Gwybodaeth Hanes yr Urdd

DECHRAU’R URDD:

Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru gan Syr Ifan ab Owen Edwards ym 1922. Ei fwriad oedd creu mudiad i amddiffyn y Gymraeg mewn byd lle roedd yr iaith Saesneg yn dominyddu pob agwedd o fywyd plant Cymru tu allan i’r cartref a’r capel. Mewn rhifyn o ‘Cymru’r Plant’ ym 1922 meddai Syr Ifan, ‘Yn awr mewn llawer pentref, a bron ym mhob tref yng Nghymru, mae’r plant yn chwarae yn Saesneg, yn darllen llyfrau Saesneg, ac yn anghofio mai Cymry ydynt.’ Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif er bod dros filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, edrychai’r dyfodol yn reit ddu i’r iaith. Dau o’r unigolion mwyaf blaenllaw a aeth ati i wynebu’r argyfwng yn y cyfnod hwn oedd O. M. Edwards, a’i fab Syr Ifan ab Owen Edwards. Ysgrifennodd O. M. Edwards, prif arolygydd cyntaf addysg Cymru, yn helaeth i’r cylchgrawn misol ‘Cymru’r Plant’ a sefydlwyd ganddo ym 1892. Cyhoeddodd lyfrau di-ri yn y Gymraeg ar wleidyddiaeth ac am Gymru. Anogai ymwybyddiaeth o Gymreictod yn y cylchgronau ‘Cymru’ a ‘Cymru’r Plant’ gan drwytho plant yn niwylliant a thraddodiadau eu gwlad. Ymgeisiodd ddwywaith i sefydlu mudiad ar gyfer ieuenctid Cymru, sef ‘Urdd y Delyn’ ym 1896, a ‘Byddin Cymru’ ym 1911, ond ni fu un o’r ymdrechion hyn yn llwyddiant. Er i O. M. farw ym 1920 bu ei fywyd a’i syniadau yn ysbrydoliaeth i’w fab i ddatblygu mudiad newydd.

Ar farwolaeth O.M.Edwards, Syr Ifan ddaeth yn olygydd cylchgrawn ‘Cymru’r Plant’ ac yn y cylchgrawn hwn ym 1922 yr apeliodd ar blant Cymru i ymuno â mudiad newydd, sef ‘Urdd Gobaith Cymru Fach’. Dyma ddechrau newydd yn hanes iaith a diwylliant Cymru. Cafodd ymateb cadarnhaol o’r cychwyn cyntaf. Derbyniwyd llwyth o lythyrau a syniadau, ac roedd brwdfrydedd yr aelodau yn llethu ‘Cymru’r Plant’ a gwasg Hughes a’i fab yn Wrecsam. Erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf roedd 720 o enwau aelodau wedi ymddangos yn y cylchgrawn a channoedd mwy yn aros eu tro. Sefydlwyd Adran gyntaf yr Urdd yn Treuddyn, Sir Fflint ym 1922.

Yn y cyfnod cynnar Syr Ifan a’i wraig a oedd yn ysgwyddo’r holl gyfrifoldeb am drefniadaeth a gweinyddiad yr Urdd, ac roeddent yn gweithio o’u cartref yn Llanuwchllyn. Erbyn diwedd 1923 tyfodd yr aelodaeth, o ganlyniad i’w brwdfrydedd hwy, i 3,000, a thyfu ymhellach i dros 5,000 ym 1927 gyda nifer yr adrannau yn tyfu i 80. Ym 1924 sefydlwyd yr adran gyntaf yn y de yn Abercynon. Dangosodd hyn sut oedd gwaith yr Urdd yn effeithio ar ardaloedd di-Gymraeg yn ogystal ag ardaloedd lle roedd llawer o Gymry Cymraeg yn byw.

Erbyn diwedd y 1920au felly, yr oedd yr Urdd wedi tyfu o fod yn fudiad cylchgrawn i fod yn fudiad gweithredol a deinamig. Tyfodd i fod yn fudiad hyderus, a chafwyd gwared o’r gair ‘bach’ yn enw’r mudiad. Yr enw ar ei newydd wedd oedd ‘Urdd Gobaith Cymru’. Erbyn 1930 roedd 20 cylch wedi eu creu a thua dwsin arall ar y gweill. Datblygodd y cylchoedd hynny i gael baneri unigryw a threfniant effeithiol.
[Nôl i dop y dudalen]

1920au - 1950au:

Syniad nesaf Syr Ifan ab Owen Edwards oedd dod â phlant ledled Cymru at ei gilydd mewn gwersyll Cymraeg a Chymreig. Yr unig beth oedd i ddenu’r gwersyllwyr cyntaf oedd brwdfrydedd dros Gymru, antur a’r cyfle i gyfarfod â Chymry eraill o dan arweiniad y sylfaenydd. Ym Medi 1927 hysbysodd Syr Ifan ddarllenwyr ‘Cymru’r Plant’ fod gwersyll deng niwrnod i gael ei gynnal yn Llanuwchllyn am ddeng swllt yr un. Penderfynwyd cynnal dau wersyll i tua cant o fechgyn ym mis Awst 1928. Cyntefig iawn oedd y dulliau coginio ac yr oedd y cyfleusterau’n brin. Yr oedd ganddynt ddeunaw o bebyll a marcî fawr. Golchai’r gwersyllwyr yn yr afon sydd yn wahanol dros ben i’r moethusrwydd sydd yn y gwersylloedd erbyn heddiw. Bu’r gwersylloedd cyntaf hyn yn llwyddiant mawr a chynhaliwyd gwersylloedd tebyg i ferched. Yn ystod y blynyddoedd nesaf cynhaliwyd y gwersylloedd yn Llangollen, a bu gwelliant yn y cyfleusterau coginio a lletya a oedd ar gael.

Erbyn 1932 yr oedd Syr Ifan yn benderfynol o sefydlu gwersyll parhaol i’r Urdd, a daeth Gwersyll yr Urdd Llangrannog i fodolaeth yn y flwyddyn honno. Sefydlwyd y gwersyll o gwmpas caban pren y ffreutur a enwyd ar ôl cartref J.M.Howell, ‘Plas Penhelig’, fel arwydd o ddiolch iddo am ei nawdd hael. Cafwyd pedair wythnos o wersyll yn ystod yr haf poeth hwnnw ym 1932, gyda lle i 150 o wersyllwyr, a gwellodd y cyfleusterau bwyta, ymolchi ac hamdden yn flynyddol.
 
Sefydlwyd ail wersyll ym 1934 ym Mhorth Dinllaen i gydredeg â’r Gwersyll yn Llangrannog. Anfonwyd y bechgyn yno am fis tra arhosai’r merched yn Llangrannog, gyda’r bwriad o gyfnewid bob yn ail flwyddyn. Anogwyd dysgwyr i ymuno â Chymry Cymraeg yno, a daeth nifer i loywi tipyn ar eu Cymraeg. Aeth y ddau wersyll o nerth i nerth gyda grantiau’r Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol a’r ‘Jubilee Trust’ yn galluogi mwy o adnoddau a mwy o gabanau. Yr haf hwnnw darparwyd llety i 701 o fechgyn ym Mhorth Dinllaen a 765 o ferched yn Llangrannog. Ym 1938 cynhaliwyd gwersyll cymysg i oedolion er mwyn iddynt gael ail fyw hwyl ac atgofion eu hieuenctid. Bu’r gwersyll hwnnw yn Llangrannog a gafaelodd y syniad o wersyll oedolion a gwersyll cymysg. Gyda datblygiadau adeiladu yn Llangrannog, y gegin, y gampfa a’r capel, penderfynwyd canolbwyntio ar y Gwersyll hwnnw a daeth y Gwersyll ym Mhorth Dinllaen i ben.
 
Llwyddwyd i gynnal gwersylloedd yng nghysgod yr Ail Ryfel Byd er na ellid codi pebyll, a bu dogni a chyfyngiadau eraill yn rhwystr. Cyfyngwyd ar niferoedd y gwersyll adeg y rhyfel ac yr oedd yr awdurdodau yn cadw llygad barcud ar weithgareddau’r Urdd. Ond, erbyn 1944 llwyddwyd i dderbyn dros 1000 o wersyllwyr o bob oed.

Yn niwedd y 1940au daeth gwersyll ar gyfer ieuenctid hyn Cymru. Roedd apêl y gwersyll hwn yn wahanol i’r lleill am ei fod yng nghanol mynyddoedd Eryri a Llyn Tegid wrth ei ymyl. Yr oedd hyn yn rhoi cyfle i’r ieuenctid i wneud gweithgareddau o fath gwahanol. Gwelwyd fod posibiliadau o ran dringo, ymarfer corff a chwaraeon dwr. Ym 1950 cynhaliwyd y gwersyll cyntaf yng Nglan-llyn gyda chwch modur ‘Y Brenin Arthur’ yn cludo gwersyllwyr ar draws y llyn o’r trên. Ym 1955 codwyd caban newydd i fod yn neuadd ymgynnull lle gellid cynnal Eisteddfod a Noson Lawen.

Nid y gwersylloedd oedd yr unig ddarpariaeth gan yr Urdd i ffynnu yn ystod y blynyddoedd hyn tan yr Ail Ryfel Byd. Daeth yr Urdd yn fudiad cenedlaethol pwysig yn y cyfnod hwn a thyfodd yr Aelwydydd ar raddfa gyflym iawn. Derbyniodd yr Urdd grantiau hael a sicrhaodd fod modd cynnal staff yn y rhanbarthau ac yn genedlaethol. Llwyddwyd i gael grantiau oddi wrth yr awdurdodau addysg i addasu adeiladau ar gyfer Aelwydydd ac i brynu pob math o adnoddau. Erbyn Mai 1941 yr oedd 83 o Aelwydydd yn cael eu cynnal trwy Gymru gyfan. Rhwng yr Adrannau a’r Aelwydydd, a’r ‘Young Wales Club’ i ddysgwyr, roedd 817 o ganghennau i’r mudiad, gyda rhwydwaith o bwyllgorau lleol ynghyd â threfniant taclus o bwyllgorau cylch a phwyllgorau sir. Bu cynnydd yn incwm y mudiad yn fodd i weithgaredd cyson ddigwydd ym mhob rhan o Gymru o Fôn i Forgannwg, trwy gydol y flwyddyn.

Mewn cyfarfod cylch yng Nghorwen ym 1928 yr awgrymwyd y posibilrwydd o gynnal Eisteddfod Genedlaethol o dan nawdd yr Urdd. Paratowyd felly ar gyfer Eisteddfod deuddydd yng Nghorwen ym 1929 ar ddiwedd mis Mai. Cynhaliwyd gorymdaith a seremoni hanesyddol ym Mhafiliwn Corwen gyda baneri, a thair brenhines yr Eisteddfod ar orseddau unigryw a bu canmol mawr ar safon uchel y cystadlu. Yn yr ail Eisteddfod yng Nghaernarfon ym 1930 daeth 3,000 o gystadleuwyr a daeth y dref i stop am ddeuddydd. Eisteddfod Caerfyrddin 1935 fu un o’r rhai mwyaf arbennig yn y cyfnod cynnar hwn, gyda’r wasg yn llawn datganiadau megis ‘Byddin ifanc yn meddiannu’r fwrdeistref’. Tyrrodd miloedd i’r pafiliwn a ddaliai 12,000 a chreu argraff yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bu’r Ail Ryfel Byd yn ergyd drom i’r Eisteddfod, ond er bod bygythiadau o bob cyfeiriad, cynhaliwyd Eisteddfod ym 1940 yn y Rhyl. Er mai am ddiwrnod yn unig y cynhaliwyd yr Eisteddfod honno mewn neuadd, daeth adrannau o bob rhan o Gymru i gystadlu.  Prin iawn oedd y cyfleoedd i blant ac i ieuenctid i deithio yn y cyfnod hwn, ac roedd yr Eisteddfod yn fodd o gael pobl i adnabod eu gwlad a chael cyfarfod pobl o gefndir hollol wahanol iddynt eu hunain. Erbyn canol y 50au newidiodd natur yr wyl i ganolbwyntio mwy ar y cystadlu, y diwylliant a’r ansawdd yn hytrach na’r gorymdeithio a’r dathlu. Datblygodd pethau newydd bob blwyddyn gydag arddangosfa gelf a chrefft yn Abertridwr ym 1955 a chyngerdd o gerddoriaeth glasurol yn Eisteddfod yr Wyddgrug ym 1958.

Yn ogystal â’r Eisteddfod penderfynodd yr Urdd fentro ac arloesi mewn sawl maes newydd i atgyfnerthu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Yn y cyfnod hwn y cafodd Syr Ifan y syniad am gynnal sinema Gymraeg i hyrwyddo’r mudiad a hyrwyddo Cymreictod i gynulleidfa ehangach. Aeth ffilm sain ‘Y Chwarelwr’, gostiodd £2,000, ar daith o amgylch Cymru. Defnyddiwyd y sinema gan Syr Ifan hefyd i hyrwyddo gweithgareddau’r mudiad ei hun.

Bu’r ymgyrch lyfrau rhwng 1937 a 1965 hefyd yn gyfraniad allweddol i ddiwylliant Cymru. Yr oedd hwn yn gynllun pendant i gefnogi llenyddiaeth Gymraeg gyfoes drwy i adrannau ac aelodau’r Urdd ddosbarthu a gwerthu llyfrau Cymraeg i’r cyhoedd. Aeth cannoedd o aelodau’r mudiad ati i werthu llyfrau mewn siopau, Eisteddfodau ac o ddrws i ddrws. Aeth yr ymgyrch o nerth i nerth a chanlyniad hyn oll oedd sefydlu’r Cyngor Llyfrau Cymraeg ym 1962 a oedd i gyllido a noddi’r fasnach lyfrau o hynny ymlaen.

Syr Ifan a fu’n gyfrifol am sefydlu’r Ysgol Gymraeg gyntaf yn Aberystwyth ym 1939 hefyd. Ar ôl ymgynghori â’r awdurdod addysg sefydlwyd ysgol i 7 o ddisgyblion o dan arweiniad abl Norah Isaac. Tyfodd yr ysgol o fod yn arbrawf bach ansefydlog i fod yn sefydliad atyniadol ac effeithiol gyda rhieni yn barod iawn i dalu am addysg dda trwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn 1945 tyfodd Ysgol Lluest i gael 4 athrawes ac 81 disgybl gan greu ymwybyddiaeth o’r angen am y math hwn o addysg o dan awdurdod addysg. Cafodd hyn effaith fawr ar Awdurdodau Addysg a’u perswadio i weld bod angen Ysgolion Cymraeg ledled Cymru. Er i’r ysgol honno ddod i ben oherwydd problemau ariannol ym 1951, agorwyd ysgol Gymraeg arall ar gyfer 160 o ddisgyblion yn Aberystwyth ym 1952 o dan yr un prifathro ag Ysgol Lluest, sef Hywel O. Roberts.

Yr oedd Sul yr Urdd yn fenter arall a oedd yn rhan o weledigaeth Syr Ifan yn y cyfnod hwn. Cynhaliwyd ‘Sul yr Urdd’ gyntaf ym 1931. Erbyn 1934 yr oedd wedi datblygu i fod yn wasanaeth mawr blynyddol.

Parhaodd Syr Ifan â’r gwaith o olygu cylchgrawn ‘Cymru’r Plant’ am 30 mlynedd, sef y gwaith y dechreuodd ei dad O. M. Edwards ym 1892. Cynyddu fu hanes cylchrediad y cylchgrawn ar yr un raddfa â chynnydd aelodaeth yr Urdd ei hun yn y blynyddoedd cynnar. Erbyn 1954 yr oedd y cylchrediad wedi cyrraedd 22,500 y mis ac yn cael ei ddosbarthu’n eang i’r ysgolion trwy’r Awdurdodau Addysg. Sefydlwyd y cylchgrawn ‘Cymraeg’ ar gyfer dysgwyr gan gyrraedd cylchrediad o 26,000 o fewn blwyddyn. Ym 1957 gwelodd Ifor Owen, y golygydd, yr angen am ddau gylchgrawn i’r Cymry Cymraeg sef ‘Cymru’ i’r plant hyn a ‘Cymru’r Plant’ i’r plant iau. Aeth y cylchgronau o nerth i nerth gan ddatblygu’n gyflym yn ystod y 60au.

Yr oedd lle blaenllaw i weithgaredd corfforol yng ngweithgareddau’r Urdd hefyd a chredai’r sylfaenydd ei fod yn bwysig yn natblygiad pobl ifanc. Cynhaliwyd y mabolgampau cyntaf yn Llanelli ym 1932. Llwyddwyd i ddenu 4,000 o blant ynghyd i’r wyl liwgar hon. Bu’r ymateb yn wych yn y de a gwelai trefnwyr yr Urdd fod cael Cymry di-Gymraeg a dysgwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn eu hannog i ddefnyddio’r Gymraeg a chymysgu â Chymry Cymraeg. Roedd gwisg unffurf, baneri a gorymdeithio gyda band yn nodwedd o’r cyfnod hwn, ac adeg y mabolgampau gorymdeithiodd aelodau’r Urdd trwy dref Llanelli yn eu miloedd. Cynhaliwyd mabolgampau yn Aberystwyth, Penybont, Pontypridd, Bangor, Porthmadog ac Aberpennar. Ni fedrwyd cynnal mabolgampau ym 1940 o ganlyniad i ddechrau’r Ail Ryfel Byd, a bu’n anodd codi’r mabolgampau’n ôl ar eu traed. Llwyddodd ambell sir i gynnal mabolgampau lleol yn y 40au, ac yn raddol dychwelodd yr awydd i gynnal gwyl genedlaethol. Gyda datblygiad cystadlaethau chwaraeon newydd a chymdeithasau Athletaidd newydd yn y 50au, sylweddolodd yr Urdd nad oedd gwir angen y mabolgampau ar ieuenctid y wlad a daethant i ben ym 1954. Dechreuodd y mudiad ganolbwyntio ar agweddau eraill o chwaraeon.

Wedi ei brofiadau yn y Rhyfel Mawr a’i brofiad o ddinistr ac oferedd rhyfel, credai Syr Ifan ab Owen Edwards bod angen codi pontydd rhwng diwylliannau a chenhedloedd gwahanol. Dechreuwyd cyhoeddi Neges Ewyllys Da gan Gwilym Davies, Cymro a oedd yn gynrychiolydd ar Gynghrair y Cenhedloedd. Credai Syr Ifan fod angen i’r Urdd ymuno gyda’r fenter o gyhoeddi’r neges er mwyn dileu’r anwybodaeth a’r rhagfarnau a oedd yn bodoli rhwng cenhedloedd y byd. Ym 1925 felly, cyhoeddwyd y neges ar y cyd rhwng yr Urdd a chynghrair y Cenhedloedd. Ym 1930 penderfynwyd gwneud mis Mai yn fis Ewyllys Da a rhoddwyd hwb i’r neges ac i’r syniad yn ‘Cymru’r Plant’. Erbyn 1934 roedd y BBC yn cyhoeddi’r neges a daeth thema wahanol i nodweddu’r neges yn flynyddol. Erbyn 1939 yr oedd Adrannau ledled Cymru yn cyhoeddi’r neges, ac er y bu’n rhaid rhoi’r gorau i gyhoeddi’r neges dros y rhyfel, parhau wnaeth yr ymgyrch dros frawdgarwch gyda chyfres o erthyglau ‘Cymru a’r Byd’ yn cael eu cyhoeddi.

Yr oedd hi’n bwysig i Syr Ifan fod plant Cymru yn cael cyfarfod ag ieuenctid eraill o wledydd ar draws y byd. Ym 1930 aeth ati i drefnu bod parti o fechgyn o Gymru yn mynd i Genefa, cartref Cynghrair y Cenhedloedd. Gyda llwyddiant y daith honno, penderfynodd y sylfaenydd arwain criw o ferched am daith gyffelyb y flwyddyn ganlynol. Aeth yr Urdd ymlaen i drefnu mordeithiau di-ri. Ym 1933 hwyliodd criw o Gymru i Sgandinafia a Fjordiau Norwy, a thalodd cannoedd o aelodau hyn yr Urdd £15 i fynd ar y fordaith gwbl Gymreig ac unigryw hon i Ogledd Ewrop. Penderfynodd Syr Ifan bod angen trefnu mordeithiau mor aml â phosib, ac aeth ati i drefnu teithiau i Lydaw, Sbaen, Portiwgal, Môr y Canoldir a Gogledd Affrica. Daeth y mordeithiau hyn i ben gyda dechrau’r Ail Ryfel Byd ym 1939. O hyn ymlaen canolbwyntiwyd ar deithiau rhatach i niferoedd llai. Ceisiwyd adfer creithiau rhyfel drwy barhau i gyfnewid teithiau ag ieuenctid ledled Ewrop. Wedi’r rhyfel dechreuwyd ailafael yn y cyfle i estyn dwylo dros y môr a chynnal cysylltiadau rhyngwladol. Ym 1948 penderfynwyd cynnal Gwersyll Cydwladol cyntaf yr Urdd yn Aberystwyth. Roedd y gwersyll yn cael ei gynnal yn flynyddol tan 1960 ac yn denu pobl ifanc o bob rhan o’r byd i gymdeithasu, i ddysgu ac i fwynhau gwyliau ar arfordir Cymru. Yr Urdd oedd un o’r mudiadau cyntaf i groesawu Almaenwyr ifanc wedi’r Ail Ryfel Byd.
[Nôl i dop y dudalen]

1960au-1980au


Daeth gweithgareddau’r Urdd yn fwyfwy llwyddiannus a ffynnodd y mudiad yn ystod y cyfnod hwn. Parhau i ddatblygu ac arbrofi wnaeth yr Eisteddfod ar ddechrau’r 60au. Tyrrodd dros 25,000 i Eisteddfod Dolgellau ym 1960, ac yno sefydlwyd Adran Wyddoniaeth am y tro cyntaf gan sicrhau fod pob maes yn dod o dan fantell y mudiad. Dechreuwyd roi pwyslais ar ddenu Cymry di-Gymraeg i mewn i’r Eisteddfod gan roi hysbysfwrdd dwyieithog yng nghefn y llwyfan yn Aberdâr ym 1961, a chyhoeddwyd argraffiad talfyredig o raglen y dydd yn Saesneg. Ym mlwyddyn dathlu hanner can mlwyddiant yr Urdd perfformiwyd pasiant ‘Y Weledigaeth Fawr’ a chafwyd arddangosfa mewn pabell ar faes yr Eisteddfod. Yn ystod y 70au gwelwyd yr Eisteddfod yn datblygu o ran nifer y cystadleuwyr ac o ran maint, a cheisiwyd canolbwyntio ar ddenu nawdd ac ymwelwyr gan fod costau a safon yr Eisteddfod yn codi’n gyson. Yn Eisteddfod y Rhyl ehangwyd yr wyl i bedwar diwrnod yn lle tri. Yn y 70au datblygwyd y maes ac apêl yr Eisteddfod ac ym 1975 daeth 65,000 o bobl, yn gystadleuwyr, ymwelwyr a theuluoedd.

Ganwyd Mistar Urdd ym Medi 1976 ac fe dyfodd yn gymeriad bywiog a phoblogaidd. Buddsoddodd yr Urdd mewn peiriant argraffu crysau T a daeth seler swyddfa’r Urdd yn Aberystwyth yn ffatri argraffu Mistar Urdd ar gyfer bob math o nwyddau. Ymhlith y cynnyrch roedd sticeri, bathodynnau, posteri, mygiau, gwisgoedd o bob math, llyfr llofnodion ac ati. Fe dyfodd Mistar Urdd yn ddiwydiant ac roedd cymaint o alw am nwyddau Mistar Urdd fel bu’n rhaid i’r Urdd sefydlu cwmni masnachol ‘Copa Cymru’ a chymryd ffatri barod ar stâd ddiwydiannol. Agorwyd siop Mistar Urdd yn Aberystwyth a threfnwyd gwasanaeth prynu drwy’r post. Yn 1979 trefnwyd taith hyrwyddo trwy Gymru gyfan gyda cherbyd arbennig a Mici Plwm yn arwain yr ymgyrch.

Yr oedd maes yr Eisteddfod erbyn yr 80au yn atyniad ar ei ben ei hun gyda llawer o stondinau a phebyll. Datblygwyd y pafiliwn i fod yn neuadd gyngerdd safonol, a gwelwyd gwelliant yn y ddarpariaeth i’r cystadleuwyr. Erbyn 1983 yr oedd yr Eisteddfod yn bum niwrnod o hyd, ac yn Eisteddfod yr Wyddgrug 1984 yr oedd pob math o welliannau wedi eu gwneud i adloniant cerddorol a theatrig a chafwyd hyfforddiant chwaraeon a chystadlaethau o bob math. Daeth y ffair i ddiddanu plant ar y maes, ac yr oedd yr holl elfennau yn ehangu apêl yr wyl, ac yn denu cefnogaeth pobl o wahanol gefndiroedd diwylliannol a chymdeithasol. Yn Eisteddfod Cwm Gwendraeth ym 1989 ehangwyd yr Eisteddfod i chwe niwrnod gydag amrywiaeth eang o gyngherddau, cystadlu a chwaraeon ar y maes.

Ffynnu wnaeth y gwersylloedd yn y cyfnod hwn hefyd. Wedi llwyddiant gwersylloedd yn Llanuwchllyn, Porth Dinllaen a’r gwersyll parhaol yn Llangrannog, sefydlwyd Gwersyll Glan-llyn ym 1950. Yn niwedd y 50au yr oedd posibiliadau i gynyddu maint y gwersyll wrth ddatblygu ty preswyl arall a’i alw yn Glan-llyn Isaf. Parhaodd twf ym maint ac adnoddau Glan-llyn yn ystod y 60au gyda champfa a dau gaban yn cael eu codi gyda grant helaeth o £3,800 oddi wrth yr Weinyddiaeth Addysg. Daeth mwy o sicrwydd am ddyfodol y gwersyll yn ogystal wrth i’r Urdd gael prydles tymor hir hyd 1980 ar y safle. Yr oedd hyn yn rhoi mwy o gyfle i ddatblygu’r safle ar gyfer y tymor hir. Yn y 60au cynnar gwariwyd yn helaeth ar adnoddau a gweithgareddau, a bellach gellid cael hyfforddiant mewn dringo a chanwio. Yn y 70au llwyddwyd i gael cwt hwylio a glanfa newydd, ac erbyn 1980 cafwyd pwll nofio yn y gwersyll.  Yn y flwyddyn honno hefyd agorodd adeilad newydd a oedd yn cynnwys pwll nofio, campfa, ac ystafelloedd preswyl i 60 o bobl. Cynhaliwyd 69 o gyrsiau yno yn ystod y flwyddyn a daeth dros 6,000 o ieuenctid i fwynhau’r ddarpariaeth eang a oedd ar eu cyfer. Yn yr 80au daeth caban bwyta newydd a neuadd chwaraeon aml bwrpas i Lan-llyn, ac er mwyn denu mwy o ymwelwyr adeiladwyd Canolfan Bowlio Deg ym 1992. Gydag atyniadau modern, cyrsiau daearyddol a hyfforddiant mewn gweithgareddau megis dringo a hwylfyrddio, daeth Glan-llyn i fod yn wersyll blaenllaw i ieuenctid Cymru erbyn canol y 90au.

Yn yr un cyfnod gwelwyd datblygiadau mawr yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog. Yr oedd gofid ymysg swyddogion fod Glan-llyn yn cael tipyn mwy o sylw na Llangrannog. Yr oedd cabanau pren Llangrannog wedi mynd i edrych yn hen ac yn dadfeilio’n gyflym. 1968 oedd y flwyddyn y sicrhawyd dyfodol yr Urdd yn Llangrannog yn barhaol. Ar ôl rhentu’r lle ar les blynyddol ar y dechrau ac yna cael prydles ym 1938, llwyddwyd i berswadio’r perchnogion i werthu fferm Ty Cwrt a diogelu dyfodol y gwersyll. Dyma ddechrau ar gyfnod newydd yn hanes y Gwersyll. Ar ddechrau’r 70au adeiladwyd caban bwyta a blociau cysgu newydd a oedd yn lletya 128 o bobl. Canlyniad y datblygiadau oedd fod 6,026 o wersyllwyr wedi mynychu’r gwersyll ym 1978 o’i gymharu â 2,722 yn 1972. Erbyn diwedd y 70au yr oedd yno sgubor fawr, pwll nofio, ysbyty, siop a champfa newydd. Erbyn dechrau’r 80au roedd grantiau gan y Swyddfa Gymreig yn galluogi’r Gwersyll i ehangu ac adeiladwyd neuaddau, ystafelloedd gwaith, stordy, sied feics a bloc cysgu ar gyfer 80 ychwanegol. Datblygodd gweithgareddau cymharol rhad ond effeithiol a oedd yn cynnwys beiciau modur, BMX, cwrs antur a sglefrolio. Bu’r cyfnod rhwng diwedd yr 80au a dechrau’r 90au yn gyfnod allweddol yn hanes y Gwersyll wrth i atyniadau modern ddenu’r ymwelwyr. Codwyd llethr sgïo, pwll nofio a llwybr ceffylau newydd. Erbyn canol y 90au Llangrannog oedd un o brif ganolfannau preswyl Cymru gyda’r adnoddau a’r cyfleusterau o’r safon uchaf posib. Codwyd bloc cysgu ‘Yr Hafod’, a chaban bwyta newydd yn y “gwersyll ger y lli”. Yn ystod y 70au hefyd agorwyd canolfan breswyl ym Mlaencwm yng Nghwm Croesor, sydd ar ochrau mynydd Cnicht, a chanolfan arall ym Mhentre Ifan yn Sir Benfro. Adnewyddwyd yr adeilad i fod yn lle addas i bobl ifanc i dreulio gwyliau byr yng nghefn gwlad Cymru.

Parhaodd Neges Ewyllys Da yn rhan annatod o weithgaredd blynyddol yr Urdd ac yn gyfrifoldeb a gymrwyd gan wahanol Aelwydydd bob blwyddyn. Datblygwyd ymgyrchoedd dyngarol a rhyngwladol y mudiad. Dros yr 80au a’r 90au gyda chynhorthwy gwirfoddol ac arian elusennol llwyddodd yr Urdd i gynorthwyo prosiectau yn Madagasgar, Mali a Bosnia yn 1993-95.

Ym maes chwaraeon parhaodd yr Urdd i fod yn flaenllaw. Ym 1960 ail sefydlwyd cwpan Pantyfedwen i Aelwydydd a threfnwyd dwy gystadleuaeth rygbi. O hyn ymlaen yr oedd gweithgareddau corfforol yr Urdd yn datblygu i fod yn fwy niferus ac amrywiol. Erbyn 1963 yr oedd 203 o Adrannau ac Aelwydydd yn cymryd rhan mewn cystadlaethau, gan gynnwys pêl-droed, rygbi, hoci, pêl-rwyd, tenis bwrdd, dartiau a snwcer. Ar ddiwedd y 60au cynhaliwyd rowndiau terfynol y cystadlaethau chwaraeon i gyd ar un diwrnod yn Aberystwyth. Cymaint bu twf mewn gweithgareddau chwaraeon ers y 70au fel bu’n rhaid cynnal dwy wyl, un i’r aelodau o dan 15 ac un arall i’r aelodau hyn.

Erbyn y cyfnod mwy diweddar yn y 70au a’r 80au tyfu fu hanes y cylchgronau a oedd yn cael eu gwerthu hefyd. Addaswyd y cylchgrawn ‘Cymru’ gan newid rhywfaint ar y cynnwys a’i alw yn ‘Hamdden’. Roedd cyfanswm cylchrediad yr holl gylchgronau yn 43,850 y mis. Ym 1966 penderfynwyd cynhyrchu dau gylchgrawn i ddysgwyr sef ‘Bore Da’ i’r plant ieuengaf a ‘Mynd’ i’r dysgwyr hyn. Gyda’r ddau gylchgrawn lliwgar yma cynyddodd y cylchrediad eto i gyfanswm o 46,000 y mis. Yn ôl R. E. Griffith dyma oedd ‘y wyrth fwyaf oll mewn cyhoeddi Cymraeg’. Daeth ‘Hamdden’ i ben oherwydd colledion ariannol ond unwyd ‘Cymru’r Plant’ a ‘Deryn’ i ffurfio ‘Cip’. Parhawyd i gyhoeddi’r tri chylchgrawn ‘Cip’, ‘Bore Da’ a ‘Mynd’ o 1988, ac yn 90au newidiodd ‘Mynd’ yn ‘iaw!’ gan gydweithio gyda rhaglenni ail iaith poblogaidd Adran Addysg BBC Cymru ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd.
[Nôl i dop y dudalen]

Diweddar


Mynd o nerth i nerth y mae Urdd Gobaith Cymru wedi ei wneud dros y deng mlynedd diwethaf. Erbyn heddiw dyma brif fudiad ieuenctid Cymru. Mae gan y mudiad dros 50,000 o aelodau. Y mae 30% o holl siaradwyr Cymraeg rhwng 8-18 oed yng Nghymru yn aelodau. Mae gan yr Urdd 180 o staff,10,000 o wirfoddolwyr, a chynhelir 250,000 o sesiynau chwaraeon y flwyddyn. Gwerthir 96,000 o gylchgronau yn flynyddol. Yn 2005-2006 cafwyd dros 960,000 o ymweliadau â’r wefan.

Gweithgareddau Adran ac Aelwyd yw hanfod llwyddiant yr Urdd ar lawr gwlad. O ganlyniad i gynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd mewn ardaloedd ledled Cymru ffurfiwyd aelwydydd llwyddiannus newydd, ac y mae Aelwyd CF1 ac Aelwyd yr Ynys yn denu nifer o aelodau ac yn cael llawer o lwyddiant mewn Eisteddfodau erbyn hyn. Mae gweithgareddau di-ri megis Jambori, chwaraeon, teithiau tramor, a gwaith dyngarol yn sicrhau fod aelodau’r Urdd yn cael pob math o brofiadau cofiadwy a gwerthfawr. Ym 1997, i ddathlu pen-blwydd yr Urdd yn 75 oed, cynhaliwyd Jambori fawr yng Nghaerdydd gyda 10,000 o aelodau’r Urdd yn fôr lliwgar o faneri a pherfformwyr yn y strydoedd a gorymdeithiodd pawb i Fae Caerdydd. Gwelwyd Jambori fawr arall yn 2003 ym Mharc Margam gyda 2,000 o blant ardal yr Eisteddfod yn bresennol ar ddechrau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn yr ardal honno. Ar ddechrau mileniwm newydd aeth Mistar Urdd ar daith o amgylch ysgolion cynradd ac adrannau, ac ymwelodd â 607 o ysgolion ledled Cymru. Mae cân Mistar Urdd yn dal i fod yr un mor boblogaidd ag erioed ac fe ail recordiwyd y gân yn 2002 gan y grw^p pop CIC fel cyfrwng i ail danio’r Urdd yn dilyn ymgyrch gyhoeddusrwydd fawr wedi cyfnod y clwy traed a genau.

Yr oedd 1997 yn flwyddyn bwysig i’r Urdd am ei bod yn dathlu 75 mlynedd ers sefydlu’r mudiad gan Syr Ifan ab Owen Edwards ym 1922. I nodi’r achlysur cynhaliwyd cyngerdd dathlu ym Mhafiliwn Corwen gyda pherfformiadau gan gôr o’r Aelwydydd, a sêr fel Bryn Terfel, Nerys Richards, Bethan Dudley, a Daniel Evans yn perfformio hefyd. Daeth Côr o Aelwydydd yr Urdd at ei gilydd unwaith yn rhagor i gyhoeddi bod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn dod i Gaerdydd yn 2005. Cydganodd y côr gyda Bryn Terfel ar lwyfan godidog Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

Yn ddiweddar, gwelwyd aelodaeth teulu yn dod yn hynod boblogaidd am y tro cyntaf, lle roedd modd cael gostyngiad os oes mwy na thri aelod o’r un teulu yn ymaelodi. Gwelwyd cynnydd o 28% yn aelodaeth Urddaholics (sef aelodau 16-25 oed) ac yr oedd gweithgareddau fel y wal ddringo ar safle Sioe Llanelwedd, a’r prif f@r ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn denu’r tyrfaoedd. Cydweithiodd yr Urdd gyda S4C, Miri Myrddin, Parti Ponty, Ffiesta Fflint, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a Chyngor Chwaraeon Cymru i gynyddu diddordeb plant a phobl ifanc Cymru yng ngweithgareddau’r mudiad ac mewn cerddoriaeth a gweithgareddau Cymraeg hefyd.

