Dyngarol Neges Heddwch ac Ewyllys Da

Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2010

Mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da ar gael mewn 36 o wahanol ieithoedd eleni


CymrraegSaesnegPwylegSesothoHungaryYr
eidalRomania

SbaenegNorwyigFfrangegGaelegCernywegManaweg

GroegaiddIseldiregSlovakAlmaenegBelgThaiRwsieg

LithuanianLlydawegMalteseHebraegHebraegHebraegGwyddeleg

CzechGwlad Yr
IaSieinisPortiwgegPortiwgegHungaryMaori


Wrdw / Urdu

Arabeg / Arabic


Eleni mae holl gyfieithiadau Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd ar y wefan uchod. Lluniwyd y Neges gan aelodau o Fforwm Ieuenctid Ceredigion. Dyma’r tro cyntaf i fforwm ieuenctid lunio’r Neges. Newid Hinsawdd yw’r thema eto eleni ac mae Ceri Elen wedi paratoi gwasanaeth i gyd fynd a’r Neges. Gwahoddwn holl blant a ieuenctid Cymru i ymuno a ni ar fore Mawrth, Mai 18fed am 11 o'r gloch i ledaenu’r Neges ar draws y byd. Bydd Radio Cymru yn darlledu’r Neges o Ardd Fotaneg Cenedlaethol Cymru. Gwnewch yn siwr eich bod yn rhan ohono.

Hanes y Neges

Eleni mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru yn 88 mlwydd oed, ac ers 1922 mae’r neges wedi bod yn ysgogi ac yn ysbrydoli gweithgarwch dyngarol a rhyngwladol yr Urdd. Anfonwyd y neges gyntaf gan Y Parch Gwilym Davies o Gwm Rhymni. Roedd yn heddychwr mawr ac yn flaenllaw wrth sefydlu Undeb Cymreig y Cenhedloedd Unedig ac yn ddiweddarach UNESCO. Credai mewn dod â phlant y cenhedloedd ynghyd, ac fe benderfynnodd Syr Ifan y dylai’r Urdd ymuno gyda’r fenter o gyhoeddi’r neges er mwyn dileu’r anwybodaeth a’r rhagfarnau a oedd yn bodoli rhwng cenhedloedd y byd. Darlledwyd y neges am y tro cyntaf ar y BBC World Service ym 1924 ac erbyn heddiw mae’r neges yn ymddangos mewn trideg pedwar iaith ar y we, ac yn cyrraedd pedwar ban byd. Yn y 50au rhoddwyd cyfrifoldeb i’r Urdd i gyhoeddi Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn flynyddol ar ddydd Ewyllys Da, 18 Mai, sef dyddiad y gynhadledd heddwch gyntaf yn yr Hâg ym 1899.

Gwasanaeth Neges Ewyllys Da
 

Mae’r Urdd yn comisiynu gwasanaeth i gyd fynd gyda’r neges bob blwyddyn i’w ddefnyddio mewn ysgolion neu ysgolion Sul. Lluniwyd y gwasanaeth eleni gan Ceri Elen. Mae ar gael mewn fformat PDF yma.

Am fwy o wybodaeth a syniadau am faterion amgylcheddol a newid hinsawdd dilynwch y dolenni isod:

Cyfeillion y Ddear

Canolfan y Dechnoleg Amgen