 a 6 Ysgol Penybryn, Bethesda Cylch Bangor/Ogwen. Yn ystod y sesiwn cafodd y plant gyfle i chwarae amrywiaeth helaeth o gemau. Diolch yn fawr iawn i’r plant i gyd am fod mor frwdfrydig i gymryd rhan yn y gemau, i Mr Jackson am y croeso ac i’r plant am y diolch.