Mae’r gwersylloedd yn parhau i dyfu ac i ddatblygu. Yng Nglan-llyn yn 1995 agorwyd y Plas gyda phob math o ddarpariaeth newydd, fodern ar gyfer y gwersyllwyr. Agorwyd y lle yn swyddogol gan Bryn Terfel ac yr oedd yn cynnwys ystafelloedd en-suite, lolfeydd a darlithfeydd. Bellach mae’r gwersyll yn cynnig llety en-suite i dros 200 o breswylwyr. Dros y blynyddoedd dilynol, gweddnewidiwyd y neuadd llafn-rolio, y pwll nofio a’r neuadd chwaraeon, a daeth staff a oedd yn arbenigo mewn gweithgareddau awyr-agored fel dringo, cerdded afon, rafftio dwr gwyn i Lan-llyn. Bu Radio Cymru yn cynnal disgos yn y gwersyll a thrawsnewidiwyd y neuadd ddisgo gyda goleuadau a chyfarpar newydd i roi’r profiad gorau posib i’r gwersyllwyr.

Wrth i’r niferoedd a oedd yn mynychu’r gwersyll gynyddu o hyd, yn enwedig y gwersyllwyr hyn, aethpwyd ati i drefnu bod Canolfan Groeso a oedd yn cynnwys derbynfa, swyddfeydd newydd, theatr ddarlithio, ac ystafelloedd cysgu yn cael eu hadeiladu. Ail wampiwyd y Ganolfan Bowlio 10 gyda pheiriannau a sgriniau newydd, a pha ffordd well o ddangos y ddarpariaeth wych i’r byd na chael cyfres ‘pry ar y wal’ yn ffilmio popeth a oedd yn mynd ymlaen yn y Gwersyll? Agorwyd y Ganolfan Groeso newydd yn 2003 ac yn yr un flwyddyn penodwyd Swyddog Iaith, a chynhaliwyd cyrsiau sgiliau allweddol i ddisgyblion ysgolion uwchradd. Y datblygiad diweddaraf cyffrous yn y Gwersyll yw’r Cwrs Rhaffau uchel sydd wrth fodd y gwersyllwyr a’r staff! Mae cynlluniau ar y gweill i greu llwybrau beiciau a llwybrau troed diogel o’r Gwersyll i Lanuwchllyn. Agorwyd digi lab yn 2005 gyda’r adnoddau cyfrifiadurol diweddaraf. Mae Glan-llyn yn parhau i symud gyda’r oes felly, ac yn plesio gwersyllwyr Cymru yn eu miloedd.

Yr un mor gyffrous yw’r datblygiadau yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog. Mae cynlluniau mawr wedi bod ar y gweill yn Llangrannog dros y ddegawd ddiwethaf. Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mro’r Preseli ym 1995 bu teuluoedd a chystadleuwyr yn aros yn y gwersyll, yn ogystal â chystadleuwyr Rasys Traws Gwlad y Gwledydd Celtaidd. O hynny ymlaen dechreuodd y Gwyliau Teulu ddod yn fwy poblogaidd, a deuai teuluoedd o bob oed i aros yn y gwersyll i gymdeithasu ac i fwynhau’r gweithgareddau amrywiol. Yr oedd y gweithgareddau yn newid ac yn datblygu hefyd. Ar ddiwedd y 90au daeth cwrs rhaffau, gwibgerti yn lle beiciau ffordd, a gweddnewidiwyd y neuadd llafnrolio. Bryd hynny y dechreuwyd ar y cynlluniau i ddatblygu ymhellach ac adeiladu Neuadd Chwaraeon, llety newydd i 150 a Chanolfan Treftadaeth; prosiect a fyddai’n costio £4 miliwn i gyd. Erbyn 2004 gwelwyd y gwersyll ar ei newydd wedd. Crëwyd maes parcio newydd, a llety newydd gyda 34 ystafell en-suite, Canolfan Hamdden a’r cae pob tywydd. Daeth Alun Pugh AC Gweinidog dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon i agor y lle. Mae’r Gwersyll yn hybu chwaraeon hefyd, a dechreuwyd Ysgol Haf Chwaraeon i blant a daeth 170 ar y cwrs cyntaf. Ac erbyn hyn mae hen adeiladau fferm Cefn Cwrt wedi ei haddasu yn Ganolfan Treftadaeth newydd sbon.

O dan ofal Gwersyll yr Urdd Llangrannog mae Canolfan Pentre Ifan, yn Sir Benfro. Mae’r adeilad mewn lleoliad gwledig, prydferth iawn yn agos at arfordir Sir Benfro, trefi Aberteifi ac Abergwaun, a gerllaw cromlech hanesyddol Pentre Ifan. Gellir gwneud gwaith ar fyd natur yno ac mae'r ganolfan wedi ennill gwobr Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig am y gwaith addysgol a wnaed yno.

Un o ddatblygiad mwyaf newydd a chyffrous yr Urdd yw Gwersyll yr Urdd Caerdydd. Mae’r Gwersyll newydd wedi ei leoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd. Mae lle i 150 i gysgu yno mewn ystafelloedd en suite ac mae yno theatr, lolfa, dwy ystafell ddosbarth, neuadd fwyta, a swyddfeydd i staff. Agorwyd y Gwersyll yn Nhachwedd 2004. Mae’r Gwersyll yn cynnig profiadau celfyddydol unigryw a chyfle i aelodau’r Urdd ymweld â holl atyniadau prifddinas Cymru – Stadiwm y Mileniwm, y Cynulliad, Techniquest, Sain Ffagan, Pwll Mawr, Castell Coch, Castell Caerdydd a mwy… mynd i weld sioe, gêm bêl-droed, criced, rygbi, hoci iâ neu fynd i weld ffilm neu i fowlio 10.

Mae pob math o ddatblygiadau a thechnoleg fodern yn galluogi Eisteddfod yr Urdd i roi profiadau bythgofiadwy i’r miloedd sy’n cystadlu ac yn ymweld â’r maes yn flynyddol.  Mae cynnydd wedi bod yn y sefydliadau a'r cwmnïau sy’n cael eu cynrychioli ar y maes ac y mae nifer y stondinwyr yn codi. Mentrodd yr Eisteddfod i bob cwr o Gymru er mwyn hybu Cymreictod, ac i ddenu plant a phobl ifanc o bob cefndir i gystadlu ac i fwynhau’r gweithgareddau. Eisteddfod Sir Islwyn ym 1997 oedd y tro cyntaf i’r Eisteddfod ymweld â’r hen sir Gwent.

Torrwyd tir newydd yn Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan hefyd pan gynhyrchwyd ffilm yn hytrach na sioe gerdd gan ieuenctid y fro. Tyfodd y nifer o ymwelwyr a oedd yn dod i faes yr Eisteddfod i dros 100,000 ar sawl achlysur a chaed atyniadau poblogaidd ar y maes megis gigs gan grwpiau fel Big Leaves, Eden, Diffiniad, a’r Super Furry Animals. Ar droad y ganrif gwelwyd y Cynulliad ar y maes am y tro cyntaf, ac yn 2001, er gorfod gohirio’r Steddfod oherwydd Clwy’r Traed a’r Genau, cynhaliwyd Gwyl yr Urdd, a chafwyd dwy ganolfan un yn y Gogledd ac un yn y De yn uno mewn dathliad a chystadlu. Arloeswyd mewn gwe-ddarlledu a chafwyd gwylwyr mewn gwledydd ar draws y byd. Yn Eisteddfod Môn yn 2004 roedd wal fideo anferth a oedd yn cynnwys 80 sgrîn fel cefnlen yn y Pafiliwn a thomen o weithgareddau llawn hwyl ar y maes ei hun, er enghraifft y tipîs i gynnal gweithgareddau Urddaholics. Yn 2005, am y tro cyntaf daeth yr Eisteddfod i Ganolfan Mileniwm Cymru a llwyfannwyd sioe Les Miserables gan Gwmni Theatr Ieuenctid Genedlaethol Cymru. Mae’r theatr honno yn cael ei hailsefydlu bellach ar gyfer perfformio yn 2009 pan ddaw’r Eisteddfod yn ôl i’r Ganolfan yn y Bae. Yn ystod yr wythnos honno trodd Bae Caerdydd yn bentref celfyddydol am wythnos gyfan.

Erbyn heddiw mae gan yr Urdd dri chylchgrawn poblogaidd sy’n cael eu gwerthu i blant ar hyd ac ar led Cymru. Mae Cip yn cynnwys clecs, erthyglau, posteri, cystadlaethau, posau i siaradwyr Cymraeg dan 12 oed, Bore Da ar gyfer dysgwyr Cymraeg mewn ysgolion cynradd yng nghyfnod allweddol 1 a 2 o’r Cwricwlwm a iaw! ar gyfer dysgwyr uwchradd. Daw taflen athrawon gyda Bore Da ac iaw! i hybu eu defnydd yn y dosbarth hefyd. Cynhyrchir deg rhifyn o Cip, Bore Da ac iaw! yn flynyddol. Yn 1995 penodwyd dylunydd i weithio ar y cylchgronau a gwnaeth hyn lawer i newid diwyg a delwedd y cylchgronau a’u gwneud yn fwy atyniadol i blant heddiw. Trefnir pob math o weithgareddau i ymwneud â’r cylchgronau, a theithiau o amgylch ysgolion. Cyhoeddwyd dau Lyfr Jôcs Cipyn Caws, sef llyfr o jôcs gan ddarllenwyr Cip, ac yn 2002 datblygwyd gwefan cylchgronau. Yng nghanol y 1990au dechreuwyd cystadleuaeth ysgrifennu llythyr Cip gyda chefnogaeth Swyddfa’r Post a Phlaned Plant a brofodd i fod yn llwyddiant ysgubol o’r cychwyn cyntaf, ac yn ffordd wych o annog plant Cymru i ysgrifennu llythyrau yn Gymraeg.

Mae’r Urdd yn rhan o gynllun Bardd Plant Cymru, gyda S4C, Cyngor Llyfrau Cymru a'r Academi yn bartneriaid.  Mae beirdd adnabyddus fel Mei Mac, Ceri Wyn Jones, Tudur Dylan Jones a Mererid Hopwood wedi gwisgo mantell Bardd Plant Cymru, ac yn 2006-2007 penodwyd y Bardd Plant ieuengaf erioed, Gwyneth Glyn.  Bwriad y cynllun yw hybu barddoniaeth Gymraeg ymysg ein hieuenctid, a hynny'n bennaf drwy gyfrwng ymweliadau a gweithdai.

Mae gwaith dyngarol a rhyngwladol yr Urdd yn dal i fod wrth galon ei waith.  Ym 1995, er enghraifft, crëwyd cysylltiad agos ag Unicef wrth ddathlu hanner-canmlwyddiant y Cenhedloedd Unedig. Canolbwyntiwyd ar Mali yng Ngogledd Affrica a chodwyd £10,000 i hybu gwaith Unicef yno. Mae Sul yr Urdd yn parhau hyd heddiw yn ogystal.  Mae ysgol o ardal wahanol bob blwyddyn yn cyhoeddi Neges Ewyllys Da. Yn 2002 darllenwyd Neges Ewyllys Da gan bedwar o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy yn y Senedd Ewropeaidd i 626 o aelodau Ewropeaidd ym Mrwsel ar Ddydd Ewyllys Da, ac yn 2006 darllenwyd y Neges yn y Senedd o flaen y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, ynghyd ag arweinyddion o wledydd eraill. Yn 2005 cyhoeddwyd y Neges gan Ysgol Gyfun Treorci, yr ysgol ail iaith gyntaf i baratoi'r Neges.
 
Dros y blynyddoedd diwethaf mae gwaith dyngarol yr Urdd wedi creu cysylltiadau â Chymorth Cristnogol ac Oxfam ac aethpwyd ati i godi £2,000 tuag at Kosovo ym 1998. Childline a’r NSPCC yw’r elusennau eraill sydd wedi elwa o gyfraniadau gan yr Urdd. Bu aelodau o Urddaholics yn China, Patagonia, Macedonia, Calcutta, Lesotho a Ffrainc yn gwneud gwaith gwirfoddol.  Bu criwiau o ieuenctid yn gweithio mewn cartref plant amddifad yng Ngwlad Pwyl. Cafodd plant o’r cartref gyfle i ddod ar ymweliad â Chymru a fu’n brofiad bythgofiadwy iddynt hwy ac i’r aelodau Urddaholics a fu ynghlwm wrth y cynllun. Yn 2004 croesawyd pobl ifanc o Calcutta i Gymru a chymerasant ran yng ngweithgareddau’r Urdd ledled Cymru ac yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Ynys Môn. Mae sawl grwp wedi teithio i wneud gwaith gwirfoddol yn Romania dros y blynyddoedd diwethaf hefyd.  Yn 2004 cafwyd taith i Lesotho i adeiladu tai bach mewn pentref tlawd yn y wlad.

Mae darpariaeth chwaraeon yr Urdd yn mynd o nerth i nerth. Mae’r ddarpariaeth chwaraeon yn cynnwys cystadlaethau, cyrsiau hyfforddi a Gwyliau Cenedlaethol i bob oedran. Ym 1997 cymrodd dros 10,000 ran yn Chwaraeon yr Urdd. Ceir pedair Gwyl Chwaraeon Genedlaethol, dwy Gala Nofio, a dwy Wyl Athletau. Dechreuwyd cydweithio gyda Chyngor Chwaraeon Cymru yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1999.  Lluniwyd Strategaeth Chwaraeon 2002-2012 a oedd yn anelu at ddyblu’r ddarpariaeth chwaraeon erbyn 2007, a threblu erbyn 2012.

Yn 2001 penodwyd pum swyddog chwaraeon i sicrhau bod y ddarpariaeth o’r safon uchaf posib. Yn y blynyddoedd diwethaf cynhaliwyd yr Wyl Rygbi Uwchradd am y tro cyntaf yn Llanelli gyda 108 o dimau adrannau ar draws Cymru wedi cymryd rhan, a chynhaliwyd y gemau terfynol ar Barc y Strade. Erbyn 2003 yr oedd yr wyl rygbi wedi ei ehangu i ddau ddiwrnod yn Llanelli, ac yn 2004 daeth 135 o dimau i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon. Erbyn hyn mae nifer fawr yn mynychu Ysgol Chwaraeon breswyl dros yr haf yn Llangrannog, a daeth yr Urdd yn ‘Ganolfan Achrededig Safonol’ i redeg cyrsiau Arweinwyr Chwaraeon yn y gymuned. Yn 2005 cynhaliwyd yr Wyl Gymnasteg am y tro cyntaf am ddeuddydd yn Aberystwyth.   Yn 2006 cynhaliwyd y gystadleuaeth Aquathlon genedlaethol gyntaf yn Aberystwyth.

Gwireddwyd breuddwyd Syr Ifan, felly, ac y mae’r Urdd yn mynd o nerth i nerth. O flwyddyn i flwyddyn buddsoddir mwyfwy er mwyn sicrhau fod y mudiad yn parhau i ddenu plant ac ieuenctid i gymdeithasu ac i ddatblygu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
[Nôl i dop y dudalen]

 

Atgofion Cyfarwyddwyr

Dro’n ôl, cytunodd dau o gyn Gyfarwyddwyr yr Urdd, J Cyril Hughes a John Eric Williams, gofnodi eu hatgofion am eu cyfnod wrth lyw Urdd Gobaith Cymru.  Bu Cyril Hughes yn Gyfarwyddwr i 1973 hyd 1982, a John Eric yn ei ddilyn tan 1996.  A hithau yn flwyddyn dathlu pen-blwydd y mudiad yn 90 dyma roi’r gwaith ar y we, gan ddiolch o galon i’r ddau am eu hamser, ac am roi ar gof a chadw dalp o hanes difyr.

[Nôl i dop y dudalen]

 

J Cyril Hughes


Ar 1 Hydref, 1973, y cychwynnais yn swyddogol fel Cyfarwyddwr yr Urdd a bydd crynswth yr hyn a gofnodir yma yn adrodd hanes y cyfnod rhwng hynny a 30 Ebrill, 1982, pan roddais y gorau i’r swydd er mwyn newid cyfeiriad gyrfa. Ond gan fod gwreiddiau a seiliau rhai o’r prif ddigwyddiadau wedi eu gosod mewn blynyddoedd cynt pan roedd gennyf ran amlwg yn y gweithgareddau, ni chedwir yn gaeth at gyfnod fy nghyfarwyddiaeth.

Roedd fy nghysylltiad â’r mudiad yn ymestyn ymhell i’r gorffennol, yn gyntaf fel aelod a swyddog yn Aelwyd Ysbyty Ystwyth a Phontrhydygroes, Ceredigion, ac yna yn Gynorthwywr i R.E. Griffith, Prif Drefnydd/Cyfarwyddwr yr Urdd ac awdur y tair cyfrol fanwl o hanes y mudiad o’i sefydlu yn 1922 hyd at ddathliadau’r hanner canrif yn 1972. Ni fydd yr ymgais hon yn anelu at y fath fanylrwydd ond yn hytrach at osod ar gof a chadw fraslun gweddol eang o’m goruchwyliaeth i.

Medi 1956 hyd ddiwedd Hydref 1964, oedd fy nghyfnod yn cynorthwyo’r Cyfarwyddwr cyn gadael i ymuno â’r BBC yng Nghaerdydd tan ddiwedd Rhagfyr, 1968, a chychwyn yn ðl yn Aberystwyth yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ar Galan Ionawr,1969. Ddechrau Awst 1972 fe’m bedyddiwyd yn Ddarpar Gyfarwyddwr, yn sicr yn yr olyniaeth a ddaeth i’m rhan ar 1 Hydref, 1973.Felly y bu troeon yr yrfa!


Ar 23 Medi, 1973, y cynhaliwyd cynhadledd genedlaethol o dan nawdd yr Urdd yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, fel rhan o’n hymgyrch am Gomisiwn Iaith. Fe adroddir mwy am y saga hon ac am ran Peter Tomas, Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, yn y penderfyniad i sefydlu Cyngor yr Iaith Gymraeg ddiwrnod cyn y gynhadledd a’r modd y rhybuddiwyd ni ar y nos Lun flaenorol am y bwriad a ystyriem ni yn ddi-egwyddor. Ymddangosai chwyldro arall ar y gorwel, sef ad-drefnu llywodraeth leol a arweiniai at ddiflaniad yr hen siroedd a’u holynu gan wyth sir yn unig. Pryderem hefyd am brinder rhaglenni teledu Cymraeg a cheisir yn nes ymlaen dafoli ein cyfraniad i’r ymgyrch am well darpariaeth ac am sianel. Clywir yn aml am ymdrechion clodwiw sefydliadau ac unigolion yng Nghymru dros fwy o urddas i’r Gymraeg ac am wasanaeth darlledu teilwng; hyd yn hyn ni chofnodwyd gweithgarwch yr Urdd yn y cyfeiriad
hwn.


Trannoeth i mi eistedd yn fy nghadair newydd(nid yn llythrennol!) cyhoeddwyd ystadegau brawychus Cyfrifiad 1971 a rhaid oedd ymateb i’r rheiny. Wrth gyplysu’r ddau ddigwyddiad, cyhoeddodd y Western Mail lun ohonof gyda’r pennawd, ‘What a day to start!’. Lliwiodd, a llywiodd, neges ddigalon y Cyfrifiad lawer o’n gweithgarwch am gyfnod. Teg yma yw dwyn ar gof y genhadaeth a gyhoeddwyd ym Medi 1969 yn uchafbwynt i swmp o waith gan Gomisiwn arbennig a sefydlwyd i ymchwilio i fywyd a gwaith yr Urdd dair mlynedd ynghynt. Yn dilyn ystyriaeth lawn o’r adroddiad cyhoeddodd Cyngor yr Urdd y datganiad canlynol:

Mudiad ieuenctid gwladgarol yw Urdd Gobaith Cymru, wedi ei seilio ar y ddelfryd o wasanaeth i Gymru, i gyd-ddyn ac i Grist. Nod y mudiad yw ysbrydoli ieuenctid Cymru, yn Gymry Cymraeg a di-Gymraeg, i ymfalchio yn eu hetifeddiaeth, i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a bywyd y genedl Gymreig, i wasanaethu eu cyd-ddyn ym mhob rhan o’r byd-ac i wneud y cyfan mewn ysbryd Cristnogol.

Dylid edrych ar ymgyrchoedd gwladgarol a chymdeithasol yr Urdd yng ngoleuni’r datganiad allweddol hwn. Un o’r rheini oedd Urdd 74 y cyfeirir ati yn nes ymlaen.


Yn gadarn ar y gweill yr adeg hon roed trefniadau Eisteddfodau Cenedlaethol Y Rhyl a Llanelli ac mae’n siwr ein bod yn llygadu Porthaethwy ar gyfer 1976. Mae’n dilyn bod trefniadau’r gwersylloedd a chant a mil o ddigwyddiadau eraill yn hawlio sylw ac amser a bod gwir angen cadw llygad barcud ar y ceiniogau prin.

 


Comisiwn Brenhinol Sefydlog

“Bu gan yr Urdd ran go amlwg yn ffurfiad Cyngor yr Iaith Gymraeg.”[Golygyddol Baner ac Amserau Cymru]

Yn y drydedd gyfrol o hanes yr Urdd cofnoda R E Griffith benderfyniad Cyngor a Phwyllgor Gwaith y mudiad yn 1970 i ohebu â Peter Thomas, A.S., Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y Llywodraeth Doriaidd, yn gofyn iddo ystyried sefydlu corff arbennig, sef math o Gomisiwn Brenhinol sefydlog, i warchod buddiannau’r Gymraeg a’r diwylliant a berthynai iddi trwy bob dull posibl. Nid Cyngor ymgynghorol oedd gennym mewn golwg, eithr corff yn meddu ar yr hawl i weithredu a chyda’r adnoddau ariannol angenrheidiol.

Mae’n amlwg na chododd y cais rhyw lawer o gerdded na gweithredu yng nghoridorau grym. Hwyrach na wawriodd ar y gwleidyddion na’r gweision sifil y byddai mudiad ‘parchus’ fel Urdd Gobaith Cymru a oedd yn ddibynnol i raddau helaeth ar gymorth a chefnogaeth gan lywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus yn dal at y syniad fel ci at asgwrn.

Beth bynnag am hynny, dal ati a wnaethom. Wrth ysgrifennu Colofn yr Urdd yn Y Cymro yn Ionawr 1972 gofynnais.”Pam fod yn rhaid brwydro ac ymgyrchu am barch i’r iaith? Pam ei bod yn ofynnol torri cyfraith, mynd i garchar a chreu rhwyg rhwng Cymro a Chymro wrth geisio datblygiadau cymedrol a naturiol?. Dydy’r rhain i gyd yn ddim ond hawliau elfennol cenedl wareiddiedig.”

Eglurwyd ymhellach mai ein hawydd oedd osgoi brwydrau a allai greu atgasedd a môr o wrthwynebiad i’r iaith a’i charedigion selocaf. Ein gobaith oedd gweld gosod yr iaith yn gadarn ar ei gorsedd, a dyna pam y pwysodd Cyngor yr Urdd ar yr Ysgrifennydd Gwladol. “Yr hyn y gofynnwyd amdano oedd corff parhaol i ddiogelu buddiannau’r iaith Gymraeg, a bywyd diwylliadol y genedl ymyn yn gyffredinol. Ni welwyd unrhyw ddatblygiadau hyd yn hyn.” Teimlid yn gryf fod mater yr iaith yn un mwy sylfaenol na thaflenni Cymraeg, disgiau treth dwyieithog, arwyddion ffyrdd ac ati, er pwysiced y rheiny, ac mae’r ateb oedd sefydlu peirianwaith a fyddai’n gyfrifol am arolygu pob defnydd o’r iaith ym mywyd cyhoeddus y genedl.”Nid unrhyw fath o Gyngor ymgynghorol y gofynnwyd amdano, ond yn hytrach Gomisiwn yn meddu ar ddannedd ac wedi ei wneud yn gyfrifol am ddiogelu, nid yn unig yr iaith Gymraeg, ond hefyd fywyd diwylliadol y genedl yn ei amryfal agweddau.”
Wedi cyfeirio at alwadau tebyg gan nifer o wleidyddion blaenllaw, dadleuwyd y byddai sefydlu Comisiwn yn brawf o awydd y Llywodraeth i godi’r Gymraeg uwchben cynnen a dadl. O edrych yn ôl, mae’n amlwg ein bod yn dechrau colli amynedd ac yn arwain ymgyrch i gynyddu’r pwysau ar Peter Thomas. Gwnaethpwyd hyn nid yn unig trwy ddatganiadau i’r cyfryngau a llythyru â’r Swyddfa Gymreig ond hefyd trwy gymryd rhan mewn nifer o raglenni radio a theledu Cymraeg. Ni chofiaf i’r darlledwyr Saesneg eu cyfrwng ddangos diddordeb ysol yn ein hachos. Gobeithio y daw’r cyfle rywbryd i graffu ar y rhaglenni hyn, gyda chaniatad yr awdurdodau priodol, a chymryd eu bod yn parhau yn eu harchifau.

Mewn golygyddol ym Medi 1972, roedd Baner ac Amserau Cymru yn ddigyfaddawd gefnogol. “Ni newidir iod ar agwedd y glweidyddion tuag at iaith a llenyddiaeth Gymraeg nes bod y gwylwyr sydd ar y twr yn fwy effro ac yn pwyso’n daerach am gyfiawnder i’r lleiafrif Cymraeg. Rhaid galw’n groch am sefydlu bwrdd cenedlaethol i ofalu am yr iaith Gymraeg, a gorchwyl y bwrdd hwnnw fyddai noddi a hybu ym mhob rhyw fodd bopwth a rôi anadle einioes i’n hiaith a’n diwylliant a’n llenyddiaeth.”

O graffu ar adroddiad, eto yn Y Faner ym Mawrth 1973, fe welir llygedyn o obaith. Teimla’r gohebydd fod argoelion o’r diwedd bod Yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried o ddifri gynllun i sefydlu comisiwn i warchod y Gymraeg a’n diwylliant. Awgryma ymhellach y dylai sefydliad o’r fath, ymhlith pethau eraill, ariannu’r bedwaredd sianel yng Nghymru a hybu Dysgwyr.Mae hefyd yn codi sgwarnog newydd, sef y cynhyrfid y di-Gymraeg i hybu’r iaith Saesneg trwy bwyso am nawdd cyfatebol i’r iaith honno.

Erbyn Pasg 1973 roedd trefniadau Cynhadledd Genedlaethol, i’w chynnal yng Nghaerdydd ganol Medi, yn gadarn ar y gweill a’r ymgyrch gyhoeddusrwydd o blaid Comisiwn yn parhau. Yn hanesyddol, byddem yn trefnu cynhadledd i’r wasg a thipyn o luniaeth ysgafn i newyddiadurwyr yr holl gyfryngau cyhoeddusrwydd ar y prynhawn cyn i’r cystadlu llwyfan gychwyn yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Trefniant a groesawyd yn fawr gan yr helgwn, nid yn unig am y bwyd ond am y cyfle i glywed y newyddion diweddara’r hyn a arfaethid weddill yr wythnos. Cyfanswm y gronfa, diffyg baneri yn nhre’r Eisteddfod, anhawster llety neu unrhyw fater arall a gynigiai ei hun i ambell newyddiadurwr mwy craff neu fusneslyd na’i gilydd oedd yr agenda gyson, a braidd yn ddiflas ar brydiau. Teimlwn ers tro bod galw am fwy o gig ar yr asgwrn os am sylw teilwng i’r mudiad. Gallai hefyd fod yn gyfrwng i rwystro ambell sgriblwr crintachlyd rhag codi crachen.

Te’r wasg oedd y lle delfrydol i dorri’r newyddion am Gynhadledd y Comisiwn. Penderfyniad a dalodd ar ei ganfed ym Mhontypridd. Cyhoeddwyd Syr Ben Bowen Thomas yn gadeirydd a chrybwyllwyd enwau Syr Goronwy Daniel ac R Alun Evans i fod ymhlith y siaradwyr o’r llwyfan. Pwysleisiais mai dim ond mudiad anwleidyddol fel yr Urdd oedd yn ddigon uchel ei barch i fedru galw cynhadledd genedlaethol o’r math yma. Datgelwyd yn ddiweddarach y byddai Arglwydd Faer Caerdydd yn estyn croeso dinesig i gynrychiolwyr awdurdodau, sefydliadau a mudiadau Cymru, Aelodau Seneddol a nifer o unigolion a ymddiddorai yn y pwnc. Anfonid y gwahoddiadau swyddogol yn enw Lady Edwards (Llywydd) ac R.E.Griffith (Cyfarwyddwr). Y gynhadledd fyddai ymddangosiad cenedlaethol olaf R.E. cyn ymddeol ddiwedd Medi.

At ei gilydd, derbyniad ffafriol fu i’r cyhoeddiad er y rhagwelai ambell un anhawster a diau y coleddid y teimlad mewn ambell galon fod y symudiad yn enghraifft arall eto o natur sefydliadol yr Urdd. Diddorol oedd ymateb Arfon Gwilym ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a oedd yn croesawu’r syniad ond yn amau, fel eraill, a ellid codi’r iaith o’r talwrn gwleidyddol. Cwbl annisgwyl oedd sylweddoli i’r South Wales Evening Post neilltuo golygyddol cyfan i’r cyhoeddiad gan briodoli holl ddoethineb Solomon i mi gan fynegi, o’i gyfieithu, fy mod, trwy gymell un sefydliad penodedig i achub y Gymraeg yn torri ar draws y wleidyddiaeth ynghlwm wrth ymdrechion nifer o wahanol sefydliadau.. “Mae llawer i’w ddweud dros syniad Mr Hughes o un prosiect wedi ei gynllunio’n fanwl yn cael ei weinyddu a’i gyfarwyddo gan sefydliad megis Cyngor yr Iaith Gymraeg.” Hwyrach mai dyma’r derbyniad mwyaf cefnogol a di-gym-rodedd a gafwyd o unrhyw gyfeiriad.

Danfonwyd gwahoddiadau i’r gwahanol sefydliadau a chael arwyddion pendant iawn o awydd i fod yn bresennol ac i gefnogi.Cwblhawyd yr holl drefniadau mewn da bryd gan ddyfalu beth fyddai ymateb y Llywodraeth Doriaidd trwy’r Swyddfa Gymreig a Peter Thomas, yr Ysgrifennydd Gwladol. A gaem ein Comisiwn Brenhinol? A fyddai llywodraeth yn ildio i bwysau gan fudiad gwirfoddol? Os sefydlid corff perthnasol, pa fath o anifail fyddai? Gyda dannedd? Gweithredol neu ymgynghorol? Gydag adnoddau ariannol, neu cyn dloted â llygoden eglwys?

Daeth yr ateb i rai o’r cwestiynau yn sydyn ac annisgwyl.

Roedd y dydd Llun cyn y gynhadledd yn un eithriadol o brysur yn fy achos i. Ben bore, troi am Gaerdydd i recordio rhaglen i drafod y Gynhadledd o dan gadeiryddiaeth Gwyn Erfyl (ni chofiaf pwy arall oedd yn y stiwdio), a rhuthro nôl i Aberystwyth i gyfarfod o Bwyllgor Gwaith yr Urdd i gadarnhau yr holl fanylion munud olaf. Wrth baratoi i fwynhau swper hamddenol wedi diwrnod reit hir ac amrywiol dyma’r ffôn yn canu. R Alun Evans oedd yno â’i wynt yn ei ddwrn i ddatgelu iddo dderbyn galwad gan un o weision sifil y Swyddfa Gymreig, sydd bellach wedi ein gadael. Byrdwn neges y gwas hwnnw oedd y bwriadai Peter Thomas gyhoeddi, ar y dydd Gwener bedair awr ar hugain cyn ein cynhadledd, ei fod yn bwriadu sefydlu math ar Gyngor yr Iaith.

Cyfuniad o’r newyddiadurwr a chyflwynydd Heddiw ar BBC Cymru, a’r cyfaill i’r Urdd ac un o siaradwyr llwyfan, oedd yn cynhyrfu Alun. Hon fyddai sgwp y flwyddyn! Codi’r ffôn at R E Griffith oedd y gorchwyl nesaf a gallwn ddychmygu ei wyneb yn cochi a mwg y sigaret yn codi’n gymylau i’r awyr os oedd yn digwydd cael mwgyn y foment honno. Maes o law fe gyrhaeddodd y si i swyddfeydd papurau newydd a gorsafoedd teledu a diau i’r Ysgrifennydd Gwladol deimlo dan dipyn o warchae.

“Wales gets permanent Language Commission. Timing of announcement angers Urdd chief”(Roedd ‘Urdd chief’ yn un o hoff ddisgrifiadau’r papur o Gyfarwyddwr yr Urdd) oedd pennawd tudalen flaen y Western Mail. Galwodd R.E. Griffith y cyhoeddiad yn ‘grotesque’ gan ddweud “ I hope it isn’t an attempt to spike our guns.” Datganodd Syr Ben Bowen Thomas ei fod wrth ei fodd ac mai dyma’r union beth oedd ei angen. Gofynnodd William Edwards, Aelod Seneddol Meirionnydd ar yr Urdd i ymateb yn raslon. Teg dweud nad Mr Edwards oedd ein cefnogwr selocaf yng nghoridorau grym!


Mewn cynhadledd i’r wasg ar y dydd Gwener ceisiodd Peter Thomas achub ei groen a chyfiawnhau yr hyn a ymddangosai i bawb arall fel gweithred annheilwng ac anegwyddorol.Mewn datganiad rhyfeddol iawn mynnodd ei bod allan o’r cwestiwn i beidio â gwneud y cyhoeddiad cyn Cynhadledd yr Urdd ac yntau wedi gwneud ei benderfyniad. Byddai wedi gwneud y cyhoeddiad ar y dydd Mawrth onibai am ymrwymiad arall a phenderfynodd ar Gyngor yn hytrach na Chomisiwn gan mai sefydliadau dros dro ydy rheiny gan amlaf.Estyn cic i nyth cacwn fyddai rhoddi’r hawl i’r Cyngor ddosbarthu arian gan brofi nad proffwyd mohono! Wrth drafod cylch gwaith y Cyngor, pwysleisiodd mai hyrwyddo dealltwriaeth a chydweithrediad ynglyn â defnyddio’r iaith a chynghori’r Ysgrifennydd Gwladol a fyddai. “Yn ei hanfod, perswadio fydd tasg y Cyngor...gan na ellir gwthio iaith ar bobl.”

Nid dyma’r lle i fanylu ymhellach. Digon yw dweud i’r Gynhadledd fod yn llwyddiant a bod beirniadu llym ar weithred Peter Thomas. Gwelwyd bai mawr arno am geisio tanseilio a mynd â’r gwynt o hwyliau mudiad gwirfoddol a arweiniodd ac a gydlynodd yr ymgyrch. Roedd hyn wedi golygu gwaith a chost i’r Urdd. Datganodd R Alun Rvans yn groyw mai “chwarae â gwleidyddiaeth plaid ar ei mwyaf naif” a wnaeth Peter Thomas, ond apeliodd I B Griffith am i bawb beidio ffraeo am flwyddyn. Mynnai Elystan Morgan, A.S., fod sefydlu’r Cyngor yn un o’r achosion prin hynny lle’r oedd awdurdod yn edrych ar sefyllfa’r iaith yn ei chyfanrwydd. Awgrymodd y Cadeirydd, Syr Ben Bowen Thomas, y dylid anfon crynhoad o’r sylwadau at yr Ysgrifennydd Gwladol. Dyna a wnaed.

Pasiwyd y Penderfyniad a ganlyn:
Bod y Gynhadledd Genedlaethol hon yn croesawu penderfyniad Llywodraeth ei Mawrhydi i sefydlu Cyngor yr Iaith Gymraeg. Er mwyn sicrhau pobl Cymru y gweithredir yn gyflym ac effeithiol fesurau er hyrwyddo buddiannau’r iaith Gymraeg, gofynna’r Gynhadledd:
1) y cyfansoddir y Cyngor yn y fath fodd fel y byddo iddo ennill ymddiriedaeth pob carfan o farn yng Nghymru, yn enwedig eiddo’r genhedlaeth iau;
2) Y bydd iddo yn ebrwydd sefydlu sylfaen dda o gydweithrediad â sefydliadau a muduadau eraill yr ymddiriedwyd iddynt gyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg; ac
3) Y rhodder iddo adnoddau ariannol digonol at ei waith.

