Ydych chi wedi blino o’r gaeaf hir ac oer?
Ydych chi wedi cael llond bol ar y wasgfa gredyd a’r dirwasgiad?
A hoffech chi ddianc i rywle poeth?
Am ddim?
Gall Platform2 gynnig hynny i chi.
Fe dreuliwch 10 wythnos yn gwirfoddoli mewn gwlad ddatblygol, fel India, De Affrica, Ghana neu Periw. Wedyn byddwch yn dod adref a rhannu eich profiadau. Os ydych chi rhwng 18 a 25 oed, gall Platform2 newid eich bywyd am byth.
I gael blas o’r hyn sydd i’w gynnig, gan gynnwys manylion ynghylch prosiectau sydd ar gael, edrychwch ar y clipiau hyn ar YouTube.
Mae Platform2 wir yn newid bywydau. Dywedodd Duncan Bannatyne, entrepreneur ac un o sêr Dragons’ Den: “Mae gwirfoddoli ar raglen fel Platform2 yn dangos bod gan y bobl ifanc hyn yr awydd i wneud rhywbeth ychwanegol yn eu bywyd a helpu eraill ar yr un pryd. Mae rhain yn rhinweddau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw ar CV ac yn dangos mwy am rywun na’u cymwysterau yn unig."
Dyma beth ddywedodd Eddie o Gwmbrân, a deithiodd i Ghana gyda Platform2:
“Gwneud rhywbeth i wella bywydau pobl eraill yw’r anrhydedd mwyaf erioed!”
Caiff Platform2 ei ariannu gan yr Adran Datblygu Rhyngwladol a’i weithredu gan Cymorth Cristnogol, Islamic Relief a BUNAC. Mae wedi’i anelu at bobl ifanc na fyddant fel arfer yn cael y cyfle i wirfoddoli dramor. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Angharad Rhys o Cymorth Cristnogol yng Nghaerdydd ar 029 2084 4646 / arhys@cymorth-cristnogol.org neu ewch i www.myplatform2.com.
Gadewch i bobl ifanc wybod am y cyfle unigryw hwn – efallai mai chi fydd yr un a fydd yn newid eu bywyd am byth. Anfonwch yr e-bost hwn ymlaen.
Ry’n ni’n chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer teithiau mis Mawrth i Dde Affrica, Ghana, India, Mala7#373;i a Pheriw
Mae teithiau yn gadael bob 3 - 4 mis, ac mae’r rhai nesaf ym mis Mai a mis Awst.
Llawer o ddiolch.