Cyflwynir Tlws John a Ceridwen Hughes i wirfoddolwyr sydd yn cyfrannu’n sylweddol i waith ieuenctid yng Nghymru ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd bob blwyddyn.
Rhoddir y Tlws gan Gerallt a Dewi Hughes yn enw eu diweddar rieni a fu’n weithgar iawn gyda gweithgareddau ieuenctid. Bu’r ddau yn cyfrannu’n helaeth at weithgaredd plant a phobl ifanc drwy’r Urdd, MENCAP yn ogystal â mudiadau ieuenctid eraill.
Cyflwynir y Tlws i unigolyn neu unigolion sydd wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc yn wirfoddol a hynny trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Dylai’r gwaith fod yn waith wyneb yn wyneb â phobl ifanc dros 11 oed a hynny y tu allan i gyfundrefn addysg ffurfiol.
Mae'r Urdd yn chwilio am enwebiadau ar gyfer Tlws 2013. Gellir enwebu unigolion sydd yn gweithio gydag ieuenctid ar hyn o bryd neu sydd wedi cyfrannu at waith ieuenctid yn y gorffennol.
Gall yr ymgeisydd fod yn ymwneud ag unrhyw agwedd o waith ieuenctid, boed hynny’n ddiwylliannol, yn gorfforol, yn ddyngarol, yn gymdeithasol, gyda phobl anabl neu ddysgwyr.
Mae rheolau'r tlws ar gael yma.
Mae ffurflen enwebu ar gael yma.