Cyhoeddwyd mai Ben G.Jones fyddai‘r Cadeirydd a beirniadwyd ei benodiad gan y Blaid Lafur am mai yn Llundain yr oedd yn byw a bum innau’n ddigon hy i ddweud y dylai deilydd swydd mor allweddol drigo yng Nghymru. Pan ddatgelwyd enwau’r aelodau, roedd yn galondid i bawb o fewn y mudiad weld enwau R.E.Griffith ac Emyr Currie-Jones yn eu plith. Roedd Emyr yn gyfaill triw ac yn gweithredu fel cyfreithiwr mygedol yr Urdd.

Fel y crybwyllwyd eisoes, nid dyma’r lle i dreiddio ymhellach i hanes y Cyngor, ond mae gwir angen gwneud. Deil ambell gwestiwn i’m poeni hyd yn oed yn awr. Pam y gweithredodd Peter Thomas fel y gwnaeth? A oedd rhai o aelodau’r ‘sefydliad’ a oedd mor gefnogol ac yn barod i ymddangos ar lwyfan y Gynhadledd eisoes yn gwybod am, ac yn wir wedi dylanwadu ar, y penderfyniad ymlaen llaw ac mai ni o fewn yr Urdd oedd yr unig rai yn y tywyllwch. Pam na estynnodd y Llywodraeth Lafur a John Morris, yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, einioes y Cyngor, yn enwedig o gofio am gefnogaeth John ei hun i’n hymgyrch? A aberthwyd y Cyngor er mwyn canolbwyntio ar ymgyrch ddatganoli aflwyddiannus 1979?

Ar waethaf pob ansicrwydd, mai un peth yn gwbl glir; Urdd Gobaith Cymru arweiniodd ac a gyfarwyddodd yr ymgyrch i sefydlu Cyngor yr Iaith Gymraeg yn 1973. Teg hefyd yw ceisio dyfalu a fyddai gennym y Bwrdd yr Iaith Gymraeg presennol onibai am waith clodwiw yr Urdd. Cofier mai nid pawb o selogion yr iaith oedd yn frwdfrydig o’n plaid a chefais y teimlad mai gwell gan ambell un oedd brwydro yn erbyn yr awdurdodau yn hytrach na cheisio codi ein trysor pennaf fel cenedl o’r pydew gwleidyddol.

 


R E GRIFFITH

Cyfeiriwyd eisoes at ymddeoliad R.E.Griffith o swydd Cyfarwyddwr yr Urdd ddiwedd Medi 1973 yn dilyn 41 mlynedd o wasanaeth ymroddedig a diflino na ellid mesur ei wir werth na’i gyfraniad i fywyd Cymru. Dim ond dyfalu a fedrwn beth fyddai hanes a thynged y mudiad heb ei ddwylo cadarn ef ar gyrn yr aradr. Roedd yn rhaid wrth weinyddwr a gweledydd o galibr go arbennig i droi breuddwyd Ifan ab Owen Edwards yn ffaith. R.E.Griffith oedd hwnnw.

Trist meddwl mai ychydig dros ddwy flynedd o hamdden a ddaeth i’w ran wedi oes o brysurdeb a chryn dipyn o aberth ar ei ran ef ac ar ran ei briod, Olwen.

Roedd Prys Edwards a finne wedi derbyn gwahoddiad i drafodaethau ym mhencadlys y Farchnad Gyffredin, fel yr adnabyddwyd yr Undeb Ewropeaidd ar y pryd, ddiwedd Tachwedd 1975. Yn ystod cyfarfod yn swyddfa Aneurin Rhys Hughes, Cymro Cymraeg o argyhoeddiad ac un o uchel swyddogion y sefydliad ym Mrwsel, daeth galwad ffôn gan Gwilym Charles Williams o Swyddfa’r Urdd yn Aberystwyth. Byrdwn neges ysgytwol Gwilym oedd i R E gael ei gludo i Ysbyty Aberystwyth lle y bu farw o drawiad ar y galon yn 64 oed. Afraid dweud i’r fath newydd cwbl annisgwyl daflu cwmwl dros ein sgyrsiau ond cytunwyd mai dymuniad gwrthrych ein tristwch fyddai i ni barhau. Dyna a wnaed.

Wedi dychwelyd y noson honno, sylweddolwyd fod y teyrngedau yn niferus a chynnes a gofynnwyd i finnau wneud fy rhan ar raglen Good Morning Wales y bore canlynol. Cyrhaeddais y stiwdio gan ddisgwyl cael fy holi gan Vincent Kane a’m synnu pan ofynnwyd i mi dalu teyrnged ffurfiol. Bu un gwrandawr o leiaf yn ddigon caredig i dystio iddo werthfawrogi fy ymdrech fyrfyfyr. Yn ei theyrnged gynnes hi dywedodd Lady Edwards, Llywydd yr Urdd, mai ‘ffyddlondeb’oedd y gair i grynhoi holl rinweddau’r cyn-Gyfarwyddwr y bu hi a Syr Ifan yn cydweithio ag ef dros gyfnod mor faith.

Gofynnodd Gwilym R.Jones, Golygydd Y Faner, i fi am deyrnged a hawliai le amlwg ar dudalen flaen y papur wythnosol.Dyma ddetholiad o’r deyrnged honno:

“Tynnwn y llen ar y gorffennol, a boed i fudiad rhyfeddol Ifan ab Owen Edwards orymdeithio’n ffyddiog i’r dyfodol heb golli dim o’i afiaith, na’i obaith na’i lawenydd.”

“Gyda’r geiriau uchod y cwblhaodd R.E.Griffith y gwaith mawr o groniclo hanes Urdd Gobaith Cymru o’i sefydlu ar Ddydd Calan 1922 hyd at ddiwedd dathliadau’r hanner canmlwyddiant yn 1972. Dyma’r her i bawb ohonom ninnau’n awr, dyna’r coffad y dymunai ef ei gael:byddwn yn gwbl annheilwng o un o Gymry mawr y ganrif hon oni roddwn bob gewyn ar waith i weld fod yr Urdd, y mudiad y rhoddodd ef 41 mlynedd o’i oes iddo, yn parhau’n afieithus obeithiol a llawen Mae’n gwbl naturiol i ni, ei gyfeillion, deimlo tristwch a gwacter o’i golli mor ddisyfyd. Rhaid llawenhau ar yr un pryd am i ni gael mwynhau ei gwmni, dysgu wrth ei draed a mabwysiadu rhywfaint o’i gadernid ar fater o egwyddor a’i ddull dadansoddol o wynebu problem.

“Fe wyddai am y daith i Frwsel, a’i phwrpas a byddai wedi bod wrth ei fodd yn clywed yr hanes a byddai’r wen gynnes, barod a ddeuai mor naturiol iddo wedi lledu dros ei wyneb wrth glywed am ambell ddigwyddiad neu sefyllfa ddigri. Siawns hefyd na fyddai ganddo sylw bachog a chlyfar i goroni’r cyfan, oherwydd ‘roedd R.E.’n feistr ar y gair mwys a’r jôc drawiadol.

“Bu dyddiaduron a llythyrau Tomos Bifan yn gyfrwng mwynhad a difyrrwch i ddarllenwyr y cylchgrawn Yr Aelwyd
am flynyddoedd lawer. Medrai Tomos Bifan grafu a phigo mewn ffordd ysgafn ond cwbl effeithiol.

“Nid catalog o orchestion fydd y deyrnged hon; gwyr y sawl a wyr unrhyw beth am ein Cymru ni am gyfraniad hyglod R.E. yn rhinwedd ei swydd... Gosododd ei ddelw’n drwm ar Eisteddfod Genedlaethol y Mudiad, ar drefniadau’r gwersylloedd...ar y Neges Ewyllys Da a phob trefniant arall o eiddo’r mudiad.’Roedd yn berffeithydd o weinyddwr, yn weithiwr anhygoel o ddiwyd a chydwybodol, yn bennaeth cadarn ond hynaws ar ei staff ac yn ddyn pwyllog gyda’r craffaf a’r mwyaf effeithiol a welais erioed.

“Fe’i hedmygwn bob amser am ei deyrngarwch i’w staff beth bynnag fyddai’r achlysur...A phan ddeuai achos i geryddu neu ddisgyblu gweithiwr cyflogedig fe wnai hynny heb flewyn ar dafod ond eto’n gwbl deg a chyson. Nid gwaith hawdd bob amser yw bod yn was i bwyllgor ar yr un llaw ac yn feistr ar y llaw arall. Mae’r ffaith iddo lwyddo i’r fath raddau yn fesur o’i unplygrwydd a’i ddyn oliaeth fawr.

“Doedd e ddim heb ei feirniaid, a bu o leiaf un achlysur pan nad oedd ef a chorff llywodraethol y mudiad yn cydweld ar fater sylfaenol. Ond, wedi i’r dadlau orffen nid oedd yn ei natur i ddal dig. Seiliai ei farn a’i weithredoedd ar yr hyn a dybiai ef oedd orau er lles aelodau ac arweinyddion yr Urdd. Nid pawb a gytunai â’i ddadansoddiad a’i athroniaeth ond ni fedrai ei wrthwynebwyr pennaf amau gonestrwydd ei farn na grym ei argyhoeddiad. O dan rym argyhooeddiad yr oedd , ar brydiau, yn rhoi’r argraff ei fod yn unbenaethol yn ei awydd i weld gweithredu’r penderfyniad y credai’n ddisigl ynddo. Siawns na chytunai ei gyfeillion gorau mai gwir hyn tra’n dadlau ar yr un pryd fod hyn yn arwydd o’r cadernid a’r rhuddin sydd yn ei osod ymhlith mawrion ei gyfnod.

“Nid pawb a fedrai amgyffred ei ymlyniad i’r Gymraeg, a hwyrach mai arno ef yr oedd y bai am hyn. Fe wn i o brofiad am rym ei ddadleuon ar lafar ac ar bapur wrth bledio achos ei famiaith gerbron pwyllgorau ac awdurdodau a feddai fwy o rym nag o ddeallusrwydd a chydymdeimlad, yn amlach na pheidio. Gyda’i Saesneg rhugl a graenus, ei feddwl craff a’i allu i osod ei achos yn glir a rhesymegol, doedd R.E. Griffith ddim yn wrthwynebwr hawdd i’w drechu

“Bydd Cymru’n dlotach, bydd bwlch ar aelwyd gynnes Y Gelli lle’r oedd ef ac Olwen mor siriol a pharod eu croeso.

“Yn bersonol, fe wela i golli y wên gynnes, y seiadau uwchben cwpanaid o de yn Swyddfa’r Urdd, y cyngor parod a’r cyffyrddiadau Tomos Bifanaidd a frithai sgwrs a thrafodaeth. Coffa da hefyd am y sgwrsio difyr ar deithiau pell yn blygeiniol y bore a hwyr y nos...rhaid i’r person cyflawn wrth synnwyr digrifwch, argyhoeddiad di-sigl, yr awydd i weithio’n ddiwyd i gynnal gwerthoedd gorau’r Cristion, a chalon gynnes, agored. Cynysgaeddwyd R.E.’n helaeth â’r rhain i gyd. Enillodd edmygedd a pharch ei gyd-weithwyr. Rhyfyg fyddai i’r sawl na chafodd y fraint o’i adnabod yn iawn eistedd mewn barn.

“Ni chollodd ef, fwy na’r mudiad a wasanaethodd mor ardderchog, un gronyn o afiaith a gobaith na llawenydd ar daith bywyd. Ymwregyswn ac ymgysegrwn i wasanaethu Cymru, cyd-ddyn a Christ; dyna’r gofgolofn a ddymunai’r llanc o Abercynon a sefydlodd gangen gynta’r Urdd yn y De, ac a lywiodd y mudiad hwnnw am dros ddeugain mlynedd.”

Canu’n Iach

Un o ddyletswyddau olaf y Cyfarwyddwr oedd llunio ei adroddiad i Adroddiad Blynyddol 1972-1973 a dyma’r paragraff olaf yn y llyfryn hwnnw o dan y pennawd a welir uchod:
Roedd 1972 yn ddiwedd cyfnod yn hanes yr Urdd. Daeth i ben yn y bwrlwm hapus o ddathlu y cefais y fraint o’i gyfarwyddo; ac at hynny daeth i mi y cyfle i sgrifennu hanes y mudiad a chodi cronfa o arian i’w hybu ymlaen i’r cyfnod newydd. Diolch i ras Rhagluniaeth, gorffennwyd y tasgau hyn yn weddol gymen a phrydlon, ac wedi deugain ac un o flynyddoedd yng ngwasanaeth yr Urdd fe ddaeth y dydd i mi dynnu’r gwys i ben y dalar. Yn wir, cyn yr ymddengys y geiriau hyn byddaf wedi gollwng awenau’r Cyfarwyddwr i ddwylo medrus fy olynydd. Iddo ef, ac i’w dîm newydd o swyddogion a staff ifanc, dymunaf fendith a llwyddiant helaeth. Ac yng ngeiriau olaf trydedd gyfrol yr hanes – ‘Boed i fudiad rhyfeddol Ifan ab Owen Edwards orymdeithio’n ffyddiog i’r dyfodol – heb golli dim o’i afiaith, na’i obaith, na’i lawenydd.”

GWENNANT DAVIES (GILLESPIE bellach)

Roedd tymor hydref 1973 yn ddiwedd cyfnod am fwy nag un rheswm. Ffarweliwyd nid yn unig â Chyfarwyddwr a osododd ei stamp ar yr Urdd ond â Gwennant Davies hefyd.

Yn enedigol o Sir Gaerfyrddin, bu’n athrawes yn Ysgol Sir Aberteifi ac yn un o wirfoddolwyr selocaf yr Urdd cyn symud i Aberystwyth ar ddechrau gaeaf 1943 i swydd Warden Clwb yr Urdd. Buan iawn y sylweddolwyd ei bod yn meddu ar dalentau a chymwysterau y byddai’n fuddiol i’r mudiad yn ganolog fanteisio arnynt. Yn ychwanegol at ei gwybodaeth am Wasanaeth Ieuenctid y Llywodraeth a gychwynnodd yn 1940, roedd ei phrofiad fel athrawes ac arweinydd ieuenctid ynghyd â’i gallu gweinyddol yn ei gwneud yn aelod gwerthfawr o’r staff ganolog.

Erbyn 1946 roedd yn Ddirprwy Brif Drefnydd ac yn dwyn llawer o faich y gwersylloedd, cynlluniau hyfforddi a materion cydwladol. Datblygiad naturiol oedd ei phenodi yn Bennaeth Adran Gwersylloedd, Hyfforddi a Materion Cydwladol a Chrefyddol. Fe’i cysylltir â Gwersyll Cydwladol a Gwersyll Celtaidd yr Urdd ym Mhantyfedwen a Gwersylloedd Glan-llyn, Llangrannog, Caernarfon, Cricieth ac Aberystwyth.

Arloesodd ddawnsio gwerin mewn twmpathau dawns, datblygiad a arweiniodd yn naturiol at sefydlu’r Wyl Werin. Ychwaneger at hyn y Neges Ewyllys Da, Cynllun Medr a Menter a’r Comisiwn ar Fywyd a Gwaith yr Urdd. Tua diwedd y chwedegau, cafodd gymorth trefnwyr eraill ac fe’i dyrchafwyd yn Bennaeth yr Adran Weinyddol.

Yn goron ar 30 mlynedd o wasaneth cwbl ymroddedig fe ymgymerodd â’r dasg enfawr o grynhoi y tair cyfrol o hanes yr Urdd gan R.E. Griffith yn un gyfrol Saesneg.
Afraid dweud iddi adael bwlch enfawr ar ei hôl pan ymddeolodd a bu’n rhaid i’r ‘bugeiliaid newydd’ dorchi llewys i barhau’r gwaith.

EISTEDDFODAU CENEDLAETHOL

Fe wneir y sylw o dro i dro bod yr Urdd yn gosod gormod o bwyslais ar y gyfundrefn eisteddfodol ar draul agweddau pwysig eraill o waith ieuenctid. Beirniadaeth arall yn fy nghyfnod i oedd fod trwch yr Adrannau a’r Aelwydydd yn bodoli i waith eisteddfod yn unig. Rhaid derbyn fod elfen gref o wirionedd yn yr haeriadau hynny ar y pryd, beth bynnag yw’r sefyllfa mewn canrif a chyfnod newydd.

Er cadw hyn mewn cof, ni ellir gwadu cyfraniad cyfoethog y mudiad o 1929 ymlaen trwy gyfrwng yr wyl ddiwylliannol ddylanwadol hon. Gellir yn hawdd restru rhai o’i chymwynasau pwysicaf: lledu gorwelion cystadleuwyr a chefnogwyr yn sgîl y rhestr testunau a’r teithio i wahanol rannau o Gymru; dysgu colli ac ennill; meithrin cyfeillgarwch; agor y drws i lenyddiaeth a barddoniaeth; meithrin dawn lenyddol a chelfyddydol; profi i Ddysgwyr o’r ardaloedd Seisnig fod y Gymraeg yn iaith fyw a chyfoethog. O safbwynt yr Urdd, dyma’r cyfrwng cyhoeddusrwydd a chyfathrebu grymusaf y gellid breuddwydio amdano gyda’r holl sylw yn y wasg, y radio a’r teledu. Heddiw, wrth reswm, mae cyfryngau eraill sydd at ddant yr ifanc yn cryfhau’r agwedd hon.

Ceisiaf grynhoi a dwyn ar gof yr Eisteddfodau Cenedlaethol a gynhaliwyd yn ystod fy nghyfarwyddiaeth i. Daw’n amlwg i ambell brifwyl fod yn llai neu mwy cofiadwy na’i gilydd!

Eisteddfod y Rhyl 1974

Dros y blynyddoedd bu prifwyl yr Urdd yn wyl tridiau o gystadlu llwyfan er bod agoriad yr Arddangosfa Gelfyddyd a Chrefft yn rhan o batrwm y prynhawn Mercher. Gan gychwyn yn Nolgellau yn 1960, gwahoddwyd gohebwyr y wasg ysgrifenedig a’r cyfryngau darlledu i de fel rhan o’r gynhadledd newyddion. Achlysur a werthfawrogid yn fawr gan un ac oll er iddynt orfod cyrraedd ddiwrnod ynghynt. Yn y Rhyl, fodd bynnag, torrwyd tir newydd trwy ehangu’r cystadlu llwyfan i bedwar diwrnod, o fore Mercher hyd brynhawn Sadwrn.

Ymddangosai hyn yn dipyn o wyrth i’r rhai ohonom a glywodd am y cyfnod pan geid anhawster i lenwi’r dydd Gwener gyda chystadleuwyr o’r ysgolion uwchradd. Arbrawf arall oedd cynnal gornestau terfynol y Cystadlaethau Chwaraeon Cenedlaethol, ac eithrio Cwpan Pantyfedwen, yn ystod yr wyl.Bu’r ddau ddatblygiad yn llwyddiant.

Ymhlith yr atgofion eraill y mae’r tywydd braf; safon arbennig o uchel y cyngherddau; brwdfrydedd y gweithwyr lleol; cefnogaeth y Pwyllgor Addysg a’i Swyddogion; a’r modd y gwelwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn tyfu’n wyl eang ei hapêl. Y plant a’r bobl ifanc a osododd eu delwedd ar yr Eisteddfod hon, a dyna pam y cofiwn amdani fel gwyl gartrefol, gynnes.

Pan wnaed cyfrif terfynol y marciau ar y prynhawn Sadwrn fe welwyd mai Sir fflint oedd ar y brig gyda 729; Gorllewin Morgannwg yn ail a Dwyrain Morgannwg yn drydedd. Tipyn o glod i’r siroedd diwydiannol a phrinnach eu Cymraeg na rhai o’r gweddill. Cylch y Rhyl gipiodd Cwpan y Cylch ac i Aelwyd y Rhyl y dyfarnwyd Tarian yr Aelwydydd.

Roedd un taten boeth, sef y diffiniad o ‘Ddysgwr’ yn parhau ar y fwydlen, yn enwedig yn y cyswllt eisteddfodol. Gofynwwyd y cwestiwn oesol, sef am ba hyd ac o dan ba amgylchiadau y gellir ystyried fod person yn parhau’n Ddysgwr.

Cyfres o gerddi ar y testun Yfory a roddodd y Gadair i Myrddin ap Dafydd o Adran Ysgol Dyffryn Conwy gyda’r Dr Derec Llwyd Morgan yn tystio mai Myrddin oedd y gorau o ddigon. Trafod cyni’r genedl a’r gobaith am a ddaw wnaeth Pryderi a llwyddo “i weu’i syniadau yn gerddi graenus, heb fod yn orawenus chwaith, ond y mae ganddo gwpledi cofiadwy a phenillion crafog.” Crafog, yn wir yw ei bennill i’r gwas suful:

Rhoi Saesneg ar y cownter
Yw mesur ei gyfiawnder,
A holl ffurflenni’n hiaith y sy’
O’r neilltu yn ei seler.

Creodd Myrddin dipyn o hanes a chythrwfl yn union wedi’r ddefod trwy wrthod cynnal cyfweliadau Saesneg gyda’r newyddiadurwyr; cynsail a ddilynwyd gan eraill wedi hynny.Dyma a ddywedodd wrth ohebydd Y Cymro: “Does gen i ddim byd yn erbyn cyfathrebu â Chymry di-Gymraeg, ond Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac rwy’n llawer mwy rhugl ynddi. Rwy’n ceisio , hyd y galla i, fyw fy holl fywyd yn Gymraeg ac yn pwyso am fwy o ddarpariaeth i ddefnyddio’r iaith ym mhob cylch o fywyd.”

Ni allem llai nag edmygu ei gadernid a’i resymeg ond teimlai llawer ohonom iddo golli cyfle i wneud ei safbwynt yn wybyddus ar y cyfryngau Saesneg. Fe wynebai ei arholiadau Lefel A yn Ysgol Dyffryn Conwy yr wythnos ganlynol. Dwn i ddim a ofynnwyd iddo ai trwy’r Gymraeg y byddai’n eistedd pob papur. Gobeithio iddo lwyddo i gyflawni’r gamp honno.

Cyflwynodd Eirug Wyn, Aelwyd Caerfyrddin, ei Ddyddiadur Diwrnod ar siâp arch, a hynny’n ddigon priodol gan mai myfyrdod yr ymadawedig ddydd ei angladd oedd y dyddiadur arbennig hwn. Yn wir, roedd wedi atodi nodyn i’w ymdrech yn gofyn am gyhoeddi’r campwaith ar ffurf arch. Er ei hyder y byddai’n fuddugol doedd dim modd parchu ei ddymuniad. Aeth Eirug yn ei flaen i gyfoethogi llenyddiaeth ei genedl cyn ei farw cyn-amserol, gan wireddu yr addewid a ddangosodd yn y Rhyl. Meddai‘r beirniad, Eigra Lewis Roberts: “Gyrrwyd y gwaith hwn i’r gystadleuaeth rhwng cloriau a dorrwyd ar lun arch, ac wrth agor caead yr ‘arch’, gwelwn y dalennau tu mewn. Gwiriondeb sydd yma, ond dim ond llenor go ddawnus a fedrai beri dderbyn y fath sefyllfa â hon, a’i mwynhau.” Cefais y mwynhad a’r cyfrifoldeb o olygu’r Cyfansoddiadau Llenyddol Buddugol am flynyddoedd lawer a gallaf ddweud mai ymdrech Eirug yw’r cyfansoddiad sy’n aros gliriaf yn y cof.

Dyma oedd gan Eirug i’w ddweud: “ Byddaf wrth fy modd efo gwaith Wil Sam, rwy’n gwirioni ar nofelau Dyfed Glyn Jones ac mae ‘Y Fuwch a’i Chynffon’ gan Harri Gwynn yn un o’m trysorau.”

O hir brofiad o olygu’r gyfrol o gyfansoddiadau fe deimlwn ar brydiau fod enillwyr y Gadair a’r Goron yn ennill gwobrau gwerthfawr am gynnyrch nad oedd bob amser yn dangos yr addewid y disgwylid amdano. Gofidiwn hefyd na roddai’r ddwy gystadleuaeth hyn ddigon o gyfle i feirdd a llenorion ifanc ddangos eu gwir ddawn a bod yr amodau’n rhy gyfyngedig. Dyma daro ar y syniad o greu cyfle newydd a fyddai’n caniatau iddynt gyflwyno amrediad eang o’u cynnyrch llenyddol, boed yn farddoniaeth, yn rhyddiaith neu’n gyfuniad o’r ddau gyfrwng. Yn hytrach na’u cyfyngu i destun, cyfrwng, nifer o linellau, ac ati, byddem yn galluogi egin-lenorion i arddangos eu holl ddoniau ac i gyflwyno gwaith a gyfansoddwyd, o bosib, dros nifer o flynyddoedd.

Derbyniwyd y syniad yn frwdfrydig gan bwyllgorau goleuedig yr Urdd, a chefais innau gymorth Bedwyr Lewis Jones i roi cig ar yr esgyrn sychion a grewyd gan weinyddwr nad oedd yn llenor o fath yn y byd. Felly y ganwyd cystadleuaeth y Fedal Lenyddiaeth. Llwyfan y Rhyl oedd y cyntaf i weld gwireddu’r freuddwyd hon pan urddwyd Elin Mair Thomas, athrawes y Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Llanfyllin. Sgribliadau yr honnid eu bod wedi eu hysgrifennu gan ferch ifanc mewn ysbyty meddwl oedd y gampwaith lenyddol. Tystiodd Elin mai ysgrifennu oedd ei phrif ddiddordeb. Yn anffodus, ni lwyddwyd, am wahanol resymau, i gyhoeddi’r gyfrol gan yr Urdd, ond roeddem yn abl a pharod i wneud o hynny ymlaen.

Dros y blynyddoedd, cipiwyd y Fedal gan lenorion disglair eu dawn megis Mererid Puw Davies, Fflur Dafydd, Angharad Thomas, Gwyneth Lewis a Gerwyn Williams. Siom enfawr i mi yn gymharol ddiweddar oedd penderfyniad annisgwyl y mudiad i amddifadu ysgrifenwyr ifanc o’r cyfle euraid hwn i ddangos amrediad eu dawn a’u hasbri llenyddol. Digon teg fyddai newid rhywfaint ar ganllawiau’r gystadleuaeth ar sail blynyddoedd o brofiad. Camgymeriad oedd ei dileu.

Ar nodyn ysgafnach, fe gafodd Charles Huws, colofnydd ffraeth Baner ac Amserau Cymru nad oedd yn edmygwr di-amod o’r Urdd na’i Chyfarwyddwr gyfle i roi cic eger i Nus Cymru. Rhagwelai y byddai mwy o gythrwfl yn Steddfod y Rhyl nag a fu er 1969 (pan ymwelodd y Tywysog Charles â phrifwyl Aberystwyth.) A’r cwbl yn deillio o’r ffaith fod tîm B Ysgol Glanclwyd yng nghystadleuaeth Gwyddonwyr Ifanc Telewele wedi bod mor ffol â gwneud ymchwil ar y gwahaniaeth rhwng gwaed Saeson a gwaed Cymry yn ardal y Rhyl, ac yn waeth fyth wedi ceisio dweud fod perthynas rhwng gwaed a deallusrwydd. Galwyd y disgyblion yn racists gan yr NUS a rhagwelid y byddai’r undeb ‘a’u cwislingiaid yng Nghymru’ yn ceisio rhwystro recordio rownd derfynol Telewele ar y Maes. Does gen i ddim cof am hyn na beth, os rhywbeth, â ddigwyddodd.

 


Eisteddfod Llanelli 1975

Y prif gystadlaethau llenyddol a greodd y cyffro a’r sylw cyfryngol yn Eisteddfod ardderchog Llanelli lle y bu’r tywydd unwaith eto yn garedig.

Fel y dywedwyd ar y pryd, roedd y sosban yn berwi o groeso ac o wres haul pan gyfeiriodd 65,000 a rhagor o gystadleuwyr, hyfforddwyr, cefnogwyr a chyhoedd i Lanelli i Eisteddfod gofiadwy ar lawer ystyr. Ar yr un pryd, roeddem yn ymwybodol nad oedd y cyngherddau gyda’r nos yn cyrraedd safon y gwleddoedd a ddarparwyd yn y Rhyl. Teimlem fod dyletswydd arnom i roi sylw manwl iawn i’r agwedd hon a gofidiem am yr effaith ar berfformwyr ifanc mewn pabell hanner llawn, ac oer yn aml, yn hwyr y nos.

Fe gofir am yr wyl hon gan amryw ohonom am wahanol resymau, rhai o dan ein rheolaeth ni a’r gweddill yn nwylo pobl eraill. Cynhaliwyd yr eisteddfod gwta ddeufis wedi ad-drefnu holl sistem llywodraeth leol Cymru pan ddiflannodd y tair sir ar ddeg flaenorol a’u holynu gan wyth sir fawr, sef Clwyd, Dyfed, Gwent, Gwynedd, Gorllewin Morgannwg, Dwyrain Morgannwg, Morgannwg Ganol a Powys. Achosodd hyn gryn benbleth i’r Urdd yn nhermau cynrychiolaeth cystadleuwyr o’r siroedd newydd hyn. Roedd Dyfed, Gwynedd a Powys yn gyfuniad o dair sir, Clwyd yn cwmpasu Dinbych a Fflint, tra y rhannwyd yr hen Forgannwg yn dair sir. Wedi cryn grafu pen cytunodd Cyngor yr Urdd i ganiatau tri chystadleuydd yr un o Glwyd, Dyfed, Gwynedd a Powys a dau o bob un o’r siroedd eraill i ddod i’r rhagbrofion. Cyfanswm posibl o 20 cystadleuydd ym mhob rhagbrawf! Doedd hyn ddim yn plesio pawb a bu ambell drafodaeth weddol stormus ym mhwyllgor sir Morgannwg Ganol. Yn wir, bygythiodd y sir arbennig hon beidio ag anfon yr un aelod i gystadlu am iddynt, yn eu tyb hwy, dderbyn triniaeth anffafriol rhagor rhai o’r siroedd gwledig, ac roedd ganddynt ddadl ar gyfrif poblogaeth. Bu’n rhaid atgoffa’r pwyllgor sir y byddent yn amddifadu eu haelodau o un o freintiau eu bywyd ar sail egwyddor ac y byddai’r Urdd yn ganolog yn trefnu i gystadleuwyr o’r sir deithio i Lanelli fodd bynnag. Tawelwyd y gwrthryfel ac ni ddioddefodd yr aelodau brwdfrydig.

Nid pawb ddeallodd neu dderbyniodd y drefn newydd dros dro o anfon ymgeiswyr ymlaen o’r Eisteddfodau Sir. Roedd hi’n bosibl i’r ail yn y sir gyrraedd y llwyfan neu hyd yn oed ennill a gobaith y buddugol yn diffodd yn y rhagbrawf. Digwyddodd yr union beth i ferch cyfaill dyddiau coleg a roddodd fas ei dafod i fi ar ganol y Maes yng ngwydd cyhoedd chwilfrydig. Ni fedrai, neu ni fynnai, dderbyn unrhyw eglurhad.

Cystal i finne gyfaddef i mi weld fy nghfle i wireddu breuddwyd; sef rhoi diwedd ar feirniadaethau llafar o’r llwyfan. Nid am fy mod yn dibrisio gwaith beirniaid ymroddedig a roddai eu gwasanaeth am arian poced a bwyd a llety. Beirniaid hir-wyntog oedd y broblem, yn enwedig pan fyddai’r llwyfan yn rhedeg yn hwyr. Ceisiwyd gosod terfyn amser o bum munud i bob traethiad yn y gorffennol ac fe barchwyd y cyfarwyddyd gan y mwyafrif. Ond nid gan bawb! Dim perygl! Manteisiai ambell wraig mawr eu cyfraniad a’u dawn ar y pum munud i daranu yn erbyn y cyfyngiad (i gymeradwyaeth fyddarol y dorf) a munudau wedyn i dafoli. Er mawr syndod, cytunodd pwyllgorau’r Urdd gyda’r awgrym syfrdanol hwn ‘fel arbrawf’ am flwyddyn yn unig oherwydd y nifer uwch na’r arfer o ymgeiswyr. Am flwyddyn hir!

Hwn oedd y tro cyntaf i Brifwyl yr Urdd ymweld â Llanelli er 1939, a dyma’r tro cyntaf i ddarlledu byw ddigwydd o’r llwyfan. A hynny am deirawr ar donfedd VHF ar brynhawniau Mercher, Iau a Gwener. [Mae hyn yn dwyn ar gof y telediad cyntaf erioed o Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Rhydaman yn 1957.Y BBC yn unig oedd yn darparu ac yn gosod yr amodau. Y drefn oedd teledu pedair neu bump cystadleuaeth yn un rhip yn eu cyfanrwydd ar y bore cyntaf heb yr un beirniadaeth. Corlannwyd y rhai a gymerai ran, a bant a ni. Popeth yn iawn nes sylweddoli i’r cyfan ddigwydd mor sydyn ac ambell gystadleuaeth yn digwydd ynghynt na’r amser a ddynodwyd fel na lwyddodd y cydwybodol Lewis Hywel Davies gyrraedd sedd y beirniad yn ddigon buan i gloriannu’r parti cerdd dant o dan 12 oed. Dim amdani ond ail-redeg yr eitem wedi i’r teledu ddod i ben, a’r arweinydd llwyfan, Y Parchedig Huw Jones, yn dweud wrth y gynulleidfa iddynt gael cymaint o flas ar y partion y tro cyntaf fel ein bod am roi cyfle iddynt eu clywed am yr eildro!]

Ffaith arall sy’n nodweddu’r eisteddfod hon yw i fellten daro ddwywaith yn yr un man o fewn ychydig wythnosau i’w gilydd. Prynhawn dydd Llun wythnos y brifwyl, a oedd yn wyl y banc, a finne gartre yn paratoi i fynd â’r teulu i Lanelli yn y garafan, oedd hi pan ganodd y ffôn. Y Parchedig T.R. Jones, tad Euros Jones, y bardd ifanc a gadeirid ddydd Iau oedd yno yn gofyn am gyfarfod brys yn Swyddfa’r Urdd y prynhawn hwnnw. Pan gyrhaeddodd roedd cyfaill o brifardd yn gwmni iddo. Sylweddolodd y teulu, ar y funud olaf ymron, nad ffrwyth awen y bardd ifanc a ddanfonwyd i’r gystadleuaeth ac y gynhwyswyd yn y gyfrol Cyfansoddiadau Llenyddol Buddugol , ond gwaith cyfaill o fardd aeddfetach a roddodd fenthyg cerdd o’i eiddo ar destun cyffelyb i Euros er i hwnnw ddilyn trywydd gwahanol wrth ysgrifennu. Cymerai’r tad yr holl gyfrifoldeb am y cawlach gan mai ef oedd wedi pacio a phostio’r cyfansoddiadau.

Gan fod y bardd wedi danfon dwy gerdd i mewn pwyswyd arnaf i ddweud mai’r gerdd arall, na dderbyniodd glod mawr gan y beirniad, oedd yn fuddugol ond i fi ddrysu a chynnwys yr un anghywir yn y gyfrol o gyfansoddiadau a beirniadaethau. Roedd y syniad yn rhy wirion i deilyngu eiliad o ystyriaeth, a dywedais hynny. Ni fu’r cyfarfod yn un rhy gyfeillgar na ffrwythlon ac eglurais mai gwell fyddai gadael y cyfan yn fy nwylo i ac y gwnawn bopeth posibl i egluro’r sefyllfa er mor ddryslyd oedd honno. Dafydd Rowlands oedd y beirniad, a daeth i gyfarfod Elvey Macdonald a finne. Cytunodd gyda’i hynawsedd arferol y gellid cynnig y Gadair i’r sawl a osododd yn ail yn wreiddiol. Wedi tipyn o waith ditectif daethom o hyd i Dilwyn Lewis Jones, Tywyn, athro yn Ysgol Glancegin, Bangor, gan egluro rhywfaint o’r sefyllfa iddo gan wynebu’r posibilrwydd y byddai’n gwrthod y wobr gan wybod mai ail orau y gosodwyd ei waith yn wreiddiol. Er mawr foddhad i bawb ohonom, a chryn glod iddo yntau, roedd yn fwy na pharod i gael ei gadeirio ac fe gafodd y pleser hwnnw ar y prynahwn Iau.

