Gwybodaeth Gwirfoddolwyr y Mileniwm
Wyt ti rhwng 16 a 24 oed ac â diddordeb mewn datblygu dy sgiliau a derbyn profiadau newydd?
Croeso i gynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm!
Trwy wirfoddoli fe alli di gael effaith bositif ar y gymuned leol, derbyn cyfleoedd llawn her, datblygu dy bersonoliaeth a bod yn rhan o gynllun sy'n eiddo i bobl ifanc.
Bydd y rhaglen yn rhedeg am y ddwy flynedd nesaf ac yn annog pobl ifanc i
wirfoddoli am hyd at 200 awr ar brosiectau sy'n cael effaith amlwg ar y gymuned leol.
Bydd aelodau o'r cynllun yn derbyn tystysgrif ar ôl cwblhau 100 awr o wirfoddoli ac ar ôl cwblhau 200 awr o wirfoddoli byddi yn derbyn gwobr wedi'i lofnodi gan Rhodri Morgan.