Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2010
Mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da ar gael mewn 37 o wahanol ieithoedd eleni
Arabeg / Arabic
Eleni mae holl gyfieithiadau Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd ar y wefan uchod. Lluniwyd y Neges gan aelodau o Fforwm Ieuenctid Ceredigion. Dyma’r tro cyntaf i fforwm ieuenctid lunio’r Neges. Newid Hinsawdd yw’r thema eto eleni ac mae Ceri Elen wedi paratoi gwasanaeth i gyd fynd a’r Neges. Gwahoddwn holl blant a ieuenctid Cymru i ymuno a ni ar fore Mawrth, Mai 18fed am 11 o'r gloch i ledaenu’r Neges ar draws y byd. Bydd Radio Cymru yn darlledu’r Neges o Ardd Fotaneg Cenedlaethol Cymru. Gwnewch yn siwr eich bod yn rhan ohono.