Bu dau gyfarfod arall gan ymwelwyr y prynhawn Llun a gosodwyd pwysau eithriadol arnaf i wneud pob math o bethau i adfer sefyllfa nad oedd adfer arni, gan gynnwys rhwygo’r gerdd nad oedd bellach yn fuddugol allan o’r gyfrol cyfansoddiadau. Ni allwn lai na theimlo fod yna ymgais i’m gwneud i deimlo mai fy mai i fyddai unrhyw ganlyniad anffodusa bod yr holl bwysau ar fy ysgwyddau i. Rhoddais fy ngair i’r tad gofidus, a oedd yn naturiol yn poeni am effaith hyn oll ar ei deulu, y byddwn yn rhoi eglurhad llawn i’r newyddiadurwyr a fyddai’n glafoerio wrth feddwl am stori mor anarferol. Addewais hefyd y gwnawn fy ngorau glas i’w cadw draw oddi wrth y bardd os cawn gydweithrediad y teulu ar yr amod na ddeuai Euros ar gyfyl yr Eisteddfod. Nis gwn a barchwyd yr amod. Iorwerth Roberts o’r Liverpool Daily Post oedd hynafgwr criw’r wasg ac yn uchel ei barch ymhlith ei gydweithwyr. Gwyddwn y byddent yn debygol iawn o ddilyn ei arweiniad ef. Gofynnais iddynt fy nghyfarfod cyn Defod y Cadeirio ac eglurais y sefyllfa fel yr adroddwyd hi wrthyf gan y tad. Cwestiwn Iorwerth Roberts oedd: “Wyt ti’n credu’r stori? (mai camgymeriad dilys yn hytrach nag ymgais i dwyllo a ddigwyddodd). “Ydw”, oedd yr ateb, a meddai Iori, “Os wyt ti’n ei chredu fe wnawn ninnau hefyd.” A dyna a fi. Bu cyfweliadau radio a theledu yn y ddwy iaith ond ni amharwyd ar y teulu o gwbl. Fum i erioed mor ddiolchgar am y berthynas a adeiladwyd gyda phobl y papurau a’r radio a’r teledu dros y blynyddoedd. Cadair Llanelli oedd y pwnc trafod gan amlaf pan gyfarfyddai Iori a finne yn y blynyddoedd dilynol.

Yr hyn a’m plesiodd fwyaf oedd derbyn galwad ffôn gan T.R. Jones y bore Llun canlynol i ddiolch am fy ymdrechion ac i gydnabod mai fi oedd yn iawn o’r cychwyn. Buom yn gyfeillion hyd ei farw a da y cofiaf am ddiwrnod hwyliog a llawn storiau yn ei gwmni ar gae Sant Helen yn gwylio cricedwyr Morgannwg. Teg hefyd yw cyfaddef nad oedd pawb o Swyddogion yr Urdd na’r Swyddogion lleol yn gwbl hapus ar y cychwyn am y modd yr ymdriniwyd â’r mater ond iddynt newid eu meddyliau o weld y canlyniadau..

“Creithiau” oedd y testun gosodedig y cyfres o gerddi a does dim ond gobeithio na adawodd saga mor anarferol graith ar neb.

Cyfeiriodd Dafydd Rowlands at ymdrech Dilwyn fel “...cerdd rymus a’i hiwmor yn pwysleisio’i difrifoldeb.” Creithiau emosiynol sy’n amharu ar gymeriad plant oedd y thema. Dyma flas ohoni:

Pres Cinio
Dydd Llun y darganfod
Dywedodd un:
Mae Mam, ia,
Yn methu talu pres cinio
‘Dach chi isio gwbod pam?

Mae gennym deledu lliw, ia...
...ac mae’r leisens yn twelfpound.

Dagrau’r sefyllfa oedd nad Dilwyn Lewis Jones a dderbyniodd y sylw a’r amlygrwydd yr oedd yn ei deilyngu y dwthwn hwnnw. Ei eangfrydedd ef yn derbyn y Gadair o dan y fath amgylchiadau a achubodd prynhawn Iau Eisteddfod Llanelli rhag diflastod a siom. Mae’n eithriadol o bwysig tanlinellu’r ffaith mai Dilwyn oedd bardd dilys gorau’r Eisteddfod ac mai cerdd gan fardd nad oedd o fewn terfynau oedran yr Urdd a ddyfarnwyd yn orau gan Dafydd Rowlands yn y lle cyntaf.


Yn ail am y Gadair oedd Iwan Morgan, Dyffryn Ardudwy, gyda Tom H Jones, Cwm Nantyreira, yn drydydd. Dau a oedd i chwarae rhan amlwg yn ail act drama prif dlysau llenyddol Llanelli!

Pythefnos fwy neu lai wedi’r eisteddfod a bywyd yn rhedeg yn esmwyth a helynt y Gadair yn rhan o hanes, daeth ergyd arall. Pan ddychwelais o gyfarfod gyda’r nos dyma glywed fod Tom H.Jones, enillydd y Goron a’r Fedal Lenyddiaeth yn Llanelli, a’r Prifardd Emrys Roberts ar eu ffordd i’m gweld ynglyn â dryswch oedran cystadlu.Roedd Tom yn aelod gweithgar o’i Aelwyd leol ac yn ffigwr amlwg ym myd y cystadlu. Pan gyrhaeddodd ty ni fe ddatgelodd iddo gael ymweliad gan un o ohebwyr di-Gymraeg y BBC yng Nghymru ac i hwn ei gyhuddo o fod dros 25 oed pan enillodd y ddau Dlws. O edrych yn fanwl ar y sefyllfa, fe welwyd mai gwir yr haeriad. Rhyw flwyddyn ynghynt newidiwyd dyddiad pennu oedran cystadlu a dyna a achosodd y dryswch. O dan yr hen drefn byddai popeth yn iawn, ond nid o dan y rheol newydd.

Dyma, felly, asgwrn arall i’r cyfryngau cyhoeddusrwydd ei grafu’n gyhoeddus. Ac fe wnaethon! Cyfres arall o gyfweliadau Cymraeg a Saesneg gan egluro’r dryswch ac achub enw da y llenor ifanc. Un o’r gorchwylion mwyaf diflas a ddaeth i’m rhan oedd galw yng nghartref Tom i gasglu’r Goron a’r Fedal a synhwyro gofid a thristwch y teulu cyfan a erlidiwyd gan newyddiadurwyr o bell ac agos. Ni allai’r hyn â ddigwyddodd leihau yr un mymryn ar gamp Tom yn cyrraedd y brig mewn dwy brif gystadleuaeth ac ennill y drydedd safle yn y llall. Ond, rhaid oedd parchu’r rheolau a gweithredu fel y dylid.

O fewn ychydig wythnosau i’w gilydd bum yn ymwneud â dau deulu mewn gwewyr a gofid am fod eu meibion yn y newyddion am y rhesymau anghywir. Rwy’n gwbl dawel fy meddwl i ni o fewn yr Urdd wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu enw da Euros a Tom.

Penderfynu wedyn cyflwyno’r Tlysau i’r ail yn y ddwy gystadleuaeth. Mewn cyngerdd ar nos Sul yn Nolgellau y daeth i’m rhan i arwisgo Iwan Morgan o Ddyffryn Ardudwy gyda’i Fedal Lenyddiaeth. I Siân Lloyd o Adran Ysgol Gyfun Ystalyfera y dyfarnwyd y Goron o dan yr amgylchiadau ac euthum â’r tlws i’r ysgol yn unswydd. Nid dyna oedd diwedd y stori. Dim perygl! Gyda’u brwdfrydedd eisteddfodol arferol penderfynodd Pwyllgor Sir Gorllewin Morgannwg drefnu cyngerdd mawreddog yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, gydag ymgeiswyr o’r sir a gyrhaeddodd ragbrofion Llanelli. Yn goron ar y noson, ym mhob ystyr, penderfynwyd ail greu Defod y Coroni a gwahodd R Alun Evans, Meistr y Ddefod yn Llanelli, i lywio’r seremoni. Ymhlith y gwahoddedigion yr oedd Yr Arglwydd a’r Fonesig Heycock. Cyngerdd dwyieithog oedd hwn nes dod at y coroni. Megis yn y brifwyl ei hun, yn y Gymraeg yn unig y gweithredodd Alun a buan iawn y clywais y Fonesig yn y sedd agosaf ataf yn cynhyrfu a chlywais y frawddeg, “It’s not bilingual” yn hedfan ôl a blaen. Achosodd hyn gryn dipyn o dyndra weddill y noson. Heb fanylu, ynganwyd geiriau digon garw a gwnaethpwyd ambell fygythiad annheilwng. Dywedodd un o brif swyddogion y Cyngor Sir wrthyf fod y math yma o dyndra yn brofiad dyddiol iddo yn ei swydd.

Wedi gwneud y symiau oll gwelwyd i’r brifwyl, anarferol ar lawer cyfrif, hon wneud elw o £3857.08. Yn ogystal â bod yn anrferol roedd hi hefyd yn gofiadwy.

Eisteddfod Genedlaethol Porthaethwy, Ynys Môn, 1976

“Gwyl i’w chofio, ar lawer cyfri, yw Eisteddfod Genedlaethol Porthaethey, Ynys Môn, a gynhaliwyd ar gae ac yn adeiladau Ysgol Gyfun David Hughes Porthaethwy”, meddai Adroddiad Blynyddol yr Urdd, gan gofnodi ymhellach, “Roedd y tywydd yn arbennig o braf, yr amgylchedd yn ddelfrydol a’r torfeydd yn niferus a gwerthfawrogol. Doedd hyn ddim mwy na haeddiant y Pwyllgor Gwaith lleol o dan gadeiryddiaeth Miss Mari Wynn Meredith, ac Is-bwyllgorau tra chymwys, a lafuriodd yn ddygn i godi cronfa o £28,000 yn ogystal â gofalu’n gymwys am yr amryfal agweddau eraill y mae’n rhaid wrthynt.”

Achosodd y bwgan ariannol grafu pen i bawb ohonom a rhaid talu teyrnged arbennig i’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor gwaith am wynebu’r her gydag agwedd mor gadarnhaol ac am ddyblu a threblu eu hymdrechion codi arian. Cribiniwyd pob gwariant a dilewyd pob arlliw o wastraff. Arbedwyd arian sylweddol trwy i’r gwirfoddolwyr gyflawni llu o dasgau y telid am eu gwneud gan amlaf.Siawns na fydd y selogion yn cofio am eu hymdrech arwrol i gasglu, storio, rhannu, pecynnu, gwerthu a llwytho tunnelli ar dunnelli o bapur i’w ail-gylchu. Defnyddiwyd capel gwag yn y Borth yn stordy ac yno y cyflawnwyd yr holl lafur a esgorodd ar gyfraniad sylweddol iawn i’r Gronfa.

Cofiwn hefyd am gymwynasau hael Cyngor Sir a Phwyllgor Addysg Gwynedd a Chyngor Bwrdeisdref Môn a nifer o fusnesau a chyfeillion lleol. Fel y pwysleisiodd yr Adroddiad Blynyddol ar y pryd. “Gan fod y derbyniadau’n uchel a’r costau wedi eu cyfyngu i’r eithaf dangoswyd elw terfynol o £24,362 i’n galluogi i drefnu i hybu gwaith yr Urdd ym Môn yn y dyfodol ac i sefydlu cronfa i gynorthwyo Eisteddfodau’r dyfodol.”

Do, bu’r tywydd yn fendithiol a diolch am hynny. Ystyriwyd mwy nag un maes i’r wyl gyda’r dewis yn sefyll rhwng caeau Ysol David Hughes a thir ffermwr lleol. Un o amryw fanteision gadael i’r goelbren syrthio ar libart David Hughes oedd fod y cyfan yn ddi-gost tra, yn ddigon naturiol, y byddai tâl (o £1700 rwy’n meddwl) am ddefnydd o gaeau’r fferm. Dewis hawdd medde chi. Ddim yn hollol. Tra’r oedd y tir amaethyddol yn sych dan draed, nid felly y cornel perthnasol o gae’r ysgol gyda’r perygl o drafferthion pe ceid tywydd gwlyb. Gwaed y Cardi a orfu ac argymhellais i’r Pwyllgor Gwaith ddewis tir yr ysgol. Sylweddolai’r aelodau y gwnai hynny hwyluso y rhagbrofion a diau i’r aelodau deimlo cyfrifoldeb tuag at y llu a weithiodd ac a gyfrannodd at y gronfa. Beth bynnag oedd y rhesymau, y maes rhad ac am ddim a ddewiswyd. Er mawr ofid i bawb, ac yn sicr i fi, bu’r tywydd ychydig yn anffafriol ymlaen llaw a doedd y cae ddim ar ei orau ar drothwy’r wyl. Clywais un o’r swyddogion lleol yn atgoffa’i gwrandawyr pwy oedd wedi pwyso ar y Pwyllgor Gwaith i wneud y dewis. Fel y digwyddodd, ni fu angen poeni a chafwyd tywydd delfrydol.

Mae’n amlwg nad yr Eisteddfod yn unig oedd ar feddwl y mudiad ar y pryd a bod pryder gwirioneddol am brinder arweinyddion gwirfoddol i Adrannau ac Aelwydydd. Lleisiwyd y pryder a’r angen mewn geiriau plaen yn nodiadau golygyddol y Cyfansoddiadau Llenyddol Buddugol ( a oedd am ryw reswm yn gyfrol deneuach na’r arfer.)Gosodwyd nôd o 500 o wirfoddolwyr.”Rydym yn lansio ymgyrch newydd yn Eisteddfod Porthaethwy i ddenu arweinyddion newydd a rhoddir cychwyn ar gyfres o gyrsiau hyfforddi yn ystod mis Mehefin. Llu dirifedi o arweinyddion ymroddedig yw un o brif anghenion y mudiad ar hyn o bryd.
“Mae plant a phobl ifanc Cymru yn taer erfyn am eich cymorth. Apeliwn yn arbennig at rieni ifanc ac awgrymwn yn garedig ei bod yn ddyletswydd arnoch i aberthu peth o’ch amser hamdden os ydych yn awyddus i’ch plant fwynhau’r breintiau a ddaw yn sgîl perthyn i’r Urdd. Peidiwch â gadael y cyfrifoldeb i eraill.”

O ddarllen y gyfrol fe welir mai bachgen lleol, John Aled Owen, o Adran Ysgol David Hughes, a ddyfarnwyd yn fuddugol gan Dr. Gwyn Thomas yng nghystadleuaeth y Gadair. Dewisodd “Y Gaer” yn destun i’w bedair cerdd, sef cyfres o gerddi ar wahanol agweddau ar Gaernarfon, gan un a dreuliodd Haf 1975 yn gweithio yno. Gosodwyd y Goron ar ben Gwyneth Williams o Aelwyd Caerfyrddin. Emyr Lewis o Adran Ysgol Rhydfelen gafodd y Fedal Ddrama ond ni chafwyd teilyngdod am y Fedal Lenyddiaeth.

Môn, gyda 342 o farciau oedd ar y brig yn holl waith yr Eisteddfod gyda Gogledd Powys a Myrddin yn ail a thrydydd. Aeth y Cwpan Cylch i Gylch Caereinion a Tharian yr Aelwydydd i Gaerdydd.

 

 


Eisteddfod Genedlaethol Barri a’r Fro, 1977

Eisteddfod y Bala yn 1972 oedd Steddfod Jiwbili yr Urdd a mawr fu’r dathlu a’r gorfoleddu: taflodd jiwbili arall, sef un teyrnasiad y Frenhines Elisabeth, ei gysgod dros brifwyl y Barri. Bu peth anghydfod ymlaen llaw a gwelwyd arlliw o’r digwyddiad ar ieuenctid gwlatgar a theyrngarwyr mwy sefydliadol fel ei gilydd. Agwedd arall oedd y prinder ymddangosiadol o weithwyr gwirfoddol a’r ddibyniaeth drom ar Gymry amlwg a symudodd i mewn i’r ardal.

Pwyllgor Canolfan yr Urdd, Caerdydd, oedd yn gyfrifol am werthu hufen ia ar y Maes. Nid yn aml y bydd trefniant mor gyffredin yn creu helynt. Ond fe wnaeth y tro hwn! Cytunwyd mai cwmni adnabyddus Thayers fyddai’ n cyflenwi’r hufen ia, a chan ei bod hi’n flwyddyn arbennig i’r Frenhines penderfynodd y cwmni osod arwyddlun coron y jiwbili ar y twbiau. Nid oedd modd cael rhai amgen a’r dewis i’r Pwyllgor oedd derbyn y drefn neu ddiddymu’r cytundeb. Penderfynwyd derbyn y drefn ac un dadl a fynegwyd o blaid hynny oedd mai’r cynnwys yn hytrach na’r diwyg oedd yn bwysig i’r cwsmeriaid ifanc. Derbyniais alwad ffôn gan un o ohebwyr di-Gymraeg HTV Cymru yn hwyr iawn un noson yn gofyn am ddatganiad ac eglurhad. Gyda phleser digymysg y medrais ddweud wrtho am gysylltu â swyddogion y Ganolfan!

Cof gennyf i un o’r stondinwyr ar y Maes werthu crysau yn dwyn y geiriau “Ych a fi, Jiwbili.”Ni thybiaf i’r un o’r ddau anghydfod darfu ar bleser a mwyniant yr wyl.

Cyfaddefodd Elvey Macdonald mai “Ymdrech nifer fach o bobl fu’r Eisteddfod eleni. Bu’n faich ar ysgwyddau’r ychydig i fwy graddau nag erioed yn y Barri.” Y cwestiwn a ofynnai llawer ohonom oedd i ble’r aeth y cannoedd o’r cyffiniau a dderbyniodd addysg cynradd ac uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Ni chafwyd ateb. Yn anffodus fe ofynnir yr un cwestiwn y dyddiau hyn, heb unrhyw fath o ateb boddhaol.

Amcangyfrifwyd costau cynnal o £60,000 gyda Chyngor De Morgannwg yn cyfrannu £10,000 a’r pwyllgorau lleol yn wynebu codi ar draws pum mil ar hugain o bunnoedd. Y gweddill ariannol wedi cau’r llyfrau oedd £16,157.48. Ni fu’r tywydd yn or-garedig a diau i hynny effeithio ar y derbyniadau. Ni fu pall ar frwdfrydedd yr ychydig wirfoddolwyr ffyddlon; dosbarthwyd 14,000 o daflenni Saesneg a threfnwyd gwasanaeth bysiau ar yr awr o ganol y dref i’r Maes. Pryderwyd ar un adeg y gallai’r paratoadau i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i Gaerdydd yn 1978 effeithio’n anffafriol ar wyl y Barri.

Yn y cyswllt hwn, priodol yw dyfynnu paragraff allan o Adroddiad Blynyddol Cwmni’r Urdd am 1977/78:”Ar waethaf llawer o anawsterau llwyddodd gweithwyr glew Y Barri a’r Fro i ddangos elw ariannol ar gyfrifon eu Heisteddfod a mawr yw ein dyled iddynt. Bu cyfnodau pryderus iawn yn ystod y ddwy flynedd o baratoi ac ni hoffem weld eu hailadrodd. Gyda hyn mewn golwg gwnaed cais at Bwyllgor Siroedd Cymru yn gofyn i’r Awdurdodau Lleol gytuno ar fformiwla i gyfrannu’n flynyddol ble bynnag y cynhelir yr Eisteddfod er mwyn rhannu’r cyfrifoldeb yn decach rhwng holl Gynghorau Cymru ac er mwyn galluogi Prifwyl Ieuenctid Cymru i ymweld â’r ardaloedd gwledig prin eu poblogaeth yn ogystal â’r ardaloedd mwy poblog a chyfoethog. Byddai cefnogaeth o’r fath yn sicrhau dyfodol yr Eisteddfod fel gwyl deithiol a bery i berthyn i bob rhan o Gymru.”

Cerdd gan Esyllt Maelor, aelod 16 oed o Adran Ysgol Botwnnog, a blesiodd beirniad y Gadair, y Prifardd Brinley Richards. Dyma ran o’i sylwadau: “Wele gerdd o deyrnged i Iwan Medi (1959-1976). Y mae’n wirioneddol awenyddol ac yn coffau un a fu farw o’r cancr yn un ar bymtheg oed. Fe’i disgrifir fel carcharor y cyffuriau...
a’i wên yn clustogi
Anwyliaid ei dy rhag ergyd y diwedd.

Yr oedd ei lyfrau _
Yn bentwr gobeithiol
Ar erchwyn y gwely
a’i fag yn disgwyl dechrau Medi.”

Trawodd y Dr. Glyn Ashton, beirniad y Goron, nodyn calonogol ar gychwyn ei sylwadau. “Cyn dechrau darllen gwaith pedwar ar hugain o ymgeiswyr – pedwar dwsin o storiau – pryderwn na fyddai gwobrwyo. Ond teg yw nodi na chafwyd unrhyw waith annheilwng. Yr oedd y lefel yn hynod o wastad ac uchel, ac ni ddarllenais un stori nad oedd yn werth ei hysgrifennu. Yr oedd gan bawb syniad da am hanfodion stori lwyddiannus, a chrefft a thechneg yr ymgeiswyr, a’u haeddfedrwydd yn fy synnu. Er gwaethaf llu o o fân wallau iaith y mae pob un ohonom yn euog o’u cyflawni yr oedd Cymraeg da a rhywiog gan y ddau ddwsin. Nid oedd ond trwch blewyn o wahaniaeth rhwng teilyngdod yr awduron.”

Lluniodd y llenor buddugol, Janet Jones o Adran Ysgol David Hughes, Porthaethwy, ddwy stori ar un pwnc, “Colli”, gyda’r ail un yn ymdrin ag adwaith plentyn o golli anifail anwes – Owi, y mochyn cwta. Robat Eurwyn Hughes o’r un Adran ddaeth yn ail, gyda Delyth Mai Nicholas o Aelwyd yr Hendy yn hawlio’r trydydd lle.

“Petai angen cyfiawnhau cynnal Eisteddfod Genedlaethol yr urdd yn y Barri eleni, gellid ateb yn gwbl ddibetrus “Ansawdd cynnyrch y gystadleuaeth ddiddorol hon.” Gyda’r deyrnged ryfeddol hon yr agorodd R Wallis Evans ei feirniadaeth yng nghystadleuaeth y Fedal Lenyddiaeth. Aeth ymlaen i dystio fod y chwe chasgliad a dderbyniwyd yn dra theilwng ac yn dangos cryn fesur o ddawn ac o aeddfedrwydd. Gorchwyl anodd, meddai, oedd dewis rhwng y goreuon, yn enwedig y ddau a ddyfarnwyd yn gyntaf ac yn ail. Wrth ddyfarnu casgliad Gwyneth Lewis o Adran Ysgol Gyfun Rhydfelen yn fuddugol, tystiodd Mr Evans fod ynddo amrywiaeth a safon uchel a chyson drwyddo. Ymadrodd o bennill gan Hedd Wyn oedd testun y gyfrol Llwybrau Bywyd. Cipiodd Gwyneth saith gwobr lenyddol arall yn y Barri. Enw cyfarwydd, Esyllt Maelor, oedd yn ail gyda Geraint Meirion Evans o Adran Ysgol Ramadeg y Frenhines Elisabeth i Fechgyn, Caerfyrddin, yn drydydd.

Egin-ddramodydd a llenor ym mherson William Owen Roberts, Adran Ysgol Eifionydd, Porthmadog, a swynodd John Gwilym Jones, beirniad y Fedal Ddrama. Alun Llewelyn, Adran Ysgol Gyfun Ystalyfera, ddaeth yn ail.

Pan ddaeth y cyfri marciau terfynol, gwelwyd mai rhanbarth Myrddin oedd ar y brig gyda 296 o farciau;yn ail roedd Gorllewin Morganwg gyda 263 a De Morgannwg yn dilyn gyda 260. Dosbarth Cwm Lliw a hawliodd y Cwpan i’r Cylch/Dosbarth uchaf ei farciau mewn gwaith llwyfan. I fyny i Benllys yr aeth Tarian yr Aelwydydd. Adran Ysgol Gyfun Ystalyfera oedd yr Adran Uwchradd orau dan 15 oed gydag Adran Ysgol Gyfun Rhydfelen yn serenu dros 15 oed.


Eisteddfod Geneddlaethol Llanelwedd, Powys, 1978

Dyma Eisteddfod a dorrodd dir newydd ac a ddangosodd y ffordd, maes o law, i’r Eisteddfod Genedlaethol arall. Bu’n gyfrwng hefyd, fel y bwriadwyd, i sbarduno aml i ardal yng Nghymru i wahodd ein prifwyl ieuenctid.

Yn y cychwyn cyntaf roeddem yn fyddiog y deuai gwahoddiad o gyfeiriad Pwllheli i leoli’r brifwyl yno yn 1978 ond oerodd y brwdfrydedd o ystyried maint yr ymgymeriad. (oeri dros dro yn unig fodd bynnag gan iddynt ei chroesawu yn 1982). Rhaid, felly, oedd darganfod cartref arall ac yng nghefn ein meddwl teimlem y gellid perswadio ardal Aberystwyth i agor eu calonnau a’u drysau. O osod y cyfan yn ei gyd-destun rhaid cyfaddef i ni boeni’n ddirfawr a ellid cynnal ein gwyl yn gyson yn y dyfodol petaem yn gorfod wynebu sefyllfa gyffelyb rywbryd eto. Un cynllun a ystyriwyd gennym oedd defnyddio adnoddau fferm Cefncwrt a Gwersyll Llangrannog i’w llwyfannu. Rhagwelem wrthwynebiad chwyrn iawn o gyfeiriad yr heddlu a rhai pobl leol yn sgîl y problemau trafnidaeth.

Yr unig ddewis arall oedd canolfan addas gydag adeiladau a gwasanaethau eisoes yn eu lle gyda chostau isel o’r herwydd. Yn naturiol ddigon fe drôdd ei meddyliau i gyfeiriad maes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd a phan aeth Prys Edwards a finne i weld Ysgrifennydd y Gymdeithas, John Wigley, yn ei stondin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol cawsom groeso cynnes.Yn ystod ei gyfnod yn byw yn Aberystwyth bu gan Mr Wigley a’i deulu gysylltiad agos â’r mudiad.

Buan iawn y cawsom ar ddeall fod swyddogion Cymdeithas y Sioe yr un mor gefnogol. Nid yn unig cynnig y cyfleusterau a wnaethant ond eu cynnig yn ddi-dâl. Ymhlith y mwyaf brwdfrydig yr oedd yr Anrhydeddus Islwyn Davies, y trysorydd. Aed ati yn dawel bach i osod y seiliau gan gadw’r gyfrinach am y lleoliad am y tro. Arwydd pellach o gefnogaeth y Sioe oedd iddynt gynnig y lle inni am yr ail flwyddyn pe byddai angen. O’n rhan ni, bwriadem i arbrawf Llanelwedd, ynghyd â’r posibilrwydd o ail gynnig, sbarduno ardaloedd o’r de a’r gogledd i estyn gwahoddiad rhag i Lanelwedd fod yn safle barhaol. Am yr unig dro erioed ni fum yn gwbl deg gyda’r cyfryngau cyhoeddusrwydd. Yn hytrach na chyhoeddi datganiad cyffredinol yr hyn a wneuthum oedd cynnig ‘ecsgliwsif’ i Sulwyn Thomas a oedd yn gohebu i raglen Y Dydd, HTV Cymru. Recordiodd Sulwyn eitem i’r rhaglen heb ddatgelu ffynhonnell ei sgwp, a doedd neb o’r Urdd ar gyfyl y lle i amau na chadarnhau’r sibrydion. Crewyd yr argraff, er na ddywedwyd hynny mewn cynifer o eiriau, y gallai Maes y Sioe gynnig cartref parhaol i’r wyl. Llwyddodd y cynllwyn a llifodd y gwahoddiadau i mewn.

Y cynllun gwreiddiol oedd rhedeg y cyfan o’r pencadlys yn Aberystwyth heb sefydlu peirianwaith lleol ond sylweddolwyd na fyddai trefniant o’r fath yn ymarferol. Sefydlwyd Pwyllgor Gwaith bychan o dan gadeiryddiaeth Islwyn Parry, Machynlleth, a chafodd yntau gymorth criw dethol o wirfoddolwyr ymroddedig o Bowys gyfan. Ni sefydlwyd is-bwyllgorau. Os mai prin oedd y gweithwyr nid felly’r brwdfrydedd. Nid Gwyl Gyhoeddi gonfensiynol a gafwyd ond wyth o ddigwyddiadau ym mhob cwr o Bowys. Amrywiai’r rhain o ffair ym Machynlleth i noson lawen gan Aelwyd Dyffryn Banw yn Llanfair Caereinion ac o ddangosiad o Ffilm yr Urdd yn Aberhonddu i noson gwin a chaws a chyngherddau.

Gobeithid arbed ar draws £25,000 ar y costau arferol a’r Urdd yn ganolog a ysgwyddodd y golled o £6022. Eisteddfod wahanol i’r arfer ar lawer cyfrif oedd hon. Prinder gwirfoddolwyr parod eu cymwynas o fewn dalgylch rhesymol oedd un o’r anawsterau mwyaf, nid yn unig gydol y paratoi ond adeg yr wyl ei hun. Prinder stiwardiaid oedd un hunllef. Bu staff ganolog yr Urdd o dan arweiniad Elvey Macdonald, Pennaeth Adran Eisteddfod a Gwyl, yn fawr eu gofal a’u hymroddiad; yn bendant eu harweiniad ac yn fawr eu hamynedd.

Creodd Cadair Llanelwedd hanes ond nid yn yr un cywair ag un Llanelli! “Cadair o wlad y cangarw” oedd pennawd Y Cymro wrth ddatgelu mai rhodd gan Gymdeithas Dewi Sant, Brisbane, fyddai’r wobr i brifardd Llanelwedd. Cynigiwyd hi i’r Eisteddfod Genedlaethol yn y lle cyntaf ond roedd y brifwyl honno eisoes wedi sicrhau un ac yna fe’i cynigiwyd i’r Urdd. Trwy’r Dr Glyn Tegai Hughes y gwnaed y cynnig gan Y Parchedig T.Rees Thomas. Rhyw feddwl oedd Elvey Macdonald a finne na fyddai Pwyllgor Gwaith Llanelwedd yn awyddus i dderbyn Cadair draddodiadol, hen ffasiwn a throm ond neidio at y cynnig a wnaeth. Hedfanwyd hi am ddim gan gwmni awyrennau o Awstralia a chyrhaeddodd Blas Gregynog i ble yr euthum yng nghwmni Elvey i daro golwg arni – mewn ofn a phryder! Roedd hi’n ddodrefnyn urddasol o goedyn cynhenid o Awstralia. Dodrefnyn a hawliai gryn dipyn o ofod yng nghartre’r buddugol.

Mentrodd y colofnydd dewr Alun Gruffudd (pwy bynnag oedd hwnnw) yn ei golofn Stondin y Stelciwr yn Y Cymro ei chollfarnu cyn ei gweld. “Hen lymbar drom ydi’r gadair eleni. Pa fardd yn ei iawn awen fyddai am weld dodrefnyn o’r cynfyd yn addurno ei ystafell? Nid Stelciwr oedd yr unig un i amau doethineb y penderfyniad! Pryder di-angen ar ein rhan ni fodd bynnag gan i’r enillydd, Robin Llwyd ab Owain, ei chroesawu â breichiau agored. Marwolaeth Llywelyn oedd y sbardun i Robin i gyfansoddi ei bedwar caniad i’r testun Merthyr . Y thema oedd effaith marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf yng Nghilmeri ar Gymru, a gwelai y farwolaeth honno fel merthyrdod dros ryddid ein gwlad, yn ôl y beirniad, Bryan Martin Davies.

Tair ysgrif gan Cathryn Gwynn a swynodd Bobi Jones wrth dafoli dawn y 21 llenor ifanc a geisiodd am y Goron. Ym mharagraff agoriadol ei feirniadaeth dywed Bobi Jones: “ Teimlad hyfryd oedd beirniadu’r gystadleuaeth hon oherwydd fy mod fel petawn wedi cael cipolwg ar lenyddiaeth yr unfed ganrif ar hugain. Calondid mawr oedd sylwi ar rywiogrwydd Cymraeg yr ymgeiswyr, eu parch at grefft, a’u deallusrwydd.”

Tystiodd Urien Wiliam wrth dynnu llinyn mesur dros y chwech cyw-ddramodydd fod nifer ohonynt yn dangos cryn addewid.Dyma ran o’r sylwadau ar ymdrech fuddugol Gareth Siôn o Adran Ysgol Gyfun Rhydfelen: “Un o rinweddau’r ddrama yw’r ddialog ystwyth a chyfoethog: Mae TRYFAN yn gallu ysgrifennu’n raenus ac mae ganddo glust dda am dafodiaith...” I Gwyneth Lewis y dyfarnwyd y Fedal Lenyddiaeth a hynny am yr eildro’n olynol.

Ymwelodd 48,000 â’r Eisteddfod. Gwnaed colled ariannol am na chodwyd y gronfa arferol. Yn briodol iawn, Gogledd Powys enillodd y nifer uchaf o farciau, 433, yn holl waith yr Eisteddfod, gyda Gorllewin Morgannwg yn ail a Myrddin yn drydydd. Caereinion gipiodd y Cwpan i’r Cylch uchaf ei farciau yn holl waith yr Eisteddfod tra’r aeth y Darian am y marciau uchaf mewn gwaith llwyfan i Aelwyd Dyffryn Banw.

Roedd diolch yr Urdd yn fawr a diffuant i awdurdodau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru am gynnig lloches i’r di-gartref a thrwy hynny ysgogi ardaloedd eraill i wneud yr un gymwynas o hynny ymlaen


Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr, Maesteg, 1979

Mwd. Mwd. Mwd. Ond doedd hwn ddim yn destun cân na gorfoledd i’r miloedd o gystadleuwyr a chyhoedd a dyrrodd i’r Hen Blwyf ar yr achlysur hwn.

Agorodd y nefoedd a thywalltodd y glaw yn ystod cyfnod allweddol paratoi Maes yr Eisteddfod gyda’r loriau a’r peiriannau trymion yn ymdrabaeddu yn y baw a’r llaca. Onibai am lafur ymroddedig a diflino staff y mudiad, pobl leol a chriw afieithus Aelwyd Cwmafan mae’n amheus a ellid bod wedi cynnal yr wyl. Ychydig funudau cyn cychwyn y seremoni agor daeth Hywel Gwynfryn ataf gyda’r meicroffon arferol yn ei law i ofyn fy marn am y mwd. Yr unig ateb y gallwn feddwl amdano oedd “Pa fwd?”Gobeithio na roddais yr argraff i’r gwrandawyr nad oeddwn yn cymryd y sefyllfa drychinebus o ddifri.

Fe’i galwyd yn “Steddfod yr Eithafion” gan un papur newydd gan ddweud, “O Faestecs i Faesteg, o un eithaf i’r llall, Steddfod yr eithafion oedd Eistefffod Tir Iarll, o wlychu hyd y croen ar ddydd Mercher i losgi hyd y croen ddydd Gwener. A thrwy’r cwbl, sirioldeb yn rheoli.” Ni amharwyd ar frwdfrydedd y glewion lleol a mawr dyled pawb ohonom iddynt am ddal ati gyda’r fath ddycnwch. Ni chlywais yr un cystadleuydd yn cwyno a bu’r fenter yn llwyddiant ac yn glod i’r gweithwyr a roddodd ysgwydd gadarn o dan y baich.

