
Dyma’ch cyfle i flasu danteithion prifddinas Cymru wrth aros yn adeilad unigryw Canolfan Mileniwm Cymru, un o brif ganolfannau celfyddydol y byd. Beth am fynd i weld y Senedd neu Stadiwm y Mileniwm - mae yma rywbeth at ddant pawb!
Gwefan y Gwersyll...
Saif Gwersyll yr Urdd Glan-llyn ar lan Llyn Tegid ger Y Bala ac oddi fewn i Barc Cenedlaethol Eryri. Mae’r llyn, y mynyddoedd a’r afonydd cyfagos i gyd yn cynnig opsiynau cyffrous i’r rhai sy’n penderfynu dod yma i aros, am wyliau neu ar gwrs addysgiadol. Yn ôl rhai plant a fu’n aros yn y gwersyll, mae’r lle yn ‘wiced!’.
Gwefan y Gwersyll...
Nofio, llafnrolio, merlota, sgïo, gwibgartio, a thrampolïn â rhaffau bynji – dyna rai o’r pethau sydd yn eich haros os ymwelwch â Gwersyll yr Urdd Llangrannog. Yn y ganolfan breswyl hon ar arfordir prydferth Ceredigion caiff plant a phobl ifanc gymdeithasu a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwefan y Gwersyll...