Beth yw Rhaglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm?
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi derbyn grant wrth Comisiwn Russell a Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i redeg cynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn gynllun DU-gyfan sydd a'r nod o hybu a chydnabod gwaith gwirfoddol ymysg pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sydd â diddordeb mewn datblygu'r sgiliau, y profiadau a'r diddordebau y maent yn meddu arnynt eisoes drwy wirfoddoli mewn cyfleoedd o safon sydd wedi'u trefnu'n dda.
Nodau'r cynllun yw:
- Cael effaith bositif ar gymunedau lleol
- Cynnig cyfleoedd diddorol a llawn her i wirfoddoli ar gyfer pobl ifanc, un ac oll
- Galluogi i bobl ifanc feithrin sgiliau a gwybodaeth newydd a datblygu'n bersonol
- Sicrhau bod rhagor o bobl ifanc yn y gymuned yn cydnabod gwaith gwirfoddol
- Gosod safon ar gyfer cyfleoedd i wirfoddoli yng Nghymru
- Annog pobl ifanc i hawlio'r rhaglen yn eiddo iddyn nhw'u hunain
Beth mae'n ei olygu?
Pwrpas y rhaglen yw hyrwyddo, annog a chydnabod ymrwymiad parhaus i weithgareddau gwirfoddoli. I ddangos hyn, anogir gwirfoddolwyr i wirfoddoli am hyd at 200 awr ar brosiectau sy'n cael effaith amlwg ar y gymuned leol.
Mae gwirfoddoli yn fynegiant pwysig o ddinasyddiaeth ac yn elfen hollbwysig o ddemocratiaeth. Mae'n golygu ymrwymo amser ac egni er budd cymdeithas a'r gymuned a gall gymryd sawl ffurf. Fe'i gwneir o wirfodd, heb ystyried unrhyw enillion ariannol. Swyddogaeth y gwirfoddolwr yw ategu, ond peidio â chymryd lle staff proffesiynol sy'n darparu gwasanaeth statudol.
Cydnabyddiaeth
Rhoddir cydnabyddiaeth i'r ymrwymiad gan wirfoddolwyr ifanc. Rhoddir tystysgrifau pan fydd pob gwirfoddolwr yn cyflawni 100 awr o wirfoddoli, ac wedi iddynt gyflawni 200 awr bydd gwirfoddolwyr yn derbyn gwobr wedi'i llofnodi gan Rhodri Morgan.