Yn ôl y Stelciwr yn Y Cymro fe ddywedodd Elvey fod cerdded ar y Maes ar y diwrnod cyntaf yn ‘brofiad difyr’. Honnodd y Western Mail y defnyddiwyd cannoedd o ystyllod(duckboards) a thunnelli o dywod o dan draed. Diolch byth am y fath ddarpariaeth. Gosodwyd nod o £55,000 i’r Gronfa ond ni chredaf i’r pwyllgor daro’r nod er yr holl ymdrechion. Cyflawnodd Ysgol Gymraeg Maesteg gryn gamp trwy gasglu £4,000 i’r Gronfa, yn agos i fil ohono trwy noddi sillafu’r plant. Cynllun llwyddiannus arall oedd dwy daith i Lundain ar y trên. Amcanfyfrifid cyfanswm costau o £75,000. Yn y cyfarfod i roi pen ar fwdwl Eisteddfod Tir Iarll cyflwynwyd gweddill o £40, 882.95 i’r Urdd yn ganolog. Camp na ragwelodd yr un ohonom ar y diwrnod gwlyb cyntaf hwnnw. Roedd yn anochel i wyr y cyfryngau holi a fyddai’r Eisteddfod yn parhau i deithio o ystyried yr anawsterau ym Maesteg. Rhoddais sicrwydd cant y cant mai dyna fyddai’r drefn oherwydd yr holl fanteision o ymweld â gwahanol ardaloedd.

Adroddodd un gohebydd iddo synhwyro awyrgylch carnifal yn yr Hen Blwyf gyda siopau a strydoedd wedi eu haddurno â dreigiau coch a llu o fân faneri. Ni amharodd, meddai, y glaw ar yr hwyl na’r safon. Gwelodd un tafarnwr yn y dre ei gyfle am fusnes ychwanegol a chynnig gwasanaeth i eistedfodwyr newynnog. Agorai’r dafarn am 9 o’r gloch y bore i ddarparu brecwast o gig moch a wy i’r tyrfaoedd. Cyflogodd wyth o gynorthwywyr. Fe fyddem ni fel teulu wedi gwerthfawrogi ei wledd yn fawr iawn gan ein bod ni yn ein carafan mewn cae ger ffatri swnllyd macynnon papur rhyw ddwy filltir o’r Maes. Hwn oedd y maes carafanio swyddogol ond pan gyrhaeddom ni yno ar y nos Lun wlypaf y gellid ei dychmygu doedd dim modd cyrraedd canol y cae na symud y garafan oherwydd cyflwr y tir. Yno y buom tan nos Sadwrn, y tywydd wedi gwella a’r cae wedi sychu yn y cyfamser.

Un cwestiwn amlwg yn y cynadleddau dyddiol i’r wasg oedd pwy fyddai’n gyfrifol am adfer y parc i’w gyflwr gwreiddiol. Roedd yr ateb yn glir. Cyfrifoldeb yr Urdd yn ganolog fyddai gwneud hyn. Yn ysgyfala braidd fe soniais gyda thafod yn y foch mai’r ateb i unrhyw wlad yn dioddef o sychder oedd gwahodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a bod yn sicr o law a mwy o law.

Dyma’r ail achlysur i Faesteg groesawu ein prifwyl ieuenctid: 1953 oedd y tro cyntaf.Roedd lle cynnes i’r mudiad yn y dref a’r cyffiniau a thraddodiad o gynnal Aelwyd weithgar. Yn atgyfnerthiad i’r achos yr oedd Ysgol Gymraeg Maesteg gyda’r Cardi gweithgar Gerallt Jones yn bennaeth cadarn ei arweiniad. Mae’n wir dweud fod dwy farn ymhlith y selogion ynglyn â gwahodd yr Eisteddfod i’r dref. Amlygwyd y gwhaniaeth barn yn groyw noson y cyfarfod cyhoeddus pan benderfynwyd estyn y gwahoddiad.

Dros y blynyddoedd bu’n arferiad gan yr Urdd , yn wahanol i’r Genedlaethol arall, i gyhoeddi ymlaen llaw pa un a gafwyd teilyngdod yn y prif gystadlaethau llenyddol. Dilynais y drefn arferol trwy gyhoeddi teilyngdod am y Gadair, y Fedal Ddrama a’r Fedal Lenyddiaeth a diffyg teilyngdod am y Goron. Yn y gorffennol, ni fu unrhyw adwaith gan i bawb dderbyn y drefn. Ond nid y tro hwn. Cythruddwyd y Swyddogion lleol gan deimlo i’r weithred danseilio apêl eu gwyl. Yn wir, oeraidd iawn fu’r berthynas rhyngof ac un neu ddau ohonynt dros ddyddiau’r wyl. (Digwyddiadau’r flwyddyn honno a arweiniodd Cyngor yr Urdd i newid y drefn cyhoeddi ymlaen llaw.)

Cynhyrfodd Peredur Lynch,aelod 16 oed yn Adran Ysgol y Berwyn, Y Bala, y dyfroedd trwy wrthod siarad Saesneg yn ei gyfarfyddiad gyda’r wasg wedi iddo ennill y Gadair.Credai nad oedd â wnelo’r iaith Saesneg â’r Eisteddfod, yn ôl yr adroddiad yn y Western Mail . Neges ei gerdd Lleisiau oedd yr angen i ddychwelyd at y gwreiddiau ac i ddiogelu safonau presennol yr iaith a’r diwylliant Cymraeg. Ymaelododd Peredur â’r Urdd yn dair oed. Dros y blynyddoedd bu’n fuddugol ar yr unawd, unawd telyn a chystadlaethau llenyddol.

Disgrifiodd Eigra Lewis Roberts ddrama fuddugol Gareth Wyn Evans o Adran Ysgol Gyfun Penweddig fel drama aeddfed ac addas i’w pherfformio gydag ond ychydig o newidiadau. Eglurodd Gareth, “Y syniad oedd gen i oedd dangos fel y mae ffydd dyn yn gallu goresgyn anawsterau.””Dau almaenwr oedd y prif gymeriadau ac roedd darnau o’r ddeialog mewn Almaeneg.

Dyfarnwyd y Fedal Lenyddiaeth i Phyllis Ann Griffiths, Aelwyd Llanbrynmair mewn gornest o safon uchel fel y tystia sylwadau agoriadol y Dr John Gwilym Jones.”Y mae saith ymgeisydd ac ni chofiaf erioed imi feirniadu cystadleuaeth o’r blaen na phoenai ddim arnaf roi’r wobr gyntaf i unrhyw un o’r ymgeiswyr. Mae safon y gystadleuaeth yn anarferol o uchel. Drwg hyn yw rhoi pryder i feirniad a sylweddoli bod ei ddyfarniad yn y bôn yn dibynnu ar ei chwaeth bersonol.” Wedi tafoli a chanmol ymhellach, datgelodd ei fod am wobrwyo pob un o’r saith ymgeisydd. “...teimlaf y dylai Cymru i gyd wybod pwy yw’r saith ymgeisydd sydd â’u ffydd ym mhosibiliadau’r iaith Gymraeg mor gadarn, eu gobaith am ei dyfodol mor sicr a’u cariad ato mor gywir nes llawenhau beirniad a bywiocau ei ffydd, ei obaith a’i gariad yntau.”

Wrth dafoli yr ymgeiswyr aflwyddiannus am y Goron dywedodd Hywel Teifi Edwards:”Roeddwn yn edrych am awdur gyda dawn lenyddol, rhywun sy’n gallu defnyddio’r iaith i hoelio sylw’r darllenydd.” Ni lwyddodd yr un o’r naw ymgeisydd y tro hwn.

Datgelwyd y gobeithid cyrraedd y nod o fod wedi gwerthu 50,000 o goncs Mistar Urdd, o waith Wendy Davies, Trefyclo, erbyn y nos Sadwrn. Ffaith ddiddorol arall yw i John Jones, Caersws, ennill marciau llawn am ei Unawd Piano dan 19 oed. Myrddin oedd seren y siroedd trwy ennill 402 farc, gyda Gorllewin Morganwg(298) a Gorllewin Clwyd (288) yn dilyn. Aberystwyth gludodd y Cwpan Cylch yn ôl i Geredigion a theithiodd Tarian yr Aelwydydd y daith fer i Gaerdydd.


Eisteddfod Bro Colwyn, 1980

Fe geisiwn godi pwynt dadleuol neu ddweud y drefn wrth gyflwyno cyfrol y Cyfansoddiadau Llenyddol Buddugol yn flynyddol yn y gobaith gwan yr ysgogid trafodaeth. Y tro hwn gofynnais:”Tybed faint o ymgeiswyr llenyddol aflwyddiannus a faint o athrawon y Gymraeg yn ein hysgolion sydd yn prynu ac yn darllen y gyfrol hon o flwyddyn i flwyddyn. Byddai’n braf meddwl fod y mwyafrif ohonynt nid yn unig yn ei phrynu ond hefyd yn astudio’r cynhyrchion buddugol ac yn myfyrio uwchben sylwadau’r beirniaid. Ar ben hynny, byddem yn croesawu ymateb gan hyfforddwyr ac athrawon yn ogystal â chan y cystadleuwyr eu hunain.

Gofynnais hefyd a oedd yn deg dewis un cystadleuydd ifanc a gosod arno holl anrhydedd y buddugol tra’n anwybyddu ymdrechion llawer un arall a ganmolir gan y beirniad neu sy’n colli’r wobr gyntaf o drwch blewyn. “Gan mai anwastad yw safon y goreuon hwythau ac nad yw pob cynnyrch buddugol gyfwerth â’i gilydd oni fyddai’n decach cyhoeddi ymdrechion haeddiannol nifer ehangach o gystadleuwyr yn y gyfrol hon yn hytrach na deddfu y cyhoeddir yr ymgais fuddugol, a’r ymgais fuddugol yn unig, ym mhob cystadleuaeth berthnasol beth bynnag fo’i safon?” Ni dderbyniais yr un ebwch o ymateb!

Torri tir newydd a wnaeth Ifan Prys Edwards, Cadeirydd yr Urdd, yntau wrth annerch o’r llwyfan. Soniodd, gyda’i frwdfrydedd arferol, am y cynlluniau arfaethedig i weddnewid y mudiad trwy ffurfio adain annibynnol ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 30 oed. Ymgais fyddai hyn i gryfhau’r Urdd y tu allan i furiau ysgol. Fel ‘Cwmni’ yr adnabyddid y mudiad newydd gyda’r Arweinyddion yn gyfarwyddwyr iddo. Y Bwrdd Cyfarwyddwyr fyddai’n gwneud y penderfyniadau ar weithgareddau a pholisi. Rhagwelid gweithgareddau’n amrywio o dwrnamentau golff i gyrsiau nofio tanddwr a gobeithid ffurfio tîmau cenedlaethol i gynrychioli Cymru. Syniad chwyldroadol arall oedd troi Sadwrn yr Eisteddfod yn wyl neu rali fawr gyda discos a barbeciws, ymhlith y digwyddiadau. Y feirniadaeth gyffredinol yn y wasg oedd bod y syniadau braidd yn anelwig.

Mae’n amlwg mai Steddfod y syniadau oedd hon gan i Meirion Roberts, aelod o’r Pwyllgor Cyhoeddusrwydd, sôn am gynllun i sicrhau y byddai’r brifwyl yn parhau’n un deithiol. Y freuddwyd oedd sefydlu rhwydwaith o bwyllgorau codi arian yn y 13 sir i ddiogelu ochr ariannol y Steddfod a galluogi ardaloedd prin eu poblogaeth neu dlawd eu hadnoddau i’w chroesawu. Roedd y syniad i’w drafod mewn cyfarfod yn ystod Eisteddfod Bro Colwyn. Dros y blynyddoedd cafodd llawer ohonom weledigaethau am ddulliau codi arian a ymddangosai yn syml ac ymarferol ar bapur ond na fu’n llwyddiant. Daw hyn yn amlwg wrth drafod cynllun Punt y Pen.

Disgwylid i’r wyl hon gostio ar draws £80,000 i’w llwyfannu a llwyddodd y pwyllgorau lleol i ychwanegu £20,000 at y targed gwreiddiol o £40,000. Wrth gloi’r cyfrifon fe ddatgelwyd gweddill o £41,270.68. Clo i wyl hwylus, hapus a di-dramgwydd.

Fe siomwyd Gerallt Lloyd Owen, beirniad y Gadair, a oedd wedi edrych ymlaen at weld rhai “...o’n cynganeddwyr ifanc disgleiriaf yn cystadlu. Ond fy siomi a gefais. Dewisodd yr holl ymgeiswyr ac eithrio un sgrifennu yn y vers libre ac nid oes dim o’i le ar hynny cyn belled a’u bod yn parchu gofynion y mesur hwnnw. Nid trwydded i gyflwyno rhyddiaith ar siâp barddoniaeth mo’r vers libre.”Er hynny, roedd ymgais Iwan Llwyd Williams o Aelwyd Pantycelyn yn dod i’r brig o’r darlleniad cyntaf. “...nid yw’n syrthio i fagl barod cerddi ieuenctid, sef ffug-athronyddu’n eirioglyd a chlogyrnaidd. Yn wir, mae’n trin pwnc difodiant pobl – pwnc sy’n ei gynnig ei hun i’r colbiwr bras – yn farddonol gynnil ac yn llawer mwy effeithiol na cherddi rhai o’r pastynwyr yn y gystadleuaeth.”

Dilyniant o dair stori fer yn ymwneud ag un teulu oedd y dasg a osodwyd i ymgeiswyr am y Goron. Siomwyd Jane Edwards yn ddybryd gan y safon yn gyffredinol ar waethaf y ffaith i 25 ymgeisio. Mor siomedig yn wir fel na ddyfarnodd y drydedd wobr. “A theg yw gofyn pa hawl sydd gan gystadleuydd i gystadlu pan fo blerwch ieithyddol anfaddeuol yn britho’r sgriptiau. Beth, o beth, ddaeth o genedl enwau? – ai dros nos yr aethant yn angof. Petai’r ymgeiswyr hyn yn darllen mwy, siawns na chaent well gafael ar iaith.” Nid oedd yn cynnwys gwaith buddugol Gwenan Jones, Aelwyd yr Ynys, Môn, yn y feirniadaeth honno. “Mae’n sefyll yn hollol ar ei ben ei hun. Dyma lenor wrth reddf, sydd yn gwybod yn union beth mae eisiau’i ddweud, gan ddethol a chlymu’r digwyddiadau’n hynod ddeheuig. Mae wedi gweld y straeon yn eu cyfanrwydd.” Mair Jones o Aelwyd Bangor ddaeth yn ail.

Os oedd Jane Edwards wedi ei siomi, felly hefyd ei gwr, y Dr. Derec Llwyd Morgan, cyd-feirniad y Fedal Lenyddiaeth gyda Marged Pritchard, fel y dengys ei frawddeg agoriadol. “Yr oedd hon yn gystadleuaeth boenus o siomedig...Gall unrhyw un draethu ar ddewis bwnc neu ddychmygu stori, - dyna’r pethau sy’n llenwi ein sgwrs bob dydd o’n hoes. Ond y mae llenor, trwy reddf, a thrwy ddisgyblaeth o ddarllen ac astudio llenyddiaeth pobl eraill, yn draethwr sy’n dethol profiadau neu bwyntiau yn y fath fodd, fel ei fod – drwy artistri’i ddweud – yn cyflwyno yn ei waith feddwl a theimlad a ddaw yn y man yn brofiad ac yn bwnc meddwl i eraill. Pedwar o’r ymgeiswyr a lwyddodd i wneud hynny eleni.

Meddai Marged Pritchard, “Mewn cystadleuaeth bur siomedig, pleser ar y mwyaf oedd darllen gwaith FFLAMDDWYN (Elin ap Hywel, Aelwyd Wrecsam)a chael ynddo’r gwreiddioldeb, y sylwgarwch a’r synwyrusrwydd a ddisgwyliwn mewn cynnyrch llenyddol cystadleuaeth dan bump ar hugain oed....Yn sicr, ef yw llenor gorau’r gystadleuaeth. Yr un mor sicr y mae’n haeddu’r fedal.” Cofnododd Derec Llwyd Morgan fod gan Elin “...ddawn dweud gwir wefreiddiol, ac roedd ganddi ddawn arbennig i ddyfeisio sefyllfa.” Roedd y ddau feirniad yn unfryd yn eu dyfarniad ac yn cytuno hefyd i rannu’r ail wobr rhwng Margaret Roberts, Adran Ysgol Eifionydd, Porthmadog, a Gareth Ioan, Adran Ysgol David Hughes, porthaethwy.

Daroganodd Gwenlyn Parri y byddai Dafydd Arthur Jones, cipiwr y Fedal Ddrama, yn gwneud cyfraniad mawr i’r ddrama yng Nghymru. Dau fachgen, un ohonynt yn honni mai ef oedd Elvis Costello, oedd thema drama Dafydd.

Agorodd yr Eisteddfod gwys newydd a dychmygus trwy arbrofi gyda dau arweinydd llwyfan ifanc. Ymddiriedwyd y llwyfan am awr yr un i Ruth Jones a Karl Davies o dan ofal y profiadol Sulwyn Thomas. Gwn fod y profiad yn fyw yng nghof Karl 28 mlynedd yn ddiweddarach. Roeddwn yn awyddus iawn i roddi cyfle i arweinyddion ifanc a merched i gael y profiad o arwain yn hytrach na glynu at arweinyddion mwy profiadol a’r rheiny gan amlaf yn wynebau a lleisiau adnabyddus ar deledu a radio.

Talodd holl waith ac ymdrech Gorllewin Clwyd ar ei ganfed trwy gipio llawryf y siroedd gyda 496 o farciau. Daeth Myrddin(384) yn ail a Cheredigion(342) yn dilyn. I Aberystwyth yr aeth y Cwpan Cylch a Tharian yr Aelwydyddi Aelwyd Bro Cernyw.


Eisteddfod Dyffryn Teifi a’r Cylch, 1981

“Rwy’n meddwl y bydd yn rhaid cynnal dwy Steddfod eleni”, meddai un o’r wags lleol, “un yn Llandysul a’r llall yng Nghastell Newydd.”

Ergyd y sylw oedd bod cryn dipyn o gystadleuaeth rhwng y ddwy dref a’r naill mor uchelgeisiol â’r llall. “Mae gyda ni ddau bwll nofio, felly beth am ddwy steddfod?” Cafwyd unfrydedd brwd dros wahodd yr Eisteddfod i’r dyffryn ond mater arall oedd dewis y lleoliad i’r prif ddigwyddiadau. Pleidlisiodd y Pwyllgor Gwaith o blaid Castell Newydd Emlyn yn y diwedd ond welais i ddim arwydd o ddrwgdeimlad o ganlyniad. Rhoddodd yr aelodau o’u gorau ar hyd y daith a gresyn i law trwm ar y dydd Mawrth greu’r fath amgylchiadau anodd ar y Maes ac ar y Maes Carafanau. Roedd yn anochel i hyn amharu ar hwylustod y trefniadau a mwynhad y cystadleuwyr, eu hyfforddwyr a chefnogwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol. Awgrymwyd gan ambell un adeg yr wyl mai cae gwlyb yn ei hanfod oedd hwn beth bynnag. Dwn i ddim a oedd hyn yn wir, ac os felly a oedd y faith yn wybyddus i aelodau’r Pwyllgor Gwaith. Rhaid cofio hefyd mai hwn oedd y mis Mai gwlypaf er 14 mlynedd.

Cloriannwyd y brifwyl gofiadwy hon fel hyn gan Elvey MacDonald yn Adroddiad Blynyddol yr Urdd am 1981/82: “Ym mlwyddyn yr eisteddfodau llawen cafwyd gwyl eithriadol o gynnes a chartrefol yng Nghastell Newydd Emlyn eleni. Croesawyd yr Urdd gan holl drigolion ardal gyfoethog ei thraddodiadau eisteddfodol. Hir yr erys yr atgofion am Brifwyl Dyffryn Teifi a’r Cylch, am safon cystadlu, am egni a llawenydd byrlymus y pwyllgorwyr – rhy luosog i’w henwi heb beryglu gadael enwau teilwng iawn allan o’r rhestr. Ac, os elwodd yr Urdd o weithgaredd pobl dda Dyffryn Teifi, cydnebu’r ardal ei bod hithau wedi elwa’n ogystal o lwyddiant y peirianwaith eisteddfodol i ddod â phobl at ei gilydd i gyd-weithio dros ein mudiad, i gyd-weithio dros eu gwyl fawr hwythau (‘Yr Eisteddfod yw’r peth mwyaf a ddigwyddodd erioed yn yr ardal’ – gosodiad a glywyd droeon.), ac i gyd-weithio dros ei gilydd heb arbed ymdrech. O ganlyniad, cafwyd gwyl i’w chofio – y gwerthiant tocynnau uchaf erioed yn unrhyw un o eisteddfodau’r Urdd; y nifer uchaf o gystadleuwyr...dwy Stiwdio yn orlawn (er gwaethaf effeithiau andwyol y tywydd ar un ohonynt) am bedwar diwrnod yn byrlymu o frwdfrydedd ifanc, perfformiadau aruchel y cwmniau drama, Pasiant Plant yr Ysgolion Cynradd o safon gwir broffesiynol a phedwar perfformiad i neuadd lawn o’r Opera Roc Gymraeg mwyaf heintus o frwd a welwyd hyd yma ymg Nghymru. Gellid ysgrifennu cyfrol gyfan am yr wyl hon.”

“Ripihara” oedd yr opera roc a ddenodd y fath glod haeddiannol gan Elvey ond bu peth dirgelwch ymlaen llaw yn ôl adroddiad yn Y Cymro. Cyhoeddodd y papur hwnnw i’r bardd, Tydfor Jones, a’r cerddor, Cenfyn Evans, greu cyflwyniad cerddorol nas defnyddiwyd. Disgrifiwyd hyn fel tipyn o ddirgelwch, ond gofynnwyd i Emyr Edwards a Dulais Rhys i ail-ysgrifennu’r cyfan ond i ddilyn yr un cynllun. Seiliwyd y gwaith ar nofel gan T.Llew Jones, Dirgelwch yr Ogof. Ni chafwyd, hyd yn hyn, nofel yn dwyn y teitl Dirgelwch yr Opera Roc!

Un nodwedd ddiddorol ac anarferol o’r Maes oedd Pabell Crefftau Gwledig gyda gweithgareddau’n adlewyrchu diwydiannau lleol. Arddangoswyd y grefft o gneifio, gwehyddu a phedoli, ynghyd ag un brîd ar ddeg o ddefaid a nifer o foch.

Etifeddiaeth arall, sef y Gymraeg oedd bennaf ar feddwl Llywydd yr Wyl, y bardd a’r llenor T. Llew Jones, yn ei araith o’r llwyfan. “Y mae un peth sy’n ein poeni ni yn Nyffryn Teifi ‘ma ers tro bellach. Hwnnw yw gweld yr iaith Gymraeg, iaith naturiol y dyffryn, yn dirywio’n raddol ac estroniaith yn cymryd ei lle. Mae’r Gymraeg fel petai’n llifo i ffwrdd gyda lli’r afon...(yr wythnos hon)... fe fydd llanw Cymreictod yn llifo i fyny trwy Gastell Newydd a chyn belled â Llandysul a thu hwnt – oherwydd ymweliad yr Eisteddfod â’r dyffryn.

“Ond yr wythnos nesaf fe fyddwn ni’n parhau i boeni am yr un broblem.” Y gobaith oedd, meddai y byddai ymweliad yr Eisteddfod â’r dyffryn yn gwneud i bawb benderfynu o’r newydd fod yr iaith yn drysor rhy werthfawr i’w golli.

Disgrifiodd Dewi Wyn Williams o Aelwyd Amlwch ei ddrama fuddugol fel darlun o fethiant parhaol yr hil ddynol. “Mae’r ddrama yn darlunio gwr a gwraig sydd wedi dianc o’r seilam. Mae’r gwr yn methu bod yn dad, tra’r wraig wedi lladd ei phlentyn.” Roedd gan y beirniad, John Ogwen, air o gyngor i’r saith ymgeisydd. “Awgrymaf i bob un ohonynt ddarllen y llyfryn bach hwnnw., ‘Toblarôn’, sef darlith gan Wil Sam ar ffurf a deunydd drama. Mae’r disgrifiad o ddrama fer, fel y darn siocled hwnnw Toblarôn mor addas, gyda’r pigau o uchafbwyntiau ar bantiau o gynllunio ond gyda’r weiren flasus yn rhedeg drwy’r cyfan ac yn dal popeth wrth ei gilydd.”

Cerdd ar Fesur Madog ddaeth â’r gadair i Meirion Morris o Adran Ysgol Gyfun Aberaeron o dan feirniadaeth Dic Jones. Dewisodd chwech o’r saith ymgeisydd y wers rydd. Roedd dewis Mesur Madog yn ddewis hapus a doeth i brydydd ar ei brifiant, meddai’r beirniad, a’i arddull noeth yn atgoffa dyn o arddull Gwenallt.Prif ergyd y gerdd oedd y bygythiad i gladdu gwastraff niwcliar yn naear Cymru.

“Iasau niwcliar yn nesu, a braw der’n bron yn gyson,
Annedd oesol i’r gwenwyn a geir mewn rhyw gilfach gudd
Mawredd mynyddoedd Meirion, a’u hynaws dyddynwyr sy’n aros
A garant waddol gwerin a thwf diwylliant ei thir?
................................................
A ddaw gwastraff i’r ddaear, a gwenwyn i’w gweunydd iachusol?
A welir twf ei dolydd yn sarn i fympwyon Sais?

(Nid rhagfynegi dyfarniad Dic Jones a wnaeth wrth honni yn nes ymlaen yn ei gerdd mai: “Mawr fydd concwest Meirion...)

Curodd Ffion Edwards o Adran Ysgol Gyfun Penweddig 14 o gystadleuwyr eraill gyda’i dwy stori i swyno Owain Owain ac ennill y fraint o wisgo Coron yr Eisteddfod. Er iddi dderbyn cymeradwyaeth arbennig o uchel, cyfaddefodd Ffion mai llenor anfoddog oedd hi ar y gorau ac yn ei chael yn anodd i lenydda o ddifri. Meddai Owain Owain, “Dyma ddwy stori hollol wahanol i’w gilydd – thema ac ymdriniaeth ac arddull y ddwy yn wahanol – ond eto i gyd y naill fel y llall yn dangos (heb arddangos) addasrwydd iaith, sicrwydd techneg, glendid mynegiant ac aeddfedrwydd y gamp lenyddol.

Nid pawb o aelodau’r Urdd sydd yn gweld y Rhestr Testunau am y tro cyntaf mewn carchar ond dyna a ddigwyddodd i Angharad Thomas, enillydd y Fedal Lenyddiaeth. Fe’i dedfrydwyd i dri mis o gaethiwed yng ngharchar Holloway yn Llundain am beintio sloganau ar gofgolofn Nelson yn Sgwar Trafalgar. Nid yw’n rhyfedd iddi ddewis ‘Caethiwed’ fel thema i’w chasgliad buddugol, Rwy’n gweld yr Haul, sy’n disgrifio caethiwed plentyndod, crefydd, pechod, carchar a mynegiant.

Gyda sail i’m geiriau y proffwydais y byddai hon yn un o eisteddfodau mawr y ganrif a gwn y byddai’n fwy cofiadwy byth onibai am y glaw a drôdd y Maes yn fôr o laid, neu “mwt” i’r bobl leol. Amcangyfrifwyd costau o £85,000-£90,000, sef £60,000 yn fwy nag yn y Bala yn 1972. Crewyd un record ymhell cyn dyddiad y brifwyl trwy fod y cynharaf erioed i gyrraedd nôd y gronfa leol. Gwerthwyd gwerth £8,000 o docynnau ymlaen llaw. Record arall! Y gweddill terfynol oedd £58899.25. Hwyrach yn wir fod grym i sylw tafod yn y foch y wag a awgrymodd ddwy steddfod!

I’r rhai ohonom a fynychai eisteddfodau lleol Ceredigion roedd enw Sim Davies (Sim Parcytrap i bobl dda Castell Newydd Emlyn) yn adnabyddus fel unawdydd aml ei lawryfon. Erbyn cyfnod yr Eisteddfod hon fe’i adnabyddid fel gwr busnes llwyddiannus yn Llundain. Cofiodd yn hael am ei wreiddiau a’i iaith trwy gyfrannu’r swm anrhydeddus o fil o bunnoedd i’r Urdd gyda’r llog i’w ddefnyddio i unigolyn ddatblygu ei dalent.

Gwyddem oll erbyn hyn am yr afiechyd creulon a lethai Lady Edwards ond mynnodd gadw ei champ o fynychu pob un o Eisteddfodau Cenedlaethol yr Urdd o’r cychwyn cyntaf hwnnw yn 1929. Nid yn unig yr oedd hi yno, ond fe wnaeth apêl o’r galon am chwe mil o garedigion i gyfamodi £2 y mis. Gosododd nôd o £200,000 gan rybuddio y gallai’r Eisteddfod ddiflannu o galendr Cymru oni lenwid y coffrau. Bu farw ym mis Medi a thalwyd teyrnged iddi yn ei hangladd gan Ainsleigh Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Dyffryn Teifi.

Er na wyddwn hynny ar y pryd, hon oedd fy mhrifwyl olaf innau fel Cyfarwyddwr yr Urdd . Ymwelydd oeddwn ym Mhwllheli y flwyddyn ganlynol.
 

PUNT Y PEN

Byddai Hywel Gwynfryn yn hoff o adrodd stori ddychmygol am fam yn mynd at y meddyg am fod ei mab wedi llyncu darn deg ceiniog. Ateb y meddyg oedd :”Ewch ag e at yr Urdd, mae nhw’n medru cael arian allan o bawb.” Stori yr oedd yn hawdd iawn i amryw byd o bobl uniaethu â hi ar sail y profiad o fod wedi derbyn apêl uniongyrchol neu aelod yn cnocio’r drws gyda cherdyn casglu. Anodd, onid amhosibl, oedd osgoi cyfrannu at Ddydd Baneri ar gornel stryd neu Faes yr Eisteddfod. Roedd angen cryn ddyfeisgarwch i feddwl am gynllun newydd neu ddod ag ychydig o ffresni i hen gynllun a gwerthu’r syniad i ganghennau a Phwyllgorau Cylch a Sir.

Un o ddyletswyddau llai dymunol Cyfarwyddwr y dyddiau hynny oedd crwydro o Bwyllgor Cylch i Bwyllgor Cylch ac o Bwyllgor Sir i Bwyllgor Sir i bwyso, yn wir i ymbil, am fwy o gyfraniadau gan y canghennau. Er bod y croeso gan amlaf yn gwrtais a chyfeillgar nid oedd yr ymateb bob tro yn gadarnhaol.(Cofiaf eistedd yn amyneddgar mewn cyfarfod Cylch ym Môn am ddwyawr dda yn gwrando ar brisiau tocynnau, trefniadau stiwardio a threfn rhagbrofion yr Eisteddfod Gylch arfaethedig er bod taith hir yn ôl i Aberystwyth yn fy aros. Yna, dyma’r Cadeirydd, a oedd wedi fy anwybyddu i bob pwrpas, yn troi at y Swyddog Datblygu gan ddweud, “Mae’n well i ti gyflwyno dy ffrind.”Rwy’n cofio meddwl hyd yn oed os nad oeddwn i fel person yn haeddu gwell, o leiaf fod y swydd yn haeddu hynny. A oedd y teithio blinedig a’r oriau anghymdeithasol o unrhyw werth?

Yr un oedd y galw a’r angen o flwyddyn i flwyddyn ond y gamp oedd dyfeisio ongl neu wisg newydd i’r neges trwy feddwl am gynllun a fyddai’n apelio a rhoi pleser i’r aelodau ifanc y disgwylid iddynt wneud y gwaith. Bu’r Cardiau Casglu o ddrws i ddrws a’r Dyddiau Baneri yn bur boblogaidd ac effeithiol yn eu dydd er na ellid disgwyl iddynt fod yn fytholwyrdd. Dyma her y Swyddogion yn
Adroddiad Blynyddol 1973/74: “Pe caem bunt y flwyddyn gan
Rieni am bob plentyn sydd yn aelod o’r Urdd fe ddiflannai llawer o’n pryderon ariannol, a byddai’r bunt honno’n llawer mwy llesol na’r bunt a werir yn y siop sigarets, y dafarn, y clwb, y neuadd bingo neu ar betrol i grombil y car.”

O hir brofiad fe lawn sylweddolem mai gwaith cymharol hawdd oedd llunio cynllun a ymddangosai yn syml a chredadwy ar bapur ond mai mater cwbl wahanol oedd gwarantu ei lwyddiant. Boed hynny fel y bo, roedd y syniad yn apelio atom a dyna’r union gynllun a argymhellwyd gan David Ford, academydd o Brifysgol Caerfaddon a gomisiynwyd gennym i wneud ymchwil a chyflwyno addroddiad. Felly y ganwyd ‘Punt y Pen’ ac fe’i cyflwynwyd i’r gweithwyr yn y maes fel dull newydd o ariannu’r Urdd. Ni fu’n llwyddiant diamheuol a diddorol yw edrych yn ôl ar adroddiadau blynyddol am ddadansoddiad o’i effeithiolrwydd.Diddorol sylwi i’r gweithwyr ym Maldwyn arbrofi ar raddfa fechan iawn flynyddoedd ynghynt trwy ymdrechion un o’n Trefnwyr Cylch yno, sef Y Parchedig H.E.Jones, a darodd ar y syniad o wahodd cefnogwyr y Mudiad i arwyddo archeb banc blynyddol am £1. Cynllun a fu mewn grym am rai blynyddoedd.

Wrth gyfeirio at fethiant cymharol y Râs Falwns i gasglu’r cyfanswm a arfaethwyd, dyma’r hyn a ymddangosodd yn Adroddiad Blynyddol 1974/75: “...rhaid i ni bwysleisio gyda difrifoldeb na fedrwn fforddio ymateb mor gymysg i’r Cynllun Punt y Pen onid ydym yn barod i dderbyn cwtogi sylweddol ar agweddau megis yr Eisteddfod a’r Gwersylloedd.” Flwyddyn yn ddiweddarach roedd y neges yr un mor bendant.”Ymdrech i gerdded yn fras i’r cyfeiriad hwn(sef bod yn hunan-gynhaliol) yw Cynllun Punt y Pen a phwysleisiwn unwaith yn rhagor fod hwn yn ddull teg o gynnal y Mudiad am ei fod yn rhannu’r cyfrifoldeb yn deg a chyfartal rhwng y canghennau a’r aelodau i gyd, a bod ei lwyddiant yn gwbl allweddol i ddyfodol yr Urdd fel mudiad.” Tynnwyd sylw at y ffaith mai dim ond £13531.13 oedd cyfanswm Punt y Pen, Cardiau Casglu, Dyddiau Baneri ynghyd ag ymdrechion arbennig megis Dydd Agored Castell Gwydir. O gofio fod 52,795 o aelodau cofrestredig, cyfartaledd cyfraniad pob aelod oedd ar draws 30 ceiniog yr un. Dangosai’r cyfrifon am 75/76 golled o £10,787. Byddai 20 ceiniog ychwanegol y pen wedi dod yn agos iawn at osgoi colled.

Cododd y £13531 i £21,931.16 ymhen y flwyddyn ac i£38,109.83 yn y flwyddyn ariannol 1978/79. Cyfanswm gros 1980/81 oedd ymron £30,000 ond a ostyngodd i ychydig dros bum mil ar hugain wedi tynnu taliadau Punt y Pen. Roedd cyfanswm net y flwyddyn nesaf yn £36,781


CAMPAU CYMRU 81
Dyfeisgarwch. Dyfeisgarwch. Dyfeisgarwch. Dyna oedd yr her barhaus a di-ddiwedd i bwyllgorau a staff yr Urdd o safbwynt gweithgarwch apelgar i dros hanner can mil o aelodau o amrywiol oedrannau, cyrhaeddiadau a diddordebau.Teimlwyd yr angen am osod her a fyddai’n ennyn a chynnal y diddordebau hynny.O lu o syniadau a ddaeth i’r brig fe syrthiodd ein coelbren ar sbloet o gynllun amrywiol a chymharol hawdd ei weithredu ac a fyddai’n ehangu dulliau codi arian yr Adrannau a’r Aelwydydd.

Wrth gyflwyno llyfryn lliwgar Llyfr Campau Cymru 81 yn Rhagfyr y flwyddyn honno fe ddywedais. “Mae cyhoeddi Llyfr Campau Cymru 81 yn garreg filltir bwysig yn hanes cyhoeddi yn y Gymraeg ac yn narpariaeth Urdd Gobaith Cymru, nid yn unig i’w haelodau ond hefyd i holl boblogaeth Cymru. Cynlluniwyd a gweithredwyd cynllun y Campau o fewn cyfnod o ychydig wythnosau gan adael i frwdfrydedd dyfeisgar pobl ifanc, afieithus reoli a llywio cyfeiriad y fenter a ffurf derfynol y Llyfr Campau. Manteisiodd nifer helaeth o’r aelodau ar y rhyddid hwn trwy gyflawni gorchestion anarferol a roddodd fwynhad dibendraw i’r ieuenctid a’u cyflawnodd ac i’r oedolion a fu’n llygad-dyst iddynt.
“Creodd y penrhyddid hwn faich ychwanegol o waith i’r sawl fu’n gyfrifol am ddidoli a thafoli’r Campau a gosod trefn ar y llyfr hwn. Diau y bydd yn rhaid cynnig canllawiau mwy pendant at y tro nesaf, er na fynnem gyfyngu’n ormodol ar ddyfeisgarwch nac ar wreiddioldeb y sawl sy’n anelu at ennill lle anrhydeddus yn Llyfr Campau 82 ymhen y flwyddyn.

“Ni allwn lai na rhyfeddu at ystod eang y campau a gyflawnwyd eleni, yn amrywio o gysgu tros nos mewn berfa i ddarlledu i’r America ac o adeiladu Mistar Urdd symudol i’r Wers Gymraeg hiraf erioed. Diolchwn i bawb a gymerodd ran ac annogwny gweddill i ymuno yn yr hwyl y tro nesa.”

Do, bu’r cynllun dychmygus hwn yn arbrawf diddorol ac yn llwyddiant o safbwynt yr aelodau a fentrodd arni gydag asbri a brwdfrydedd yn ogystal â chwyddo’r coffrau.
 

Ffilm yr Urdd

Fel hyn yr ysgrifennais at W. Emrys Evans, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Banc y Midland (HSBC erbyn heddiw) ar y pymthegfed o Hydref, 1973:

“ Rwy’n cofio i mi addo, neu fygwth, y byddwn yn debyg o droi atoch am gymorth neu gyngor pan fyddai’r amser yn addas ac rwy’n meddwl fod yr amser wedi dod o’r diwedd!

“Un o’r pethau yr hoffwn ei weld yn digwydd fyddai cynhyrchu ffilm yn dangos amrywiol weithgareddau’r Urdd yn amrywio o Wersyll i Eisteddfod, o fynydda i ddysgu iaith, ac o noson mewn Aelwyd wledig i gyfarfod yn un o Adrannau niferus Caerdydd neu Sir fflint. Mae’n dilyn y byddai’n rhaid wrth ffilm â sglein broffesiynol a honno wedi ei chynhyrchu mewn lliw gan mai ei phrif bwrpas fyddai cyflwyno’r Urdd fel mudiad nwyfus yn llawn asbri ac afiaith. Byddai ymgais aflwyddiannus yn gwneud mwy o ddrwg nac o lês!

“Rwy’n gobeithio gweld Cyngor yr Urdd yn rhoi sêl bendith ar ymgyrch fawr i sefydlu Adrannau ac Aelwydydd newydd yn y llefydd lle nad oes gennym gangen ar hyn o bryd. Fy nelfryd i fyddai gweld cangen o’r Urdd o fewn cyrraedd pob bachgen a merch yng Nghymru. Os yw sefyllfa’r iaith i wella bydd yn rhaid i’r Urdd fod yn fwy ymosodol, yn ystyr orau’r gair wrth gwrs, o hyn ymlaen ac yn barod ac yn abl i dreiddio i bob man. Byddai’r fath o ffilm y cyfeiriais ati yn erfyn gwerthfawr yn y crwsad sydd gennyf mewn golwg.

“Y bwgan mawr, fel arfer, yw prinder arian, a dyma pam y caf fy hun yn troi atoch chi ac i gyfeiriad Banc y Midland. Mae gennyf deimlad mai’r unig ateb yw cael cwmni busnes i noddi’r ffilm, a’r cyntaf a ddaeth i feddwl pawb ohonom oedd y Midland. Byddwn yn croesawu eich sylwadau. Cystal i mi gyfaddef nad oes gennyf syniad o gost ymgymeriad o’r fath.”

Go brin y gellid fy nghyhuddo o ymchwilio’n ormodol ymlaen llaw nac o lunio fy nghais haerllug braidd mewn iaith ddiplomyddol! Fe wyddwn cystal â neb am gefnogaeth Emrys Evans i’r Urdd fel i amryw o fudiadau a sefydliadau eraill ynghyd â’r ffaith mai’r Midland fu bancwyr y mudiad o’r cychwyn cyntaf. Yn y cyswllt hwn, nid amhriodol yw cyfeirio ‘nôl at y drydedd gyfrol o hanes yr Urdd gan R.E.Griffith. Wrth drafod penderfyniad di-ildio’r mudiad i berswadio Banc y Midland i ddarparu siec ddwyieithog dyma a ddywedir.”...mae’n werth cofio mai’r Urdd a lwyddodd i berswadio’r banciau i gyhoeddi sieciau dwyieithog yn 1965...pan wnaed cais rhesymol atynt am siec ddwyieithog, cafwyd gwrthwynebiad cryf a gwrthodiad pendant...Yn wir, roedd yr Urdd ar fin cefnu ar y banc y bu ganddi gysylltiad ag ef am ddeugain mlynedd a throi i fanc arall a oedd yn barotach i drafod y mater pan ddaeth yr achos i sylw Cymro twymgalon o Lanerfyl, Mr. W. Emrys Evans, a oedd yn un o uchel-swyddogion pencadlys Banc y Midland. Cyn gynted ag y daeth y ffeil i’w ddwylo ef teleffoniodd Swyddfa’r Urdd a threfnu i ddod yn unswydd i’n gweld – nid i ddadlau’r achos o gwbl, meddai, ond i drefnu’r dull a’r modd o symud ymlaen gyda’n cais. Cyn pen fawr o dro roedd ef nid yn unig wedi darbwyllo’i fanc ei hun, ond hefyd wedi perswadio‘r banciau eraill a’r swyddfa-glirio i dderbyn a chydnabod siec newydd Cwmni’r Urdd – y siec ddwyieithog gyntaf erioed.”

Dyma’r union Emrys Evans, yn 1973, a atebodd fy llythyr begera fel hyn:

“Derbyniais eich llythyr diddorol pan ddaethum yn ôl i’r Swyddfa heddiw, ac fe garwn i chi wybod ar unwaith fod gennyf gydymdeimlad mawr â’r awydd i wneud ffilm ar yr Urdd, mewn lliw.

“Rwyf yn hoffi’r syniad yn fawr ac fe garwn eich cyfarfod yn fuan er mwyn cael trafod llawer o fanylion cyn i mi roi’r mater ger bron Bwrdd Cyfarwyddwyr y Banc. Beth am fore Llun, 5ed o Dachwedd, 1973 – byddaf yn Aberystwyth y bore hwnnw.” Ar lafar, dywedodd wrthyf:”Does dim angen i chi fy narbwyllo i ond fe hoffwn ddigon o ffeithiau er mwyn darbwyllo’r Banc.”

Bu’r cyfarfod ar 5 Tachwedd yn fuddiol a gwerthfawr iawn a theimlai Emrys ei fod wedi ei arfogi’n briodol i osod achos cryf ger bron ei Fwrdd Cyfarwyddwyr. Cytunwyd ar y swm sylweddol iawn, hyd yn oed bryd hynny, o £25,000 ar gyfer y prosiect gan obeithio y byddai hynny yn caniatau pres yn sbar i luosogi nifer digonol o gopiau o’r ffilm at wasaneth ein Swyddogion Datblygu a’r ddau wersyllfan yn Llangrannog a Glan-llyn. Bod yn amyneddgar am wythnosau lawer oedd ein tynged bellach gan ymddiried y cyfan i’r banciwr twymgalon a chefnogol.

Tua diwedd Ionawr 1974 y daeth yr alwad ffôn a gododd ein calonnau gyda’r cadarnhad ysgrifenedig ganol Chwefror fod y Bwrdd Cyfarwyddwyr wedi cytuno i gyfrannu £25,000 ac y gallem yn awr symud ymlaen i ddarparu ffilm o tua awr o hyd gyda fersiwn Gymraeg ac un yn Saesneg. Dyna ni, yr arian yn ddiogel. Hanner y frwydr oedd hynny wrth gwrs. Pwy oedd yn mynd i ymgymeryd â phrosiect mor bwysig? Cystal cyfaddef nad oedd gennyf lawer o weledigaeth er fy llu cysylltiadu yn y byd darlledu. Troi wedyn at ddau gyfaill o ddarlledwyr proffesiynol ac uchel eu parch, sef Gwyn Erfyl a Gwilym Owen o gwmni HTV. Egluro fy mhroblem a chael ateb ac enw ar ei ben: William Aaron.

Roedd Wil wedi ei fagu o fewn ergyd carreg i Swyddfa’r Urdd ac wedi ymuno â’r BBC yn dilyn gyrfa addysgol ddisglair. Cynhyrchodd a chyfarwyddodd raglenni ac eitemau i’r Gorfforaeth yng Nghaerdydd a Llundain yn ogystal ag ennill parch ac enw da am ei waith clodwiw yn Fietnam. Telir teyrnged uchel iawn iddo gan y gohebydd, y newyddiadurwr a’r golygydd Max Hastings a fu’n cydweithio ag e mewn amgylchiadau anodd iawn. Dyma a ddywed Hastings yn ei lyfr Going to the Wars wrth gyfeirio at ei gyfnod fel gohebydd rhyfel: “ I enjoyed the company of some of the crews, and above all the pleasure of working with Will Aaron and Tom Bower.” Ond nid fel cyfarwyddwr teledu ar faes y gad y dymuna Wil gael ei gofio. Fe oedd yr union wr ar gyfer y gwaith os gellid ei berswadio ac yntau bellach yn hunan gyflogedig ac yn byw yn Llanberis.

Wrth ysgrifennu ato yn gwbl gyfrinachol ym Mawrth 1974 soniais am y bwriad ond heb ddatgelu’n llawn maint yr arian at ein gwasanaeth! Eglurais bod cyfarfod pellach ar y gweill gyda swyddogion y Banc ar fin digwydd ond ein bod yn gwbl ffyddiog yr ymddiriedid y trefniadau i ni. Wrth gynnig y gwaith iddo gofynnais hefyd am ei gyngor ar beth i’w drafod gyda’r Banc. Daeth ateb cadarnhaol o Lanberis; cytunwyd ar delerau rhesymol iawn; lansiwyd y cynllun yn swyddogol ar 10 Mai trwy i Emrys Evans gyflwyno siec am £5,000 i mi fel y taliad cyntaf; amlinellodd y cynhyrchydd ei syniadau a chytunwyd ar y cynnwys.

Arfaethai Wil Aaron ar draws deugain o wahanol olygfeydd o tua dwy funud yr un a fyddai yn rhychwantu gweithgarwch blwyddyn gron mewn Adran, Aelwyd, Gwersyll, Eisteddfod, gwaith awyr agored, yr agwedd grefyddol a dyngarol ynghyd ag ambell agwedd arall berthnasol. Rhoddid lle amlwg i ddysgwraig ifanc, Jên Lethbridge, gan ganolbwyntio ar y cynnydd yn ei gallu i siarad Cymraeg oherwydd ei chysylltiad â’r Urdd. Cyfansoddwyd a chanwyd ‘Cân Jên’ gan Edward H Dafis. Cynhyrchwyd fersiwn Gymraeg a Saesneg gydag R Alun Evans a’r newyddiadurwr Trevor Fishlock yn llefaru’r naill a’r llall.

Jên Lethbridge oedd gwrthrych ‘Cân Jên’. Dysgwraig o dde Cymru a fyddai’n manteisio ar weithgareddau’r Urdd am flwyddyn gyfan tra’n dysgu Cymraeg ar yr un pryd.

Ni fu pall ar ddiwydrwydd ac ynni’r tîm cynhyrchu na staff ac arweinyddion y mudiad dros gyfnod y ffilmio. Bu’r cydweithrediad ar bob llaw yn galondid a’n hunig ofid oedd na allem gwmpasu pawb a’i bod yn anochel y siomid rhai canghennau teilwng iawn na chawsent y fraint o ymddangos. Wynne Melville Jones, ein Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus, oedd y ddolen gyswllt fywiog rhwng y cynhyrchydd a’r canghennau.

Ar 16 Chwefror, 1976, sef dwy flynedd a phedwar niwrnod union wedi i ni dderbyn cadarnhad ysgrifenedig gan W. Emrys Evans fod Banc y Midland yn cytuno i gyfrannu y swm anrhydeddus o £25,000 i gynhyrchu ffilm fe ddangoswyd y gwaith gorffenedig, y ffilm ‘Dyma’r Urdd” a’r cyfanwaith Saesneg,’This is the Urdd’ yng Nghanolfan Chapter yng Nghaerdydd. Yn y gwahoddiad swyddogol i ystod eang o bobl pwysleisiodd y Llywydd, Lady Edwards, a finne mai trwy haelioni Banc y Midland a chefnogaeth frwd Mr. W. Emrys Evans y darparwyd y ffilm. Ymgasglodd gwylwyr y ffilm Gymraeg am 1 o’r gloch; cafwyd cyfle am gwpaned o de a sgwrs am hanner awr wedi dau cyn y dangosiad Saesneg yn union wedyn. Bu rhai ohonom yn ddigon ffodus i werthfawrogi’r ddwy iaith yn ystod yr un prynhawn!

Bu’r derbyniad yr un mor wresog i’r naill a’r llall a llifodd y diolchiadau a’r gwerthfawrogiad yn ddiffuant a chynnes. Teimlem oll i ni lwyddo i gyflawni breuddwyd a chreu cyfrwng mwy na theilwng o fudiad yr Urdd. Nid rhyfedd felly i fi ysgrifennu fel hyn at William Aaron rai dyddiau’n ddiweddarach:

“Rydw i am osod ar ddu a gwyn yr hyn y ceisiais ei gyfleu brynhawn Llun, sef fy modlonrwydd llwyr ar ansawdd a chynnwys y ffilm, yn Gymraeg a Saesneg. Gwyddwn o’r blaen am dy ddawn diamheuol wrth gwrs, a chofiwn am ambell raglen gofiadwy a wnaethost i BBC Cymru, megis yr un am Nantgwrtheyrn, ond rhaid i mi gyfaddef fod yr hyn a welais ddydd Llun tu hwnt i bob disgwyl. Campwaith o ffilm yn wir.

“Erbyn hyn rydw i wedi cael cyfle i weld darnau o’r fersiwn Gymraeg fwy nag unwaith a byddaf yn gweld rhywbeth newydd bob tro. Dengys y ffilmio a’r golygu grefft arbennig iawn ac mae adwaith pob cynulleidfa fel ei gilydd yn brawf pendant o’r pleser a gaiff y gwylwyr i gyd. Daw ceisiadau o bob cyfeiriad am ei gweld a does dim ond gobeithio y daw’r copiau i law yn weddol sydyn rhag siomi’r miloedd sydd yn sychedu am olwg ar dy gampwaith.”

Crybwyllwyd eisoes y gellid defnyddio cyfran o rodd hael y banc i luosogi copiau o’r ffilmiau i’w gosod yn nwylo ein Swyddogion Datblygu at eu dangos yn y siroedd. Gyda’r hynawsedd a oedd mor nodweddiadol ohono fe gytunodd Emrys Evans yn llawen iawn fod croeso i ni wario’r gweddill ar daflunwyr i ddangos y cyfan. Nid gormodedd dweud i’r ddwy gael eu dangos gannoedd o weithiau ym mhob cwr o Gymru a thu hwnt dros y blynyddoedd nesaf. Yn wir, rwy’n cofio, cyflwyno dangosiad i gynulleidfa yn Aberystwyth a oedd yn cynnwys Yr Athro a Mrs. Aaron, rhieni’r cynhyrchydd, cyn rhuthro ychydig filltiroedd i gyflawni dyletswydd gyffelyb yn Llangwyryfon.

Cychwynnodd y bennod ddiddorol hon yn hanes yr Urdd gyda llythyr at W. Emrys Evans a phriodol ei chloi trwy ddyfynnu o lythyr at yr un gwr cyn diwedd Chwefror 1976:

“Dyma fi’n cael cyfle o’r diwedd i fynegi diolch a gwerthfawrogiad yr Urdd i chi a’r Banc am wneud y ffilm yn bosibl ac am gydweithrediad mor hwylus ar hyd y daith. Bu’r gwaith o gynllunio a pharatoi yn bleser pur oherwydd hynawsedd y Banc a’i staff.

“Bu’n freuddwyd gennyf ers blynyddoedd lawer i weld cynhyrchu ffilm broffesiynol yn dangos yr Urdd yn ei gwahanol agweddau, ond feddyliais i fawr y gwelid gwireddu‘r freuddwyd honno mor ddidrafferth a chyda’r fath lwyddiant. Ni allwn fesur maint ein dyled i chi.

“Tybiaf y cytunai ymron pawb i Wil Aaron gyflawni camp arbennig iawn a’i fod wedi cyfiawnhau’r ymddiriedaeth a osodwyd ynddo...Bu ymateb y cynulleidfaoedd o blant a’i gwelodd eisoes yr un mor frwdfrydig ag eiddo’r gynulleidfa yng Nghaerdydd.”
 

FFERM PENTRE IFAN

Rhodd werthfawr gyda thro yn ei chynffon

Nid pawb sy’n cyrraedd yn ôl i’w waith wedi cinio i glywed fod rhywun yn awyddus i gyflwyno fferm i’r mudiad y mae’n gweithio iddo. Fe ddigwyddodd yr union beth yn fy hanes i yn gynnar yn 1977 er i mi amau gwirionedd y newyddion annisgwyl ar y cychwyn.

Gallaf feddwl am nifer o enghreifftiau o lythyrau neu alwadau ffôn yn ymbil ar yr Urdd i brynu rhyw ganolfan neu’i gilydd rhag iddo syrthio i ddwylo datblygwr neu fudiad o Loegr. Er yn cydymdeimlo â’r dyhead rhaid oedd egluro nad oedd buddsoddiad o’r fath o fewn ein cyrraedd yn ariannol. Ond roedd hyn yn wahanol

Gwilym Charles Williams, yr Ysgrifennydd Gweinyddol, a dderbyniodd yr alwad gan Y Parchedig Matthew Griffiths, Ficer Trefdraeth, gan ofyn am gysylltu ag ef.Dyma wneud hynny heb oedi a chael ar ddeall fod gwraig o’r enw Peggy Hemming, Saesnes o Lundain, am gyflwyno fferm o’i heiddo yn Sir Benfro i’r Urdd. Derbyniais wahoddiad caredig iawn gan Y Parchedig a Mrs. Griffiths i ginio drannoeth yn Ficerdy Trefdraeth a chyfle i gyfarfod Mrs. Hemming.

Gair yn gyntaf am y rhoddwraig hael a’i rhesymau. Pam yr Urdd? A oedd amodau caeth a fyddai’n ei gwneud yn anodd i dderbyn cynnig mor hael? Roedd Mrs.Hemming, cyn-economegydd i’r llywodraeth, yn gysylltiedig â’r cylchgrawn a’r mudiad Resurgence, hybwyr hunan-gynhaliaeth mewn bwyd a chynnyrch, a benderfynodd symud o Lundain i Sir Benfro. Prynwyd Pentre Ifan gan Peggy Hemming am £50,000 ym Mehefin 1976 (amcangyfrifid ei bod yn werth £70,000 erbyn dechrau 1977) ac yno y sefydlodd y mudiad braidd yn anarferol hwn. Bwriadwyd sefydlu ymddiriedolaeth i weinyddu’r cylchgrawn dwyieithog, sef Mrs.Hemming, Satish Kumar(Golygydd), John Seymour(arbenigwr ar hunan-gynhaliaeth), a Gwynfor Evans a oedd ar y pryd yn Aelod Seneddol. Tybir mai Mr. Evans a ddylanwadodd ar y criw i symud i’r gorllewin. Symudodd Mrs.Hemming hithau yn Awst 1977 gyda’r cylchgrawn ond fe’i dadrithiwyd, fel y gwelwn yn nes ymlaen, a symudodd yn ôl i Lundain cyn diwedd y flwyddyn.

Y prif reswm am y dadrithiad oedd na weddai athroniaeth a dulliau’r mudiad i fferm o 100 cyfer yn y Gymru Gymraeg ac ymddengys iddi golli ffydd yn y fenter. Daeth i deimlo mai’r ffordd ymlaen oedd cyflwyno’r tir, y ty annedd a’r tai allan i fudiad cydnaws â’r amgylchedd i’w ffermio gan Gymry Cymraeg. Ffermio o ddifri, nid trwy ddulliau a ystyriai hi bellach braidd yn chwerthinllyd. Ei bwriad yn y lle cyntaf oedd cyflwyno’r uned gyfan i Bwyllgor Addysg Dyfed ond ni theimlai’r Awdurdod y medrent fforddio stocio’r lle gydag anifeiliaid a gwneud y fenter yn hyfyw. Mewn cyfarfod gyda rhai o swyddogion y Cyngor Sir fe ddaeth yn gwbl amlwg y byddent yn fwy na hapus i weld yr Urdd yn meddiannu’r eiddo. Ni wyddom i sicrwydd pwy ddylanwadodd ar y perchennog hael i gyfoethogi ein mudiad ni. Yn sicr, roedd gan Mr. Gwynfor Evans ddylanwad mawr arni a gwyddom gymaint ei pharch at Matthew Griffiths ac edmygedd ohono. Hwyrach i eraill roi hwb i’r achos hefyd.

Ni osodwyd unrhyw amodau fel y cyfryw ond fe ddywedwyd mai dymuniad y rhoddwraig oedd i Pentre Ifan weithredu fel fferm gyffredin gan ddefnyddio rhai o’r adeiladau, yr ysgubor o’r bedwaredd ganrif ar ddeg yn benodol, i hyfforddi ieuenctid. Roedd ffactor arall, ac mewn trafodaethau cynnar cafwyd rhyw fath o ddealltwriaeth y byddai Satish Kumar a’i deulu ifanc yn parhau i fyw yn y ty gan olygu’r cylchgrawn a chynnal cyrsiau iaith. Bu sôn hefyd am neilltuo hyd at ddeg cyfer o dir at wasanaeth Resurgence ond anelwig iawn fu llawer o’r trafodaethau. Teg cofnodi mai dyma oedd dymuniad Mrs. Hemming yn ystod ein cyfarfodydd cyntaf. O dan yr amgylchiadau, nid oedd gennym lawer o ddewis er mai egwyddor sylfaenol yr Urdd bob amser oedd cael rheolaeth lwyr ar ei heiddo – yn enwedig yr adeiladau a ddefnyddid gan bobl ifanc. Y gobaith oedd meddiannu’r lle ar y cyntaf o Ebrill ond ni chwblhawyd y weithred rhodd tan ddeufis yn ddiweddarach.

Yn y cyfamser roedd y sefyllfa wedi newid a chymhlethu’n arw. Daeth Mrs. Hemming i deimlo bellach nad oedd yn briodol i Satish Kumar a’i deulu barhau i fyw yn y ffermdy ac mai doethach o lawer fyddai torri pob cysylltiad gyda Resurgence gan alluogi’r Urdd i reoli popeth a ddigwyddai yno. Mewn llythyr at Mr. Kumar ym Medi 1977 mae’n dweud yn ddigon di-flewyn-ar-dafod: “Y prif beth ar fy meddwl yw eich bod chi yn gadael Pentre Ifan er mwyn galluogi’r Urdd i benodi rheolwr i’r fferm ac i’w datblygu....ysgrifennais at Schumacher (Roedd Dr. Schumacher, un o gefnogwyr y mudiad, newydd farw)yn y gobaith y gallai eich perswadio i adael o’ch gwirfodd. Mae’n amlwg na lwyddodd.”


Mewn llythyr at ei chyfreithiwr rai wythnosau ynghynt ceir eglurhad pellach am ei rhesymau gan gyfeirio at ei atebion i alwad gan John Osmond o’r ‘Western Mail’.”Dywedais fy mod wedi trosglwydo’r cyfan (o’r fferm) iddyn nhw (yr Urdd). Eglurais fy mod yn ystyried ei bod o’r pwys mwyaf i’r lle gael ei ffermio gan dybio fod y ty a’r adeiladau yn angenrheidiol i’r pwrpas hwn...Eglurais, ar sail profiad, nad oedd yn bosibl cyfuno ffermio gyda rhedeg cylchgrawn a bod pob un a feddai ar brofiad ffermio bellach wedi gadael oherwydd hyn.” Honnodd hefyd iddi gael ei pherswadio i wneud y pryniant gan berson a oedd yn awyddus i gymryd morgais ar y lle i’w bwrpas ei hun. Mewn ateb i gwestiwn pellach gan y gohebydd fe eglurodd na ffurfiwyd yr ymddiriedolaeth elusennol ac na fyddai hynny’n bosibl oni fyddai Pentre Ifan yn fferm weithredol yn darparu addysg amaethyddol.”Sylweddolais fy mod wedi gwneud camgymeriad difrifol ac yn croesawu’r cyfle i drosglwyddo’r lle i gorff cyfrifol a oedd yn barod i ddatblygu’r fferm a’i defnyddio i ddibenion addysgol.”

Taniodd ergyd egr at Resurgence a’r bobl gysylltiedig mewn llythyr at Gwilym Charles Williams yn Swyddfa’r Urdd.”Wrth gyflwyno Pentre Ifan i’r Urdd gobeithiwn y byddai’n cael ei ffermio’n effeithlon a masnachol a’i defnyddio i bwrpas addysg a datblygiad pobl ifanc gyffredin, a fydd â’u golygon ar ennill bywoliaeth onest, yn hytrach nag i bobl sydd yn dymuno i eraill i ddarparu ffermydd, tai, gerddi neu swyddfeydd ar eu cyfer yn rhad ac am ddim.”

Prawf arall o anfodlonrwydd Mrs. Hemming gyda Resurgence yw llythyr o’i heiddo i Dr. Schumacher yng Ngorffennaf 1977. “ Digwyddodd pethau fel yr ofnais. Ni chafodd(enw person) y forgais a ddymunai, ond llwyddodd Satish i achosi bawb i adael, yn cynnwys amryw o ddarllenwyr ifanc a brwdfrydig ‘Resurgence’ a oedd yn dra awyddus i ddatblygu’r fferm. Bu am y dim i hyn oll effeithio’n fawr ar fy iechyd.” Gellid dyfynnu ambell enghraifft arall o deimladau Mrs. Hemming i egluro ei dadrithiad a derbyniais innau nifer o lythyrau gan gyn-aelodau o’r gyfeillach ym Mhentre Ifan yn egluro eu dadrithiad hwythau ac yn gwirfoddoli i gynnig tystiolaeth i’r perwyl hwn pe dymunid hynny.

Ar y llaw arall mae’n deg dweud bod gan Satish Kumar gefnogwyr ac edmygwyr selog o blith rhai pobl leol a thuhwnt. Mewn llythyr at Mr. Gwynfor Evans ym Mai 1978 fe ddywed Mr. Kumar:”Ar nifer o achlysuron mai ein ffrindiau, chi, Leopold(Kohr), Ned Thomas, Robina a Dyfed Elis-Gruffydd, ac eraill, wedi ysgrifennu at yr Urdd i awgrymu cyfarfod neu gymodi.” Bu Gwynfor Evans yn gyson a chadarn ei gefnogaeth ac mewn mwy nag un galwad ffôn tua awr o hyd o Dy’r Cyffredin fe blediodd achos Resurgence gyda’r boneddigrwydd a’r argyhoeddiad a oedd mor nodweddiadol ohono. Gwaetha’r modd, roedd y bwlch rhyngom yr un mor lydan ar y diwedd ac a oedd ar y dechrau. Dadlau cadarn ond cyfeillgar. Ni fynnai Gwynfor ildio ar fater o egwyddor. Ni fedrwn innau weddnewid penderfyniadau fy mhwyllgorau.

O barchu teimladau a dymuniadau Peggy Hemming, a chofio am bolisi’r Urdd yng nghyswllt rheolaeth lawn ar ein holl ganolfannau, nid oedd dewis gennym ond pwyso ar Resurgence i ymadael. Yn ddigon naturiol disgwylid i ni gyflawni’r dasg ddiflas honno. Roedd hithau am fod yn gefn cadarn i ni ac yn fwy na pharod i ddarparu pob tystiolaeth a feddai.

Rhaid troi’r cloc yn ôl rhyw gymaint i olrhain hynt a helynt ein hymdrechion i sicrhau rheolaeth lawn ar ein heiddo newydd. Crisialwyd ein hofnau a’n bwriadau mewn llythyr a anfonais at Swyddogion Cwmni’r Urdd ar 31 Mawrth,1977.

“ Fe gofiwch am fwriad Mrs. Peggy Hemming i gyflwyno’r fferm uchod (Pentre Ifan), i’r Urdd...Hwyrach y cofiwch hefyd i mi adrodd am bresenoldeb Satish Kumar a’i deulu yn y ty fferm ac am awydd y mudiad y mae Satish yn gysylltiedig ag e i ddefnyddio peth o’r tir ar y cyd â’r Urdd. Golygai hyn ganiatau i Satish a’i deulu barhau i fyw mewn rhan o’r ty...Ar y cychwyn teimlai’r ddau ohonom( sef Cadeirydd y Cyngor a finne) y gellid caniatau hyn heb i hynny amharu’n ormodol ar fwriad yr Urdd i ffermio a chynnal cyrsiau ym Mhentre Ifan..
Erbyn hyn, fodd bynnag, fe’n gorfodwyd gan amgylchiadau i newid ein barn. Nodwn y rhesymau, isod, cyn cyflwyno ein argymhellion i’ch sylw...
Cyn diwedd Chwefror clywsom fod Satish yn lledaenu ei adenydd trwy brynu dau neu dri o anifeiliaid a meddiannu nifer o adeiladau’r fferm. Yn ddiweddarach ymddangosodd adroddiadaau a lluniau yn y ‘Western Mail’ a’r ‘Cymro, ynghyd ag eitem ar y teledu yn creu’r argraff fod ‘Resurgence’ yn berchen ar y fferm ac yn bwriadu ei datblygu mewn dull arbennig, gyda chyfeiriad yma ac acw at yr Urdd...
Mae Mrs. Hemming yn awyddus iawn i weld Satish Kumar a ‘Resurgence’ yn cefnu ar y lle gan deimlo na fydd modd i’r Urdd wneud y defnydd priodol o’r eiddo heb i hynny ddigwydd. Teimla hefyd y bydd ‘Resurgence yn denu pob math o bobl...i’r ardal...
Yn dilyn cryn dipyn o feddwl, a phoeni, teimlwn bellach ei bod yn gwbl hanfodol i’r Urdd gael meddiant llawn o’r tir a’r adeiladau...ac mai gwell yw gweithredu’n gadarn ar y cychwyn yn hytrach na wynebu sefyllfa anodd yn nes ymlaen...

Argymhellwn:
1. Ein bod yn dweud wrth fudiad ‘Resurgence’ am dorri pob cysylltiad â’r lle pan fydd yr Urdd yn cymryd drosodd.
2. Ein bod yn caniatau mis o’r diwrnod hwnnw i Satish Kumar a’i deulu chwilio am le i fyw.
3. Ein bod yn hysbysebu am weithiwr ar y fferm rhag blaen gan ddweud bod ty ynghlwm wrth y swydd. Tybiwn ei bod yn bwysig sicrhau rhywun i fyw yn y ty yn weddol buan rhag rhoi cyfle i neb arall feddiannu’r eiddo trwy drais.”


Fe ddylid cofnodi’r ffaith i Mrs. Hemming ystyried cyflwyno rhybudd ymadael i Resurgence ond i’w chyfreithiwr ei chynghori y golygai hynny gydnabod bodolaeth tenantiaeth, gyda’r problemau a ddeilliai o hynny. Dim ond yr Urdd fedrai weithredu yn awr, a dyna a benderfynodd y Swyddogion. Sylweddolai pawb ohonom y perygl o gyhoeddusrwydd anffafriol ac y byddai ein penderfyniad yn amddifadu teulu ifanc, uchel eu parch yng ngolwg rhai pobl, o’u cartref.

Mae llythyr at Mr. Kumar ar 1 Mehefin yn crisialu’r sefyllfa:

Annwyl Satish,

Gan fod trosglwyddiad Pentre Ifan i’r Urdd ar fin ei gwblhau mae’n naturiol i ni eich hysbysu am ein cynlluniau.
(Eglurais i’r Swyddogion neilltuo cryn tipyn o amser a meddwl i gynlluniau’r dyfodol ac yn arbennig i bresenoldeb Resurgence yn yr eiddo.)
Yn dilyn adroddiadau yn y wasg yn rhoi’r argraff y byddai’r ty fferm a’r tai allan yn parhau at ddefnydd ‘Resurgence’ tra y cyfyngid yr Urdd i gyfrifoldeb dros y tir, cyfarfu fy Swyddogion ar sawl achlysur i benderfynu pa ddefnydd a wneir o Pentre Ifan.
(Pwysleisiwyd y defnyddid y fferm i bwrpas amaethyddol ac i hyfforddi ieuenctid. Unwaith eto, tanlinellwyd y pwysigrwydd o reolaeth lwyr er mwyn diogelwch yr aelodau a thawelwch meddwl eu rhieni. Eglurwyd ymhellach fod hyn yn unol â dymuniadau Mrs.Hemming.)

O gadw y cyfan hyn mewn cof penderfynodd Swyddogion yr Urdd, gyda chryn ofid, i ofyn i ‘Resurgence’ a’i staff ymadael â Phentre Ifan. Rydym, felly, yn gofyn i’n cyfreithwyr i ysgrifennu atoch i derfynu eich trwydded (sef y caniatad cyfreithiol yn a’i galluogai i fyw yno ar y pryd hynny) ar 30 Mehefin. Gobeithiwn yn ddiffuant iawn y llwyddwch i ddarganfod lle i fyw erbyn hynny.

Er y gallai’r rhybudd ymddangos yn fyr a di-deimlad ar yr olwg gyntaf mae’n deg cofio i Satish gael ar ddeall gan y cyn-berchennog a ninnau mai dyna fyddai’n debyg o ddigwydd. Ymateb Mr.Kumar i lythyr ein cyfreithwyr – Rees, Currie-Jones, Davies and Evans – oedd honiad fod gan Resurgence bob hawl i barhau i fodoli ym Mhentre Ifan gan awgrymu hwyrach na roddwyd y ffeithiau cywir iddynt yn y lle cyntaf!

O ganlyniad i drafodaethau pellach ymysg ein gilydd, ysgrifennais ymhellach at Satish ar y llinellau a ganlyn:

“Rhoddwyd ni ar ddeall gan ein cyfreithwyr eu bod, yn unol â’n cyfarwyddyd, wedi cyflwyno rhybudd i derfynu eich trwydded ar 30 Mehefin.

(Dyfynnaf weddill y llythyr yn y Saesneg gwreiddiol.)
“Without prejudice to that notice and in order to make every possible effort to assist you and your young family we make the following suggestion. The Urdd is prepared to pay a reasonable rent for furnished or unfurnished accommodation for a period of six months for you and your family in a house or mobile home. Should this suggestion be acceptable we will also assist to the best of our ability in finding suitable accommodation although the ultimate responsibility in that context must rest with you. You will no doubt appreciate that this offer cannot remain open indefinitely. Perhaps, therefore, you could let know your decision within 10 days.

In the event of your non-acceptance of the Urdd’s without prejudice offer we will have no option but to ask the Urdd’s solicitors to proceed in the matter.”

Di-fudd fyddai manylu ar yr holl ohebu a dadlau a fu o hynny ymlaen (Gorffennaf 1977) a’r trafod a fu mewn un cyfarfod yn dilyn y llall gan gynnwys cyfarfod o Swyddogion Cwmni’r Urdd adeg Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym mis Awst. Bellach, ystyriaethau cyfreithiol yn unig oedd yn berthnasol gan fod yr Urdd yn gofyn am reolaeth a meddiant llawn a Mr.Kumar a Resurgence yn mynnu’r hawl i feddiant o ran o’r ystad. Soniwyd, ymhlith pethau eraill, am arian a wariwyd ganddynt ar amaethu a gwelliannau er na ellid bod yn gwbl glir beth oedd ffynnonhell y gwariant oherwydd y posibilrwydd mai derbyniadau o ganlyniad i amaethu fferm yr Urdd oedd rhan os nad y cyfan o’r arian a wariwyd. Daeth yn amlwg nad oedd yn barod i ystyried derbyn ein cynnig hael i dalu ei rent am chwe mis. Ysgrifennodd cyfreithiwr Mr.Kumar at gyfreithwyr yr Urdd yn nyddiau olaf 1977 yn nodi mai ar yr amodau canlynol yn unig y byddai ei glient yn barod i gefnu ar Bentre Ifan:
a) Ei fod yn cael ei ddigolledu’n llawn am ei wariant;
b) Ein bod yn darparu cartref arall iddo neu’n talu swm sylweddol (‘substantial sum’ oedd yr union eiriau) yn iawndal a fyddai’n ei alluogi i ddarganfod lle i fyw.

Erbyn canol Ionawr 1978 taflwyd mwy o oleuni ar ofynion Satish Kumar pan ofynnodd, trwy ei gyfreithiwr, am ei ddigolledu’n llawn am ei waith yn adnewyddu’r ty a’r ysgubor (£3293.66), a £15,000 i brynu cartref iddo ef a’i deulu a swyddfa i Resurgence. O dderbyn yr amodau hyn fe gaem y lle yn wag cyn gynted ag y deuai o hyd i le addas. Pwysleisiodd y cyfreithiwr nad oedd unrhyw bosibilrwydd i Satish gael morgais gan mai ei gyflog oedd rhodd o £15 y mis am ei waith fel golygydd. Nid yn annisgwyl, negyddol oedd ein hymateb fel y dengys fy llythyr at Gareth Wallis Evans o gwmni Rees, Currie-Jones, Davies and Evans:

“Rydym yn gytun yma na fedrwn ystyried talu’r swm afresymol o £15,000 i alluogi Satish i brynu ty iddo fe a’i deulu. Yr unig bwynt i’w drafod yma yw mater yr arian a wariwyd gan Satish ar wella’r adeiladau. Tybiaf y bydd yn rhaid iddo brofi (a) iddo wario’r symiau y cyfeiria atynt, a (b) mai nid arian derbyniadau’r fferm oedd y symiau hyn.”

Cododd mwy nag un anghydfod rhyngom ynglyn â defnydd o ran o’r tir ac o’r adeiladau. Fe’n rhwystrwyd rhag defnyddio adeilad i gadw moch; bu dadl am gyflwr rhai o’r coed; ymwthiodd brucellosis i’r wyneb hefyd. Dengys gohebiaeth ym Mehefin 1978 i ni orfod rhoi prawf brucellosis pellach i’n stoc ym Mhentre Ifan gan i’r milfeddyg fynnu hyn oherwydd presenoldeb gwartheg Satish ar y fferm cyn iddynt basio’r prawf. Cawsom anhawster i neilltuo caeau i dyfu gwair gan fod gwartheg Satish yn cael eu troi i’r caeau hynny yn gwbl fympwyol. Mewn llythyr at Gwynfor Evans, dyma a ddywedais:

”Rhaid i mi ddweud yn gwbl blaen fod fy amynedd yn cyflym ddiflannu ac na ellir disgwyl i’r Urdd ddioddef yn dawel lawer yn hwy.” Y cyngor cyfreithiol oedd i ni beidio gwasgu gormod ar ein hawliau cyn i’r holl sefyllfa gael ei datrys yn gyfreithiol.

Gan nad oedd gobaith am ildio ar ran y naill ochr na’r llall penderfynwyd cyflwyno gwrit Uchel Lys. Roeddem eisoes wedi derbyn cyngor gwerthfawr ac arbenigol gan ein cyfreithwyr a chan gwnsler mygedol yr Urdd, y bargyfreithiwr disglair, Yr Athro Hywel Moseley, ac yn ymwybodol o farn cynghorwyr cyfreithiol yr ochr arall. Fel llawer o ddadleuon ar fater cyfraith nid oedd y darlun yn un cwbl ddu a gwyn beth bynnag oedd teimladau’r Urdd am sefyllfa nad oedd yn gyfangwbl o’n gwneuthuriad ni ein hunain. Dadl wan, yn ôl Hywel Moseley, oedd gan Satish Kumar fod ganddo hawl i barhau i fyw ar y fferm ar sail cytundeb gyda Mrs.Hemming. Y rheswm oedd na chytunwyd yn derfynol ar amodau’r cytundeb. Yr un mor simsan oedd yr haeriad am fodolaeth cytundeb i greu ymddiriedolaeth, a hynny am yr un rheswm, sef na chrewyd telerau ac amodau pendant. Ar y llaw arall, roedd sylwedd i’r cais am iawndal am wella’r eiddo oherwydd iddo ef a’i ffrindiau gael eu harwain i gredu y caent fyw yn yr eiddo. Egwyddor ecwiti (sef chwarae teg) a reolai’r ddadl honno. Cyngor ein bargyfreithiwr oedd i dalu’r iawndal cyn mynd i’r llys rhag i’r Urdd orfod wynebu holl gostau’r achos.

Cyfeiriodd ein cyfreithwyr at egwyddor arall mewn ecwiti, felly hefyd ein bargyfreithiwr, sef estopel ecwitiol, gan grybwyll mai dyma fyddai rhan o amddiffyniad Mr.Kumar mewn achos llys. Gwir y gair gan i’w gyfreithiwr yntau gyflwyno’r un ddadl.


Doedd dim math o sicrwydd mai’r Urdd enillai frwydr mewn llys ac roedd yn anochel, colli neu ennill, y byddai costau’n dilyn. A beth petaem yn colli? Beth wedyn?
A fyddem yn gorfod rhannu defnydd o Pentre Ifan am gyfnod amhenodol, a hynny o dan amgylchiadau anodd? Cawsom gyngor ddigon pendant a doeth gan ein tîm cyfreithiol i geisio datrys yr achos cyn cyrraedd llys barn. Dyna oedd dymuniad yr ochr arall hefyd. Y canlyiad fu cyfarfod yn Abertawe ddiwedd Tachwedd 1978 rhwng cynrychiolwyr yr Urdd – Emyr currie-Jones a Hywel Moseley (fe’m gorchmynwyd i i gau fy hun mewn stafell ar wahan ac i beidio â dangos fy wyneb nes bod y trafod drosodd) a chyfreithiwr a chwnsel Satish Kumar. Pan ddaeth y cyfarfod i ben fy nhasg i oedd darbwyllo Swyddogion Cwmni’r Urdd i dalu £9250 mewn dau daliad o £4625 i sicrhau byddai fferm Pentre Ifan yn wag ac at ein gwasanaeth. Y taliad cyntaf yn ddyledus ddechrau Chwefror 1979 a’r ail pan fyddai Satish Kumar a’i deulu yn gadael ar 31 Awst fan bellaf. O gyfri’r holl gostau angenrheidiol roedd gan yr Urdd fferm yn werth o leiaf £70,000 am lai na deuddeg mil o bunnoedd. Bonws arall oedd peidio â gorfod poeni ymhellach am broblem a fu’n ein llethu am gyfnod mor faith.

Yn fwriadol ac i bwrpas y penderfynwyd cofnodi’r holl hanes yn weddol llawn. Hwyrach na fydd o ddiddordeb ysol i’r darllenwyr hynny na fu yng nghanol y frwydr – ac mi oedd hi’n frwydr gas ar brydiau – ond teimlais mai dyma’r cyfle olaf o bosibl i rywun a brofodd holl droeon yr yrfa i geisio crynhoi’r saga. Yn anochel bron, cafwyd ambell dro annisgwyl yn y misoedd rhwng cyfarfod Abertawe a’r diwrnod y buom yn edrych ymlaen ato cyhyd.


Y llinyn arian trwy’r holl hanes uchod oedd dibyniaeth yr Urdd ar ei chynghorwyr cyfreithiol a’n dyled ninnau fel staff i Swyddogion Cwmni’r Urdd. Mae fy niolch personol i Emyr Currie-Jones a Gareth Wallis Evans, cyfreithwyr mygedol yr Urdd a’r bargyfreithiwr Hywel Moseley, ein cwnsler mygedol, yn ddiffuant a difesur. Dim ond codi’r ffôn neu ofyn am gyfarfod wyneb yn wyneb oedd angen a byddwn yn gallu rhannu fy ngofidiau neu geisio cyngor a chyfarwyddyd i osgoi cam gwag a allai niweidio ein hachos. Yn bwysicach fyth, roedd y croeso bob amser yn gynnes a’r sgwrs yn gyfeillgar. Bu tyrchu trwy’r ffeil yn ddiweddar yn agoriad llygad gan na fedrwn amgyffred maint, manylder a thrylwyredd y gwaith cyfreithiol a gyflawnwyd. Rwy’n ddyledus hefyd i Gareth am hwyluso hyn o ymdrech i gofnodi’r cyfan trwy ganiatau i mi graffu ar ohebiaeth a dogfennau’r bennod gythryblus hon yn hanes yr Urdd. Tenau iawn fyddai’r stori pe dibynnwn ar y cof yn unig.

Ymhlith Swyddogion y Cwmni yr oedd pobl fel Gwynfryn Evans, Sulwyn Thomas ac Alwyn Williams. Bu’r cyfan ohonynt yn gefn cadarn ond roedd yn naturiol fy mod yn troi’n amlach at Prys Edwards a Bob Roberts, Cadeirydd a Thrysorydd, a oedd, yn naturiol, â mwy o gyfrifoldeb am yr ochr ariannol. Ni allai’r un Cyfarwyddwr ddymuno dau gyfaill mwy cadarn a sicr eu barn a gwyddwn na fyddai’r naill na’r llall yn ildio na phlygu i unrhyw bwysau nac yn gwneud tro pedol unwaith cymerid penderfyniad.


J Cyril Hughes
[Nôl i dop y dudalen]

 

John Eric Williams


Yr anhawster mwyaf wrth geisio llunio’r braslun yma o hanes yr Urdd dros gyfnod o flynyddoedd oedd dewis beth i‘w gynnwys a beth i’w adael allan. Roedd hyn yn arbennig o wir yn achos rhai gweithgareddau oedd yn digwydd yn flynyddol, heb fawr ddim newid sylfaenol yn y gweithgaredd, ar wahân i wella ar y cyflwyniad neu’r dulliau o weithredu.

Mae’r gyfundrefn eisteddfodol, yn nodwedd o hyn. Rhaid sefydlu rhwydwaith o bwyllgorau dair neu bedair blynedd ymlaen llaw, i drefnu pob agwedd o’r ŵyl, codi cronfa sylweddol o arian, paratoi safle (ar faes neu mewn adeilad parhaol), a chynnal yr
ŵyl ei hun. Gorchest arwrol dan amgylchiadau anodd iawn yn aml. Beichus fyddai nodi’r holl fanylion hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn er mor glodwiw y gwaith. Yn hytrach cyfeiriais at leoliad yr ŵyl ac unrhyw beth oedd yn arbennig neu’n wahanol yn yr ŵyl honno.

Y mae’r un peth yn wir am adrannau eraill o weithgareddau’r Urdd – chwaraeon, cylchgronau a’r gwersylloedd. Roedd llawer iawn o waith cyson yn mynd ymlaen i drefnu a rhedeg y gweithgareddau hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn gan staff cyflogedig a gwirfoddolwyr.

Yn achos gwaith y maes rhaid cofio am y llun o ganghennau mewn trefi, pentrefi ac ysgolion ar hyd a lled Cymru sy’n cyfarfod, gyda chymorth degau o arweinyddion gwirfoddol, o wythnos i wythnos, i gynnal rhaglen amrywiol o weithgareddau. Eto nid wyf wedi manylu ar y gwaith rhyfeddol yma nac am y Swyddogion Datblygu oedd yn gefn i’r cyfan.

Ar y llaw arall mae llawer o unigolion gwirfoddol amlwg wedi gwneud cyfraniadau enfawr i waith yr Urdd dros y cyfnod yma ac wedi aberthu llawer mewn amser ac arian. Fodd bynnag, unwaith y dechreuir enwi unigolion, mae rhywun yn siŵr o gael ei adael allan. Penderfynais beidio ag enwi bron neb yn y diwedd.

Dylid cofio wrth ddarllen y nodiadau hyn am y trwch sylweddol yma o weithgarwch sy’n gefndir ac yn sylfaen i’r cyfan ond sydd heb ei gofnodi. Yn hytrach, rwyf wedi ceisio cyfeirio at brif ddigwyddiadau pob blwyddyn gan geisio rhoi blas ar beth oedd yn digwydd yn y flwyddyn honno, ochr yn ochr â beth oedd yn digwydd yng Nghymru neu o fewn y gyfundrefn gwaith ieuenctid yr oedd yr Urdd yn rhan ohoni ar y pryd, a’r galwadau a oedd yn rhaid i’r mudiad ymateb iddynt o’r cyfeiriadau hyn.

J. Eric Williams
Ionawr 2009

 

1981 – 1982
Staff: Bu’n flwyddyn o gryn newid pan ymddiswyddodd J Cyril Hughes wedi 21 mlynedd gyda’r mudiad (11 fel Cyfarwyddwr). Penodwyd J Eric Williams i’r swydd wedi 19 mlynedd ar y staff, (15 yn Bennaeth Glan-llyn). Penodwyd Hywel P Jones i Lan-llyn a John Japheth (cyn Bennaeth Llangrannog) yn Drefnydd Iaith. 
 
Ariannol: Un o’r ymgyrchoedd codi arian yn y cyfnod yma oed Llyfr Campau Cymru gydag aelodau yn cael eu noddi i gyflawni gorchestion arbennig. Roedd yr Urdd hefyd yn ceisio rhedeg dwy fenter fasnachol, gyda’r bwriad o drosglwyddo unrhyw elw i redeg y mudiad. Fferm yr Urdd ar diroedd Cefn Cwrt Llangrannog a Phentre Ifan oedd y naill a Ffatri’r Urdd oedd y llall.
 
 
Eisteddfod: Cynhaliwyd Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 1982 mewn tywydd godidog ym Mhwllheli. 
 
 
 
Drama: Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn perfformio ‘Trystan ac Esyllt’ gan Emyr Edwards.
 
Cylchgronau: Cyhoeddi pedwar cylchgrawn ‘Deryn’, ‘Bore Da’, ‘Mynd’ a ‘Cymru’r Plant’ ddeg gwaith y flwyddyn. Cyhoeddi dau lyfr o dan gynllun llyfrau darllen y Cyd Bwyllgor Addysg ‘Y Ddraig Werdd’ gan Dyfed Glyn Jones a ‘Gwesty’r Llygaid Aflan’ gan Ifor Wyn Jones.
 
Cyrsiau Iaith: Cynhaliwyd saith o gyrsiau gyda 1,148 o aelodau yng Nglan-llyn a Llangrannog. Derbyniwyd nawdd gan Gorfforaeth Kaiser (Rio Tinto) tuag at gynnal y Swyddog Iaith.
 
Llangrannog: 6,861 wedi aros yno, 2,601 yn y gwersylloedd haf. Sicrhau cymhorthdal o £285,000 gan y Swyddfa Gymreig tuag at godi Canolfan Iaith.
 
Glan-llyn: Bu 6,055 yn aros yn y ganolfan. Cafwyd 25 o feiciau, 5 Cwch Optimist a 5 Hwyl fwrdd. Rhoddwyd lloches i ddeugain o deithwyr ar nos Sul, 13 Rhagfyr a oedd wedi eu dal mewn eira mawr. Yr Urdd mewn ymgynghoriad â’r Cyngor Sir, Y Parc Cenedlaethol a’r Bwrdd Dŵr i waredu’r mwd o Fae Glan-llyn.
 
Neges Ewyllys Da: Aelwyd Aberhonddu â’r thema ‘Heddwch’. Cyngor yr Urdd yn cefnogi Ymgyrch Diarfogi Niwclear Cymru.
 
Gwaith y Maes: Mae 13 o Swyddogion Datblygu yn gyfrifol am ddatblygu pob agwedd o waith y mudiad yn y siroedd. Eisteddfodau, chwaraeon, cyrsiau yn y gwersylloedd, codi arian, sefydlu canghennau newydd a llu o weithgareddau eraill.
 
Chwaraeon: Cynhelir 12 o gystadlaethau Chwaraeon Cenedlaethol yn ogystal â Chystadleuaeth Pencampwyr dan a thros 15 oed, i fechgyn a merched a Ras Traws Gwlad.
 
Cyffredinol: Ar 1 Tachwedd 1982, cafwyd darllediad cyntaf S4C. Bu’r Urdd yn flaenllaw yn y frwydr i geisio perswadio’r Llywodraeth sefydlu sianel Gymraeg trwy anfon dirprwyaeth ar y BBC a’r Awdurdod Darlledu.
 
 
1982 – 1983
 
 
Blwyddyn oedd hon, o dan gyfundrefn newydd, a welodd nifer o newidiadau er mwyn ceisio rhannu cyfrifoldebau’n fwy effeithiol a datblygu’r rhaglen waith mewn sawl cyfeiriad. Cael uned gyhoeddusrwydd symudol i’w defnyddio mewn sioeau, gwyliau ac ysgolion.
 
Ariannol: Yr Adran yn cymryd cyfrifoldeb am ymgyrchoedd codi arian megis £1 y pen, Dyddiau Baneri a chydweithio ag ymgyrchoedd sirol megis Penllanw Portmeirion. Gwnaed ymholiadau am gyfrifiadur i hwyluso gwaith yr Adran.
 
Eisteddfod: Penodi Trefnyddion i Eisteddfodau’r De a’r Gogledd er mwyn cryfhau’r cysylltiad lleol a’r eisteddfodau. Yr Adran yn cymryd cyfrifoldeb am weinyddu Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd a sefydlu Gŵyl Ddrama Genedlaethol i’w chynnal am yn ail â’r eisteddfod yn y De a’r Gogledd. Eisteddfod Aberafan 1983 yn adeilad Lido Afan Port Talbot. Yr Eisteddfod pum diwrnod cyntaf.
 
Drama: Degfed perfformiad y Cwmni Theatr fu ‘Romeo a Juliet’. Cyhoeddi llyfr ‘Dathlu Deg’ i nodi gwaith y Cwmni a’r cynhyrchydd Emyr Edwards.
 
Cylchgronau: Cynhaliwyd Cynhadledd Gylchgronau ar gyfer Trefnyddion Iaith a staff yr Adran. Canlyniad hyn fu cyfarfod pellach â’r Uned Iaith Genedlaethol. Adlewyrchir peth o ffrwyth y cyfarfodydd hyn yn y cylchgronau, o ran syniadaeth a methodoleg. Cefnogaeth y Cyngor Llyfrau’n anhepgor.
 
Cyrsiau Iaith: Cynhaliwyd naw cwrs i dros 1,200 o aelodau. Mae gan yr Awdurdodau Addysg gyrsiau yn ogystal. Bu pedwar cwrs penwythnos i oedolion.
 
Llangrannog: Dathlwyd hanner canrif y gwersyll gyda diflaniad yr adeiladau pren a chodi adeiladau parhaol gyda chymhorthdal y Swyddfa Gymreig a Bwrdd Datblygu Cymru Wledig. Mynychodd 7,000 y gwersyll.
 
Glan-llyn: Mwy o ddefnydd o’r pwll nofio a’r gampfa gan grwpiau allanol tra bod 5,900 wedi aros yno. Bu Ffilm Fideo o'r gwersylloedd ar daith i’r canghennau.
 
Neges Ewyllys Da: Aelwyd Bro Cernyw yn llunio’r Neges ar thema ‘Pontydd’. Daeth llawer o atebion yn ôl. Darlledu’r Neges ar Radio Cymru.
 
Canolfan Caerdydd: Canolfan brysur ar agor chwe noson yr wythnos Adran, Aelwyd, Côr a pharti dawns yn defnyddio’r ganolfan. Cyrsiau Iaith a Siop Lyfrau Taflen yn codi arian i’r ganolfan.
 
Gwaith y Maes: Penodi Swyddog Datblygu rhan amser yn Eryri fel arbrawf. Sefydlu Cerdyn Mantais Urdd 2000. Byrddau Aelwydydd yn cael eu sefydlu i hybu gweithgareddau. Sefydlu Profion Medrusrwydd i estyn cymorth i ieuenctid di-waith trwy ddysgu sgiliau newydd. Y Cenhedloedd Unedig yn clustnodi 1985 fel Blwyddyn Ryngwladol Ieuenctid. Cynrychiolwyr yr Urdd ar bwyllgor Cenedlaethol y Cenhedloedd Unedig gyda’r Swyddogion Datblygu ar y pwyllgorau lleol.
 
Canolfan Glyntawe yn cau ond Canolfan Aberdâr yn agos.
 
Chwaraeon: Penodi Trefnydd Chwaraeon llawn amser. Cynnal Cystadlaethau Nofio am y tro cyntaf. Sefydlu Mini Marathon o amgylch Llyn Tegid yn agored i’r cyhoedd.
 
 
1983 – 1984
 
 
Penodwyd Swyddog Datblygu Cenedlaethol, gyda chyfrifoldeb arbennig am Waith y Maes, Hyfforddiant a Threfniadaeth Urdd 2000. Bu nifer o newidiadau hefyd yn y siroedd. Yn ystod y flwyddyn sicrhawyd y cyfrifiadur cyntaf i’r mudiad, i’w ddefnyddio, yn bennaf, gan yr Adran Ariannol, er i Adroddiad Blynyddol y flwyddyn hon gael ei lunio arno.
 
Ariannol: Parhau i ddangos colled a wnâi’r fenter o geisio rhedeg ffermydd yr Urdd fel busnes, penderfynwyd yn hytrach i osod y tir ar rent o flwyddyn i flwyddyn.
 
Eisteddfod: Agorwyd Swyddfa Trefnydd Eisteddfodau’r Gogledd yng Nghaernarfon. Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug a’r Cylch 1984. Trefnwyd cystadlaethau i aelodau o ysgolion anghenion addysgol arbennig am y tro cyntaf.
 
Drama: Cyfieithiad Emyr Edwards o ‘Pinocio’ oedd cynhyrchiad taith y Cwmni Theatr Cenedlaethol gan berfformio i theatrau llawn ar draws Cymru.
 
Cylchgronau: Bu’n rhaid codi prisiau’r cylchgronau a gwelwyd gostyngiad yn y cylchrediad, er i swm y gwariant siroedd godi. Cyhoeddwyd ‘Y Dylluan Wen’ J Selwyn Lloyd, fel rhan o gynllun Clwb Sbondonics y Cyngor Llyfrau.
 
 
Cyrsiau Iaith: Cynhaliwydy cyrsiau arferol yn y ddau wersyll ar gyfer 6,000 o aelodau. Bu’n rhaid gwrthod 700 oherwydd diffyg lle. Mae prinder athrawon iaith yn broblem gan fod yr awdurdodau addysg yn cyflogi llai oherwydd prinder arian. 
 
 
 
Llangrannog: Bu cynnydd yn y niferoedd unwaith eto. Mae patrwm sefydlog o grwpiau yn ymweld â’r gwersyll erbyn hyn a’r gwersyll haf yn brysur iawn. Cyflwynwyd nifer o weithgareddau newydd megis cwrs BMX a Chrochenwaith.
 
Glan-llyn: Sicrhawyd cymhorthdal dros gyfnod o dair blynedd gan y Swyddfa Gymreig i wella’r adnoddau, gan gynnwys Caban Bwyta newydd a nifer o ystafelloedd grŵp, llyfrgell, ystafell deledu, ystafell dywyll ac ystafell astudiaethau’r amgylchfyd. Cwblhawyd y gwaith o waredu’r llaid o Fae Glan-llyn, fel bod modd defnyddio’r llyn ar bob lefel.
 
Neges Ewyllys Da: Aelwyd Orllwyn Teifi yn paratoi’r Neges ar thema ‘Dŵr ynteu Dagrau’. Codwyd dros £12,000 i UNICEF ar gyfer cloddio ffynhonnau yn y Swdan.
 
Gwaith y Maes: Cyhoeddi cylchgrawn ‘Y Crochan’ i’w rannu i aelodau Urdd 2000. Y Cerdyn mantais yn boblogaidd. Sefydlu Cwis Aelwydydd Cenedlaethol.
 
Chwaraeon: Y cydweithio â’r Cyngor Chwaraeon yn sicrhau wythnos o hyfforddi chwaraeon yn ystod yr Eisteddfod, ac anfon buddugwyr Pencampwyr yr Urdd ar gyrsiau’r Cyngor. Cynnal yr holl chwaraeon arferol a’r ail Farathon byr o amgylch Llyn Tegid.
 
 
 
1984 – 1985
 
 
PenderfynoddCyngor yr Urdddderbyn argymhellion y gweithgor fu’n edrych ar yr angen i ail drefnu strwythur y mudiad, i adlewyrchu’n decach y rhanbarthau cystadleuol a threfn llywodraeth leol.Yn ogystal cefnogwyd yr egwyddor o sefydlu Corff Datblygu Addysg Gymraeg.
 
 
 
 
 
Eisteddfod: EisteddfodGenedlaethol Caerdydd a’r Cylch 1985 yn cael ei chynnal yn y Ganolfan Chwaraeon Genedlaethol wedi i’r eira ddymchwel Neuadd Gerddi Soffia. 
 
 
 
 
Drama: Cynhyrchiaduchelgeisiol o 'Rhyfel a Heddwch’ Tolstoi gan y Cwmni Theatr. Cynnal Gŵyl Gyhoeddi, Gŵyl Ddrama Brynaman 1986.  
 
 
 
Cylchgronau: Cyhoeddi ‘Llyfr Jôcs Ribidires’ yn gysylltiedig â’r rhaglen radio boblogaidd, hefyd llyfr ‘Cariadon’ dan gynllun comisiwn y Cyngor Llyfrau. Cyfarfod â’r Uned Iaith i drafod nodau graddedig a rheolau cyrhaeddiad ar gyfer eu cynnwys yn y cylchgronau.
 
Llangrannog: 7,243 wedi aros yn y gwersyll, 2,097 yn ystod gwersyll haf. Prynu beiciau modur tair olwyn, paratoi cael pêl-droed a phaentio murlun yn yr Ystafell Chwaraeon.
 
Glan-llyn: Cwblhawyd y Caban Bwyta, Ystafelloedd Grŵp a Thirlunio a rhoi cychwyn ar y Neuadd Chwaraeon. 6,977 wedi aros yn y gwersyll, 898 yn y gwersyll haf.
 
Neges Ewyllys Da: Aelwyd Trawsfynydd yn paratoi’r Neges ar thema’r Flwyddyn Ryngwladol Ieuenctid, ‘Cymryd rhan – Datblygiad a Heddwch’. Cynnal ‘Pinacl 84’ ym Mhafiliwn Corwen i gyflwyno addewid yr Urdd trwy hwyl, sŵn, symud, dawns a chân. Casglwyd miloedd o lyfrau a theganau i’w dosbarth i MENCAP. Cyhoeddi taflen Gymraeg ar beryglon niwclear.
 
Gwaith y Maes: Y Swyddog Datblygu Cenedlaethol yn cychwyn ar ei waith o ddifrif trwy ymweld ag aelodau newydd o staff. Cynllunio cwrs hyfforddiant mewn swydd fydd yn cael ei gydnabod gan Goleg Prifysgol Bangor. Aelodau methedig ac abl yn cyd-hwylio ar y ’Soren Larsen’ o Abertawe i Lerpwl. Paratoi at y Gwersyll Rhyngwladol sydd i’w gynnal yng Nglan-llyn yn Awst 1985 fel rhan o’r Flwyddyn Ryngwladol Ieuenctid.
 
Chwaraeon: Mwy nag erioed yn cymryd rhan yn y gwahanol wyliau cenedlaethol sy’n uchafbwynt i gystadlu brwd o fewn y siroedd gydol y flwyddyn.
 
 
 
1985 – 1986
 
 
Dyma’r flwyddyn y bu’n rhaid i’r Urdd orfod wynebu argyfwng ariannol difrifol. Prif reswm am y sefyllfa yma oedd yr anghydfod rhwng athrawon ysgol a’r cyflogwyr. Bu cwtogi ar unrhyw waith gwirfoddol o du’r athrawon ac fe effeithiodd hyn yn drwm ar holl weithgareddau gwirfoddol y mudiad.
 
Bu llai o gofrestru aelodau, llai o gynlluniau codi arian a llawer llai yn mynychu’r gwersylloedd. Canlyniad hyn fu cwtogi sylweddol ar incwm yr Urdd, a lleihad yn y llif ariannol. Yn dilyn ystyriaethau difrifol, a allai olygu lleihau oriau gwaith y staff ac arbedion eraill, penderfynwyd cychwyn apêl genedlaethol gyda’r nod o godi £250,000. Bu ymateb syfrdanol i’r apêl yma o bob cyfeiriad ledled Cymru gan gyrraedd y nod o fewn y flwyddyn. Derbyniwyd cymhorthdal tuag at benodi ymgynghorwyr ariannol i edrych ar drefniadaeth gyllidol y mudiad.
 
Daeth wyth swydd yn wag yn y cyfnod yma. Ail apwyntiwyd dwy swydd gan adael y gweddill yn wag dros dro. 
 
Eisteddfod: Bu Eisteddfod Dyffryn Ogwen 1986 yn llwyddiant ysgubol er gwaethaf yr argyfwng ariannol a’r bygythiad i’r pafiliwn gan dywydd garw ddechrau’r wythnos.
 
Drama: Perfformiwyd, ‘Chicago’ opera roc gan Emyr Edwards a Huw Chiswell, i neuaddau llawn ledled y wlad. Derbyniwyd cymhorthdal gan HTV a Chyngor Celfyddydol Cymru i sicrhau’r cynllun.
 
Cylchgronau: Ail wampiwyd cynnwys ‘Bore Da’ a ‘Mynd’ ar fyr rybudd, ar gais Ymgynghorwyr iaith Awdurdodau Addysg Cymru. Roedd pryder am gylchrediad ‘Cymru’r Plant’ a ‘Deryn’. Cyhoeddwyd ‘Jiw Jiw Jeifin Jenkins ar gyfer y Clwb Sbondonics.  
 
Llangrannog: Roedd yr argyfwng wedi effeithio’n sylweddol ar niferoedd y gwersyll. 1,058 fu yno o Feli ymlaen o’i chymharu â 3,661 y flwyddyn cynt. Diswyddwyd wyth o staff am gyfnod. Bu rhai uchafbwyntiau megis dyfodiad beiciau modur tair olwyn, gwneud ffilm gan Gôr Cydwladol Ieuenctid dros Heddwch a chwrs llwyddiannus ar gyfer y methedig.
 
Glan-llyn: Yn ystod yr haf cynhaliwyd Wythnos Ryngwladol Ieuenctid, sef cyfraniad yr Urdd i Flwyddyn Ryngwladol Ieuenctid Ewrop, gyda thros 100 o ieuenctid o Freisland, Yr Iwerddon, Llydaw, Catalonia, Fruli a Chymru yno. Er bod yr adeiladau newydd wedi eu cwblhau, tawel iawn fu hi wedi’r haf.
 
Neges Ewyllys Da: Paratowyd y Neges gan Aelwyd Crymych ar thema ‘Heddwch’ gyda darllediad teledu arbennig i gloi’r diwrnod. Cafwyd cyflwyniad hefyd o lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol.
 
 
Gwaith y Maes: Cynhaliwyd nifer fawr o Bwyllgorau apêl ledled Cymru, gyda rhai yn fwy cefnogol nag eraill. Cwblhawyd y Llawlyfr Arweinyddion i Aelwydydd ac Adrannau. Sefydlwyd Partneriaeth Ieuenctid Cymru yn dilyn cyhoeddi Adroddiad y Cydbwyllgor Addysg ar anghenion Hyfforddi Gwaith Ieuenctid a chymunedol. Bydd yr Urdd yn rhan o’r bartneriaeth yma. Cwblhaodd yr Urdd ei gwrs hyfforddi staff ei hunan.  
 
 
 
Y Cyngor: Bu’r newid ym mhatrwm llywodraethol y mudiad yn lles i niferoedd y Cyngor gan roi cynrychiolaeth ehangach o’r siroedd.
 
Chwaraeon: Cynhaliwyd yr un patrwm ag arfer yn yr Adran Chwaraeon.
 
 
1986 – 1987
 
 
Cwblhawyd y gwaith o lunio Llawlyfr Gwasanaeth ac Amodau Staff yr Urdd er mwyn ffurfioli pob agwedd o gyflogaeth o fewn y mudiad. Golygodd gryn waith ymgynghori dros gyfnod. Fe’i lluniwyd fel bod modd diweddaru darnau pan fo galw. Bydd y ddogfen yma o gymorth wrth ddeilio â staff o ddydd i ddydd, ac yn sail gref i reolau cyflogaeth y mudiad i’r dyfodol.
 
Mae’r Apêl Ariannol wedi cyrraedd y nod gan godi swm o £256,845. Mae hyn yn gosod yr Urdd ar sylfaen llawer mwy sicr i’r dyfodol. Erbyn hyn daeth diwedd yr anghydfod yn yr ysgolion ac mae’r gwaith gwirfoddol wedi ail gydio gydag aelodau’n cofrestru a’r gwersylloedd yn brysur gan sicrhau llif ariannol gadarn unwaith eto.
 
Mae’n amhosib cyfeirio at bob ymdrech ariannol dros y cyfnod yma, dim ond nodi ambell enghraifft ‘Sêr ar Dramp’; Cyngerdd Neuadd Dewi Sant; Cyngerdd Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun a’r unigolion a gasglodd enwau criw mawr o gyfamodwyr o’r newydd ynghyd â degau o ymgyrchoedd eraill.
 
Gwaith y Maes: Mae 9Swyddog Datblygu yn derbyn cymhwyster proffesiynol yn dilyn cwrs gan yr Urdd. Yr Urdd yn cael ei chynrychioli ar bwyllgor ‘Y Bartneriaeth Gwaith Ieuenctid’. Paneli Aelwyd Urdd 2000 yn trefnu gweithgareddau yn siroedd Penfro, Clwyd a Cheredigion. Taith sgïo i Awstria.
 
Eisteddfod: Eisteddfod Merthyr 1987 yn dangos fod modd cynnal Gŵyl lwyddiannus mewn ardaloedd lle mae’r iaith Gymraeg yn wan ond lle mae Cymreictod yn gryf.
 
 
 
 
Drama: ‘Dan y Wenallt’ oedd perfformiad Y Cwmni Theatr Cenedlaethol ac fe’i recordiwyd i’w dangos ar S4C. Cynhaliwyd dwy Ŵyl Ddrama, y naill ym Mrynaman a’r llall yn Y Bala.
 
Cylchgronau: Diwygio ‘Bore Da’ a ‘Mynd’ i gydymffurfio â’r dulliau diweddaraf o ddysgu Cymraeg, ar gais Y cydbwyllgor Addysg, Yr Uned Iaith ac ymgynghorwyr iaith sirol. Cyhoeddi ‘Gwir Bob Gair’ dan gynllun Clwb Sbondonics y Cyngor Llyfrau Cymraeg.
 
 
Llangrannog: Yn dilyn colled o tua £140,000 dychwelodd yr hen brysurdeb i’r gwersyll. Mae cryn edrych ymlaen at greu Cwrs Antur a Maes Chwarae'r flwyddyn nesaf.  
 
 
 
Glan-llyn: Cafwyd cyfle i dacluso a dod â’r adeiladau newydd i drefn yn ystod y cyfnod tawel. Dychwelodd yr ysgolion yn ôl mewn niferoedd mawr wedi’r gwersyll haf, fel pe bai’r egwyl wedi bod yn ysgogiad iddynt. Mae cyrsiau i deuluoedd o rhai siroedd yn boblogaidd a chynhaliwyd Diwrnod Agored i rieni i weld y cyfleusterau.
 
Neges Ewyllys Da: Paratowyd y Neges gan Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam a’i darlledu ar y radio a theledu, gyda pherfformiad pellach o lwyfan yr Eisteddfod ym Merthyr Tudful. Lansiwyd ymgyrch ‘I’r Melinau er mwyn Mali’ sef casglu papur gwastraff i godi arian. Oherwydd problemau masnachol ni fu’n llwyddiant, er i ni anfon siec o £1,000 at Gymorth Cristnogol.
 
Ymgyrch arall yw ‘Ymgyrch Heddwch’, sef cynllun i gasglu 50,000 enwau ar frys i’w cyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin ac ym Mhencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Genefa.
 
Chwaraeon: Cynhaliwyd y Gala Nofio Genedlaethol dros bedwar diwrnod yng Nglyn Ebwy. Y Farathon Fer Genedlaethol yng Nglan-llyn, y cystadlaethau chwaraeon a’r Rhedeg Traws Gwlad yn Aberystwyth.
 
 
 
 
1987 – 1988
 
 
Bu hon yn flwyddyn o gadarnhau trefniadaeth a datblygu gweithgareddau newydd yn dilyn llwyddiant yr Apêl Ariannol.
 
Ariannol: Penderfynwyd, yn dilyn yr apêl, osod gwell strwythur a ffurf i gynlluniau ariannol. O gofio fod yn rhaid codi cyfran helaeth o gyllid gweithredol y mudiad pob blwyddyn trwy ymdrechion gwirfoddol, cofrestru, defnydd o’r gwersylloedd ag ati. Anelwyd at wneud pob adran o waith y mudiad yn hunangynhaliol, gan sylweddoli fod hyn yn haws i rai adrannau nac eraill. Gofynnwyd i bob Rhanbarth dderbyn targed ariannol yn seiliedig ar gostau cynnal yr Urdd yn y rhanbarth, (cyflog, swyddfa ag ati). Ymwelwyd â phob Pwyllgor Rhanbarth i drafod eu targed blynyddol. Gwnaed ymdrechion hefyd i sicrhau nawdd o fyd masnach a diwydiant. Yma eto roedd denu nawdd yn haws at rai gweithgareddau nac eraill. Cytunwyd i roi pob Cymynrodd a derbynnid mewn cronfa arbennig wrth gefn, yn hytrach na’i gynnwys yng ngwariant blynyddol y mudiad. 
 
Y Maes: Llwyddwyd am y tro cyntaf erioed i gyfeirio cymhorthdal y Swyddfa Gymreig tuag at waith y Maes yn hytrach na thuag at wariant cyfalaf yn y gwersylloedd. Ni ellir pwysleisio digon pwysigrwydd y datblygiad yma. Roedd arian bellach ar gael tuag at waith o ddydd i ddydd yn y Rhanbarthau. Gyfeiriwyd yr arian o dan dri phennawd, Adnoddau, Hyfforddiant a Swyddogion Cynorthwyol.
 
Sefydlwyd pedwar o Gyfarfodydd Staff Taleithiol, i gyfarfod bob dau fis, am yn ail â’r Gynhadledd Staff lawn yn Aberystwyth, gyda’r bwriad o adolygu gwariant y cymhorthdal newydd. Sefydlwyd Profion Medrusrwydd i aelodau Aelwydydd a rhoi cychwyn ar Gwis Urdd 2000.
 
 
Eisteddfod: Cynhaliwyd Eisteddfod Maldwyn 1988 ar faes Ysgol Uwchradd Y Drenewydd.  
 
 
 
Drama: Cynhaliwyd yr ail ŵyl Ddrama ym Meirionnydd. Bu’r Cwmni Drama yn perfformio ‘Elfis’. Dyma flwyddyn olaf Emyr Edwards wrth y llyw, wedi 15 mlynedd.
 
Cylchgronau: Cylchgrawn newydd ‘CIP’ yn ymddangos am y tro cyntaf. Cylchgrawn lliwgar i Gymry Cymraeg ysgolion cynradd, oedd yn gyfuniad o ‘Deryn’ a ‘Cymru’r Plant’. Y cylchrediad yn fwy na’r ddau arall gyda’i gilydd.
 
Llangrannog: Torri pob record am niferoedd dros y flwyddyn 7,616 + 814 o swyddogion, 2,151 yn y gwersyll haf. Staff arbenigol ar gyfer y ceffylau, y beiciau modur, y pwll nofio a’r gampfa.
 
Glan-llyn: Glan-llyn hefyd a’r niferoedd mwyaf erioed 8,169. Sefydlu Cwrs Antur a chychwyn rafftio ar afon Tryweryn.
 
Neges Ewyllys Da: Ysgol Gyfun Llanhari yn paratoi’r Neges ar gyfieithu’r Beibl ynghyd â Drama Gerdd a rhaglen ar y radio a theledu. Teithiodd 23 o aelodau gyda’r Neges Heddwch i’r Cenhedloedd Unedig yn Genefa (adlewyrchiad o Daith 1930). Cyflwynwyd copi i aelodau seneddol yn San Steffan. Bu ‘Pinacl 87’ ym Mangor, wrth gynnal cyngerdd gan artistiaid, a chasglwyd llyfrau i ward plant Ysbyty Gwynedd a Mudiad Ysgolion Meithrin.
 
Chwaraeon: Dwy Ŵyl Nofio ym Mangor a Chastell Nedd a dwy Ŵyl Chwaraeon o dan a thros 12 oed. Yn ystod y flwyddyn cynhaliwyd cystadleuaeth rhedeg Traws Gwlad am y tro cyntaf yn lle’r Mini Marathon.  
 
 
1988 – 1989
 
 
Unwaith eto eleni llwyddwyd i sicrhau parhad y cymhorthdal gan y Swyddfa Gymreig tuag at waith y Maes. Gwnaed ymdrechion llwyddiannus i geisio denu nawdd at gynlluniau penodol o fyd masnach a diwydiant. Ymddeolodd John Lane wedi 33 mlynedd yn Swyddog Datblygu ym Morgannwg.
 
 
Eisteddfod: Eisteddfod Cwm Gwendraeth 1989 oedd yr un a gostiodd fwyaf erioed hyd yma. Yn bennaf oherwydd y safle anodd ond bu’n llwyddiant ysgubol. Codwyd llethr sgïo ar y maes a chafwyd bws antur gyda wal ddringo arno. Dyma’r eisteddfod gyntaf i gychwyn ar ddydd Llun gydag wythnos lawn o gystadlu yn gorffen ar y nos Sadwrn. Darlledwyd pob cyngerdd ar S4C yn ogystal â’r Eisteddfod ei hun. Roedd awyrennau’n hedfan yn isel yn achosi trafferthion ac anfonwyd gair i gwyno. Cynhaliwyd cyfarfod arbennig i drafod y broblem yn Llandrindod rai misoedd wedyn.  
 
 
 
 
Drama: Cynhaliwyd y drydedd Ŵyl Ddrama yn Nyffryn Aeron ac o’r ŵyl yma y datblygodd Cwmni Drama Ieuenctid Ceredigion. Llwyfannwyd ‘Rhyw Ddydd’ gan y Cwmni Theatr Cenedlaethol, a lluniwyd y sgript gan yr aelodau ei hunain ar gwrs paratoi yn Llangrannog.  
 
 
 
Cylchgronau: Sicrhawyd nawdd gan ddau gwmni a chysylltiadau amaethyddol, tuag at baratoi erthyglau amaethyddol eu naws yn y cylchgronau. Roedd cylchrediad Cip yn 6,000 gan leihau'r golled ariannol. Paratowyd ‘Cornel Cip’ ym mhabell yr Urdd yn y ddwy Eisteddfod Genedlaethol.
 
Llangrannog: Agorwyd y Llethr Sgïo Sych 100 medr ar y 1 Gorffennaf. Bu dros 7,500 arno yn y ddeufis cyntaf, gyda gwersyllwyr yn i ddefnyddio yn y dydd ac ymwelwyr gyda’r nos. Cynhaliwyd taith gyhoeddusrwydd o gwmpas ysgolion i hybu defnydd o’r gwersyll haf.
 
Glan-llyn: Niferoedd y gwersyll haf i lawr fel yn Llangrannog. Cafwyd nawdd gan Fanc Barclays tuag at brynu cwch hwylio ‘Eryr Penllyn’ oedd yn addas hefyd i bobl a phlant anabl.
 
Neges Ewyllys Da: Paratowyd y Neges gan Aelwyd Menai ar y thema ‘Cyfathrebu’, fe’i darlledwyd ar radio a theledu. Cynhaliwyd ‘Pinacl 88’ ym Merthyr Tudful, gydag artistiaid adnabyddus yn cymryd rhan, gan gasglu rhoddion tuag at MENCAP.
 
Gwaith y Maes: Sefydlwyd y Ganolfan Adnoddau a bu paratoi adnoddau o bob math at ddefnydd Arweinyddion, Swyddogion Datblygu ac Aelodau. Mae’r Swyddogion Datblygu rhan amser eisoes wrth eu gwaith. Mae Profion Medrusrwydd wedi eu cynllunio ar gyfer paratoi aelodau Aelwydydd ar gyfer gwaith. Cynhaliwyd Cwrs Staff ar y thema ‘Yr Urdd a’i Ddelwedd Gyhoeddus’. Cynhaliwyd penwythnos Urdd 2000 a Chwis Aelwydydd Urdd 2000. 
 
Adnoddau: Cafwyd cyfarpar cyfrifiadurol ‘Apple Macintosh’ ar gyfer cynhyrchu defnyddiau. Lansiwyd ‘Cyswllt’ sef taflen wybodaeth am yr adnoddau a’r offer sydd ar gael. Cael camera fideo a system golygu ffilmiau newydd. Addasu rhai ystafelloedd i greu canolfan arbennig i’r gwaith yma. Cydweithio â nifer o fudiadau eraill oedd yn awyddus i gynhyrchu eu defnyddiau eu hunain yn y Gymraeg.
 
Chwaraeon: Sicrhawyd nawdd gan gwmni yswiriant tuag cynnal digwyddiadau chwaraeon a’r nofio. Bu dros 800 yn cymryd rhan yn y Rhedeg Traws Gwlad. Cynhaliwyd dwy Ŵyl Chwaraeon yn Aberystwyth yn cynnig dros 20 o gystadlaethau gwahanol, a dwy Gala Nofio, y naill yn Wrecsam a’r llall yng Nglyn Ebwy.
 
 
1989 – 1990
 
 
Roedd y cyfnod yma yn un sefydlog iawn o ran staff ac yn gyfle i ddatblygu gweithgarwch newydd. ‘Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid’ yn cael ei gyflwyno trwy wledydd Prydain gan yr Asiantaeth Ieuenctid Cenedlaethol sydd newydd ei sefydlu. Yr Urdd yn pwyso am gael Cwricwlwm perthnasol i Gymru a fyddai yn Gymraeg a Chymreig ei natur. Yn wahanol i nifer o fudiadau eraill mae amcanion a delfrydau’r Urdd yn glir yn y cyswllt yma. Yr Urdd yn cychwyn cynllun ‘Nabod ein Gilydd’ ar gyfer canghennau, unigolion a mudiadau eraill i’w weithredu ym mhob adran o waith y mudiad.
 
Ar 24 Chwefror 1990 trefnwyd Cynhadledd Genedlaethol yn Aberystwyth gan yr Urdd, yn galw am Ddeddf Iaith. Daeth 250 o gynrychiolwyr ynghyd o bob rhan o fywyd cyhoeddus Cymru. Anfonwyd dirprwyaeth o’r Gynhadledd i gyfarfod â Bwrdd yr Iaith Gymraeg i bwyso ymhellach.
 
Eisteddfod: Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Nantlle ac Arfon 1990 ar faes Glynllifon, mewn pafiliwn newydd sy’n addas ar gyfer y cystadlu a chynnal cyngherddau. Cynnydd mawr yn nifer y rhai oedd angen llety o’i gymharu â’r blynyddoedd a fu. (6,000 o’r 12,000 sy’n cystadlu.) Sefydlwyd Adran Dechnegol ar y cyd ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru i wasanaethu meysydd y ddwy ŵyl.
 
Cafwyd trafodaethau brwd ar y syniad o fynd ag Eisteddfod yr Urdd i Frwsel yn 1993. Wedi ymgynghoriad eang, wrthodwyd y syniad gan y Cyngor Cenedlaethol ym Mehefin.
 
Drama: Cynhaliwyd yr Ŵyl Ddrama yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin. Bydd y cystadlaethau drama yn dychwelyd i’r Eisteddfod yn y dyfodol. Cynhaliwyd Cwrs Hyfforddi'r un pryd â’r Ŵyl Ddrama ar gyfer y Cwmni Theatr Cenedlaethol, yn hytrach na pherfformiad teithiol.
 
Cylchgronau: Mae’r newidiadau yn rheolaeth ysgolion o’r sirol i’r lleol yn destun pryder o ran pryniant y cylchgronau, bu cwymp yn y cylchrediad er bod galw taer amdanynt gan athrawon ac ymgynghorwyr addysg. Cynhaliwyd ymgyrch gyhoeddusrwydd gyda sioe bypedau, bu staff yr adran mewn cyfarfodydd hyfforddi athrawon i ddangos defnyddioldeb y cylchgronau yn y cwricwlwm Cymraeg.
 
Llangrannog: Pwll Nofio wedi ei gwblhau a’r llethr sgïo yn denu cannoedd. Rhagor o staff yn cael eu penodi i redeg y gweithgareddau hyn.
 
Glan-llyn: Dros 10,480 wedi aros yn y gwersyll. Rafftio ar Afon Tryweryn yn boblogaidd a chyrsiau Astudiaethau’r Amgylchfyd yn datblygu. Dileu’r arferiad o gael ‘sgwad’ i olchi llestri ar ôl prydau bwyd.
 
Neges Ewyllys Da: Lluniwyd y Neges gan Ysgol Gyfun Gŵyr ar thema ‘Nabod ein Gilydd’. Yn Aberystwyth y cynhaliwyd ‘Pinacl 90’ gyda chyfraniadau ym mynd i Fudiad Ysgolion Meithrin.
 
Y Ganolfan Adnoddau: Y Ganolfan wedi ei gosod mewn nifer o ystafelloedd yn y swyddfa gyda’r offer diweddaraf i gynhyrchu adnoddau. Taflen wybodaeth ‘Cyswllt’ yn boblogaidd. Fideos hyfforddi a chyhoeddusrwydd wedi eu cwblhau. Gwasanaeth cyfieithu ar gael, yn agor y drws i fudiadau eraill gydweithio â’r Urdd. Ffeil Arweinyddion wedi ei chychwyn gan ychwanegu ati yn gyson. Cwrs hyfforddi gyda’r offer fideo i staff gan ‘Cyfle’ yng Nghaernarfon.
 
Chwaraeon: Cynnwys cystadlaethau Jiwdo am y tro cyntaf yn ychwanegol i’r Chwaraeon, Nofio a Rhedeg arferol. Bu dros 1,000 yn rhedeg yn y Traws Gwlad eleni.
 
 
1990 – 1991
 
 
Eleni gwelwyd pa mor werthfawr ac unigryw yw cyfraniad yr Urdd i’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn yr ysgolion. Y Cylchgronau yn cynnig gwerslyfrau parod, Y Gwersylloedd yn rhoi profiadau preswyl a llu o weithgareddau anturus. Mae’r Eisteddfod yn cynnig ystod eang o brofiadau celfyddydol a chyhoeddus ac yn wir mae gweithgarwch y mudiad drwyddo draw yn rhoi profiadau corfforol a chymdeithasol i’r aelodau ynghyd â delfrydau clir a phendant. Cafwyd datganiad gan y Swyddfa Gymreig o’r bwriad i sefydlu Asiantaeth Ieuenctid i Gymru. Etholwyd nifer o aelodau ifanc i wasanaethu ar y Cyngor Cenedlaethol.
 
 
Eisteddfod: Bu Eisteddfod Taf Elai 1991 yn ddidrafferth a llyfn ei rediad, gyda chynllun maes gwreiddiol. Cafwyd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd effeithiol a bu darpariaeth bwyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma rhai ffeithiau diddorol am yr Ŵyl; 43,000 yn cychwyn y daith gystadleuol, 13,000 yn cystadlu’n genedlaethol, 5,000 yn cael llety yn ardal yr ŵyl, angen 45 acer o dir a chost y cyfan yn £600,000.  
 
 
 
Drama: Cynhyrchiad y Cwmni Theatr Cenedlaethol oed cyfieithiad o ‘Godspell’ yn dilyn cwrs hyfforddi yng Nglan-llyn.
 
 
Cylchgronau: Derbyniwyd cymhorthdal gan y Swyddfa Gymreig i brynu cyfarpar ar gyfer paratoi tudalennau ‘parod i’r wasg’. Yr Adran yn ymdrechu gyda’r Panel Cylchgronau i gynnal y cylchrediad trwy ysgolion unigol.
 
 
 
Y Maes: Mae parhad y cymhorthdal at waith y maes ynghyd â chyfraniadau’r siroedd unigol yn fodd i gynnal y gwasanaeth sylfaenol yma. Mae’r Urdd ar y cyd a’r YMCA wedi sicrhau cymhorthdal i astudio effeithiau’r mewnlifiad ar ein cymunedau, gan ddyfeisio prosiectau i liniaru’r problemau. Grŵp o Lithwania yn ymweld â Chymru dan arweiniad yr Urdd.
 
Adnoddau: Yn dilyn penwythnos ‘Urdd 2000’ paratowyd, mewn cydweithrediad ag amryw o Asiantaethau Iechyd dwy daflen ‘I’r Bin a’r Baco’ a ‘Hitio’r Botel’. Fideo ‘Dyma’r Urdd’ yn cloi cyfres o Fideos. Cydweithio â mudiadau eraill i baratoi deunydd, ond yn amlwg, mae’r ganolfan yn fwy cynhyrchiol nag unrhyw fudiadau ieuenctid arall. 
 
Llangrannog: Torrwydpob record gyda 11,000 yn aros yno dros y flwyddyn. Gwella cyfleusterau’r gegin i gyd‑fynd â gofynion iechyd.  
 
Glan-llyn: Penodi Swyddog Diogelwch. Cyrsiau amrywiol: Astudiaethau’r Amgylchfyd, Hyfforddi Swyddogion, Cyrsiau Iaith ar y cyd ag Uned Iaith y Gogledd yn paratoi ‘papur bro’ a rhaglenni teledu fel dulliau newydd gwreiddiol.
 
Neges Ewyllys Da: Thema ‘Nabod ein Gilydd’ yn parhau tan 1993, trefnwyd nifer o weithgareddau yn lleol a chenedlaethol. Ymweliadau gan ieuenctid o Lithwania, Belorwsia, Yr Iwerddon a’r Almaen. Paratowyd y Neges gan Ysgol Gyfun Bro Myrddin ar gyfer y radio a’r eisteddfod. Anfonwyd Poster a Cherdyn Cyfarch i bob rhan o’r byd.
 
Chwaraeon: Dwy Ŵyl Nofio yn Llanelli a Threffynnon a dwy Ŵyl Chwaraeon yn Aberystwyth. Cynhaliwyd ras ‘Trechu’r Trên’ yn Llanuwchllyn.
 
 
1991 – 1992
 
 
Sefydlu Cyngor Ieuenctid Cymru, yr Urdd yn chwaraeon rhan bwysig yn y gwaith cychwynnol, trwy sicrhau ei fod yn gorff dwyieithog ym mhob agwedd o’i waith.
 
Derbyniwyd canlyniad Y Cyfrifiad oedd yn nodi cynnydd yn niferoedd siaradwyr Cymraeg ymhlith plant ac ieuenctid. Yr Ysgolion Cymraeg, ynghyd â’r Urdd yn allweddol yn y datblygiad calonogol hwn.
 
Am y tro cyntaf cyflwynwyd Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled i weithiwr gwirfoddol yn y gwasanaeth ieuenctid, y tu allan i gyfundrefn ysgol, yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Aeth y Tlws i Medwyn Williams am ei waith gyda’r Urdd.
 
Eisteddfod: Eisteddfod Bro Glyndŵr 1992 yn llwyddiant ysgubol yn Rhuthun.
 
Cylchgronau: Dathlu canmlwyddiant ‘Cymru’r Plant’ trwy gyhoeddi cyfrol ‘Cant y Cant;. Bu Cwmni’r Arad Goch ar daith yn perfformio ‘Cip Coeden a Chant’ ledled Cymru. Paratowyd arddangosfa deithiol a ymwelodd â llyfrgelloedd Cymru a’r Eisteddfod.
 
 
 
 
Y Maes: Llwyddwyd i glustnodi cyfran o gymhorthdal ‘Gwaith y Maes’ tuag at gynnal ‘Jamboris’ mewn rhai siroedd penodol. Cyfarfodydd llawn hwyl i gannoedd o ddysgwyr ar y tro, i’w hysbrydoli i ddysgu’r iaith. Dadansoddi holiadur a anfonwyd i’r canghennau. Prifysgol Caerdydd yn cynnal ymchwiliad i Gwricwlwm y Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru a’r Urdd yn cyfrannu iddo.
 
Cynllun ‘Dolen’ rhwng yr Urdd a’r YMCA yn mynd ymlaen yn effeithiol ac yn cynnal nifer o weithgareddau arbrofol ar gyfer cyflwyno adroddiad ymarferol ar y diwedd.
 
Rhaid pwysleisio eto fod y gwaith sylfaenol o redeg canghennau o sefydlu rhai newydd, cynnal cyrsiau yn y gwersylloedd, cynnal eisteddfodau cylch a sir, cynnal chwaraeon sirol a nofio a’r holl wead cyfoethog o weithgarwch yn mynd ymlaen yn y siroedd o flwyddyn i flwyddyn dan arweiniad y Swyddogion Datblygu.  
 
Adnoddau: Cyhoeddi Catalog y Ganolfan oherwydd nifer y deunyddiau. Cydweithio ag asiantaethau eraill. Cyhoeddi ‘Yn y Coch’ a ‘Aids a Chi’. Pecyn gwaith i Ganghennau Cynradd i gyd‑fynd â dwy sioe i ddysgwyr. Ychwanegu at y ‘Llawlyfr Arweinyddion’.
 
 
 
 
 
Llangrannog: Agor Neuadd Sglefrolio gyda goleuadau a miwsig disgo. Niferoedd i fyny eto. Agor y Caban Sgïo ger y llethr a llwybr merlota o gwmpas y fferm. Penodi Swyddog Addysgol er mwyn datblygu’r agwedd yma o waith y Gwersyll.    
 
 
 
Pentre Ifan: Agorwyd y ganolfan yma ym Mhenfro wedi gwaith caled lleol, ar gyfer Astudiaethau’r Amgylchfyd a Chadwraeth.
 
 
Glan-llyn: Nifer y cyrsiau gan ysgolion fel rhan o’r Cwricwlwm yn uwch nag erioed ond siomedig oedd nifer y gwersyll haf (850). Mewn ymgais i ddatblygu gweithgareddau newydd aed ati i sefydlu Canolfan Bowlio Deg. Derbyniwyd cymorthdaliadau sylweddol gan Fanc y Midland, Y Bwrdd Croeso, Cronfa Ranbarthol i Ewrop a Bwrdd Datblygu’r Canolbarth.     
 
 
 
Neges Ewyllys Da: Aelwyd Dyserth a luniodd y Neges a’i gyflwyno o lwyfan y Brifwyl.
 
Chwaraeon: Cynhaliwyd cystadlaethau nofio i’r anabl am y tro cyntaf, ar lefel genedlaethol yn gyntaf, gan ehangu i’r siroedd ymhen blwyddyn. Bangor a’r Rhondda oedd leoliad y ddwy ŵyl nofio. Bu dwy Ŵyl Chwaraeon yn Aberystwyth gyda mwy yn yr oedran 12-15 nag erioed.
 
 
1992 – 1993
 
 
Mae dau ddatblygiad ym myd Llywodraeth Leol yn peri peth ansicrwydd i’r Urdd. Mae’r pwyslais sydd yn y Ddeddf Addysg ar ysgolion i eithrio o ofal yr Awdurdod Addysg Lleol yn fygythiad i’r bartneriaeth ffrwythlon a fu rhwng y gwahanol elfennau sy’n cyfrannu tuag at ddatblygiad plant a phobl ifanc.
 
Mae bwriadau ger bron i newid ffiniau’r unedau llywodraethol leol unwaith eto, ac mae’r ansicrwydd yn ei gwneud hi’n anodd iawn cynllunio at y dyfodol o ran cyllid a threfniadaeth weithredol. Eisoes gwelwyd cymorthdaliadau siroedd De a Gorllewin Morgannwg yn ael eu dileu a’u haneru yn Nyfed.
 
Cyhoeddwyd ‘Ar y Blaen o Hyd’ sy’n dangos mor berthnasol yw gwaith yr Urdd i’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Fe’i hanfonwyd at Brifathrawon a Chadeiryddion Llywodraethwyr Ysgolion trwy Gymru. Tanlinellwyd pwysigrwydd y cyhoeddiad yma gan Gyngor Cwricwlwm Cymru yn eu cyhoeddiad ‘Y Cwricwlwm Cymraeg’ sy’n cyfeirio at waith yr Urdd fel canllaw i hyrwyddo Addysg Gymraeg.
 
Gyda chefnogaeth Banc y Midland llwyddwyd i benodi Swyddog Nawdd, trwy ryddhau aelod o staff y Banc i wneud y gwaith am gyfnod o ddwy flynedd.
 
Eisteddfod: Eisteddfod Abertawe a Lliw 1993 mewn glaw cyson, er i gynlluniau’r maes ei gwneud yn weddol sych dan draed. Deilliodd hyn drafodaethau pellach am gael safleoedd parhaol i gynnal yr ŵyl. Bu nifer o dramorwyr ifanc yn perfformio fel rhan o gynllun ‘Nabod ein Gilydd’. Llwyddwyd i sicrhau cymorth ychwanegol gan y Swyddfa Gymreig tuag costau gweinyddol yr Ŵyl.
 
Cylchgronau: Cynhyrchu ‘Bore Da’ a ‘Mynd’ mewn lliw am y tro cyntaf. Ail drefnwyd ffynhonnell y cymhorthdal. Mae’r Cyngor llyfrau yn parhau i gyllido ‘CIP’ a’r Swyddfa Gymreig yn cyllido’r ddau gylchgrawn ail iaith.
 
Y Maes: Cyflwynwyd Tlws John a Ceridwen Hughes i Llew Williams, Llangernyw. Mae cydweithio â mudiadau ac asiantaethau eraill yn ddatblygiad pwysig – Y Cyngor Chwaraeon, Y Ffermwyr Ifanc, Theatr mewn Addysg ac Undeb Rygbi Cymru.
 
Cyhoeddwyd ‘Hen Wlad fy Nhadau’ sef ffrwyth y cydweithio rhwng yr Urdd a’r YMCA. Mae’n ddadansoddiad o sefyllfa ieithyddol pobl ifanc ynghyd ag argymhellion ymarferol sut i gynorthwyo gyda’r sefyllfa.
 
Adnoddau: Cynhaliwyd Diwrnod Agored gan wahodd cynrychiolwyr o bob mudiad ieuenctid. Sefydlwyd nifer o bartneriaethau newydd.
 
Llangrannog: Rhoddwyd cychwyn ar yr Ystafelloedd Cysgu a’r Caban Bwyta Newydd ar gost o £650,000. Bu lleihad yn nifer y gwersyll haf ond cynnydd gweddill y flwyddyn.
 
Pentre Ifan: Y ganolfan fechan yma yn cychwyn ar ei gwaith o gynnal cyrsiau undydd a phreswyl. Paratoi Llwybrau Natur a defnyddiau addysgol.
 
Glan-llyn: Agorwyd y Ganolfan Bowlio Deg ac Adeilad Preswyl. Hefyd gosodwyd Wal Ddringo sy’n addas i’r anabl yn ogystal.
 
Neges Ewyllys Da: Y Neges gan Ysgol Gyfun Cymer, Y Porth. Casglu llond dwy lori o nwyddau i Fosnia ac fe anfonwyd dau wirfoddolwr i weithio i wersyll ffoaduriaid yn Slofenia am naw mis.
 
Chwaraeon: Cynhaliwyd gêm rygbi dan 12 oed ar Barc y Strade yn ystod un o gemau’r Clwb.
 
 
1993 – 1994
 
 
Unwaith eto, o fewn cyfnod cymharol fyr, mae ad-drefnu Llywodraeth Leol Cymru yn cymryd lle. Golyga hyn fod yn rhaid i’r Urdd ail sefydlu cysylltiadau gyda’r 22 Cyngor newydd a ddaw i rym yn 1996-1996, gan sicrhau partneriaethau newydd gyda swyddogion a staff, er mwyn parhau’r cydweithio sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd.
 
Eleni sicrhawyd cymhorthdal o Sir Gwent am y tro cyntaf ond ni ddaeth dim cymhorthdal o Dde a Chanol Morgannwg. Mae gwaith ar Gynllun Corfforaethol 1994-1997 ar y gweill.
 
Nawdd: Cynnal Cyfarfodydd Brecwast yng Nghaerdydd a Chlwyd i’r sector diwydiant a masnach. Nifer o geisiadau llwyddiannus at ymddiriedolaethau. Cafwyd nawdd i bob Adran o waith y mudiad. Paratoi pecynnau o gynlluniau gwaith er mwyn ateb ar fyr rybudd. Gwaith araf hir dymor.
 
Eisteddfod: Mewn safle anodd ond godidog ei golygfa yn Nolgellau, bu Eisteddfod Meirionnydd 1994 yn llwyddiant mawr. Bu safon y darlledu yn well nag erioed.
 
Cylchgronau: Yn dilyn ymdrechion arbennig gan staff yr Adran, ni fu colled ariannol eleni, am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Derbyniwyd nawdd o Ewrop tuag at gyhoeddi posteri. Cafodd ‘Mynd’ ei fabwysiadu fel rhan o’r pecyn dysgu Cymraeg ‘Iaith ar Waith’ y BBC.
 
Y Maes: Mae Eisteddfodau Cylch a Sir yn tyfu i’r fath raddau, fod rhaid cynnal rhai Eisteddfodau ar ddau safle ar yr un diwrnod, a rhai cystadlaethau ar nosweithiau arbennig yn yr wythnos. Canolfan Caerdydd yn sefydlu Clybiau Chwaraeon fore Sadwrn. Cynnal Gwyliau Athletau i Ysgolion Uwchradd Cymraeg siroedd y De Ddwyrain yn Stadiwm Lecwith, Caerdydd. Derbyniwyd Adroddiad Terfynol Cynllun Dolen, ynghyd â ffeil o weithgareddau sy’n fodd i hybu ymwybyddiaeth o’r unigolyn, o gyd-ddyn, o fro a gwlad. Cynnal cyrsiau i hybu’r gwaith ymlaen.
 
Adnoddau: Cyhoeddi llyfr ar y cyd â Chymdeithas Dawnsio Gwerin ‘Siawns i Ddawnsio’ sy’n cyflawni gofynion y Cwricwlwm. Lansio llyfryn o weithgareddau Amgylcheddol ym Mhentre Ifan. Cynnal Cynhadledd Iechyd ar y cyd ag Uned Hybu Iechyd Gwynedd. Yr Urdd yn derbyn gwobr ‘Iechyd i Bawb yng Nghymru’ am gyfraniad i’r gwaith yma. Angen rhagor o staff i gyfarfod â’r gwaith.
 
Llangrannog: Agor llethr Gwibgartio ger y llethr sgïo yn ogystal â’r Caban Bwyta ac Ystafelloedd Cysgu newydd. Derbyniwyd gwobr gan y Bwrdd Croeso am gynllun hyfforddi staff.
 
Glan-llyn: Pennaeth newydd a 6 aelod o staff hyfforddi gweithgareddau a diogelwch. Ail drefnu ystafelloedd y bechgyn a chreu mynedfa i’r anabl i’r Pwll Nofio.
 
Neges Ewyllys Da: Anfonwyd tair o ferched i weithio yng ngwersyll y ffoaduriaid yn Slofenia. Anfon Neges Ewyllys Da i Fosnia a Croatia yn eu hiaith eu hunain wedi ei baratoi gan ddisgyblion Ysgol Eifionydd, Porthmadog.
 
Chwaraeon: Tanni Grey yn cyflwyno gwobrau yn yr Ŵyl Chwaraeon yn Aberystwyth. Bu dros 6,000 yn cystadlu dan 12 oed yn y gwahanol gystadlaethau chwaraeon. Cynhaliwyd y nofio ym Mangor a Phontardawe.
 
 
1994 – 1995
 
 
Mae 1995 yn ganmlwyddiant geni Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd. I nodi’r achlysur fe luniwyd map yn darlunio rhai o brif ddigwyddiadau ei fywyd, a’i ddosbarthu i bob cangen. Lluniwyd y map gan Meirion Roberts, Hen Golwyn.
 
Cwblhawyd y Cynllun Corfforaethol 1994-1997 a’i ddosbarthu yn eang. Bydd y Cynllun yn rhoi sail ac arweiniad i waith, gan sicrhau fod pob rhan o’r mudiad, o'r gangen leol trwy’r strwythur llywodraethol, o bwyllgorau, swyddogion a staff, yn ymwybodol o’r hyn y mae pob Adran waith am ei gyflawni. Fe’i diwedderir yn flynyddol.
 
Yn wyneb y newidiadau sylfaenol wrth sefydlu’r Cynghorau Sirol newydd, gwnaed ymdrech arbennig i gyfarfod â phob un o’r 22, i gyflwyno’r Urdd ac i ddwyn perswâd i sicrhau eu cefnogaeth ac i gynnwys yr Urdd yn eu cynlluniau i’r dyfodol. Lluniwyd taflen arbennig i’w ddosbarthu i bob cynghorydd ar y Pwyllgorau Trawsnewid. Cafwyd gwahoddiad i drafod a phob Cyngor Sir newydd yn ystod y flwyddyn. Amrywia’r ymweliadau hyn o anerchiadau swyddogol i gynghorau llawn, i gyfarfodydd wyneb yn wyneb a Chyfarwyddwyr Addysg a swyddogion. Bu’r ymateb yn gadarnhaol iawn, bron yn ddieithriad, gyda chymhorthdal yn cael i gynnig ar wahanol lefelau.
 
Mae Cwmni Archwilwyr Touche Ross yn cynnal arolwg ar ran y Llywodraeth i ddulliau o ariannu’r Urdd. Un argymhelliad pwysig yw bod cymhorthdal yr Urdd yn parhau yn nwylo’r Swyddfa Gymreig yn ystod cyfnod ad-drefnu Llywodraeth Leol. Fe fu awgrym i’w drosglwyddo i Fwrdd yr Iaith.
 
Nawdd: Yn dilyn llwyddiant y secondiad gan Fanc y Midland fe benderfynwyd penodi Swyddog Nawdd llawn amser i barhau â’r gwaith ac i ddatblygu’r cysylltiadau a wnaed dros y ddwy flynedd. Cynhyrchu fideo i ddenu noddwyr. Mae pob adran bellach yn derbyn nawdd o wahanol gyfeiriadau.
 
Eisteddfod: Eisteddfod Bro’r Preseli 1995 yn cael ei chynnal mewn ardal oedd yn ymwybodol iawn o anghenion cynnal eisteddfod lwyddiannus. Roedd maes Cilwendeg a chroeso’r fro yn sicrhau hynny. Cyngerdd Rhyngwladol i ddathlu hanner canmlwyddiant UNICEF.
 
Cylchgronau: ‘Mynd’ yn troi yn ‘IAW’ ar gyfer cynllun iaith ‘Iaw’ y BBC. Cyhoeddi dau lyfr. ‘Cartwnau’ Elwyn Ioan a ‘Dau Gymro Dewr’ Emrys Roberts.
 
Y Maes: Agorwyd swyddfa yn Ninbych ar gyfer Swyddogion Datblygu Clwyd gan wneud arbediad ariannol. Cynhyrchwyd nifer o ddramâu gan gwmnïau ieuenctid rhanbarthol, ‘Chicago’ ym Morgannwg Ganol. ‘Magdalen’ yng Nghlwyd, ‘Wrth gwrs mod i’n cymryd siwgwr’ yng Ngheredigion a Chwrs ‘Drama a Chamra’ ym Myrddin.
 
Adnoddau: Bu hysbyseb am fis ar y teledu ar gyfer denu aelodau newydd.
 
Llangrannog: Cynlluniau datblygu staff effeithiol, a chynnydd eto yn y niferoedd.
 
Glan-llyn: Cynnydd yn y nifer o grwpiau llai abl, tramorwyr a grwpiau teuluol.
 
Neges Ewyllys Da: Y merched fu yn Slofenia yn dychwelyd. Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi yn paratoi'r neges ac yn dathlu canmlwyddiant y Cenhedloedd Unedig. Anfon y neges ar y We.

[Nôl i dop y dudalen]